Adran y Darluniau a'r Mapiau
Arddangosfa
RICHARD LLOYD
Bu brawd ei fam, Richard Lloyd (Uncle Lloyd) yn ddylanwad mawr ar y David Lloyd George ifanc. Mewn gwirionedd fe barhaodd yn athro ac arweinydd i'w nai hyd 1917 pan fu farw yn ei wythdegau. Gweithiai fel crydd ac ar yr un pryd gweithredai fel gweinidog lleyg eglwys Disgyblion Crist (Bedyddwyr Albanaidd) yng Nghricieth. Yr oedd yn Rhyddfrydwr ac yn anghydffurfiwr o argyhoeddiad dwfn.
©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, "Uncle Lloyd, Uncle William and Auntie Anita."
(PG2358/162 Llyfr Ffoto LLGC 1018)
Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Casgliadau
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George
Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We /
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996