Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


CYNHADLEDD GENOA 1922

Erbyn 1922 yr oedd y gefnogaeth i David Lloyd George wedi gwanychu'n fawr a'r glymblaid a ffurfiau'r Llywodraeth yn gwegian a hynny oherwydd diffyg llwyddiant polisïau. Yr oedd gwrthwynebiad iddo yn bersonol, yn enwedig yn dilyn ar y sgandal gwerthu anrhydeddau. Ond yn fwy difrifol oedd aniddigrwydd nifer fawr o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr.

Yr oedd nifer o bethau yn eu poeni, ond yr oeddent yn anhapus iawn am y modd yr oedd yn ymwneud â'r cynhadleddau rhyngwladol cyson a fu yn y cyfnod yn dilyn y Rhyfel. Yntau, heb ofyn barn na chyngor y Swyddfa Dramor, fyddai'n gwneud y negodu i gyd i bob pwrpas. Felly ei fethiant yntau oedd methiant polisi rhyngwladol. Gwelwyd y methiant hwnnw yn eglur yng Nghynhadledd Genoa. Ei fwriad oedd hybu cydweithrediad economaidd, gwell cyd-ddealtwriaeth â Ffrainc a cheisio cael llywodraethau eraill i gydnabod Rwsia. Ond ni lwyddodd y Gynhadledd i gyflawni fawr o ddim.


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Vianello (San Remo), David Lloyd George yn Genoa ar gyfer y gynhadledd ryngwladol 1922.
(PG3060/22 Llyfr Ffoto LLGC 1221)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Fotografia Sciutto (Genova), Sesiwn yn y neuadd gynhadledd, Genoa, 1922.
(PZ3060/64 Llyfr Ffoto LLGC 1221)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996