Priodolir i John Calvert a'i Bartneriaid, ca. 1770au
Inc a golchliw 23cm x 29cm, 23cm x 28cm
PE 5129/1, PE 5129/16
Gwnaed y cynlluniau inc a golchliw hyn ar gyfer yr Ystafell Gerdd yn Slebech Hall, ger Hwlffordd, ac mae'r rhain ynghyd ag eraill yn ffurfio casgliad o ddyluniadau o fanylion mowldinau a chornisiau ar gyfer yr Ystafell Gerdd, y grisiau, y parlwr bore a'r siambrau. Er nad yw'n dŷ helaeth, Slebech Hall yw un o'r tai mwyaf gofalus ei gynllun o'r cyfnod hwn yn Sir Benfro.
Enillwyd achos llys gan John Calvert o Abertawe, prif adeiladydd Slebech Hall, er nad o reidrwydd y pensaer, yn erbyn ei noddwr John Symmons yn 1779 ynghylch ei daliadau am adeiladu'r tŷ.
Y mae'r casgliad helaethach ar wahân sy'n dwyn enw Slebech Hall yn cynnwys mapiau ystâd ynghyd â chynlluniau pensaernïol cyffredinol o'r neuadd, lefelydd gwaith glo a bythynnod gweithwyr.
STABLAU CASTELL RHIW'R PERRAI
Pensaer anhysbys, 1790
Inc a dyfrlliw, 59cm x 47cm
Casgliad Tredegar (734)
Efelychir pensaernïaeth gymesur Castell Rhiw'r Perrai a'i ragfur castellog yn yr adeilad gwasanaeth hwn. Yr oedd yr adeilad ymarferol a phwrpasol hwn yn cynnwys cwadrangl ac ynddo yr oedd stablau a thai cerbydau'r castell ynghyd â llu o ystafelloedd atodol eraill ac ystafelloedd y gweision. Nodir swyddogaeth yr ystafelloedd ar y dyluniad. Dinistriwyd llawer o'r tu mewn gan dân yn y 1890au ond tua 1910 codwyd bloc newydd mawreddog ac arno dŵr cloc dros fwa'r porth.
Y mae 'castell' Syr Thomas Morgan, i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd, yn dyddio o 1626 ac fe'i cysylltir â'r pensaer Robert Smythson. Y mae cynllun sgwâr anarferol i'r adeilad gyda phedwar gweddlun a thyrau crynion llyfn ar ei bedwar cornel, ac 'roedd ei gymesuredd yn annodweddiadol o'i gyfnod. Y mae'n debygol fod y rhagfur castellog wedi ei ychwanegu yn ystod y ddeunawfed ganrif ar ôl tân difrifol. Pan oedd milwyr yn aros yno yn 1941, fe ddinistriwyd yr adeilad gan dân gan adael dim ond cragen ar ôl.
PLAS YN LLAN AC EGLWYS LLANGYNHAFEL (UCHAF)
PLAS YN RHOS, EIDDO WYNNE YSW., GER RHUTHUN (GWAELOD)
John Ingleby, 1793
Inc a dyfrlliw, 27cm x 21cm
PD 9123
Ymysg y cynharaf o'r portreadau manwl o dai yng Nghymru oedd y rhai a gomisiynwyd gan Thomas Pennant yr hynafiaethydd, yr awdur a'r teithiwr o'r ddeunawfed ganrif. Fe'u lluniwyd gan Moses Griffith a John Ingleby. 'Roedd eu dyluniadau o'r tai bonedd mawr a llai yng Ngogledd Cymru yn rhai cywir iawn ac maent bellach yn werthfawr iawn i ymchwilwyr.
