Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


RHYFELOEDD YN NE AFFRICA

Tynnwyd y lluniau yma o olygfeydd o ryfel yn Ne Affrica gan Gymry a aeth allan yno i frwydro neu i weini mewn ysbytai. Dechreuodd yr ymladd yn Ne Affrica ym mis Hydref 1899. Ar y cychwyn cyntaf yr oedd David Lloyd George yn ansicr am y safbwynt cyhoeddus y dylai ei gymryd ynglyn â'r rhyfel, ond yr oedd yn gwbl argyhoeddiedig taw'r llywodraeth Brydeinig oedd yn gwthio y Boer i ryfel diangen er mwyn bodloni syndicetiau cloddio aur y Rand oedd wedi cael digon ar ddeddfau cyfyngol a threthi uchel. Unwaith y daeth yn amlwg y byddai'r Boer yn cael ei drechu a'i gywilyddio fe fu'n llafar iawn yn ei feirniadaeth. Rhannwyd y blaid Ryddfryfol gan y pwnc, ac fe ddaeth ei safiad ynglyn â'r rhyfel ag ef i gysylltiad â radicaliaid y tu allan i'r cylchoedd Cymreig yr oedd wedi bod yn troi ynddynt hyd yn hyn. Ar ddiwedd y rhyfela ym Mai 1902 yr oedd Lloyd George wedi'i ddieithrio oddi wrth ei blaid, ond yr oedd wedi dod yn ffigwr "cenedlaethol."


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
J L Thomas, Milwyr Cymreig ar drên yn Springfontein ar eu ffordd i Pretoria.
(PZ4209 Llyfr Ffoto LLGC 107, t.29)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
J L Thomas, "Annexation of Orange River Colony, 28 May 1900."
(PZ4209 Llyfr Ffoto LLGC 107, t.38)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Capt Davies-Evans (Highmead), "One of my guns on Morphy's Hill at Thobanchu 1901."
(PZ4179 Llyfr Ffoto LLGC 36, Llun 192)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996