Y mae casgliadau'r Adran yn cynnwys dyluniadau pensaernïol o adeiladau ac adeiladweithiau eraill, yng Nghanolbarth a De Cymru yn bennaf, ynghyd â rhai enghreifftiau ar gyfer safleoedd y tu allan i Gymru.
Brasluniau technegol yw'r rhan fwyaf ohonynt, i'w defnyddio mewn gwaith adeiladu sifil, ond fe geir yn eu plith rai gweithiau o natur ddarluniadol neu dopograffig megis darluniau mewn persbectif yn dangos adeiladau yn eu hamgylchoedd. Ceir cyfran dda o ddarluniau o dai, ac o adeiladau dinesig a chrefyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i ddiwedd y 19 ganrif a dechrau'r 20 ganrif, cyfnod o gynnydd mawr mewn datblygiadau trefol a diwydiannol. Y mae nifer fawr o ddyluniadau o henebion yn deillio o astudiaethau gan awdurdodau lleol a chymdeithasau pensaernïol. Ymhlith y dyluniadau fe geir brasluniau pensel syml ar bapur dargopïo yn ogystal â lluniau dyfrlliw cain. Ceir rhai cynlluniau na wireddwyd byth mohonynt tra ystyrir eraill yn werthfawr am eu bod yn dangos adeiladau sydd bellach wedi eu dymchwel. Fe'u cedwir mewn Casgliad Craidd ac mewn rhyw 50 o gasgliadau eraill (cartograffig gan mwyaf) lle maent fel arfer yn ffurfio categori llai. Ceir mynediad atynt drwy gatalogau ar gardiau, rhestrau a chronfa ddata.
CASGLIAD CRAIDD O DDYLUNIADAU PENSAERNÏOL
Y mae dros fil o eitemau yn y casgliad hwn, oddeutu 90 y cant ohonynt yn dangos pensaernïaeth Gymreig, a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn ddyluniadau o adeiladau anhysbys yng Nghymru.
Ceir digonedd o dai a chapeli, eglwysi ac adeiladau dinesig, a'r dyluniadau yn dyddio'n bennaf o'r 19 ganrif a dechrau'r 20 ganrif.
Ymhlith y casgliadau sy'n cynnwys gweithiau busnesau penseiri unigol y mae un Bonsall o Aberystwyth (tai gan mwyaf, ca. 1930-60), un Morgan o Gaerfyrddin (tai ac adeiladau crefyddol, ca. 1880au - ca. 1920au) ac un Pace o Gaerefrog (adfer ac ailadeiladu Eglwys Gadeiriol Llandaf, 1949-75).
Y mae'r rhan fwyaf o'r casgliadau hyn yn cynnwys dyluniadau pensaernïol yn rhannol. Ceir ynddynt bynciau domestig, crefyddol, cyhoeddus, diwydiannol a masnachol o ddechrau'r 18 ganrif ymlaen, er mai gweithiau o'r 19 ganrif yw'r mwyafrif o'r rhai a geir yn bennaf yn y casgliadau canlynol. Aberpergwm, Birmingham Corporation, Brecon County Council Quarter Sessions Records, Bute, Castle House - Aberystwyth, J. Coates Carter and John P. Seddon, Cilgerran, Cilgwyn, Crosswood/Lisburne, Gee and Matthews, Gogerddan, Gregynog Boxes and Rolls, Harpton Court, Harrison, A.J. Jenkins, D.T.M. Jones, O.T. Jones, William Jones, Llidiardau, Llwynybrain, Lovesgrove, Lead Mining Plans Core Collection, Montgomeryshire County Council, Mortimer, Nanteos, Ormathwaite, Pale Hall, Reverend John Parker, Picton Castle, Benjamin Piercy, Pigeon's Ford, Pitchford Hall, Powis Castle, Public Utilities Plans Core Collection, D. Roberts, Sales Catalogues, Slebech Hall, Tredegar, Trellech, Van Mines a Williams Wynn.
FFYNONELLAU YCHWANEGOL O WYBODAETH BENSAERNÏOL
Dylid cofio fod modd lloffa gwybodaeth bensaernïol o ffynonellau eraill yn yr Adran Darluniau a Mapiau fel mapiau, darluniau (peintiadau, dyluniadau a phrintiau) a ffotograffau. Y mae mapiau ar raddfa fawr fel cyfresi 1:500, 1:1,250 a 1:2,500 yr Arolwg Ordnans yn dangos cynlluniau amlinellol o adeiladau. Digwydd hynny hefyd mewn mapiau ystadau llawysgrif sydd weithiau'n cynnwys dyluniadau topograffig o blasau gwledig. Mae ein casgliad o beintiadau a dyluniadau topograffig yn cynnwys, er enghraifft, darluniau dyfrlliw manwl o'r 18 ganrif gan John Ingleby sy'n dangos tai ac eglwysi yng Ngogledd Cymru a Sir Amwythig, trefluniau o ganol yr ugeinfed ganrif, plastai a chapeli yn y wlad gan Kenneth Rowntree a pheintiadau diweddar gan Christopher Hall sy'n dangos pensaernïaeth yr adeiladau domestig a diwydiannol hynny a gysylltir fel arfer â De Cymru ond sydd bellach yn dadfeilio ac mewn llawer achos wedi diflannu. Y math o olygfeydd a geir yn ein casgliad o brintiau topograffig, o'r 19 ganrif yn bennaf, yw rhai o dai, cestyll, adeiladau crefyddol a threfi ac mae ein casgliad o ffotograffau - y mwyaf yng Nghymru - yn cyflwyno toreth o ddelweddau pensaernïol gan gynnwys albymau thematig a chyfresi o ffotograffau a chardiau post o blastai gwledig ac eglwysi.
Ymysg casgliadau eraill y Llyfrgell y mae un yr Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau, lle y ceir deunydd sy'n ymwneud yn arbennig â phensaernïaeth adeiladau domestig a chrefyddol a hefyd â hynafiaethau ac adeiladau a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod y rhan fwyaf yn destunau ar ffurf disgrifiadau, dogfennau, gweithredoedd, llythyrau, rhestrau a thraethodau, fe geir hefyd enghreifftiau o ddyluniadau, yn enwedig o bensaernïaeth ddomestig. Y mae testunau printiedig a chyhoeddedig, ar hanes pensaernïaeth, er enghraifft, a llyfryddiaethau, bywgraffiadau o benseiri a disgrifiadau o adeiladau unigol, i'w cael yn yr Adran Llyfrau Printiedig.
Y RHESYMAU DROS YR ARDDANGOSFA A'I THERFYNAU
Y mae'r arolwg uchod yn rhoi amlinelliad o'r casgliad amrywiol a hynod ddiddorol o ddyluniadau pensaernïol, llawer ohonynt nas gwelwyd erioed o'r blaen gan y cyhoedd ac na dderbyniodd unrhyw gyhoeddusrwydd. Y mae'r arddangosfa yn ceisio cywiro'r diffyg hwn.
Detholwyd yr eitemau er mwyn dangos yr amrediad eang o adeiladau ac arddulliau yn y casgliad, gan gynnwys pethau ansoffistigedig a dinod a phethau eithriadol, gydag enghreifftiau o lawer rhan o Gymru. Yr oedd ansawdd ac effaith weledol hefyd yn dylanwadu'n rhannol ar y dethol.