TAI COLL

DYLUNIAD O LE TÂN YN DOWNING [HALL] HOUSE

DYLUNIAD O LE TÂN YN DOWNING [HALL] HOUSE
William Westmacott, ca. 1800
Inc a dyfrlliw, 24cm x 35cm
PD 8959

Y mae'n bosibl mai Westmacott a gynlluniodd y lle tân hwn yn Downing Hall, Chwitffordd, ger Treffynnon, a oedd yn gartref ar un adeg i'r hynafiaethydd Thomas Pennant. Westmacott fu'n gyfrifol am gofeb Pennant a bwriad nas gwireddwyd i adnewyddu'r adain wasanaeth tua 1830. Cafodd y tŷ ei wella gan Pennant, ei fab David ac eraill.Fe'i prynwyd yn 1920 am ei dir gan Darwen and Mostyn Iron Co. Aeth ar dân ddwy flynedd yn ddiweddarach a'r diwedd trist fu iddo gael ei ddymchwel yn ystod y 1950au.

PARLWR EMRAL

Hannah Linwood, 1820
Inc, golchliw a dyfrlliw, 33cm x 42cm
PA 2755

Yr oedd Emral Hall, Wrddymbre, ger Wrecsam yn dŷ anferth tair-ochrog gyda chwrt agored tua'r de-ddwyrain a ffos o'i gwmpas. Y mae'r rhan ganolog, a'r hynaf, yn perthyn i ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, ac ychwanegwyd yr adeiniau tua 1725. Oherwydd y costau cynyddol o'i gynnal a'r dirywiad graddol fu arno yn ystod yr ugeinfed ganrif fe'i dymchwelwyd yn 1936.

Yr oedd llawer o'i fri yn deillio o harddwch y tu mewn oedd yn perthyn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Achubwyd y nenfwd plastr cromennog, â'i gerfluniau cain yn darlunio bywyd Ercwlff, a phaneli'r neuadd gan Syr Clough Williams-Ellis yn y 1930au a'u cynnwys yn neuadd tref pentref gwyliau Eidalaidd Portmeirion.

Mae'r gyfrol hon o ddyluniadau golchliw a dyfrlliw dymunol a diddorol, ond elfennol braidd, yn cynnwys golygfeydd topograffig o ffasadau Emral, ei adeiladau ystâd a'i ystafelloedd. Y mae rhagarweiniad mewn llawysgrif yn rhoi amlinelliad o hanes teulu Puleston a ymgartrefodd yma yn ystod teyrnasiad Edward I. Ychydig a wyddys am Hannah Linwood. Ymddengys fod ganddi law at lunio gwniadwaith oherwydd yn 1766 rhoddodd arddangosfa o'i chynlluniau yn The Society of Artists.

MIDDLETON HALL

J. Brettell (Lithograffydd), 1824
Catalog gwerthiant argraffedig, 39cm x 25cm
Carmarthenshire Sales Catalogue 518

Adeiladwyd Middleton Hall, Llanarthne, i'r dwyrain o Gaerfyrddin, yn y blynyddoedd 1793-95 gan S P Cockerell uwchlaw cyn-gartref teulu Middleton. 'Roedd ei gynllun neo-glasurol, ei du mewn moethus a'r amgylchoedd tirluniedig yn ei roi ymhlith y mwyaf hardd o'r plastai modern. Fe'i dinistriwyd gan dân yn 1931.

Y mae rhai o nodweddion yr ardd, a fu gynt yn un fawreddog gyda llynnoedd a rhaeadrau, wedi eu hadfer yn ddiweddar gan Gyngor Sir Dyfed a bydd y parc gyda hyn yn Ardd Fotanegol Genedlaethol Cymru, sef y project Mileniwm mwyaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd. Bydd y project £40 miliwn sydd i'w gwblhau ym Mai 2000 yn rhoi sefydliad cenedlaethol newydd i Gymru ac yn ogystal â denu ymwelwyr - o Fai 1998 - bydd hefyd yn ganolfan ymchwil gwyddonol. Ailsefydlir y parcdir ar y rhan fwyaf o'r 568 o erwau a bydd gardd fotanegol yn llenwi 162 o erwau ohono.

Mae gennym bedair mil o gatalogau gwerthiant. Fe'u cyhoeddwyd er mwyn hybu gwerthiannau o gynnwys tai a thiroedd, ymysg pethau eraill, a'r rhan fwyaf o'r hyn a geir ynddynt yw tai a ffermydd rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed. Ceir mapiau mewn llawer ohonynt a dyluniadau mewn rhai, fel arfer yn gynlluniau o'r tai mwyaf gwerthfawr. Y mae printiau topograffig a ffotograffau i'w cael hefyd mewn rhai catalogau.

