Trefnir yr eitemau yn ôl naw thema, rhai ohonynt yn gysylltiedig â swyddogaeth yr adeiladau, sef Pensaernïaeth Ddomestig; Pensaernïaeth Gyhoeddus, Gwasanaethau Cyhoeddus; Pensaernïaeth Ddiwydiannol, Masnachol a Milwrol; Pensaernïaeth Grefyddol; Tai Coll; Syniadau na wireddwyd; R.E. Bonsall: Enghreifftiau o Bractis yn Aberystwyth; Ffotograffau a Chardiau Post.
Pensaernïaeth werinol a phensaernïaeth ddomestig fawreddog ynghyd â dyluniadau o fannau addoli yw'r mwyaf o ran nifer yng nghasgliad yr adran, tra ceir prinder o ddyluniadau mewn sawl categori arall, er enghraifft, adeiladweithiau milwrol. Nid yw'r eitemau a ddewiswyd a'u categorïau yn gynrychioladol o gwbl o'u cyfran yn y casgliad cyfan.