PENSAERNÏAETH GREFYDDOL

CAPEL LIBANUS [Y TABERNACL], TREFORYS

CAPEL LIBANUS [Y TABERNACL], TREFORYS
LIBANUS [TABERNACLE] CHAPEL, MORRISTON
John Humphreys, 1870
Inc a dyfrlliw, 64cm x 82cm, 64cm x 82cm
PZ 3036, PZ 3038

Y mae'r casgliad bychan sydd gennym o ddyluniadau o gapeli yn adlewyrchu'r ffaith fod gweithiau o'r fath yn brin at ei gilydd. Y mae'r dyluniadau i Libanus yn perthyn i gyfnod pryd yr oedd capeli'n cael eu codi ar raddfa eang iawn a phryd yr oedd Treforys ar gynnydd fel canolfan ddiwydiannol a threfol. Gwelir prif arddull capelyddol y cyfnod yn yr adeilad hwn, sef ffenestri tal â phennau crynion. Ymwelodd y pensaer a'r gweinidog â llawer o gapeli ac eglwysi o gwmpas y wlad er mwyn chwilio am syniadau, ac ymgorfforwyd llawer o'r rhain yn adeilad Libanus. 'Roedd cost adeiladu'r capel hwn, sydd yn enwog bellach fel y Tabernacl, yn fwy na £15,000, ac 'roedd ynddo dair mil o seddau. Fe'i galwyd yn 'Eglwys Gadeiriol Anghydffurfiol Cymru'. Mae wedi ei restru'n adeilad Gradd 1, fel y capel mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru o bosibl, ac mae'r tu mewn a'r gosodiadau wedi aros bron yn ddigyfnewid.

O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd mwy a mwy o gapeli'n cael eu cynllunio gan benseiri proffesiynol. O blith y rhain, John Humphreys o Abertawe oedd un o'r mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Un nodwedd unigryw ar ei waith oedd y defnydd ar fwâu hanner-cylch, yn lle pendrawst llorweddol, i uno'r colofnau dros bortico'r fynedfa. Gwelir y nodwedd hon yn y bwâu sy'n pontio'r pâr o ffenestri uchaf yn Libanus.

CAPEL RHOSESMOR

CAPEL RHOSESMOR
Richard Wynn Owens, 1908
Inc a dyfrlliw, 41cm x 70cm
PE 4484

Un o gyfres o gynlluniau tebyg ar gyfer capel bychan yn Rhosesmor ger yr Wyddgrug gan Owens o Lerpwl a luniwyd ar ddiwedd y cyfnod mwyaf prysur o adeiladu capeli ac ar adeg pryd yr oedd yn arferol i ymddiried comisiynau am gapeli i benseiri proffesiynol.

CAPEL CUTIAU

CAPEL CUTIAU
A.F. Mortimer, ca. 1980au
Inc a dyfrlliw, 22cm x 30cm
PG 3927

Y mae'r capel hwn yng Nglan Mawddach, Abermaw ym Meirionnydd yn dyddio o 1806 ac mae'r dyluniad yn rhan o gasgliad mawr o ddyluniadau inc a dyfrlliw sy'n dangos capeli Cymreig o sawl enwad, 1717-1928. Y mae'r cwbl ohonynt yn waith y Commander A.F. Mortimer a'u cyflwynodd i'r Llyfrgell. Lluniau o gapeli Meirionnydd yw'r grŵp mwyaf ac maent yn ganlyniad i astudiaeth beilot gan CAPEL, Cymdeithas Treftadaeth y Capeli. Y mae dyluniadau cynharach y Commander Mortimer yn ymdrin yn bennaf â chapeli gogledd Sir Drefaldwyn, yng nghyffiniau ei gartref yn Llanfyllin. Dangosir blaenluniau ac ystlysluniau, ac/neu gynlluniau llawr gwaelod ar sail arolygon manwl a nifer o ffotograffau.

CAPEL LLANFAIR

C.L. Traherne, 1836-56
Inc, golchliw a dyfrlliw, 33cm x 23cm
PZ 293

Cofnod o Gapel Llanfair, Llan-fair, Morgannwg, 1837, gyda'r geiriau 'now pulled down'.

