GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PONT PONTYPRIDD

PONT PONTYPRIDD
Anthony Devis, 1755
Inc a dyfrlliw, 28cm x 42cm
PE 4897

Pont fydenwog Pontypridd, a gwblhawyd yn 1755, oedd trydedd ymgais William Edwards i gyflawni'r project hwn. Dinistriwyd ei bont gyntaf gan lifogydd a dymchwelodd yr ail pan gafodd ei chorun ysgafn ei ysigo gan bwysau'r cynaliadau. Y drydedd bont, sy'n sefyll o hyd, â'i bwa cylchrannol, ei chord o 140 o droedfeddi ac uchder o 35 o droedfeddi, oedd y bont garreg un bwa fwyaf yn y byd am flynyddoedd lawer. Yr hyn na welir yn nyluniad Anthony Devis yw'r twnneli crwn, tri trwy'r ddau gynhaliad, a fwriadwyd i atal pwysau gormodol ar y corun.

Fe gofir am Anthony Devis, peintiwr tirluniau o Preston, oherwydd ei ddarluniau dyfrlliw topograffig. Teithiodd yn helaeth trwy Brydain, gan lunio llawer o weithiau yn yr Alban, Ardal y Llynnoedd, Swydd Efrog a Morgannwg.

A REMARKABLE BRIDGE AT PENTYTYPRIDD IN GLAMORGANSHIRE (UCHAF)

A REMARKABLE BRIDGE AT PENTYTYPRIDD IN GLAMORGANSHIRE
Arlunydd/ysgythrwr anhysbys [ca. 1760]
Print, 11cm x 20cm
PZ 3412

NEW BRIDGE, OR PONT-Y-PRYDD, GLAMORGANSHIRE (BOTTOM)

Ysgythriad gan Woolnorth o ddyluniad gan J.P. Neale
John Harris (cyhoeddwr), 1813
Print, 11cm x 16cm
P 562

Y mae'r twnneli crwn trwy'r cynaliadau, a fwriadwyd i atal pwysau gormodol ar gorun pont Pontypridd, i'w gweld yn y gweddlun hwn sydd hefyd yn cynnwys ystadegau pwysig.

Ceir llawer o ddyluniadau a phrintiau mewn persbectif o bont Pontypridd fel yr un uchod a gyhoeddwyd gan John Harris yn 1813 ar gyfer The Beauties of England and Wales. Fe all golygfeydd topograffig o'r fath fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn astudiaethau pensaernïol ond dylid cofio nad yw pob un mor gywir â'i gilydd.

CYNLLUN AR GYFER PONT AC ARGLAWDD AR DRAWS YR AFON YNG NGHONWY...

Charles a Richard Shone, 1808
Inc a dyfrlliw, 32cm x 154cm
PB 7434

Project nas cyflawnwyd i bontio Afon Conwy ger yr aber. Tirfesurwyr oedd y ddau Shone ond ymddengys fod gan Richard rywfaint o brofiad fel saer maen.

Y bont gyntaf yn y fan hon oedd pont grog Thomas Telford a godwyd yn 1828. 'Roedd yn rhan o welliannau Telford i ffordd y goets fawr o Lundain i Ddulyn a oedd yn cynnwys uwchraddio ac adeiladu arwynebau newydd a phontydd ar hyd ffordd dyrpeg Caergybi, rhwng 1815-29. Y mae ei bont grog yng Nghonwy â'i thyrau crenelog yn efelychu penaernïaeth Castell Conwy gerllaw, ac 'roedd ei bont odidocaf, a godwyd dros Afon Menai rhwng 1819 a 1826, yn cysylltu Môn a'r tir mawr am y tro cyntaf. Hon oedd y gyntaf o bontydd crog haearn mawr y byd.

PORTHDY GÂT RHEILFFORDD

PORTHDY GÂT RHEILFFORDD
Pensaer anhysbys, ca. 1857
Inc a dyfrlliw, 30cm x 45cm
Casgliad Craidd y Cynlluniau Gwasanaethau Cyhoeddus (PFCD 70)

Y mae'r porthdy hwn yn fach, yn gryno ac yn gwbl ymarferol, ac yn dangos fod pensaernïaeth rheilffyrdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfyngedig iawn yn ariannol ar y cyfan. Yr oedd rheolwyr a chyfranddalwyr y cwmnïau rheilffyrdd yn amharod i wario ar bensaernïaeth ddiangen ac 'roedd y cynlluniau wedi eu cyfyngu gan gyllidebau caeth. Wrth gwrs, yr oedd costau trymion diarhebol y diwydiant yn drymach byth oherwydd topograffi llawer rhan o Gymru gan fod angen adeiladu a chynnal pontydd, twnneli, argloddiau a hafnau. Gwaetha'r modd, 'roedd y cyfyngiadau ariannol llym ar sawl rheilffordd yng Nghymru yn arwain yn aml at safonau cynnal a chadw gwael.

TOLLTY, LLANGOLLEN

TOLLTY, LLANGOLLEN
S. Pountney Smith, 1862
Inc a dyfrlliw, 48cm x 64cm
Casgliad Craidd y Cynlluniau Gwasanaethau Cyhoeddus (PFCD 66)

Cynlluniwyd y tollty castellog hwn yn fwriadol i gyd-fynd ag arddull canoloesol Pont Llangollen, ac mae ei ffenestri lansed a dolen saeth yn cyfleu mawredd sy'n anghydnaws â'i swyddogaeth.

PONT LLANGOLLEN

PONT LLANGOLLEN
Pensaer anhysbys, ca. 1862
Inc a dyfrlliw, 30cm x 84cm
Casgliad Craidd y Cynlluniau Gwasanaethau Cyhoeddus (PFCD 66)

Y mae Pont Llangollen yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Ceir cofnodion sy'n dangos fod pont yma yn 1284 ac i honno gael ei chodi ychydig ar ôl sefydlu Abaty Glyn y Groes. Gellir priodoli'r adeiladwaith presennol i John Trefor II (Esgob Llanelwy, 1395-1411). Cafodd ei lledu a'i gwella yn 1346, ac fe'i hystyrid yn un o 'Saith Ryfeddod Cymru'.

Pistyll Rhaeadr and Wrexham steeple, Snowdon's mountain without its people, Overton yew-trees, St Winefride's Wells, Llangollen Bridge and Gresford Bells.

Y mae'r bont yn croesi Afon Dyfrdwy ar bedwar bwa pigfain afreolaidd o gerrig voussoirs, a rhyngddynt, ar y ddwy ochr, fe geir torddyfroedd dwfn pigog. Yn 1863 gwnaed darpariaeth i adeiladu gorsaf reilffordd newydd i'r dref, ac 'roedd hyn yn golygu ymestyn y pen gogleddol gan roi agoriad rheilffordd pen sgwâr, codi lefel y ffordd ac ailadeiladu'r rhagfuriau. Ymgymerwyd â gwaith lledu yn 1873 ac yn 1968. Y mae Pont Llangollen bellach yn heneb restredig. Dymchwelwyd y tŵr castellog cyfagos yn 1940.


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.