Cefndir Thomas Pennant
Casgliad Pennant yn Adran y Darluniau a'r Mapiau
Thomas Pennant fel Casglwr a Noddwr
Thomas Pennant, Awdur a Chasglwr Llyfrau
Llyfrgell Pennant
Nodyn Llyfryddol
Thomas Pennant - Hynafiaethydd
Llawysgrifau Thomas Pennant yn y Llyfrgell Genedlaethol Fe aned Thomas Pennant ym mhlasdy ei deulu, Downing, Sir y Fflint. Bu yn yr ardal nes iddo fynd i Rydychen i astudio. Ymaelododd Pennant yng Ngholeg Queen's ac yno fe'i hysbrydolwyd i deithio ac ysgrifennu ffrwyth ei ymchwil. Gadawodd Pennant y coleg heb raddio ond gyda syniad clir sut i dreulio ei amser a'i egni.
Pennant oedd awdur llyfrau taith Cymreig gorau ei gyfnod. Hefyd mae'r cyfrolau a gyhoeddodd cystal â gwaith enwogion Lloegr megis Gilbert White (1720-1793) o Selbourne a Francis Grose (1731?-1791).
Un o ddoniau Pennant oedd y gallu i fagu cyfeillgarwch. Roedd ei werthfawrogiad o bobl yn hysbys ac oherwydd hyn cafodd bob amser atebion call a chyflawn i'w geisiadau am wybodaeth. Fe dynnodd ar allu nifer fawr o ffrindiau talentog i'w gynorthwyo gyda'i brojectau. Fel ysgolhaig egnïol a gweithgar daeth Pennant yn arwr i genedlaethau o awduron.
Prin oedd ganddo lawer o Gymraeg , felly fe ddibynnai ar ei gyfaill y Parch John Lloyd, Caerwys i gyfieithu ac ymchwilio yn y ffynonellau gwreiddiol. Roedd ganddo barch tuag at Gymru: ei hanes, pobl, iaith a thirlun.
Bydd Pennant yn cael ei gofio fel dyn gonest, galluog, hynaws a hefyd fel 'the father of Cambrian tourists'.
Mae gan y Llyfrgell sawl cyfrol o waith Pennant o'i lyfrgell yn Downing. Maent yn cynnwys Tour in Wales, Tour in Scotland, History of Whiteford a hefyd History of Quadrupeds.Cyfrolau yw'r rhain 'wedi eu harddurno â lluniau gwreiddiol gan Moses Griffith, John Ingleby, Paul Sandby ac eraill.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cannoedd o ddyfrlliwiau gan Moses Griffith a John Ingleby-y rhan fwyaf yn darlunio Cymru. Yn ychwanegol ceir rhai brasluniau gan Pennant ei hunan (Rhifau 2-3 ), a lluniau gorffenedig gan Paul Paillou (Rhifau 88-89) a'i gyfoedion.
Roedd Pennant yn gasglwr a noddwr deallus. Nid casglu ar gyfer chwaeth gelfyddydol oedd ei fryd ond er mwyn ychwanegu gwybodaeth ddarluniadol .Fel noddwr roedd Pennant yn tueddu i brynu yn uniongyrchol oddi wrth yr arlunydd. Cyflogodd Moses Griffith yn llawn amser o 1771, ac fe gafodd hefyd lety gan ei feistr. Moses oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r darluniau yng nghoeddiadau Pennant.Ar yr un pryd noddodd John Ingleby o Helygain yn achlysurol, gan ei dalu fesul lun wrth lun.Yr oedd Ingleby yn arbenigo mewn tirluniau trefol a vignettes.
Prynodd Pennant luniau gan rai o'r arlunwyr dyfrlliw gorau'r cyfnod, er enghraifft yn yr History of Whiteford mae'n sôn bod ganddo luniau o lefydd estron tramor fel Tibet ac Ynys yr Iâ wedi eu peintio gan Nicholas Pocock (1741?-1821).Mae hefyd yn sôn am gyfres o luniau tywydd y 'torrid, temperate and frigid zones' gan Peter Paillou (c1744-c1780).Efallai mai comisiwn pwysicaf Pennant oedd y portread ohono gan Thomas Gainsborough (1727-1788).Fe beintiodd sawl llun arall o deuluoedd y gogledd,ond mae'r llun hwn yn ddelwedd hyfryd o ŵr boneddig.
