Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


LLANYSTUMDWY

Er taw ym Manceinion y ganwyd David Lloyd George, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei "gartref" erioed. Dyma fro mebyd ei fam. Yma y bu'n byw o pan yn flwydd oed hyd yn ddwy ar bymtheg. Ac yn ysgol eglwysig Llanystumdwy yr ymladdodd ei frwydr gyntaf yn y rhyfel dros "ryddid crefyddol" pan drefnodd brotest yn erbyn dweud y Credo a'r Catecism. Gadawodd yr ysgol ym mis Gorffennaf 1878 pan ddywed y llyfr lòg ei fod yn mynd i'w hyfforddi yn dwrnai.


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wickens (Bangor), Y bont a'r eglwys, Llanystumdwy.
(PG2925 Llyfr Ffoto LLGC 1123, t.1)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, "Home of my boyhood."
(PG2353 Llyfr Ffoto LLGC 1013, t.1)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wickens (Bangor), Yr ysgol, Llanystumdwy.
(PG2925 Llyfr Ffoto LLGC 1123 t.2)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996