
William Jernegan, 1794
Inc a dyfrlliw, 65cm x 97cm
PE 5213
Dangoswyd manteision economaidd eithriadol De Cymru at doddi mwynau o Gernyw yn 1727 gan Robert Morris. Yma 'roedd y maes glo agosaf i'r haenau o fwynau copor yng Nghernyw. Amcangyfrifodd Robert Morris y byddai'n llawer rhatach i doddi copor yn rhan isaf Cwm Tawe nag yng Nghernyw ac y byddai costau glo mewn mannau fel Sir y Fflint a Swydd Gaerhirfryn gymaint â theirgwaith uwch. Am fod modd hwylio i fyny afon Tawe rhoddwyd hwb i ddatblygu mwyndoddfeydd ar ei glannau yn yr Hafod a Glandŵr, yn debyg i'r un a ddarluniwyd gan Jernegan. Ar ôl mewnforio'r mwynau byddai'r llongau'n dychwelyd i Gernyw â glo i gartrefi ac i bympiau a pheiriannau'r cloddfeydd.
Jernegan oedd prif bensaer Abertawe am sawl blwyddyn. Hanai o Ynysoedd y Sianel ac 'roedd wedi ymgartrefu yn y dref yn ystod y 1780au. Bu'n gyfrifol am lawer o dai ac adeiladau crefyddol yn yr ardal. Ymhlith y rhain yr oedd fila octagon Marino a godwyd yn 1783. Fe'i prynwyd yn 1816 gan John Henry Vivian, a chafodd un rhan o'r eiddo, a oedd yn anarferol oherwydd ei ffurf wythonglog, ei gynnwys yn ddiweddarach fel rhan o adeilad chwiwgar Singleton House.
CYNLLUN I ADDASU'R HEN FRACTY YN STIWDIO YN LLWYNYBRAIN

Ernest V. Collier, 1911
Inc a dyfrlliw, 58cm x 78cm
Casgliad Llwynybrain (10)
Ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif gwelwyd dirywiad dramatig yn ffyniant llawer o'r ystadau mawrion. Gwerthwyd ffermydd tenantiaid a'u tiroedd i ateb yr angen mawr am gyfalaf. Rhwng 1918 a 1922 bu o leiaf chwarter o'r ffermydd tenantiaid yng Nghymru ar werth, a phrynwyd y rhan fwyaf ohonynt gan y rhai oedd yn eu dal. Parhawyd â'r arfer hwn drwy'r degawdau a ddilynodd. Nid oedd galw bellach am rai adeiladau a fu gynt yn rhan o ystadau mawr ac aethant yn segur neu'n adfeilion neu cawsant eu rhoi ar waith i ddiben arall, weithiau ar ôl gwaith addasu sylfaenol. Y mae addasu adeiladau yn arfer llawer mwy cyffredin heddiw: er enghraifft, mae llawer o gyn-gapeli bellach yn gartrefi neu'n adeiladau busnes.
Ni wyddys ddim am hanes yr adeilad hwn, ond fel bracty 'roedd wedi ei leoli'n briodol o fewn ychydig filltiroedd i Lanymddyfri, a oedd yn nodedig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd ei thafarnau a'i gwestyau lu. Byddai'r tai cwrw hyn, a sefydlwyd gan mwyaf ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn gwerthu'r cynnyrch lleol i'r porthmyn ar eu taith, cyn dyfodiad y rheilffordd yn 1870.
SWYDDFEYDD GLOFA WRECSAM

Stanhope Bull, 1914
Inc a dyfrlliw, 39cm x 54cm
PB 9867
Y mae'r haenau cyfoethog o lo, copor, haearn a phlwm yn ardal Wrecsam wedi eu gweithio ers canrifoedd. Cafwyd y datblygu cynharaf ar adnoddau glo i ddibenion domestig a mwyndoddi ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, a dechreuwyd eu gweithio ar raddfa fawr ar ganol y bedwaredd ar bymtheg pryd yr agorwyd sawl pwll. Bu effaith y diwydiant ar boblogaeth Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn sylweddol a chafwyd cynnydd o 10 y cant yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Prin yw'r dystiolaeth heddiw o'r diwydiant mwyngloddio a'i gymunedau. Mae adeiladau'r cloddfeydd a llawer o resi tai'r mwynwyr wedi eu dymchwel a thomennydd gwastraff wedi eu symud, eu tirlunio a'u hau â glaswellt.
MELIN BLWM GWAITH COCH

