Cyflwyniad

Mae'r arddangosfa hon yn trin rhai agweddau ar fywyd yng Nghymru ; bywyd bob dydd ac hefyd adegau arbennig. Nid yw'r dewis yn bwriadu cynnwys pob math o ffyrdd o weithio ac ymlacio ond y rhai sydd yn cael eu cynrychioli yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Caerfyrddin.

Daw sawl thema i'r amlwg yn y detholiad: sef y gwaith trin metel a'r gwaith glo. I raddau helaeth meant wedi diflannu erbyn hyn. Yn y lluniau sy'n dangos hamdden cawn chwaraeon, sbort, a mwynhau'r awyr agored. Mae hamddena hefyd yn medru bod yn beth dwys, ac enghreifftiau o hyn yw addoli, barddoni, trafod a phrotestio.

Mae'r lluniau wedi cael eu dewis i ddangos cyfoeth celf i ddarlunio bywyd pobl gyffredin. Diben edrych ar y lluniau yw i roi pleser i rai yn eu hamser hamdden a chefnogaeth i eraill yn eu gwaith.

Fe drefnwyd yr arddangosfa hon ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ac Oriel Myrddin, yn dilyn y ddwy flaenorol sef Trefi'r Gorllewin (1995) a Chwe Arlunydd yn Ne Cymru (1997). Mae'r lluniau i gyd ond un yn dod o gasgliad y Llyfrgell.

Unwaith eto mae'r arddangosfa yn ffrwyth cydweithio rhwng Phil Alder, Oriel Myrddin a Paul Joyner o'r Llyfrgell Genedlaethol. Paul Joyner sydd wedi dewis y lluniau, ysgrifennu'r catalog ac ef hefyd sy'n gyfrifol am y gwaith curadurol.

Mae sawl cydweithwr yn y Llyfrgell wedi cyfrannu at y prosiect ac yn eu plith mae'n bleser cael diolch i Huw Ceiriog Jones am ddarllen a chywiro'r testun Cymraeg, a'r Tîm Arddangosfeydd: D.M.Francis, Ifor Pugh, Lona Mason ac Andrew Davies. Hefyd diolch i Glenwen Jones, Linda Davies, Lyn Lewis Dafis, William Troughton, Gareth Lloyd Hughes, Leith Haarhoff, Julian Thomas, Alun Pugh, David Eldridge, Mike Binks ac Alan Thomas.

Diolch i'r arlunwyr a'u teuluoedd sydd wedi rhoi caniatâd inni gyhoeddi lluniau yn y catalog. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Alfred Janes fu farw eleni. Mae'r lluniau yn cynnwys dau rodd gan arlunwyr o Gymru. Rhoddodd Will Roberts gasgliad pwysig o'i frasluniau i'r Llyfrgell, ac yn yr arddangosfa cawn bump o'r delweddau cyffrous sydd yn y casgliad. Hefyd cafwyd casgliad bychan gan Claudia Williams sy'n dangos y brotest enwog yng Nghomin Greenham. Mae rhai o'r gyfres yn y detholiad presennol.

Mae Ann Dorset, Amgueddfa Caerfyrddin, wedi cydweithio gyda ni unwaith eto ac hefyd wedi dewis yr eitem o gasgliad y sefydliad hwnnw i'w arddangos.