Portread trawiadol o David Lloyd George yw hwn wrth iddo ddechrau ar ei yrfa yn Nhy'r Cyffredin. Y ffotograffydd yw John Thomas, ffotograffydd Cymreig o ardal Llanbedr Pont Steffan oedd yn byw yn Lerpwl. Yr oedd Thomas yn gweithio fel ffotograffydd teithiol ac yn tynnu ei bortreadau yn yr awyr agored er mwyn cael digon o olau. Wrth brintio'r ddelwedd fel ffotograff carte-de-visite neu ffotograff cabinet byddai ond yn printo yr ardal o gwmpas pen ac ysgwydd yr eisteddwr.
John Thomas (Lerpwl), Mr David Lloyd George AS.
(JTK045 Casgliad John Thomas)
©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Central Office of Information (Llundain), "The Right Honourable David Lloyd George."
(PG2354/15 Llyfr Ffoto LLGC 1014)
©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Casgliadau
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George