Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


AELOD SENEDDOL

Ar ôl ei ddewis yn ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon yn 1889 fe fu'n rhaid i David Lloyd George ymladd is-etholiad yn annisgwyl yn 1890 ar ôl marwolaeth yr aelod Torïaidd, Edmund Swetenham. Yn eironig ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd H J Ellis-Nanney, sgweiar Llanystumdwy. Oherwydd ei ddaliadau radicalaidd ni allai ddibynnu hyd yn oed ar gefnogaeth Rhyddfrydwyr yn yr etholaeth. Felly fe gafodd dipyn o syndod o gael ei ethol â mwyafrif o 18 ar ôl ail gyfrif. Dyma'i fuddugoliaeth gyntaf mewn cyfres o bedwar etholiad ar ddeg yr ymladdodd rhwng 1890 ac 1945.


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wickens (Bangor), David Lloyd George yn fuan ar ôl buddugoliaeth is-etholiad 1890.
(PZ5673/79 Llyfr Ffoto LLGC 1323)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, "Winston, Lloyd George's youngest canvasser Jan 22nd 1910."
(PG2354/102 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Anhysbys, "Mr Vincent. Mr Lloyd-George. Carnarvon Election 1910. Counting the votes."
(PG2354/114 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996