Adran y Darluniau a'r Mapiau
Arddangosfa
CYTUNDEB IWERDDON
Yng Nghynhadledd Heddwch Paris dadleuai'r cynrychiolwyr Prydeinig o blaid hawl pobloedd i benderfynu drostynt eu huanin ac eto yn Iwerddon fe welwyd digwyddiadau oedd yn bwrw amehuaeth ar ddiffuantrwydd hyn. Yr oedd y rhyfel wedi troi Lloyd George yn fwy imperialaidd, ac hefyd o dan bwysau yr Unoliaethwyr o blith ei gefnogwyr seneddol, gwelwyd difrawder yn ei agwedd tuag at hunanlywodraeth Iwerddon. Bu ei ymateb i dwf trais yn Iwerddon yn chwyrn ac o ddiwedd 1919 fe ganiatawyd recriwitio cyn-filwyr i "gadw trefn" yno, hwy oedd y "Black and Tans". Ond yr oedd yn ymwybodol y byddai'n rhaid iddo negodu cytundeb yn y diwedd ac yn y trafodaethau hyn y gwelwyd ei allu gwleidyddol.
Trwy annog, bygwth a chyfrwsytra fe lwyddodd i gael cytuneb yn Rhagfyr 1921; ac yn Nulyn fe adawyd y rhai oedd yn ei dderbyn ac yn ei erbyn i ymladd. Tynnwyd y milwyr Prydeinig allan ac am rhyw bum mlynedd a deugain nid oedd llawer o sôn am Iwerddon yng ngwleidyddiaeth Prydain, ond ar gost wleidyddol ddrud i Lloyd George ei hun a hynny oddi wrth y dde a'r chwith.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Central News Ltd (Llundain), Cytundeb Iwerddon 1921.
(PG3106/57 Llyfr Ffoto LLGC 1236)
Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Casgliadau
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George
Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We /
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996