R.E. BONSALL, F.R.I.B.A. 1907-1982

ENGHREIFFTIAU O BRACTIS YN ABERYSTWYTH

Ganed Richard Emrys Bonsall yn Aberystwyth yn Ebrill 1907, yn fab i John Bonsall, casglwr yswiriant. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ardwyn yn y dref. Cymerwyd ef yn brentis yn 1923, a'i erthyglu i Gilbert Thomas Bassett, gan ddod yn Brif Gynorthwy-ydd y cwmni cyn llwyddo yn ei arholiadau RIBA yn 1938. Rhan o'i waith yn 1939 oedd cynllunio capel Ebenezer, Penparcau.

Rhwng 1940 a 1945 bu ef a'i wraig yn byw yn Wrecsam lle y cyfrannodd at yr ymdrech ryfel yn Adran Gynllunio Ffatrïoedd yr Ordnans Brenhinol.

Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth aeth i weithio'n gyntaf i Adran Gynllunio'r Brifysgol cyn sefydlu ei bractis ei hun. Er ei fod yn ymwneud yn bennaf â phrojectau lleol, fe'i comisiynwyd hefyd i gynllunio adeiladau mor bell i ffwrdd â Wrecsam a Chroesoswallt. Yn Aberystwyth gwnaeth gynlluniau ar gyfer tu blaen newydd enwog Capel Siloh a gwblhawyd yn 1963, ond sydd bellach wedi ei ddymchwel.

'Roedd yn aelod gweithgar o'r Rotariaid ac yn ymddiddori'n fawr mewn ffotograffiaeth a gwyddbwyll. Fe'i gorfodwyd i ymddeol yn 1966 ar ôl dioddef afiechyd na fu iddo wella'n llwyr ar ei hôl. Bu farw yn Nhachwedd 1982.

Ceir rhai cannoedd o ddyluniadau gan Richard Emrys Bonsall sy'n dangos adeiladau lleol, yn enwedig tai a thai allan, ca. 1930-60, y rhan fwyaf ohonynt ar bapur dargopïo. Yn eu plith y mae projectau adeiladu cyflawn a gwelliannau neu newidiadau ar raddfa lai. Mae'r nifer fawr o dai a gynlluniwyd ganddo ar ôl y rhyfel yn hawdd iawn eu hadnabod yn nhirlun pensaernïol yr ardal gyda'u hymddangosiad ymarferol a'u ffenestri â fframiau metel. Gwelir hefyd weithiau gan bensaer lleol a'i rhagflaenodd, G.T. Bassett. Ceir casgliad ai bychan o gynlluniau syniadol lliw o adeiladau domestig a chyhoeddus, ca. 1930, sydd yn arbennig o ddeniadol ac mae'n bosibl mai'r rhain yw ei waith project ar gyfer ymaelodi â'r RIBA.

CYNLLUN AR GYFER PROJECT TAI

CYNLLUN AR GYFER PROJECT TAI
R.E. Bonsall, 1933
Inc a dyfrlliw, 64cm x 100cm
PZ 5459

Y mae gweithiau syniadol Bonsall, a gyflwynwyd o bosibl fel gwaith project er mwyn ymaelodi â'r RIBA, yn arbennig oherwydd eu gwerth artistig a'u heffaith. Mae'r anheddau, er eu bod braidd yn ddigymeriad ac iwtilitaraidd, yn sefyll yn amgylchedd eang a gwyrddlas yr 'ardd-ddinas', syniad a fagodd nerth yn ystod y 1920au a 1930au ac na fabwysiadwyd ar ffurf rhaglen genedlaethol o drefi newydd tan ar ôl 1945. Y bwriad oedd lliniaru'r gorganoli ar weithgareddau economaidd a phoblogaethau mewn dinasoedd mawr fel y gellid darparu amgylchedd byw gwell yn y dinasoedd ac yn y cylchdrefi newydd mewn ardaloedd o dir glas.

