Augustus Kelham, ca. 1865
Ffotograffau, 32cm x 45cm
PG 2448
O ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth ffotograffiaeth yn brif gyfrwng ar gyfer cofnodi tirwedd cyfnewidiol Cymru. Mae'r Adran yn cadw'r casgliad helaethaf a mwyaf amrywiol o ffotograffau o ddiddordeb Cymreig yn y byd ac yn cynnwys bron i filiwn o ddelweddau. Yr hyn a geir yn bennaf yw cofnod o dir a phobl Cymru ers dyddiau cyntaf ffotograffiaeth. Er bod golygfeydd topograffig sy'n cynnwys adeiladau yn gyffredin, mae rhai casgliadau'n canolbwyntio'n llwyr ar adeiladau, yn enwedig tai. Mae'r albwm hwn a gynhyrchwyd yn fasnachol gan ffotograffydd proffesiynol yn dangos oddeutu deugain o olygfeydd o blastai a'u hystafelloedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a'r gororau. Agwedd ddiddorol arno yw ei fod yn cynnwys enwau'r perchnogion.
Plas Teg ger yr Wyddgrug, a godwyd tua 1610 i Syr John Trevor, Syrfewr Llongau'r Frenhines, yw'r plasty cyntaf yng Nghymru yn arddull y Dadeni. Fel Castell Rhiw'r Perrai, i'r gogledd o Gaerdydd, ceisiwyd hyrwyddo ei arddangosiad trwy efelychu amlinelliad castell tyrog.
CASTELL MADRYN
John Thomas, ca. 1880au
Ffotograff, 20cm x 30cm
Casgliad John Thomas (E57)
'Roedd y castell, sydd ym mhentref Buan ger Pwllheli, yn gartref yn wreiddiol i deulu Madryn, ac fe'i hailadeiladwyd gan Jones Parry yn y dull barwnol rhamantaidd tua 1830. Heddiw nid oes dim ar ôl ond y porthdy di-do o'r ail ganrif ar bymtheg gan i'r castell gael ei ddymchwel gan yr awdurdod lleol tua 1968, pryd y daeth y safle yn barc carafanau.
Casgliad John Thomas, sy'n cynnwys dros dair mil o ffotograffau, yw un o'r ffynonellau gweledol cyfoethocaf o fywyd ac adeiladau Cymru rhwng y 1860au a'r 1890au. Ganed John Thomas, a oedd yn ffotograffydd o fri yn oes Fictoria, yng Nghellan, Sir Aberteifi a sefydlodd ei stiwdio, y 'Cambrian Gallery' yn Lerpwl. Yn ystod misoedd yr haf fe deithiai'n helaeth yng Nghymru, gan dynnu lluniau o bobl, trefi a phentrefi. Ceir cyfran deg o luniau o Ogledd Cymru, ond fe geir enghreifftiau hefyd o'i deithiau yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro.
RHUG

ohn Thomas, ca. 1890
Ffotograff, 20cm x 30cm
Casgliad John Thomas (CC38)
Rhug, Corwen, a ailgodwyd yn y dull Groegaidd â thywodfaen llwydfelyn i'r Arglwydd Newborough tua 1800, gan ddilyn cynlluniau gan Joseph Bromfield, yn ôl pob tebyg. Ar y chwith gwelir yr adain newydd o lawn uchder sy'n cynnwys yr ystafell ddawnsio/ystafell biliards, yr ardd aeaf a'r ystafell wydr. 'Roedd yr adain hon yn ymyrryd â chymesuredd y tŷ ac fe'i dymchwelwyd yn 1974
BYTHYNNOD MERFFORDD
Sunter Harrison, ca. 1960au
Ffotograffau, 9cm x 13cm
PB 9515
' Rydym yn ddyledus i lawer o ffotograffwyr amatur a haneswyr lleol fel Mrs Sunter Harrison sydd wedi dal adeiladau ar ffilm, llawer ohonynt yn rhai sydd wedi diflannu. Hwyrach nad yw ffotograffau o'r fath mor gain â'r golygfeydd proffesiynol fel y rhai yn albwm Kelham, ond er hynny maent yn gofnodion yr un mor werthfawr, yn enwedig ar gyfer pensaernïaeth werinol.
Adeiladwyd Merffordd rhwng 1803 a 1815 gan y perchennog tir lleol, ac fe'i disgrifiwyd fel un o bentrefi ystâd mwyaf swynol Cymru. Mae amryw o fythynnod y pentref wedi eu rhestru gan Cadw fel adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae albwm 'Tai Merffordd' yn un o ddeuddeg o albymau gan Harrison sy'n dangos adeiladau yn Wrecsam a'r cylch, 1959-71, llawer ohonynt bellach wedi eu dymchwel.
CARDIAU POST

Amryfal ffotograffwyr, ca. 1920
Cardiau post, 9cm a 14cm
Cynhyrchwyd ein cardiau post darluniadol gan gwmnïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol neu gan ffotograffwyr unigol ac maent yn dyddio'n bennaf o ddau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef 'Oes Aur' y cardiau post. Rhai topograffig yw'r gyfran helaethaf ohonynt, ac mae'r rhain hefyd yn ffynonellau o wybodaeth bensaernïol am adeiladau fel capeli a busnesau trefol sydd o bosib wedi eu haddasu neu eu dymchwel erbyn hyn.