Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


SEFYLL YN ERBYN TWYMYN RHYFEL

Dioddefodd David Lloyd George a'i deulu yn fawr am ei safiad ynglyn â'r rhyfel. Cafodd Margaret, ei wraig, ei sarhau gan gyfeillion a diethriaid yn Llundain a Chricieth. Rhaid oedd tynnu Richard, ei fab, o'r ysgol fonedd oherwydd bwlio ar fater y rhyfel yn Ne Affrica. Cafodd hyd yn oed delwau o'i frawd William ac Uncle Lloyd eu llosgi ar "Mafeking Night." Daeth yr ymosodiadau i'w pen-llanw pan aeth Lloyd George i annerch cyfarfod yn Birmingham ym mis Rhagfyr 1901. I gorws o "Traitor! Traitor! Bloody traitor! Pro-Boer! Kill 'im! Kill the bloody traitor!" troes y noson yn reiat, ni chafodd annerch, bu'n rhaid iddo ddianc wedi'i wisgo fel plismon. Roedd yn rhaid i'r heddlu dorri'r dorf i fyny ac fe fu'n rhaid i rhyw ddeugain gael triniaeth mewn ysbyty.


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Anhysbys, "PC Lloyd George 87D, Late of Town Hall Birmingham, Dec 18th 1901."
(PG 2354/52 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
National Union of Conservative and Constitutional Associations, "Lest we forget."
(PZ6177/7 Llyfr Ffoto LLGC 1305)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996