NEUADD TREF FECHAN

NEUADD TREF FECHAN
R.E. Bonsall, ca. 1930
Inc a dyfrlliw, 94cm x 66cm
PZ 5459

Y mae'r neuadd tref ddeniadol a chlasurol ei hysbrydoliaeth yn cynnwys y swyddfeydd a'r siambrau arferol i swyddogion llywodraeth leol a hefyd, yn groes i'r disgwyl, meddygfa a deintyddfa.

Parhawyd i gynllunio a chodi adeiladau o arddull Clasurol a Georgaidd yn ystod y cyfnod hwn, er ei bod yn amlwg o bensaernïaeth Brydeinig y cyfnod fod brwydr yn digwydd rhwng yr arddulliau. Un dylanwad cryf oedd geometreg briciau y neuadd tref o waith Willem Dudok yn Hilversum yn yr Iseldiroedd, 1928-30. Daeth yr Arddull Rhyngwladol hwn i dreiddio i gynlluniau neuaddau tref ac ysbytai ac ysgolion yn ddiweddarach.

THEATR

THEATR
R.E. Bonsall, ca. 1933
Inc a dyfrlliw, 53cm x 82cm
PZ 5459

Yr oedd yr arddull Art Deco a amlygir yn theatr Bonsall yn boblogaidd iawn ym mhensaernïaeth y 1930au. Fe'i symbylwyd gan yr Exposition Internationale des Arts Decoratifs et Industrieles Modernes a gynhaliwyd ym Mharis yn 1925, a'i nodweddion yw ffurfiau onglog llym neu igam-ogam ar arwynebau. Gan fod ynddi ystafell daflunio, gallai'r theatr gyflawni gwaith sinema yn ogystal.

Daeth sinemâu i fri aruthrol yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd a dyma'r bensaernïaeth sy'n ymgorffori ysbryd yr oes. Yn sinemâu Prydain y cafwyd y defnydd helaethaf ar yr arddull Art Deco. Y mae adeiladau, fel ffilmiau, yn gyfrwng i greu delwedd.

MODURDY I 200 O GEIR

MODURDY I 200 O GEIR
R.E. Bonsall, 1931
Inc a dyfrlliw, 68cm x 47cm
PZ 5459

Yn y cynllun hwn sy'n dwyn i gof ysbryd ei oes y mae elfennau hanfodol Art Deco ar ei ffurf fwyaf mawreddog yn rhoi rhyw arbenigrwydd i adeilad sydd fel arfer yn cael ei gysylltu ag ymddangosiad cyffredin a iwtilitaraidd.

Cafwyd cynnydd yn nifer y ceir preifat yng Nghymru o 29,000 yn 1926 i 81,000 yn 1938, cyfnod oedd ar drothwy chwyldro mewn trafnidiaeth a gafodd effaith ddramatig ar ein tirwedd.

PÂR O FYTHYNNOD, PENPARCAU, ABERYSTWYTH, I'R MRI Y BRODYR EDWARDS

PÂR O FYTHYNNOD, PENPARCAU, ABERYSTWYTH
R.E. Bonsall, 1938
Inc ar bapur dargopïo, 39cm x 57cm
PZ 5459

Dyluniadau nodweddiadol o gasgliad Bonsall yw'r rhain ac fe'u lluniwyd ar adeg o gynnydd sylweddol yn nifer y tai preswyl ym Mhenparcau ar ochr ddeheuol Aberystwyth. 'Roedd y cynnydd mewn poblogaeth yn y gymuned hon rhwng y ddau ryfel yn ganlyniad llwyr bron i ddatblygiad tai cyngor mawr oedd â'r bwriad o ailgartrefu teuluoedd lleol dan anfantais.

Tŷ, PENPARCAU I MRS M.D. LLOYD

Tŷ, PENPARCAU I MRS M.D. LLOYD
R.E. Bonsall, 1954
Inc a dyfrlliw, 28cm x 36cm
PZ 5459

Mae'r dyluniad hwn o dŷ bychan cryno yn un a baratowyd er mwyn derbyn cymeradwyaeth y client, mae'n debyg, ac mae'n un o nifer fechan o rai tebyg gan Bonsall ymysg y nifer fawr o ddargopïau pensel ac inc o'i eiddo. Gellir tybio mai prin oedd yr amser oedd ganddo i arfer ei dalent fel lliwiwr.


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1999.