100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.

Digital Mirror

Drych Digidol

Llyfr Gwyn Rhydderch

(Llsgr. Peniarth 4)

 


Llyfr Gwyn Rhydderch yw un o'r llawysgrifau enwocaf a phwysicaf yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dyma'r compendiwm cynharaf o destunau rhyddiaith yn Gymraeg, ond eto'n cynnwys rhai enghreifftiau o farddoniaeth gynnar. Erbyn heddiw mae'r llawysgrif wedi ei rhannu'n ddwy gyfrol. Yn llsgr. Peniarth 4 (a welir yma) y ceir y copi cynharaf o'r casgliad o chwedlau Cymraeg Canol y cyfeirir atynt heddiw fel y Mabinogion, sef Pedair Cainc y Mabinogi, Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Macsen Wledig, Lludd a Llefelys, Peredur, Owain (a adnybyddir hefyd fel Iarlles y Ffynnon) a Geraint ac Enid, ond heb Breuddwyd Rhonabwy. Digwydd y chwedl honno yn Llyfr Coch Hergest (llsgr. Coleg yr Iesu 111, Llyfrgell Bodley, Rhydychen, a gopïwyd rhwng 1382 a c. 1400), ond nid oes tystiolaeth iddi gael ei chynnwys yn y Llyfr Gwyn. Testunau crefyddol a chwedlau a addaswyd o ieithoedd eraill a geir yn llsgr. Peniarth 5.

Parcrhydderch, Llangeitho; ca. 1885 gan John Thomas (jtj013) Copïwyd y Llyfr Gwyn tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, fwy na thebyg ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd (c. 1325-1400) o Barcrhydderch, plwyf Llangeitho, Ceredigion, aelod o deulu â thraddodiad hir o noddi llenyddiaeth. Daliai Rhydderch swyddi dan Goron Lloegr ond yr oedd hefyd yn awdurdod ar Gyfraith Hywel. Credir heddiw mai pump o gopïwyr a luniodd y llawysgrif, a hynny fwy na thebyg ym mynachlog Ystrad Fflur, nid nepell o gartref Rhydderch. Mae'n bosibl mai ef oedd perchennog cyntaf Llawysgrif Hendregadredd yn ogystal.

Gellir casglu mai cyfeirio at liw ei rhwymiad cynnar y mae enw'r gyfrol, ac at ei pherchennog cyntaf. Yn ei chyflwr gwreiddiol buasai'r llawysgrif yn fwy o faint ac felly'n fwy urddasol, ond tociwyd ymylon y dail wrth ailrwymo yn y cyfnod modern cynnar, gan effeithio ar olwg y tudalennau.

Ar ôl marwolaeth Rhydderch, fe arhosodd y llawysgrif ym meddiant y teulu, mae'n debyg, tan tua chanol y bymthegfed ganrif. Erbyn hynny, roedd y Llyfr Gwyn yn Rhiwedog, ger y Bala. Roedd hynafiaethwyr ac ysgolheigion gogledd-ddwyrain Cymru yn ymwybodol o'i bwysigrwydd, fel y dengys adysgrifau a wnaethant o rannau ohono: Rhisiart Langfford o Drefalun, yn 1573, Roger Morris (fl. 1580-1607) o Goedytalwrn, Syr Thomas Wiliems, tua 1594, a Jasper Gryffyth (m. 1614). Erbyn tua 1634 yr oedd y llawysgrif yn nwylo'r hynafiaethydd a chopïydd enwog o Sir y Fflint, John Jones, Gellilyfdy. Rhywbryd ar ôl 1634 fe wnaeth yr arloeswr o eiriadurwr Dr John Davies, Mallwyd, restr o'r cynnwys, sy'n dangos bod nifer o'i dail eisoes wedi eu colli. Pan fu John Jones farw, tua 1658, fe ddaeth y llawysgrif, oedd eisoes wedi ei rhannu'n ddwy gyfrol, i feddiant Robert Vaughan ac yn rhan o'i lyfrgell enwog ef yn Hengwrt, Meirionnydd. Ym 1859 trosglwyddwyd casgliad Hengwrt, gan gynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch, i W. W. E. Wynne, Peniarth. Fe'i prynwyd ym 1904 gan Syr John Williams, a'i gyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol yn sylfaen i'r casgliad cenedlaethol. Ym 1940 fe ailrwymwyd y Llyfr Gwyn mewn croen gafr gan Carl Hanson, pennaeth y gweithdy rhwymo.

 

 

Darllen pellach

 

  • Daniel Huws, 'Llyfr Gwyn Rhydderch' yn ei gyfrol, Medieval Welsh Manuscripts(Caerdydd & Aberystwyth, 2000), tt. 227-68.
  • Dafydd Ifans & Rhiannon Ifans, Y Mabinogion: diweddariad (Llandysul,    1980.)

 

 

Cysylltiadau diddorol

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2007

Diweddarwyd: 19-02-2007