Fe gopïwyd lluniau hanesyddol fel Catrin o'r Berain (1534/5-1591) a Humphrey Llwyd ,neu Lhuyd, (1527-1568) mewn fformat llai gan Moses ar gyfer Downing, cartref Pennant .
Roedd gan Pennant lu o gysylltiadau a ffrindiau, rhai yn gasglwyr pwysig eu hunain. Ambell waith mae'n dangos barn bendant sy'n awgrymu gwybodaeth arbennig o gelf: er enghraifft yn ei Notes on Pictures (Llsgr 15436B) mae'n nodi yn Althorp House, cartref teulu y Spenceriad, 'St. Luke painting a bad Madonna on the easel ....a good Angel'.
Yn 1789 ysgrifennodd Horace Walpole (1717-1797) at Pennant,(Llsgr 15423C)
If you have any old Ashes on your Estate Sir, it may amuse you to look if there is any branch beautifully arched. I saw one yesterday at Sir George Beaumont's that is wreathed exactly like the most picturesque old grotesques, that probably they were originally taken from Nature'
Cydnabuwyd Thomas Pennant yn ei ddydd fel noddwr gofalus a medrus yn ei holl brojectau. Fe'i cofir am ei gampwaith cyhoeddi ac hefyd ei natur hyfryd fel person.
Yn ei hunangofiant enwog The Literary Life (1793) dywed Thomas Pennant fod ei ddiwydrwydd fel awdur yn ei synnu ar adegau. Mae'n sylw teg gan iddo fod yn gynhyrchiol iawn, yn bennaf ym meysydd llyfrau ar fyd natur a llyfrau taith.
Llyfr cyntaf Pennant oedd British Zoology, cyfrol ffolio a gyhoeddwyd ym 1766. Bu'r gwaith hwn yn golled ariannol i'r awdur oherwydd iddo gael ei argraffu ar bapur oedd yn rhy fawr. Dysgodd wers o'r profiad gan fod ei brif gyfrolau i gyd wedi hynny yn rhai wythplyg neu bedwarplyg. Daeth rhagor o lyfrau ar fyd natur o'r wasg dros y blynyddoedd, e.e. Synopsis of Quadrupeds, Arctic Zoology, Genera of Birds, ac Indian Zoology. I Pennant 'roedd ymchwil trwyadl a pharatoi manwl yn gwbl angenrheidiol ar gyfer ei lyfrau. Rhaid hefyd oedd cael darluniau o safon i gydfynd â'r testun. O ganlyniad cafwyd ymateb cyffredinol ffafriol i'w lyfrau natur a thaith fel ei gilydd. Awgrymwyd fod pwysigrwydd y llyfrau natur yn gorwedd yn y ffaith iddynt boblogeiddio a dyrchafu'r pwnc. Ar y cyfan nid oedd yn awdur a gyflwynodd ddamcaniaethau gwyddonol newydd.
Mae pwyslais Pennant ar ymchwil trylwyr i'w weld yn ei lyfrau taith hefyd a rhaid, wrth gwrs, cael darluniau teilwng. Ymhlith yr adroddiadau am deithiau a gyhoeddodd mae rhai ar ddwy daith wahanol i'r Alban, taith o Gaer i Lundain, a llyfr ar ddinas Llundain. Ystyrir A Tour in Wales (1778-1783) fel gwaith nodedig iawn, un sy'n rhagori ar y corff sylweddol o gyhoeddiadau cyffelyb a ymddangosodd o tua 1770 ymlaen.
