Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


Y RHYFEL BYD CYNTAF - PRIF WEINIDOG

Daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog ar 6 Rhagfyr 1916. Yn dilyn misoedd ar fisoedd o fethiant ac anfodlonrwydd gyda Llywodraeth Asquith fe ddaeth Unoliaethwyr, Llafurwyr a mwyafrif o Ryddfrydwyr at ei gilydd i gefnogi llywodraeth gyda Lloyd George fel Prif Weinidog. Oherwydd nad oedd ganddo fel y cyfryw gefnogaeth gref un blaid dibynnai Lloyd George ar lwyddiant personol am gefnogaeth. Cafodd lwyddiant yn y Rhyfel a dyna yn fwy na dim a'i cadwodd yn ei swydd, ac fe roddwyd ei stamp bersonol yntau ar bopeth a wnai'r llywodraeth. Ar ei apwyntiad fe sefydlodd drefn newydd trwy godi Cabinet Rhyfel bychan yn awdurod terfynol ar gwrs y Rhyfel - pwyllgor o bump gyda Lloyd George yn gadeirydd. Felly y llwyddodd i osgoi'r dadleuon diwerth a hir oedd wedi atal gwaith cabinet Asquith. Pan ddaeth heddwch yn 1918 Lloyd George oedd "y dyn a ennillodd y Rhyfel".


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Central News Ltd (Llundain), David Lloyd George gyda'r cabinet yn Rhif 10 Stryd Downing.
(PG2354/13 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, David Lloyd George yn yweld â Threforys fel Prif Weinidog.
(PZ4257 Llyfr Ffoto LLGC 254 t.8)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996