SYNIADAU NA WIREDDWYD

(CYNLLUNIAU NA DDAETH I FOD)

WYNNSTAY, TRYCHLUN O BEN DWYREINIOL Y CAPEL YNGHYD Â RHAN O'R LLYFRGELL

WYNNSTAY, TRYCHLUN O BEN DWYREINIOL Y CAPEL
James Byres, 1770
Inc a dyfrlliw, 63cm x 97cm
Casgliad Adneuol Williams Wynn
PY 1698

Wynnstay, uwchlaw afon Dyfrdwy ger Rhiwabon, oedd cartref teulu Williams-Wynn, y mwyaf a'r cyfoethocaf o berchnogion tir Cymru. Cysylltir y penseiri Brown, Cockerell, Gandon, Gummow, Pritchard, Francis a William Smith a James Wyatt â Wynnstay ac y mae cynigion gan amryw o rai eraill, gan gynnwys Byres, heb eu cyflawni. Er hynny, cynlluniau Byres yw'r rhai mwyaf uchelgeisiol a chywrain a gynigiwyd erioed ar gyfer plasty Cymreig yn ystod y ddeunawfed ganrif. Catholig oedd Byres, a'i gartref yn Rhufain, a darluniodd ben dwyreiniol y capel mawreddog ag addurniadau coeth yn yr arddull Dorig Rhufeinig. Gwelir Cyfiawnder a Digonedd uwchlaw'r allor a'r apostolion Pedr a Paul wrth ochr darluniad o'r Ysbryd Glân.

Mae dyluniadau Byres ar gyfer Wynnstay, cyfanswm o hanner cant ac wyth yn wreiddiol, yn adlewyrchu pensaernïaeth gyfoes Rhufain. Cymerwyd dros flwyddyn a hanner i'w gwneud a rhaid bod o leiaf dri arlunydd-ddrafftsmon wedi gweithio arnynt. Fodd bynnag, am amryw o resymau, rhoddwyd y gorau'n llwyr i'r project hwn ynghyd ag un arall a roddwyd i Robert Adam.

WYNNSTAY, TRYCHLUN O'R LLYFRGELL A'R YSTAFELLOEDD GWELY UWCHBEN

WYNNSTAY, TRYCHLUN O'R LLYFRGELL
James Byres, 1770
Inc a dyfrlliw, 62cm x 97cm
Casgliad Adneuol Williams Wynn
PY 1705

Llyfrgell ac iddi gymeriad Paladaidd, a'r ffenestri yn y wal ddwyreiniol yn cyfyngu ar y gofod oedd ar gael i silffoedd llyfrau. Gwelir yr ystafelloedd gwely a'r closedau uwchben.

REDOUBT, ABERDAUGLEDDAU

REDOUBT, ABERDAUGLEDDAU
Pensaer anhysbys, ca. 1800
Inc a dyfrlliw, 31cm x 40cm, 18cm x 60cm, 21cm x 41cm, 42cm x 38cm
PG 993-4, PG 996, PG 998

Y mae'r dyluniadau arbennig hyn yn dangos bastiwn polygonol bwriedig gan bensaer milwrol i amddiffyn y dociau llyngesol arfaethedig yn Aberdaugleddau, cynllun a ddiddymwyd am i'r cyfleusterau gael eu trosglwyddo i Ddoc Penfro, y dref gynlluniedig fwyaf yng Nghymru rhwng 1780 a 1850. Codwyd barics amddiffynadwy tebyg yn y fan honno yn y blynyddoedd 1844-45 i warchod y dref a'r dociau.

Mae rhai o'r dyluniadau, fel yr 'Elevation and section of the Lodgement' a ddangosir yma, ar ddalennau cypledig. Gellir troi'r ddalen uchaf a lleiaf, sy'n dangos y tu allan, fel tudalen, gan ddatgelu cynllun neu drychlun o'r adeilad ar y ddalen waelod. Y mae'r dyluniadau o'r ffwrnais pelenni adlewyrchol yn wirioneddol unigryw.

EGLWYS BLWYF, BANGOR

PARISH CHURCH, BANGOR
Lewis William Wyatt, 1812
Inc a dyfrlliw, 42cm x 28cm
PZ 4411/1

Ni chodwyd yr eglwys fechan, syml hon o waith Lewis Wyatt, hyd y gwyddys. Astudiodd Wyatt (ca. 1778-1853), oedd yn frodor o Fangor, yn Ysgolion yr Academi Frenhinol a sefydlodd bractis annibynnol yn Llundain lle y cyflawnodd y rhan fwyaf o'i fusnes. Nid yw'n ymddangos iddo ymgymryd â fawr ddim o waith yn ei fro enedigol.

