Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


CYFREITHIWR A GWLEIDYDD

Ar ôl llwyddo yn arholiadau rhagbaratoawl Cymdeithas y Gyfraith cafodd waith fel prentis-gyfreithiwr yn swyddfa Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog yn 1878. Yn y cyfnod yma hefyd y dechreuodd ddod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth. Yn 1885 yn dilyn anghydweld yn y swyddfa ym Mhorthmadog sefydlodd fusnes ei hun yng Nghricieth, ac yn yr un flwyddyn fe'i gwelwn yn cymryd rhan flaenllaw yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Meirionnydd fel Rhyddfrydwr. Ar ddechrau y flwyddyn ddilynol wrth rannu llwyfan mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog gyda'r cenedlaetholwr Gwyddelig, Michael Davitt, a'r cenedlaetholwr Cymreig, y Parchg Michael D Jones, yr oedd wedi dangos ei ochr yn gwbl eglur fel "radical".


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
R Llewelyn Jones (Machynlleth), "Mr Lloyd George as a youth."
[Tua 16 mlwydd oed, 1879].
(PD8386 Casgliad Cardiau Post)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
John Thomas, (Lerpwl), Porthmadog.
(JTR014 Casgliad Negyddion John Thomas)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996