Ei weithiau topograffig ac ar fyd natur ddaeth ag enwogrwydd i Pennant ond dylid cofio iddo gyhoeddi llawer o fanion hefyd, yn bennaf gweithiau cysylltiedig â'i ddyletswyddau fel tirfeddiannwr bonheddig ac ynad. Argraffwyd y mwyafrif o'r pamffledi a'r dalennau sengl hyn yn lleol ond daeth nifer bychan o wasg ei gyfaill, George Allan, argraffydd a hanesydd o Darlington.
O gofio mor doreithiog oedd Thomas Pennant fel awdur, mae'n anochel na fu iddo gyhoeddi'r cyfan o'i waith yn ystod ei oes. O'r deunydd nas cyhoeddwyd, y gwaith pwysicaf o ddigon yw'r anferthol Outlines of the Globe. Dwy gyfrol yn unig daeth o'r wasg cyn marw Pennant; cyhoeddwyd dwy arall yn ddiweddarach gan ei fab. Deil y gweddill, y rhan fwyaf o'r testun, mewn llawysgrif.
Trueni o'r mwyaf yw i lyfrgell Pennant gael ei chwalu mewn tri arwerthiant yn ystod y ganrif hon. Serch hynny mae modd cael rhyw syniad o faint a natur y casgliad trwy astudio catalogau'r arwerthiannau a ffynonellau eraill. 'Roedd pum mil a mwy o lyfrau printiedig yn y llyfrgell yn Downing. Llyfrgell a ddefnyddid yn feunyddiol gan ysgolhaig ydoedd yn hytrach na chasgliad o lyfrau wedi eu hel ynghyd oherwydd argraffwaith cain neu rwymiadau drudfawr. Llyfrau ar dopograffi, ar deithiau, ac ar fyd natur oedd craidd y casgliad. Prynid llyfrau yn lleol, e.e. yng Nghaer, ac ar ymweliad blynyddol Pennant â Llundain. Ffynhonnell arall oedd llyfrwerthwyr yma ac acw a weithiai fel asiantwyr i Pennant, fel y gwnai rhai o'r ysgolheigion o Brydain a thu hwnt yr arferai ohebu â hwy. Rhoddion gan awduron oedd sawl cyfrol. Cesglid mapiau a phrintiau hefyd ond cymharol fychan oedd nifer y llawysgrifau, llawer llai yn sicr nag yng nghasgliadau eithriadol bwysig Hengwrt a Phlas Mostyn. Er hynny, 'roedd llyfrgell Pennant yn ddiamheuol ymhlith y goreuon yng Nghymru yn ei dydd.
Mae cyfanswm gweithiau Pennant yn helaeth ac yn llyfryddol gymhleth. Ymddangosodd ei brif weithiau, tua deuddeg ohonynt, mewn sawl argraffiad gyda newid yn y teitl mewn rhai achosion. Rhaid cofio hefyd am yr atodiadau byrion a'r casgliadau bychain o blatiau ychwanegol a gyhoeddwyd weithiau rhwng argraffiadau, yn ogystal â'r mân ddetholiadau o'r gweithiau mawr a gyhoeddwyd o dro i dro. Yn ystod oes Pennant cyfieithwyd rhai o'i lyfrau i ieithoedd tramor. Mae ambell un o'r cyfieithiadau hyn yn hynod brin.
Yn gwbl ar wahân i'r prif weithiau ar fyd natur a theithiau mae nifer sylweddol o fanion, y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â Sir y Fflint, ardal Pennant. Llyfrynnau bychain a dalennau sengl yw'r deunydd hwn.
Gall y Llyfrgell Genedlaethol ymffrostio fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o weithiau printiedig Thomas Pennant gyda bron pob argraffiad o'r prif weithiau ymysg ei daliadau. Mae'n berchen hefyd ar lawer o'i weithiau llai sylweddol. Gwneir pob ymdrech i ychwanegu at y casgliad hwn pan ddaw deunydd ar y farchnad gan gynnwys cyfrolau o lyfrgell Downing gyda nodiadau gan Pennant ynddynt neu rai wedi eu cyflwyno iddo gan eu hawduron.