NANTEOS

NANTEOS
George Repton, ca. 1815
Inc a dyfrlliw
Casgliad Nanteos (131)

Nid oes llofnod, ond fe'i priodolir i swyddfa John Nash. Y mae'n bosibl mai George Repton, 1814-17, a wnaeth y dyluniad persbectif hwn a rhai eraill yn ein casgliad sydd yr un mor gain. Plasty yn yr arddull Paladaidd yw Nanteos, Aberystwyth a adeiladwyd yn 1739. Mae'r ffasâd a welir ar y tŷ yn un diaddurn braidd, a rhoddwyd y gorau i'r cynllun a welir yma. Y mae Casgliad Nanteos hefyd yn cynnwys cynlluniau, gweddluniau a thrychluniau o'r tŷ, ynghyd â'r tai allan ac adeiladau'r ystâd.

YSTÂD FFORDD Y GOGLEDD, ABERYSTWYTH

YSTÂD FFORDD Y GOGLEDD, ABERYSTWYTH
H.D. Davis, ca. 1864
Print, 52cm x 39cm
PZ 4422

Mae'r gweddluniau o'r y pâr o filas, y tai rhes a'r siopau arfaethedig yn rhoi syniad o'r math o ddatblygiad a ragwelwyd ar gyfer Ffordd y Gogledd, Aberystwyth. Y mae'r tai a godwyd yn y diwedd yn yr ardal hon ar droad y ganrif yn debyg ond nid yn union yr un fath â'r rhai a ddarlunnir. Mae'r print hwn a'r testun cysylltiedig sy'n ymdrin â dimensiynau adeiladu a threfniadau cyfreithiol, yn anghyffredin yn ein casgliad ac ymddengys iddo gael ei gyhoeddi er mwyn hyrwyddo datblygiadau preswyl ar gyrion dwyreiniol y dref gan yr entrepreneur J.B. Balcombe. Mae'n sicr fod Balcombe, a fu hefyd ar un adeg yn rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Gwesty'r Hafod, Pontarfynach, wedi sylweddoli y byddai cyfleoedd busnes gwell ar ôl agor y rheilffordd i Aberystwyth yn 1864. Gweler hefyd y cynllun lleiniau adeiladu cysylltiedig, 'Land at Aberystwyth'.

CYNLLUN O DIR YN ABERYSTWYTH SYDD I'W OSOD FEL PRYDLESI ADEILADU 1864

CYNLLUN O DIR YN ABERYSTWYTH
H.D. Davis, 1864
Print, 53cm x 41cm
Casgliad Gogerddan (452)

Argraffwyd y cynllun hwn i gyd-fynd â'r gweddluniau ar gyfer Ffordd y Gogledd a ddangosir yma. Ni ddaeth y lleiniau adeiladu (lliw gwyrdd) i fod ychwaith. Mewn gwirionedd, ac yn eironig ddigon, y mae tai yn sefyll bellach ar y tir a fwriadwyd fel 'gardd bleser' ac mae caeau chwarae a llain bowlio Aberystwyth yn llenwi'r tir a fwriadwyd i fod yn lleiniau 9 i 26. Y mae adeilad helaeth y Queens Hotel a'r 'Baths' yn arwydd o rôl newydd y dref fel cyrchfan gwyliau glan môr ac'roedd y rhafflan yn rhan hanfodol o draddodiad morwrol enwog Aberystwyth mewn gwneud rhaffau, hwyliau ac adeiladu llongau.

ABERMAW, GOGLEDD CYMRU, MANYLION A PHROSBECTWS ARFAETHEDIG, GWESTY NEWYDD ORIELTON HALL

J. Coates Carter, T. Raffles Davison a Parker Hagarty, ca. 1900
Argraffedig, 35cm x 22cm
PG 2426/153

Ni ddaeth y project uchelgeisiol hwn i ddatblygu Orielton Hall a sefydlu canolfan hamdden a iechyd ar ei diroedd erioed i olau dydd. Mae'r prosbectws yn cynnwys persbectifau mewnol ac allanol a chynlluniau pensaernïol a safle o'r tŷ a'r 'Nature Kurhaus'. Ceir hefyd ffotograffau o'r tiroedd fel yr oeddent a manylion ariannol am y cwmni yr oedd bwriad i'w ffurfio er mwyn prynu a datblygu'r ystâd gan gynnwys gwybodaeth am gyfrannau, debenturau ac amcangyfrifon o'r refeniw. Trowyd y gwesty'n hostel yn ddiweddarach ac mae coedwig Orielton wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth.


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.