G.T. Bassett, 1918
Inc a dyfrlliw, 55cm x 105cm
Casgliad Crosswood/Lisburne (433)
Fframwaith pren y tŷ mathru ym melin blwm Gwaith Coch yng ngogledd Ceredigion a oedd, mae'n debyg, yn gomisiwn anarferol i'r pensaer hwn o Aberystwyth, yn enwedig yn y cyfnod hwn pryd 'roedd y diwydiant yn dirywio. G.T. Bassett oedd yn gyfrifol hefyd am dai Heol y Buarth a welir yn yr arddangosfa hon, ond fel llawer o benseiri lleol eraill fe welwn nad yw ei waith bob tro'n gyfyngedig i'r maes domestig.
Yn yr adeilad hwn byddai deunydd o'r wythïen blwm, a oedd eisoes wedi ei ddidoli yn ôl ansawdd, yn cael ei falu gan bâr o roleri haearn bwrw cadarn a gâi eu troi gan olwyn ddŷr. Byddai'r mwyn mân a ddeuai allan yn cael ei hidlo, ei olchi ymlaen gan ddr a'i ollwng mewn blwch oedd yn cynnwys rhan uchaf i'r gronynnau trymaf a rhan isaf i'r rhai ysgafnaf. 'Roedd hyn yn ddechrau ar gyfres o brosesau didoli er ceisio achub y swm mwyaf posibl o fwyn.
Un o nodweddion y cloddio am blwm yng Nghanolbarth Cymru, a ddechreuwyd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, yw lefelau gweithgarwch isel ynghyd â hyrddiadau achlysurol mewn cynhyrchu o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd y ddeunawfed. Yr oedd prisiau isel ar fwynau ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhwystro ehangu, ond dechreuodd yr adferiad gyda phrisiau uwch yn 1834 a chafwyd cyfnod o weithgarwch mawr yng nghloddfeydd Sir Aberteifi a Sir Drefaldwyn a barhaodd am ddeugain mlynedd. Pan gafwyd gostyngiad difrifol ym mhris plwm yn 1878, ynghyd â ffactorau eraill, bu dirywiad mor ddifrifol fel nad oedd hyd yn oed y prisiau uchel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddigon i adfywio'r diwydiant.
MILL LANE A'R HAYES, CAERDYDD
Falcon D. Hildred, ca. 1980
Dyfrlliw, 20cm x 73cm
PE 5458
Y mae canolfan adwerthu Caerdydd, fel y rhai mewn dinasoedd eraill ym Mhrydain, wedi profi newidiadau sylfaenol ers y 1970au, a'r amgylchedd siopa wedi ei wella trwy ddwy brif flaenoriaeth cynllunio, sef cyfyngu traffig a chreu mannau i gerddwyr yn unig. Y mae'r panorama hwn yn perthyn i'r cyfnod cyn yr ailddatblygu oedd yn golygu troi'r Hayes yn ardal i gerddwyr yn unig, ac adeiladu canolfannau siopa, gwesty a hamdden tua'r dwyrain a'r de. Gallwn ddiolch fod yr adeiladau hyn a'r arcêd ar yr ochr orllewinol, sydd mor nodweddiadol o Gaerdydd Oes Fictoria, yn sefyll o hyd. Mae capel y Tabernacl a'i ffasâd yn null y Rhaglywiaeth yn dyddio o 1865. Fe'i cynlluniwyd gan John Hartland, a chredir mai hwn yw'r harddaf a'r mwyaf gwreiddiol o'r nifer o gapeli dinesig a gynlluniodd.
GOLYGFA O'R GOGLEDD-ORLLEWIN O GASTELL CAERDYDD, YN SIR FORGANNWG

Samuel a Nathaniel Buck, 1741
Print, 15cm x 36cm
P 710
Y mae gweithiau topograffig, yn enwedig printiau, yn cynnwys tai, cestyll, adeiladau crefyddol a threfi ac maent yn ffynhonnell o bwys wrth geisio gwybodaeth bensaernïol. Mewn llawer achos ni fyddwn yn gwybod pam yn union y lluniwyd gwaith topograffig a gallai ei werth i astudiaethau pensaernïol fod yn ddamweiniol llwyr.
Gwersyll Rhufeinig yn y ganrif gyntaf oedd man cychwyn y defnydd parhaol o'r safle hwn. Y Normaniaid a wnaeth y gorthwr, y domen a'r ffos, a chodwyd tŵr wythonglog y castell presennol ar ganol y bymthegfed ganrif, cyn ychwanegu tr pigfain tua 1875. Ar ôl cwblhau'r tŵr y codwyd y rhannau cyfagos ac adeiladwyd yr adain ogleddol tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn ystod rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gweddnewidiwyd y castell drwy ailadeiladu rhan ohono a'i adfer mewn dull ecsotig gan y pensaer William Burges ar y cyd â'i noddwr cefnog, Ardalydd Bute.
Y mae'r brodyr Buck yn enwog am eu hysgythriadau o hynafiaethau Prydeinig a cheir dros bum cant o blatiau o'u heiddo.
CASTELL CAERDYDD

