PENSAERNÏAETH GYHOEDDUS

TLOTY UNDEB ABERAERON

TLOTY UNDEB ABERAERON
George Wilkinson, 1838
Inc a dyfrlliw, 54cm x 76cm
PZ4419/1

Ni cheir ond ychydig o gynlluniau toeau yng nghasgliadau'r Llyfrgell. Y mae cynlluniau George Wilkinson yn dangos trefniad y gwalbleidiau, y tulathau, y trawstiau a darnau eraill y to yn y tloty bychan hwn, a cheir trawsluniau a manylion o'r adeilad hwn mewn dyluniadau eraill. Yr oedd ei gynlluniau ar gyfer tlotai mwy yn aml ar ffurf croes, gyda llusern yn y canol a pharlwr y meistr. Adeiladwyd pump a deugain o dlotai yng Nghymru erbyn 1850. Yn Sir Aberteifi, Undeb plwyfi Aberaeron oedd y cyntaf yn 1839 i godi tloty i gartrefu ei drigolion anghenus, swyddogaeth a gyflawnir i raddau helaeth erbyn hyn gan letyau gwely a brecwast. Fe'i codwyd gan adeiladwr lleol William Green a chyflawnodd ei ddiben hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf pryd y daeth yn ysbyty i filwyr clwyfedig ac wedyn yn ysbyty fach.

Pensaer o Swydd Rydychen oedd George Wilkinson a arbenigodd mewn tlotai ar ôl ennill cystadleuaeth i gynllunio'r tloty yn Thame yn ei sir enedigol yn 1835. Tua 1840 fe ymfudodd i Iwerddon ar ôl ei ddewis yn bensaer gan Gomisiynwyr Deddf y Tlodion lle y cynlluniodd amryw o dlotai eraill, ynghyd ag adeiladau eraill gan gynnwys gorsaf Harcourt Street yn Nulyn, 1858-59.


CARCHARDY, BRYNBUGA

CARCHARDY, BRYNBUGA
James Maddox, ca. 1810au
Inc a dyfrlliw, 48cm x 36cm, 54cm x 75cm
PB 1558, PB 1559

Estyniad mawr ei angen i'r 'hen adeilad' bychan yw hwn yn ôl pob golwg. Amlygir swyddogaeth gosbi'r carchar hwn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y waliau cerrig a brics cadarn iawn a nenfydau'r wyth gell sydd yng nghanol yr hyn sydd fel arall yn adeilad cyffredin braidd gyda lloriau a pharwydydd pren. Carchar newydd ym Mrynbuga a saif o hyd gomisiynwyd ym 1839.

Penseiri ac adeiladwyr yn Nhrefynwy oedd James Maddox a'i fab George Vaughan Maddox. Comisiwn mwyaf nodedig G.V. Maddox oedd y Farchnad Newydd yn Stryd y Priordy a agorwyd yn 1839. Yr oedd hyn yn rhan o gynllun datblygu helaeth y bu Maddox hefyd yn gyfrifol amdano yn ôl pob tebyg, ac 'roedd yn cynnwys adeiladu stryd newydd ar ben bwâu a oedd yn welliant mawr i'r ffordd i Drefynwy o'r gogledd.


CYNLLUNIAU S.B.D. I YSGOLION: CASTELL MADOG (BRYCHEINIOG)

CYNLLUNIAU S.B.D.  I YSGOLION
? Wiilliam Williams, 1850
Inc a dyfrlliw, 65cm x 48cm
Casgliad Blychau Gregynog (17)

