Delwedd pennawd ALARM
Tudalen Flaen

English

Beth yw ALARM?

Manylion prosiect | Cyflwyno'r prosiect

Manylion prosiect

Mae ALARM yn sefyll am Rheoli Cofnodion Gweinyddol, Deddfwriaethol ac Atebol (Administrative, Legislative and Accountable Records Management).

Disgrifiad o'r prosiect

Mae ALARM, prosiect a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (European Social Fund) yn anelu at roi sylw i fylchau yn sgiliau Mentrau Bach a Chanolig (Small and Medium Enterprises, SMEs) yn ardal Amcan 1 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. O fis Tachwedd 2005 hyd fis Ebrill 2007 darparodd e gwybodaeth am ddim ar reoli cofnodion a rheoli cofnodion electronig sylfaenol. Byddwn ni hefyd yn ymdrin â phynciau yn ymwneud â chydymffurfio â deddfwriaeth sy'n effeithio ar SMEau, ac yn darparu llwybr at hyfforddiant pellach trwy gynnig achrediad OCN ar lefel 3. O fis Mai hyd fis Gorffennaf 2007, bydd cyfnod adolygiad ôl weithrediad, a bydd canlyniadau hyn ar gael yma.

Cyflwyno'r Prosiect

Dechreuodd y prosiect ar 1 Chwefror 2005.

Roedd yr hyfforddiant ar gael mewn dau ddull gwahanol, mae hyn yn dibynnu ar lefel y cymhwyster (os oes ei angen):
Cynhaliwd yr holl sesiynau lle bynnag yr oedd galw amdanynt.

Y gynulleidfa monitrwyd i sicrhau gweithrediad cyfle cyfartal, gyda darpariaeth ar gyfer yr anabl. Roedd yr hyfforddwyr yn cynnwys staff o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru Aberystwyth ac roedd gan bob un ohonynt brofiad sylweddol a gwybodaeth am egwyddorion ac arferion rheoli cofnodion a chydymffurfio â deddfwriaeth.

Bydd gan bob un o'r buddiolwyr gyfrinair er mwyn iddynt gael mynediad at ardal gyfyngedig y wefan. Yno bydd gwybodaeth eang, canllawiau, ardal FAQ a chysylltiadau defnyddiol.

Bydd yr holl ddogfennaeth ar gael yn ddwyieithog, a chafod y sesiynau eu cynnal yn naill ai Saesneg neu yn Gymraeg yn ôl y galw. Bydd siaradwr Cymraeg yn bresennol hefyd yn y sesiynau Saesneg i ateb unrhyw gwestiynau.

Rheoli Prosiect

Arweinir y prosiect gan Reolwr Prosiect, gyda chymorth Gweinyddwr Prosiect. Dwy swydd ran-amser ydynt, ac maent wedi eu llenwi gan aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae yna Fwrdd Prosiect sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Rhwydwaith Coleg Agored Cymru a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol i fonitro datblygiadau.

Achredu

I'r rhai oedd am ennill achrediad, roedd hyn trwy Rwydwaith Coleg Agored Cymru (RhCA Cymru), sydd yn gweinyddu credydau RhCA (OCN) a fydd yn arwain at safon lefel 3. Cafodd y rhaglen ei chymeradwyo gan y Rhwydwaith Coleg Agored, a chynhaliwyd arholiadau mewnol i sicrhau safon ac ansawdd y rhaglen. Bydd cymedrolwr allanol yn gwirio dogfennau, rhaglenni a safonau asesu ddwywaith y flwyddyn.

Cofrestru

Mae modd cofrestru ar y wefan.

Manylion Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Mae prosiect ALARM wedi ennill £57,199 o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF, http://www.esf.gov.uk/), sef cyfraniad o 43% o gyfanswm costau'r prosiect. Darparwyd yr arian hwn trwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (http://www.wales.gov.uk/index.htm). Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (http://www.wefo.wales.gov.uk/) yw'r corff sydd yn gweithredu Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar ran Llywodraeth Cynulliad.

National Library of Wales Welsh Assembly Government Investor in People
University of Wales Aberystwyth European Union European Social Fund Objective 1