Adran y Darluniau a'r Mapiau
Arddangosfa
HAWL MENYWOD I BLEIDLEISO
Bu David Lloyd George yn gefnogwr i roi'r hawl i bleidleisio i fenwyod er yn gynnar yn ei yrfa wleidyddol. Eto i gyd nid oedd yn ddigon i'w gadw rhag derbyn ymosodiadau geiriol a chorfforol gan ymgyrchwyr. Cynyddodd yr ymosodiadau ar ôl iddo bleidleisio yn erbyn mesur yn 1910 a fyddai wedi rhoi'r bleidlais i rai menywod - rhai oedd yn berchen eiddo â'r hawl yn barod i bleidleisio mewn etholiadau lleol - a welai fel mesur a fyddai ond o les i'r Torïaid. Yn ystod yr ymgyrchu byddai menywod yn ei ddilyn o gwmpas ac yn mynnu ei sylw. Pan yn agor y ganolfan gymunedol a roes yn rhodd i bentref Llanystumdwy fe'i dilynwyd yno gan ymgyrchwyr ond fe'u daliwyd hwy gan fechgyn lleol a dynnodd eu dillad i gyd oddi amdanynt.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, "Accompanied by a Suffragette."
(PG2353 Llyfr Ffoto LLGC 1013 t.6)
Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Casgliadau
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George
Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We /
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996