Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


UN YMGYRCH OLAF - Y "NEW DEAL"

Yn 1935, ac yntau'n 72 oed, fe lansiodd Lloyd George ei ymgyrch fawr olaf mewn cyfarfod ym Mangor. Yr oedd am weld sefydlu Cyngor Datblygu Cenedlaethol gyda chynrychiolwyr o ddiwydiant, masnach, byd arian, gweithwyr a meddylwyr economeg gyda'r gallu i gynllunio rhaglenni sylweddol a beiddgar ym maes tai, ffyrdd, y tir ac adfer diwydiannau dirwasgedig. Ni chafodd ei gynlluniau ddim dylanwad ar bolisïau'r Llywodraeth Genedlaethol ac felly y bu wedi'r ymgyrch hon, er gwaetha'r ffaith iddo barhau'n aelod seneddol tan ddiwedd 1944.


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sport and General Press Agency, Lloyd George on his new campaign.
Mr Lloyd George talks of his great 'new deal' campaign, at his country house
at Churt, Surrey, which he is to put before the country on Thursday - his 72nd birthday. 16 January 1935.
(PG2354/132 Llyfr Ffoto LLGC 1014 )


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, David Lloyd George yn annerch cyfarfod
cyhoeddus mawr fel rhan o'i ymgyrch 'New Deal'.
(PG3323/1 Llyfr Ffoto LLGC 1028)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996