Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


CYNHADLEDD HEDDWCH PARIS 1919

Sicrhaodd llwyddiant David Lloyd George yn ystod y rhyfel ei le iddo fel Prif Weinidog yn dilyn y rhyfel pan ennillodd fwyafrif llethol yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918. Yr oedd Ewrop wedi'r rhyfel yn gwbl wahanol i'r hyn oedd yn 1914, ac fel Prif Weinidog Prydain Lloyd George oedd un o'r rhai fu'n gyfrifol am lunio'r cyfandir newydd hwnnw yn y Gynhadledd Heddwch ym Mharis yn 1919. Ceisiodd liniaru ar gynlluniau Cytuneb Versailles i wneud i'r Almaen "dalu" am y rhyfel ond ni lwyddodd oherwydd yr oedd yr alwad am ddial yn gryf iawn, yn enwedig yn Ffrainc; eto i gyd nid oedd am i Brydain fod ar ei cholled mewn unrhyw fodd yn dilyn ar y cytundeb.


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Daily Mirror, Cynrychiolwyr yng Nghynhadledd Heddwch Paris 1919.
(PG2354/29 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Daily Mirror, Winston Churchill yn ystod Cynhadledd Heddwch Paris 1919.
(PG3060/121 Llyfr Ffoto LLGC 1221)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, Megan Lloyd George ac aelodau eraill o'r teulu
y tu allan i balas Versailles yn ystod Cynhadledd Heddwch Paris 1919.
(PG3140 Llyfr Ffoto LLGC 1254)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996