Y mae'r gyfrol ddyluniadau hon o'r enw "Architectural and antiquarian scraps" yn cynnwys cyfoeth o ddyluniadau golchliw a dyfrlliw o hynafiaethau, ac eglwysi yn Ne Cymru, Lloegr a'r Eidal. Mae'n bosibl mai S.M. Traherne a wnaeth rai ohonynt. Charlotte Louisa Traherne, arlunydd amatur, oedd hefyd yn gyfrifol am bortread gwych Iolo Morgannwg a gedwir yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

EGLWYS LLAMYREWIG

EGLWYS LLAMYREWIG
Y Parchedig John Parker, 1838
Inc a dyfrlliw, 48cm x 35cm
44Va, 44Vb

Pensaerniaeth grefyddol a geir yn bennaf yng ngweithiau'r Parchedig John Parker, pensaer ac alunydd amatur a fu'n rheithor yn Llamyrewig, Sir Drefaldwyn ac yn ficer yn Llanymlodwel, Sir Amwythig. Estynnodd yr eglwysi hyn a'u hailadeiladu a chynlluniodd lawer o adeiladau eraill. Mae ei gyfrolau'n cynnwys dyluniau persbectif a phensaerniol a nodiadau'n ymwneud â lleodd ac adeiladau yr ymwelodd â hwy yng Nghymru, Prydain ac Ewrop, o'r cyfnod 1820au - 60au. Mae'r rhain yn cynnwys manylion, addurniadau a'r tu mewn i eglwysi ac abatai yng Nghymru a'r gororau ynghyd â golygfeydd o rai o'r tai mwyaf yn y Canolbarth a Gogledd Cymru.

ABATY GLYN-Y-GROES

ABATY GLYN-Y-GROES
ABATY GLYN-Y-GROES
ABATY GLYN-Y-GROES
Y Parchedig John Parker, ca. 1840
Inc a dyfrlliw, 9cm x 11cm, 11cm x 9cm
PZ 7548/a, PZ 7544, PZ 7545

Sefydlwyd Abaty Glyn-y-Groes ym 1200 gan y Sistersiaid a dioddefodd fel nifer o abatai'r cyfnod yn ystod teyrnasiad Harri yr Wythfed. Yr oedd ymlhith y cynharaf o'r abatai i'w diddymu yn y flwyddyn 1536. Y mae'r olion mawreddog o Eglwys yr Abaty hon ar gyrion Llangollen yn cynnwys corff eglwys gydag ystlysau, cor a dau groes eglwys, bob un gyda'i ystlys a chapeli yn ogystal â phresbyteri byr. Cafodd y rhan fwyaf o'r Eglwys ei hadeiladu yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, er fod modd gweld nifer o gamau yn hanes adeiladwaith y cyfnod yn yr adeilad. Y mae ochr Orllewinol yr Eglwys a ddangoswyd yn y lluniau isod yn Null Cynnar Seisnig a ddatblygwyd yn ystod saethdeg mlynedd cyntaf adeiladu'r Abaty. Dangosir oed a dull pensaerniol yr Abaty yng nghynllun llawr Roland Paul, 1899 [LLGC, PB 5829], darlun nad yw'n rhan o'r arddangosfa.

EGLWYS ABERERCH

EGLWYS ABERERCH
Henry Kennedy, 1877
Inc a dyfrlliw, 35cm x 52cm
PD 9709

Dyluniad a wnaed er mwyn cynorthwyo seiri maen oedd yn gysylltiedig ag adfer yr eglwys hon yn Sir Gaernarfon sydd yn nodi'n union pa rai yw'r hen gerrig a'r rhai newydd. Daw'r enghraifft hon o gasgliad cynhwysfawr sy'n ymwneud ag eglwys Abererch o bractis adnabyddus ym Mangor. Codwyd eglwys newydd Sant Pedr yn y 1830au.

Ychydig iawn o waith adeiladu a wnaed ar eglwysi yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed yng Nghymru ac aeth llawer o eglwysi yn adfeilion. Dechreuodd y gwaith mwyaf o adeiladu ac adfer eglwysi ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pryd y gwelwyd adfer arddulliau'r Oesoedd Canol. Cymaint oedd y brwdfrydedd dros ailadeiladu eglwysi fel mai prin yw'r eglwysi hynny mewn rhai ardaloedd sydd â nodweddion hŷn na'r 1850au.

ADFER EGLWYS PERTRISW

ADFER EGLWYS PERTRISW
Nicholson a'i Fab, 1891-1892
Inc a dyfrlliw, 46cm x 59cm
PG 4205

Er eu bod yn llai manwl a phenodol na'r dyluniadau ar gyfer adfer eglwys Abererch, y mae'n amlwg o'r uwcholygon hyn fod angen rhoi cryn sylw ar y pryd i rannau mwyaf agored a gorllewinol eglwys Pertrisw ger y Fenni. Nodir yr elfennau o draul mewn coch, a thraen agored eithaf mawr. Yn yr eglwys hon y ceir un o sgriniau harddaf Cymru.

EGLWYS LLANEUDDOGWY

EGLWYS LLANEUDDOGWY
J. Coates Carter a John P. Seddon, ca. 1890
Inc a golchliw, 34cm x 47cm, 35cm x 48cm
PG 2426/1a-b

Codwyd eglwys Euddogwy (Dochau), Llaneuddogwy, rhwng Cas-gwent a Threfynwy ar safle adeilad hŷn. Arddull Gothig sydd iddi ac y mae'n nodweddiadol iawn o'i chyfnod, gyda changell sydd wedi ei haddurno'n helaeth â marmor ac alabastr.

