CYDNABYDDIAETHAU

Trefnwyd yr arddangosfa gan Isadran Gartograffig Adran Darluniau a Mapiau y Llyfrgell Genedlaethol o dan gyfarwyddyd Robert Davies. Dewisodd Gwilym Tawy yr eitemau arddangos, gan hefyd ymchwilio a pharatoi y testun. Y mae y mwyafrif o'r cynlluniau a arddangoswyd yn gynlluniau i raddfa ac felly yn tarddu o'r casgliadau cartograffig. Yn ogystal mae enghreifftiau o waith yng nghasgliadau darluniadol yr Adran sydd yn gwella ein gwybodaeth o bensaernïaeth Cymru ac yn creu dimensiwn ychwanegol i'r arddangosfa. Felly diolchwn i'r Isadrannau Darluniau a Ffotograffau am eu cyngor, cymorth a chydweithrediad gyda'r arddangosfa hon.

Diolch yn arbennig i Richard Suggett o'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Lona Gwilym o'r Llyfrgell Genedlaethol am ddarllen y testun; i H Bonsall o Aberystwyth am gwybodaeth werthfawr am ei dad, y diweddar Richard Emrys Bonsall, FRIBA.

Diolch hefyd i D Huw Owen, Paul Joyner, Frazer Henderson ac fel arfer y tîm Arddangosfeydd sef D Michael Francis, Lona Mason, Ifor Pugh, Andrew Davies a Karri-Ann Leadbetter. Diolch i Julian Thomas, Iwan Bryn James, J Dilwyn Williams a Megan Meredith o'r Uned Gadwraeth am eu cyngor, ac am drwsio a mowntio'r cynlluniau. Daeth cyngor a chymorth parthed cyhoeddusrwydd oddi wrth Huw Ll Evans.

Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.