HARPTON COURT

HARPTON COURT
Pensaer anhysbys, ca. 1840
Inc a dyfrlliw, 43cm x 70cm
Casgliad Harpton Court (14c)

'Roedd y tŷ hardd eithriadol hwn â'i wyneb o gerrig nadd, a safai mewn tir agored rhwng Maesyfed a Waltwn, yn cael ei gyfrif fel y gorau o dai neo-glasurol Sir Faesyfed. Mae'r gweddlun gogleddol yn dyddio o 1750 ac mae'n bosibl mai gwaith John Nash yw'r gweddlun deheuol, ca. 1805-12: ef a ailgynlluniodd y tu mewn i deulu'r Lewisiaid, un o deuluoedd hynaf y sir a fu'n byw yno ers amser maith. Gwerthwyd y tŷ yn 1953 a'i ddymchwel yn rhannol yn 1956. Mae'r adain ogledd-orllewinol a iard y stablau i'w gweld o hyd, ynghyd â phorthdy clasurol, pileri'r gât, y waliau a'r rheiliau wrth yr hen dramwyfa ogleddol.

THE HAM

THE HAM
THE HAM
Syr Matthew Digby Wyatt, 1869
Inc a dyfrlliw, 17cm x 24cm, 18cm x 23cm
PA 5843, PA 5848

Dau ddyluniad o set o naw sy'n dangos y plasty hwn a gynlluniwyd mewn arddull Gothig gan Wyatt i'w frawd yng nghyfraith Illtyd Nicholl. Fe'i codwyd ger Llanilltud Fawr o gwmpas olion y tŷ gwreiddiol a'i nodwedd fwyaf arbennig yw'r neuadd wledda o oes Elisabeth sy'n dri llawr o uchder gyda tho agored, ffenestr fae fawr, grisiau, coridor croes â sgrîn ac oriel gerddorion. Ymysg cynnwys y tŷ yr oedd gweithiau celf a dodrefn o Ewrop a'r Dwyrain, portreadau teuluol a llyfrgell werthfawr. Llosgwyd The Ham pan oedd yn wag yn 1947. Arddangoswyd y dyluniadau hyn yn Arddangosfa'r Academi Frenhinol yn 1865.

CYNLLUN LLAWR HAFOD UCHTRYD

HAFOD GROUND PLAN
Day a'i Feibion (Lithograffwyr) [ca. 1860]
Argraffedig, 26cm x 39cm
PZ4436

Hafod Uchtryd oedd un o'r tai enwocaf yng Nghanolbarth Cymru. Yn 1783, ac yntau newydd etifeddu eiddo ei dad, fe ddechreuodd Thomas Johnes ar y gwaith nodedig o droi'r tŷ a'i amgylchoedd yn 'Elysium' dan ddylanwad y mudiad Pictiwrésg. Tirluniwyd y tiroedd, plannwyd coed ac yn 1786 dechreuwyd y gwaith ar blasty gothig mawr, chwiwgar ei natur, yn ôl cynllun Thomas Baldwin, Yn 1793, cynlluniwyd y llyfrgell wythonglog, yr ystafell wydr hir a'r swyddfeydd cysylltiedig gan John Nash, a oedd yn gymharol anadnabyddus ar y pryd. Ymddengys ei fod yn gysylltiedig hefyd â chynllun yr ardd.

HAFOD HOUSE

HAFOD HOUSE
Northern London Polytechnic, 1955
Llungopi, 57cm x 43cm
PZ 4432

Un o gyfres o ddyluniadau mesuredig a wnaed yn 1954, ychydig cyn dymchwel y tŷ, sy'n ei ddangos fel yr oedd ar ôl ei ailadeiladu gan Baldwin wedi'r tân yn 1807. 'Roedd y cynllun hwn yn llai ecsotig na'r un a wnaed gan Baldwin i'r tŷ gwreiddiol.

Sefydlwyd cymdeithas 'Friends of Hafod' er mwyn diogelu a chadw, ac adfer lle y bo modd, weddillion yr ystâd dra arbennig hon, i hybu diddordeb yn ei hanes, ac i gasglu arteffactau cysylltiedig a chyhoeddi eu gwaith ymchwil. Y mae Ymddiredolaeth yr Hafod yn meddu ar gynllun adfer rhodfeydd gerddi mewn cydweithrediad â chynllun Menter Fforestydd.

HAFOD (CEREDIGION)

HAFOD (CEREDIGION)
Kenneth Rowntree, 1948
Watercolour, 15 x 26 cm
PB 8510

Peintiwyd y darlun hwn ychydig o flynyddoedd cyn dymchwel Hafod a daw o gasgliad Rowntree sy'n darlunio tai, capeli a threfluniau a atgynhyrchwyd yn y llyfr King Penguin A prospect of Wales - a series of water-colours by Kenneth Rowntree and an essay by Gwyn Jones, 1948. Y mae'r arlunydd hwn, a aned yn Swydd Efrog ac a fu'n Athro Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne, wedi ymweld â Chymru a gweithio yma ar sawl achlysur ers y 1930au ac y mae ei ddarluniau'n cyfleu ei gariad at dir Cymru, ei phobl a'i hiaith.


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.