Er bod gan Pennant ddiddordeb aruthrol mewn astudiaethau natur, ac yn cael ei ystyried yn ei ddydd yn sŵolegwr blaenllaw, datgelir llawer mwy am y mannau y bu'n ymweld â hwy yn yr adroddiadau o'i deithiau niferus na fyddai o ddiddordeb i'r naturiaethwr yn unig. Yn ogystal â disgrifiadau topograffyddol cyfoethogir ei waith gyda manylion a hanesion am leoliadau amrywiol.
Mae'n amlwg o'i weithiau a'i bapurau personol fod Pennant yn unigolyn llawn egni a brwdfrydedd a ymchwiliodd yn fanwl wrth eu llunio. Cyfaddefa yn y llawysgrif o'i waith hunangofiannol y 'Literary Life' fod ei feddwl ". . . always in a progressive state, it could never stagnate". Roedd hyn yn ymestyn i bob rhan o'i adroddiadau, boed yn fyd natur, topograffi neu hynafiaethau. Ymddengys ei sylw at fanylion yn ei nodiadau ymchwil ac adlewyrchir hyn hefyd mewn nifer o'r llawysgrifau o'i eiddo a gedwir yn y Llyfrgell sy'n cynnwys deunydd ychwanegol.
Polymath oedd Pennant, fel nifer o'i gyfoedion. Fel aelod blaenllaw o fonedd Gogledd Cymru, roedd yn gyfarwydd iawn â dynion o gefndir cymdeithasol tebyg a hefyd yn cyfrif aelodau o ddosbarth canol newydd y ddeunawfed ganrif, megis Morisiaid Môn, a oedd yn rhannu'r un diddordebau mewn natur a hynafiaethau, ymhlith ei gyfeillion pennaf. Yn ogystal, adwaenai, a bu'n gohebu â, dynion o'r un meddylfryd ag yntau yn Lloegr, Yr Alban ac ymhellach. Byddai Pennant yn aml yn diddanu ymwelwyr â'i gartref yn Downing drwy eu tywys ar deithiau lleol, a chafodd gwmni ei gyfeillion ar amryw o deithiau. Yn y 'Literary Life' mae'n cofio ymweliad ag Ynys Manaw ". . . in company with the reverend doctor Lort, captain Grose, Paul Panton esqr. Junior, of Plas Gwyn . . . and the reverend Hugh Davies, rector of Aber in Caernarvonshire . . .".
Ystyriai Pennant bod cofnodi hynafiaethau ar ei deithiau yn ffordd bwysig o bortreadu gwlad neu ranbarth. Nodai yn y 'Literary Life', adeg ei ail daith i'r Alban, "I pointed out every thing I thought would be of service to the country; it was rouzed to look into its advantages".
Roedd ei safle freintiedig yn galluogi Pennant i ymgymryd â beichiau ariannol ei deithiau (ceir cyfrifon o'r costau ar gyfer ei astudiaethau natur yn yr arddangosfa hon); yn ogystal rhoddai fynediad at lawysgrifau a gweithiau printiedig a gedwid mewn llyfrgelloedd preifat neilltuol, fel un Hengwrt, na fyddai'r mwyafrif yn medru eu gweld. Bu diddordeb cynyddol mewn astudiaethau hynafiaethol Cymreig yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, ac roedd nifer o'r bonedd yn casglu llawysgrifau. Roedd sawl aelod o deulu Mostyn, Mostyn Hall, cymdogion i Pennant a pherthnasau iddo yn dilyn ei briodas ag Ann, ferch Syr Thomas Mostyn, yn hynafiaethwyr brwd a chanddynt gasgliad cyfoethog o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig. Nid oedd gan Pennant lawer o Gymraeg, fel llawer o gefndir tebyg iddo, ac wrth ystyried mai astudiaethau natur oedd ei brif ddiddordeb, nid yw'n syndod canfod ei fod yn meddu ar dipyn llai o lawysgrifau na'i gyfoedion, er bod ganddo gasgliad helaeth o weithiau printiedig. Os tybiwn fod llawysgrifau Downing a ddisgrifir yn y 'Catalogue of North Wales Manuscripts' a luniwyd yn 1824 gan Aneurin Owen ac Angharad Llwyd (Llsgr Llansteffan 162) yn rhestr gywir fwy neu lai o'r dogfennau a gedwid yno tua diwedd y ganrif flaenorol, ymddengys mai cartau achau a herodraeth oedd o ddiddordeb pennaf iddo. Cafodd y mwyafrif o'r rhain yn dilyn marwolaeth Dafydd Jones o Drefriw, yr hynafiaethydd enwog. Roedd Pennant yn ffodus oherwydd gallai dynnu ar lawer o'r deunydd hwn a'r wybodaeth a feddai ei gyfeillion brwdfrydig ar hynafiaethau wrth lunio ei lyfrau taith, yn enwedig rhai o'i deithiau drwy Ogledd Cymru a ystyrir gan lawer fel gweithiau arbennig yn y maes hwn.