Y mae'r casgliad S.B.D. [School Building Drawings] yn cynnwys cynlluniau grantiau adeiladu i ysgolion a godwyd rhwng 1860 a 1904 yn siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Dinbych, Trefaldwyn a Maesyfed. Rhoddwyd y dyluniadau hyn ar adnau gyda'r Bwrdd Addysg, 1845-72, mewn cysylltiad â grantiau am eu hadeiladu a'u newid. Fe'u trosglwyddwyd i'r archifdai sirol o dan Deddf Archifau Cyhoeddus 1958 a daeth y casgliadau uchod wedyn i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Yr oedd addysg elfennol yng Nghymru cyn 1840 yn cael ei darparu fel arfer gan ysgolion Sul ac am ffi fechan gan ysgolion menter breifat. Cafwyd amryw o adroddiadau gan y llywodraeth yn ystod hanner cyntaf y ganrif oedd yn tynnu sylw at gyflwr truenus yr addysg oedd ar gael. Ar ddechrau'r ganrif sefydlwyd dwy gymdeithas wirfoddol, y gymdeithas Genedlaethol a'r gymdeithas Frytanaidd, ond prin fu eu heffaith yng Nghymru. Eu hamcan oedd hyrwyddo addysg y dosbarth gweithiol a'r dosbarth cynhyrchu, beth bynnag bu crefydd. Rhannwyd grant cyntaf y llywodraeth i addysg yn 1833 rhwng y ddwy gymdeithas ac fe'i darparwyd er mwyn codi ysgoldai. Bu'r cyfnod pwysicaf o adeiladu ysgolion yn ystod ail hanner y ganrif, yn enwedig ar ôl Deddf Addysg 1870 a'i gwnaeth yn amod fod ysgol elfennol i fod o fewn cyrraedd pob plentyn.


YSGOL FABANOD ABERERCH

YSGOL FABANOD ABERERCH
YSGOL FABANOD ABERERCH
YSGOL FABANOD ABERERCH
YSGOL FABANOD ABERERCH
Henry Kennedy, 1875
Inc a dyfrlliw, 39cm x 56cm a llai
PD 9683-86

Enghreifftiau o set gynhwysfawr o ddyluniadau a manylebau i'r ysgol bentref hon ger Pwllheli. Rhestrir manylebau'r contractwyr ac maent yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r cloddiwr, y saer maen, y briciwr, y tŵr, y plastrwr, y saer coed, yr haearnwerthwr, y plymwr, y gwydrwr a'r peintiwr. Y mae'r dyluniadau'n gyffredin ac yn ddiddychymyg braidd sydd yn dangos fod Henry Kennedy yn gweithio'n ôl cyllideb fach yn ôl pob tebyg. Y mae'r ysgol, er hynny, yn parhau i fodoli.

Mewn ardaloedd gwledig, prin eu pentrefi, yn enwedig rhannau o Lŷn, Môn a Sir Aberteifi, fe ddaeth yr ysgol yn ganolbwynt i'r gymuned.


NEUADD TREF LLANELLI. Y CYNLLUN A WOBRWYWYD YN GYNTAF A'R CYNLLUN A DDEWISWYD 1892

NEUADD TREF LLANELLI
NEUADD TREF LLANELLI
Simon and Tweedie a William Griffiths, 1882
Argraffedig, 38cm x 28cm, 28cm x 39cm
Casgliad Birmingham Corporation (171)

Y mae'r cynllun neo-Jacobeaidd cymesur a hardd gan William Griffiths yn codi Neuadd Tref Llanelli i blith yr enghreifftiau gorau un o adeiladau dinesig yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeilad deulawr gydag islawr yw hwn, ac mae iddo dŵr cloc yn y canol gyda chromen, meini rwbel brown wedi eu sgwario gyda thriniad o gerrig nadd a thalcendoeau llechi y tu ôl i ragfuriau colofnresog. Gwaetha'r modd, yr oedd amrywiol arddulliau adeiladau dinesig diweddarach y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn siomedig o ran eu pensaernïaeth.


CYNLLUN DEWISEDIG LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU

CYNLLUN DEWISEDIG LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU
S.K. Greenslade, 1909
Argraffedig, 35cm x 28cm, 38cm x 29cm
Casgliad Blychau Gregynog (111)

Cartrefwyd y Llyfrgell Genedlaethol dros dro i ddechrau yn yr Hen Ystafelloedd Ymgynnull yn Aberystwyth yn 1909. Y flwyddyn cynt estynnwyd gwahoddiad gan Gyngor y Llyfrgell i benseiri oedd yn gyfarwydd â llyfrgelloedd i gyflwyno cynlluniau ar gyfer adeilad newydd o 'gymeriad cenedlaethol' ar safle amlwg uwchlaw'r dref a Bae Ceredigion. Trwy anogaethau lleol cryf ac oherwydd ei lle canolog yng Nghymru sicrhawyd y Llyfrgell i Aberystwyth yn hytrach na Chaerdydd.

