Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


RHIENI

O Drefwrdan yn Sir Benfro y deuai William George, tad David Lloyd George. Pan yn dysgu yn ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli cyfarfu a phriodi ag Elizabeth Lloyd o Lanystumdwy. Wedyn symudodd i weithio i Fanceinion ac yno ym mis Ionawr 1863 y ganwyd David Lloyd George. Cyn diwedd y flwyddyn symudodd yn ôl i Sir Benfro i gadw tyddyn. Nid oedd yn ddyn iach yn gorfforol ac fe'i blinid gan iselder ysbryd. Ym Mehefin 1864 bu farw. O fewn pedwar mis symudodd Elizabeth a'i phlant, Ellen a David, yn ôl i Lanystumdwy i fyw at Richard, ei brawd hithau. Ymhen ychydig misoedd ganwyd plentyn arall iddi a enwyd yn William ar ôl ei dad.


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffwyr anhysbys, William George 1820-1864;
Elizabeth George (nee Lloyd) 1828-1896).
(PZ5673/31 Llyfr Ffoto LLGC 1323)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996