Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


GOSOD SYLFEINI'R WLADWRIAETH LES

Yn dilyn ar Gyllideb 1909 parhaodd David Lloyd George i ddatblygu polisïau lles cymdeithasol ac yn 1911 fe gyflwynodd y Mesur Yswiriant Cenedlaethol yn sefydlu cynlluniau yswiriant iechyd a diweithdra gorfodol. Unwaith eto fe gafodd wrthwynebiad ffyrning oddi wrth y dde, oddi wrth rai ar y chwith, ac oddi wrth sawl grwp oedd â diddordeb yn y maes. Cafwyd protestiadau yn erbyn yr egwyddor taw'r cyflogwr oedd i ludo'r stampiau yswiriant ar y cerdyn yswiriant. Daeth yr ymgyrch yma i'w hanterth gyda rali y Meistresau a'u Morwynion yn Neuadd Albert. Wedi gweiddi sloganau amrywiol, gan gynnwys "Taffy is a Welshman, Taffy is a thief!", daeth y noson i ben gyda Lady Besart yn cyhoeddi, "England... never did nor never shall lie at the proud foot of a conqueror." Pasiwyd y mesur.


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ffotograffydd anhysbys, "Addressing 40,000 miners at Sutton Ashfield."
(PG2349 Llyfr Ffoto LLGC 1009 t.5r)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, Pensiynwyr o Dreforys yn cyfarch David Lloyd George.
(PZ4257 Llyfr Ffoto LLGC 254 t.7)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Anhysbys, "The stamp that wants a lot of licking... and the man."
(PZ617/12 Casgliad Cardiau Post)

Anhysbys, "This stamp will take a bit of licking."
(PZ6177/12 Casgliad Cardiau Post)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996