Cynllun o waith Sidney Greenslade a ddewiswyd - un clasurol, mawreddog - a'i ddisgrifiad ef o'r arddull allanol oedd 'purposely flat and severe'. O wenithfaen Cernyw y gwnaed y llawr gwaelod, a'r rhai uwchben o gerrig Portland. Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1911 a dechreuwyd defnyddio'r adeilad yn 1916.

Y mae cynllun presennol yr adeilad yn wahanol i raddau i gynllun gwreiddiol Sidney Greenslade, yn enwedig yn y Neuadd Ganolog a'r prif risiau a ychwanegwyd yn ystod y 1950au. Codwyd sawl estyniad ers 1916 yn ôl y galw pan oedd grantiau adeiladu ar gael. Cwblhawyd Trydedd Adeilad eang y Llyfrgell a'i lenwi yn 1996.


AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CYMRU

NATIONAL MUSEUM OF WALES
James B. Fulton, 1910
Argraffedig, 28cm x 39cm, 29cm x 38cm
Casgliad Blychau Gregynog (111)

Adeilad petryal o gerrig Portland yw'r Amgueddfa Genedlaethol, o dan gromen sydd ar ben tr wythonglog isel a llydan, ac odditano gyntedd eang a golau. Ceir naw grŵp o gerfluniau yn cynrychioli hanes Cymru ar ben y cornis sy'n cwmpasu'r Amgueddfa. Cyhoeddwyd y cynllun a gymeradwywyd o waith James B. Fulton yn The Architect ond fe'i newidiwyd i ryw raddau ar ôl hynny.

Rhoddwyd Siarter Frenhinol i'r Amgueddfa Genedlaethol yn 1907, fel y gwnaed hefyd i'r Llyfrgell Genedlaethol, a gosodwyd ei charreg sylfaen gan y Brenin George V yn 1912. Ataliwyd y gwaith adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ni ailgychwynnwyd tan 1926. Fe'i hagorwyd i'r cyhoedd gan y Brenin George V yn 1927. Yr Amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol yw adeiladau cenedlaethol cyntaf Cymru i bob pwrpas.


ADEILAD NEWYDD ARFAETHEDIG, ADEILAD MORWROL A THOLLTY, DOC PENARTH

ADEILAD NEWYDD ARFAETHEDIG
Gary Edmunds, ca. 1985
Inc a phen ffelt, 36cm x 80cm
PE5427

Adeiladwyd y rhan fwyaf o seilwaith dociau Caerdydd a Phenarth gan Ystâd Bute ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed, yn bennaf er mwyn allforio glo o Dde Cymru. Dechreuodd proses gyson o ddirywiad diwydiannol o tua 1920 ymlaen, ac erbyn y 1970au yr oedd darnau helaeth ohonym yn dir llwm a diffaith a'r dociau wedi eu hesgeuluso. Daeth yn hollbwysig i'w hadnewyddu a rhoddwyd blaenoriaeth uchel i ailddatblygu tiroedd y dociau yng nghynllun fframwaith y sir.

Y mae cynnig Gary Edmunds yn un o blith llawer o gynlluniau i wella Doc Penarth yn null datblygiadau marina y 1980au. Y mae'r Adeiladau Morwrol a'r Tollty, sydd yn arddull y Dadeni, yn dyddio o tua 1865 ac fe'u cynlluniwyd yn ôl pob tebyg gan Samuel Dobson a oedd yn gyfrifol am Ddoc Penarth. Mae'r ddau wedi eu rhestru'n adeiladau Gradd 2 gan Cadw.

Yn 1987 sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gan y Swyddfa Gymreig er mwyn hyrwyddo strategaeth adnewyddu fawr, a'r amcanion ar gyfer Dociau Penarth oedd ymestyn y datblygiad marina ar gyfer tai a hamdden ynghyd â safleoedd tir cefn a thirlenwi tua'r gogledd i ddibenion diwydiannol. Y mae datblygiadau marina tebyg, ond llai, wedi gweddnewid rhai eraill o gyn-borthladdoedd glo, llechi a physgod Cymru, fel Abertawe, y Felinheli ac Aberdaugleddau


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.