Dengys y nodiadau ymchwil ar amryw o siroedd yng Ngogledd Cymru, y ceir enghreifftiau ohonynt yn yr arddangosfa, fod tipyn o'r wybodaeth a gasglodd Pennant am hynafiaethau wedi ei drosglwyddo gan ei gyfeillion, gwŷr megis y Parch. John Price, llyfrgellydd y Bodley yn Rhydychen, a'r Parch. John Lloyd o Gaerwys. Roedd yr olaf yn arbennig yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am arferion Cymreig a hynafiaethau eraill, a chafodd gydnabyddiaeth gan Pennant am ei gyfraniad. Dengys llawysgrif Llansteffan 162 fod ganddo gasgliad sylweddol o lawysgrifau cyfreithiol, hanesyddol a barddonol Cymreig ac yn y Gymraeg.
Nid arsyllydd a chofnodydd hynafiaethau yn unig oedd Pennant. Ar ôl i Syr Watkin Williams-Wynn dynnu'n ôl ei nawdd, fe drefnodd Panton a Pennant gefnogaeth ar gyfer yr ysgolhaig a'r hynafiaethydd Evan Evans ('Ieuan Fardd'). Roedd ef wedi adysgrifio llawer o'r llawysgrifau a gedwid yn llyfrgelloedd preifat y bonedd Cymreig, ac fe brynodd Panton rhain cyn iddo farw.
Yn ogystal â disgrifio mannau neu bethau a fyddai o ddiddordeb i'r darllenydd hynafiaethol, darluniwyd nifer ohonynt hefyd. Dywed Pennant yn y 'Literary Life' fod Moses Griffith wedi gwneud rhai o'i luniau harddaf o hynafiaethau yn ystod eu taith yn 1776, "The public may thank him [Moses Griffith] for numberless scenes and antiquities which would otherwise have remained probably for ever concealed".
Serch hynny, y nodwedd fwyaf parhaol yn adroddiadau Pennant o'i deithiau drwy Ynysoedd Prydain ac ar y cyfandir o bosib yw ei nodiadau topograffyddol a hanesyddol manwl, a'i ddisgrifiadau personol o gyfarfodydd ag enwogion, megis Voltaire, a chynnwys plastai - wedi eu hymchwilio'n ofalus a'u cofnodi'n fanwl.
Cedwir papurau a gohebiaeth Thomas Pennant mewn archifdai ar hyd a lled Prydain, a cheir grwpiau sylweddol ohonynt yn archifdai Sir y Fflint a Swydd Warwig. Serch hynny, llawysgrifau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn unig a geir yn yr arddangosfa hon. Ymgorfforwyd y mwyafrif o bapurau Pennant sydd i'w cael yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau, yn cynnwys papurau ymchwil, gohebiaeth a llawysgrifau o'i weithiau yn bennaf, yn y brif gyfres o lawysgrifau LlGC a rhestrir hwy yn yr Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales. Rhestrwyd grŵp ychwanegol o weithredoedd, a gyflwynwyd i'r Llyfrgell gan Iarll Dinbych ym 1922, sy'n ymwneud yn bennaf â stadau teuluoedd Pennant Bychton a Downing, ar wahân yn y gyfrol Schedule of Downing Deeds.