Pethau damweiniol yn aml yw cofnodion pensaernïol gan mai arall fyddai amcan arlunwyr, awduron a chartograffwyr wrth baratoi eu gwaith ac ychydig neu ddim o sylw a roddwyd ganddynt i greu cofnod o ddiddordeb pensaernïol. Gwelir enghraifft arall o wybodaeth ddamweiniol o'r fath ar A new map of the County of Denbigh and Flint, ca. 1720 gan William Williams. Hwn yw'r map cynharaf 'ar raddfa fawr' o sir yng Nghymru ac mae hefyd yn dangos gweddluniau manwl o blastai gwledig Clwyd ar ei ymylon er mwyn ceisio hybu ei werthiant ymysg y bonedd.
PENNANT HOUSE - GWEDDLUN A CHYNLLUN A THRAWSLUN
John Cooper, 1798-1799
Inc a dyfrlliw, 47cm x 26cm, 34cm x 47cm
PZ 4456/8, PZ 4456/24
Cafwyd y dyluniadau cynnar a llawn gwybodaeth hyn o gasgliad o newidiadau arfaethedig yn Pennant House, Eglwys-bach, ger Bae Colwyn ynghyd â llawysgrifau a mapiau cysylltiedig. Ymhlith y llawysgrifau y mae amcangyfrif o £480 'For workmanship and all Materials' a rhestr o'r coed angenrheidiol.
Y mae'r mapiau yn arolygon gwreiddiol ar eiddo'r Parchedig Howel Holland Edwards ym mhlwyf Eglwys-bach gan Robert Davies, 1795-1800. Yngln â hwy y mae dyluniadau ychwanegol o Pennant House a'r stablau gan y pensaer James Defferd, y credir ei fod yn hanu o Wlad yr Haf, a ymgartrefodd ym Mangor, ca. 1790.
Nodwyd yn 1796 fod adeiladydd-bensaer o'r enw John Cooper o Fiwmares, Môn â gofal dros newidiadau yng Nghastell y Waun, Sir Ddinbych ar ran Richard Myddelton [Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2258C].
CYNLLUN LLAWR A GWEDDLUN I UGAIN O DAI Y BWRIEDIR EU CODI AR OCHR OGLEDDOL FFORDD LLUNDAIN, CAERDYDD
D. Stewart, 1824
Inc a dyfrlliw, 25cm x 118cm, 27cm x 116cm
Casgliad Bute (A68), (A32)
Rhesdai neo-glasurol hardd ac iddi gynllun lled grwm gyda thai mwy yn y canol ac yn y ddau ben. Credir fod bwriad i'w chodi yn ardal Ffordd Casnewydd yng Nghaerdydd ar ddechrau cyfnod o dwf sylweddol yn y ddinas, ond mae'n bosibl na chafodd ei hadeiladu. Ni chafwyd dim yng Nghymru oedd yn debyg i ddatblygiadau trefol cynlluniedig mawreddog y ddeunawfed ganrif yn Llundain, Caerfaddon a Chaeredin, a phrin fu'r ehangu ar y trefi yng Nghymru hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Fodd bynnag, rhwng ca. 1800 a 1840, cafodd tri phorthladd bychan yng Ngorllewin Cymru, Aberdaugleddau, Tremadog ac Aberaeron, eu cynllunio'n ffurfiol, yn rhannol yn ôl egwyddorion y Dadeni, gan unigolion egnïol a blaengar oedd â'u bryd ar welliannau economaidd a chymdeithasol.
Tybir fod y dyluniadau'n argymhellion gan David Stewart, tirfesurydd o Gaeredin a gawsai ei gyflogi gan Ail Ardalydd Bute i fapio ystâd hynafol Bute a diwygio'r dull o'i rheoli ar ôl cyfnod o esgeulustod mawr. Yr oedd arolygon ac adroddiadau crefftus a thyngedfennol David Stewart, a gwblhawyd yn 1824 ar ôl deng mlynedd o lafur, yn fodd pwysig i wella a moderneiddio'r dull o reoli'r ystâd a thynnwyd sylw at ei photensial diwydiannol. Gwaetha'r modd, daethant yn rhy hwyr i ddatrys llawer o broblemau fel anghydfodau ynghylch terfynau a hawliau cloddio a fu'n achos blinder am flynyddoedd lawer wedyn.
