Adran y Darluniau a'r Mapiau
Arddangosfa
CYLLIDEB Y BOBL
Ffrwyth llafur rhywun arall a gyflwynodd gyntaf i'r Ty, sef y Mesur Pensiwn. I raddau helaeth gwaith Asquith oedd hwn. Er hynny enw Lloyd George â gysylltwyd ag ef yn gyffredinol. Ond gyda Chyllideb 1909, "Cyllideb y Bobl", y gwelwn feddwl Lloyd George ei hun ar waith. Yr oedd mor ddadleuol fel y gwrthodai prif weision suful y Trysorlys ei gynorthwyo, a rhaid oedd iddo ddibynnu ar gefnogaeth o lefydd eraill. Yr oedd y gyllideb yn un i godi arian ar gyfer rhyfel, meddai, rhyfel yn erbyn tlodi ac angen. Byddai'n codi'r arian trwy drethi a fyddai'n effeithio'r dosbarth uwch ariannog yn fwy na neb: arweiniodd hyn at ryfel arall i basio'r gyllideb a rhyfel yn erbyn Ty'r Arglwyddi. Bu trafod ar y gyllideb am saithdegdau o ddiwrnodau senedd yn Nhy'r Cyffredin, cafwyd 554 pleidlais a rhaid oedd hepgor gwyliau'r haf. Yn y diwedd fe'i gwrthodwyd gan Dy'r Arglwyddi ac ar unwaith fe gynhaliwyd etholiad cyffredinol ac yn dilyn hynny fe basiwyd Cyllideb 1909 ym mis Ebrill 1910.

National Union of Conservative and Constitutional Associations, "Putting the screw on John Bull."
(PZ6177/2 Casgliad Cardiau Post)
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
National Union of Conservative and Constitutional Associations,
"The stepping stones."
(PZ6177/9 Casgliad Cardiau Post)
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
National Series, "The Lords throwing out the Budget."
(PZ6177/8 Casgliad Cardiau Post)
Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Casgliadau
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George
Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We /
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996