Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


AELODAU O GYMRU

Pan ddaeth i'r senedd, llugoer fu'r croeso a gafodd gan lawer o'i gyd-aelodau Rhyddfrydol o Gymru. Yr oedd ei enwogrwydd fel radical a chenedlaetholwr wedi mynd o'i flaen. Ymhlith y rhai a roes iddo groeso cynnes yr oedd T E Ellis a Samuel T Evans, er yr oeddent hwy hyd yn oed â'u hamheuon amdano. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn y Senedd yr oedd ei sylw ar faterion o ddiddordeb "Cymreig": gwnaeth ei araith gyntaf yn y Ty ar 14 Mehefin 1890 ar fater dirwest. Erbyn ei ail araith y frenhiniaeth a'i rhwysg drudfawr oedd yn ei chael hi gan y radical newydd o Gymru.


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bassano, T E Ellis.
(PA2682 Ports B Archif Bortreadau)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Langfiér, Syr S T Evans.
(PA7863 Ports B Archif Bortreadau)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996