Adran y Darluniau a'r Mapiau

Arddangosfa


BYWYD TEULUOL

Priododd David Lloyd George â'i wraig gyntaf, Margaret Owen, yn 1888. Cawsant bump o blant: Richard (1889), Mair (1890, bu farw yn 1907), Olwen (1892), Gwilym (1894) a Megan (1902). Nid oedd Dame Margaret yn medru dygymod â bywyd yn Llundain Seisnig, mewn gwirionedd yr oedd yn casáu'r lle. Er iddi fyw yn Rhif 11 ac Rhif 10 Stryd Downing, yng Nghricieth yr oedd ei chalon a'i chartref. Cadwai hyn y ddau ar wahân yn ddaearyddol ac arweiniodd hyn at arwahanrwydd yn eu perthynas â'i gilydd. Eto i gyd ni fu gwahanu swyddogol a llai fyth ysgariad, ac er blynyddoedd o ymddieithrio yn 1938 dathlwyd eu priodas aur ar wyliau yn Antibes. O blith y plant ei berthynas gyda Megan oedd yr agosaf ac fe gefnogodd yn llwyr ei gyrfa wleidyddol.


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
F W Schmidt (Manchester), David Lloyd George.
(PG2360/18 Llyfr Ffoto LLGC 1020)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Elliot & Fry (Llundain), Dame Margaret Lloyd George.
(PG2362/6 Llyfr Ffoto LLGC 1022)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffotograffydd anhysbys, "The family in 1905. Left to right Olwen, Mair,
Mother, Megan, Father and Gwilym. Richard was away at school."
(PG2366/23 Llyfr Ffoto LLGC 1026)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Francis Frith & Co Ltd (Reigate), "The Rt Hon David Lloyd George & Miss Megan".
(PG2354/127 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Photocrom Co Ltd (Tunbridge Wells), "Lloyd George amused by Megan".
(PG2354/113 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
A J Sylvester, David a Margaret Lloyd George a'r teulu yn Antibes i
ddathlu eu priodas aur yn Ionawr 1938.
(PG2354/34 Llyfr Ffoto LLGC 1014)


Tudalen Flaen
Tudalen yr Arddangosfeydd
Yn ôl CasgliadauYmlaen
Tudalen Flaen Arddangosfa David Lloyd George



Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We / These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1996