LAWN LAS [LÔN LAS], SGIWEN
Pensaer anhysbys, ca. 1850
Inc a dyfrlliw, 48cm x 60cm
Casgliad A.J. Jenkins (21)
Y mae'r dyluniadau hyn o dŷ hardd, clasurol ei ddylanwadau ar gyrion Sgiwen, Castell Nedd, a wnaed i ryw Robert Evans, yn dangos yr amrywiaeth a geir yng nghasgliad y Llyfrgell. Yr hyn sy'n ddiddorol ac yn unigryw am y ddalen hon yw ei bod yn cynnwys cynllun o'r ystâd a chyfeiriadau at wahanol rannau'r eiddo mewn erwau, rhydau a pherciau. Mewn gwirionedd mae'n efelychu'r mapiau o ystadau a gâi eu comisiynu gan y boneddigion traddodiadol yr oedd eu ffordd o fyw yn cael ei dynwared yn aml gan y tirfeddianwyr cefnog o blith y dosbarthiadau newydd o fasnachwyr a diwydianwyr.
Ers hynny mae Lôn Las wedi colli'r rhan fwyaf o'i pharcdir i ddatblygiadau o dai preswyl rhwng Sgiwen a Birchgrove.
PORTHDY NEWYDD BROOM HALL
Pensaer anhysbys, ca. 1860au
Inc a dyfrlliw, 34cm x 43cm
PD 9679
Er nad oedd bythynnod ystâd Broom Hall, ger Pwllheli, yn ddi-gymeriad, y mae'n amlwg mai ymarferoldeb a darbodaeth oedd y brif ystyriaeth wrth eu cynllunio. Yn Neddf Iechyd Cyhoeddus 1848, a'r holl ddeddfwriaeth a'i dilynodd, sefydlwyd system archwilio er mwyn ceisio lleihau nifer y tai gwael, annigonol a gorlawn, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol. Y mae dyluniadau Broom Hall yn dyddio o adeg pryd yr oedd anogaeth i gyflawni gwelliannau cwbl anghenrheidiol i dai gwledig. Gweler hefyd Cynlluniau i fythynnod gweithwyr.
FILA ARFAETHEDIG YN LLANDRINDOD I R.D.G. PRICE YSW.
Stephen W. Williams, 1870
Inc a dyfrlliw, 64cm x 98cm
Casgliad Birmingham Corporation (160)
Y mae'r fila Fictoraidd a'i bortico gwydrog addurnedig a'i hestyll talcen yn nodweddiadol o bensaernïaeth llawer o dref ffynhonnau Llandrindod, pan oedd ar gynnydd ar ôl dyfodiad y rheilffordd yn ystod y 1860au. Darfu am gyfnod ei bri fel cyrchfan o bwys mewn twristiaeth iechyd wedi'r hwb a gafodd trwy fuddsoddiad cyfalaf enfawr rhwng y 1870au a'r 1920au, ond y mae rhai ffasadau Fictoraidd ac Edwardaidd yn aros o hyd.
Y mae'n debygol fod y fila wedi ei gomisiynu i Mr Dansey Green Price, perchennog tir lleol o bwys. Yr oedd Stephen W. Williams yntau yn dirfesurydd lleol, galwedigaeth sy'n cyd-fynd yn aml ag un y pensaer. Yr oedd hefyd yn hynabiaethydd a fu'n cloddio yn Ystraf Fflur.