Cysylltir y pensaer John Pollard Seddon yn bennaf â Choleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, 1864. Ond 'roedd llawer o'i waith yn gysylltiedig ag eglwysi, rheithordai ac ysgolion yr adfywiad gothig yn Ne Cymru rhwng 1852 a 1903. Mewn partneriaeth â John Prichard o 1852 i 1863 fe arbenigodd Seddon mewn adfer eglwysi yn Sir Fynwy. Enillodd enw iddo'i hun am ei waith adfer gofalus ac am ddatrys problemau adeileddol cymhleth fel sefydlogi tyrau eglwysi. Ar ôl gadael Prichard fe ganolbwyntiodd fwyfwy ar adfer a chynllunio dodrefn, gwaith metel, gwydr lliw a theils gan adael llawer o'r gwaith pensaernïol i ddilyniant o bartneriaid a chyd-weithwyr.

Cymerodd John Coates Carter yn bartner iddo rhwng 1884 a 1904. Fe ddisgrifiwyd Seddon gan Carter fel 'y mwyaf gwreiddiol o wr yr adfywiad Gothig', oherwydd yn ei gynlluniau 'nid oedd modd olrhain tarddiad y manylion i unrhyw arddull neu adeilad canoloesol penodol'. Prif gynnwys ein casgliad 'Carter a Seddon' yw dyluniadau a brasluniau ar gyfer eglwysi arfaethedig yn Ne Cymru a'r cyffiniau, ynghyd â thai, dodrefn, gosodiadau mewnol ac addurniadau, ca. 1865-1906.

EGLWYS Y FRIOG

EGLWYS Y FRIOG
John B. Mendham, 1926
Inc a dyfrlliw, 70cm x 105cm
PE 5132/17

Dylanwadau Gothig yw'r rhai cryfaf yn y cynlluniau hyn o 1926 ar gyfer eglwys Cynon, y Friog ger Abermaw. Mae'r dylanwadau tra thraddodiadol hyn yn arbennig o amlwg yn rhwyllwaith y ffenestri, a ddangosir ar chwarter eu maint. Gweler hefyd y ffotograff cerdyn post. Codwyd yr eglwys hon mewn cyfnod anarferol a hynny o bosibl oherwydd y cynnydd ym maint y boblogaeth yn sgîl ymddeol a thwristiaeth yn yr ardal brydferth hon. 'Roedd sefydlu Rheilffordd Fach y Friog yn 1916 ar wely Tramffordd y Friog hefyd yn fodd i hybu poblogrwydd yr ardal.

Y mae dyluniadau a ffotograffau a gedwir yn y Llyfrgell sy'n gysylltiedig â Mendham y pensaer eglwysig yn cynnwys eglwysi yn Surrey a Sussex.

CIST WYNT I ORGAN ATSAIN YN EGLWYS GADEIRIOL LLANDAF

CIST WYNT I ORGAN ATSAIN
George G. Pace, 1956
Inc ar bapur dargopïo, 72cm x 99cm
Casgliad George C. Pace (1/62)

Y mae'r gweithiau gan Pace, y pensaer eglwysig o Gaerefrog, yn ymwneud yn gyfan gwbl ag adfer ac ailadeiladu Eglwys Gadeiriol Llandaf, 1949-75, yn sgîl y bomio gan y gelyn yn yr Ail Ryfel Byd. 'Roedd y project anodd hwn yn golygu creu eglwys gadeiriol newydd o weddillion yr hyn a fu i bob diben yn eglwys blwyf.

Y mae'r dyluniadau'n cynnwys cynlluniau ar raddfa fechan a graddfa fawr, gan gwmpasu cynlluniau cyffredinol yn ogystal â manylion y gosodiadau yn yr Eglwys Gadeiriol a'i hadeiladau. Mae'r rhan fwyaf yn perthyn i'r cyfnod 1955-69. Y gwaith pwysicaf a mwyaf adnabyddus yn yr Eglwys Gadeiriol yw'r pulpitum, sydd yn draddodiadol yn sgrîn garreg yn gwahanu'r gangell a chorff yr eglwys. Mae'r adeiladwaith cyfoes hwn yn fynegiant o farn George G. Pace y dylai 'pob oes weithio yn ôl ei chwaeth ei hun'. Mae'r pulpitum yn cynnwys yr organ atsain ac o'i flaen y mae Majestas Syr Jacob Epstein mewn alwminiwm anllathredig.

Cafodd George C. Pace lu o gomisiynau o Gymru wrth i'r sôn am ei waith fynd ar led. Magodd lawer o gariad at eglwysi brodorol y wlad a hybodd y gwaith o'u gwerthfawrogi, eu hastudio a'u cadw.


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.