?Dixon, 1797
Dyfrlliw, 19cm x 27cm
PE 4890
Y mae'r olygfa sydd gan Dixon o Heol y Bont-faen yn y gorllewin yn dangos un cyfnod yn natblygiad pensaernïaeth Castell Caerdydd, ynghyd â'r tai yn West Street. Cymharer hyn, er enghraifft, â golygfa Samuel a Nathaniel Buck o'r gogledd-orllewin yn eu hysgythriad manwl o 1741.
TEML LYNGESOL, KYMINHILL

Amryw o benseiri, 1798
Inc a dyfrlliw, 36cm x 25cm, 36cm x 24cm, 16cm x 20cm, 17cm x 27cm
PA 9318/3-4, PA 9318/6-7
Y mae'r cynigion ar gyfer teml lyngesol yn Kymin Hill, Trefynwy i goffáu buddugoliaeth Nelson ym Mrwydr Afon Nîl, 1 Awst 1798 yn ffurfio set unigryw o dri ar ddeg o ddyluniadau. Maent yn dangos adeiladau bychain â phorticos gyda meinciau carreg a thyrau wythonglog a chrwn â ffenestri mewn sawl arddull syml ac addurnedig. Pafiliwn crwn a ddewiswyd yn y diwedd, ac fe'i codwyd yn 1800 a'i gyflwyno i Dduges Beaufort, merch y Llyngesydd Boscawen. Croesawyd yr Arglwydd Nelson, yng nghwmni Syr William Hamilton, i frecwast ar y safle gan Faer a Chorfforaeth Trefynwy yn Awst 1802. Adferwyd y pafiliwn yn 1882. Y mae Kymin Hill, bryn pigfain uchel sy'n edrych dros Ddyffryn Gwy a'i gyffiniau yn eiddo bellach i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
YR HEN FARICS, ABERYSTWYTH
Christopher Hall, 1979
Paent acrylig, 34cm x 49cm
PB 9831
Yr oedd yr Hen Farics, Ffordd Penglais, a welir yma pan oedd ar fin cael ei ddymchwel, yn adeilad garsiwn i Filisia Sir Aberteifi yn wreiddiol. Yr oedd gwr y milisia, a gâi eu recriwtio drwy'r deyrnas ers yr Oesoedd Canol, i fod yn barod gyda'u harfau ar adegau o derfysg neu ryfel. Mae'n sicr fod dynion wedi eu listio yn Sir Aberteifi ers teyrnasiad Harri VIII. Codwyd y Barics yn 1867 yng nghyfnod terfysgoedd y Ffeniaid i gynnwys staff parhaol gan ddilyn cynllun gan y peirianegydd rheilffyrdd J.W. Szlumper. 'Roedd yn bencadlys wedyn i'r Milisia lleol nes i hwnnw gael ei ddiddymu yn 1909. Prynwyd yr adeilad gan y cyngor tref, trwy gael benthyciad o'r Llywodraeth, a'i droi'n dai annedd mawr eu hangen erbyn 1912. Ar ôl cael ei farnu'n anaddas fel man preswyl fe'i dymchwelwyd yn 1980 yn wyneb llawer o wrthwynebiad gan gadwraethwyr.
Y mae peintiadau'r arlunydd proffesiynol Christopher Hall o Berkshire sy'n dangos pensaernïaeth yr adeiladau domestig a diwydiannol, a gysylltir fel arfer â De Cymru, sydd bellach wedi dadfeilio ac mewn llawer achos wedi diflannu. Ers ugain mlynedd a mwy mae wedi peintio'n rheolaidd ym mhob rhan o Gymru, ac mae'r amrediad eang o bynciau sydd ganddo hefyd yn cynnwys golygfeydd gwledig ac amaethyddol.