CYNLLUNIAU I FYTHYNNOD GWEITHWYR
Y Swyddfa Cau Tiroedd, 1872
Print, 34cm x 46cm
Casgliad Slebech Hall (43)
Un ymgais i ymdrin â phroblemau enfawr tai a iechyd cyhoeddus yng Nghymru Oes Fictoria. Y mae'r sinciau yn y ceginau cefn yn arwydd o'r ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd plymwaith mewnol. Gorfodwyd awdurdodau lleol i fenthyca a chodi arian i adeiladu carthffosydd, traeniau a sianeli dŵr, er bod costau cynlluniau o'r fath yn eithriadol o uchel ac yn dorcalonnus o araf i'w cwblhau mewn llawer achos. Gweler hefyd Porthdy Newydd Broom Hall.
Yn ystod y 1860au gwnaed ymholiadau gan Swyddfa Feddygol y Cyfrin Gyngor ynghylch anheddau'r boblogaeth weithiol a'u hymborth. Cafwyd fod gweithwyr a'u teuluoedd yn Ne-orllewin Cymru yn dioddef mannau byw, dodrefn, cysur a iechyd israddol. Nodweddion arferol y tai oedd waliau cerrig dan haen o fwd, llawr pridd, toeau gwellt a ffenestri bychain. Yr oedd eu deiet hefyd yn wael, yn cynnwys blawd gwenith a blawd ceirch. Yr oedd safon byw gweithwyr De-orllewin Cymru yn waeth ym mhob agwedd na'r hyn a geid mewn unrhyw ranbarth arall o Gymru a Lloegr.
DAU DŶ, HEOL Y BUARTH, ABERYSTWYTH
G.T. Bassett, 1904
Inc a dyfrlliw, 51cm x 74cm
PZ 5459
Fel ar lawer o ddyluniadau deniadol eraill fe geir nodiadau mewn pensel ar y copïau gweithio hyn, er mwyn dangos newidiadau i'r manylebion gwreiddiol yn yr achos hwn, mae'n debyg. Y mae'n bosibl fod llofnod y maer, Isaac Hopkins yn nodi cam yn y broses o roi caniatâd cynllunio. Ffeilwyd y cynlluniau a gymeradwywyd gyda 'Chynlluniau Rheolaeth Adeiladau' sydd wedi eu gosod ar adnau yn Archifdy'r Sir.
Cafodd llawer o'r tai yn y fan hon ac mewn mannau eraill ar ochr ddwyreiniol Aberystwyth eu codi ar gyfer dynion proffesiynol a busnes nad oeddent am barhau i fyw uwchben eu busnesau yn y dref. Yr oedd ehangu'r Brifysgol hefyd yn creu mwy o alw am dai tebyg yn y cyfnod hwn. Heddiw y mae llawer o'r tai mawr teuluol hyn yn gartrefi aml-ddeiliadaeth, i letya myfyrwyr yn bennaf. Yr oedd symudiad cyffredinol y dosbarth canol Fictoraidd Prydeinig i'r maestrefi iachach, a'r rheiny ar dir uwch yn aml, yn arbennig o amlwg yng Nghaerdydd ac Abertawe.
T NEWYDD, MOSS ROAD, GWERSYLLT, I MR W.J. JACKSON
George Vernon Price, 1914
Inc a dyfrlliw, 58cm x 79cm
PB9765
Dyluniadau nodweddiadol gan G.V. Price yw'r rhain sy'n dangos rhai o elfennau pensaernïol nodweddiadol tŷ cyffredin yng Ngwersyllt, ardal breswyl i'r gogledd o Wrecsam.
Er bod y tŷ yn llai o faint na'r rhai a gynlluniwyd gan Bassett ar gyfer Heol y Buarth, Aberystwyth ac o fath a fwriadwyd i gwsmeriaid llai cefnog, fe nodir rhai manylion diddorol yn y dyluniadau hyn. Er enghraifft, argymhellir deunyddiau ysgafnach ar ffurf bordiau wal culach a gwydrau ffenestr teneuach i'r llawr uchaf. Yr oedd yr arfer o ychwanegu ffenestri bae hefyd yn dechrau ennill ei blwyf mewn tai llai.