Bwriad Glo Prydain oedd cau Glofa'r Twr, un o byllau glo cymoedd de Cymru, yn 1994. Hwn oedd y pwll glo dwfn olaf mewn ardal a oedd wedi bod yn enwog am ei thraddodiad glofaol. Gellid gwneud i'r pwll dalu, felly penderfynodd y glowyr, dan arweiniad Tyrone O'Sullivan, arweinydd eu hundeb, ymladd am eu bywoliaeth, ac fe brynwyd y pwll ganddynt maes o law yn 1995.

Daeth Glofa'r Twr yn enwog oherwydd ei glowyr, sydd erbyn hyn yn berchen ar eu pwll eu hunain ac wedi llwyddo yn eu menter. Daeth y Lofa yn symbol o nerth a brwydr y glowyr a'u teuluoedd. Dogfen ddarluniadol o fywydau glowyr y Twr dros gyfnod o flwyddyn yw'r arddangosfa hon. Ynddi cofnodir eu gwaith beunyddiol, yn cadw eu swyddi mewn ardal lle ceir llawer o ddiweithdra.

Mae Roger Tiley wedi ymddiddori mewn tynnu ffotograffau o'r pyllau glo a'u cymunedau yn ne Cymru er 1982, pan fu iddo wneud ei stori gyntaf am y glowyr ar gyfer papur newydd y Guardian. Yn ystod Streic y Glowyr, 1984/85, cyhoeddwyd ei waith yn helaeth ac fe'i comisiynwyd i gymryd rhan ym Mhroject y Cymoedd fel rhan o gasgliad delweddau Ffotogallery Caerdydd, a ddangoswyd yn Ewrop.

Roger Tiley yw Pennaeth Ffotograffiaeth Coleg Abertawe ar hyn o bryd. Er ei fod yn ddarlithydd amser-llawn, cymaint yw ei gariad at ffotograffiaeth fel ei fod yn cynnal arddangosfeydd yn genedlaethol ac yn atgynhyrchu ei waith ar ffurf llyfrau. Owned by the miners: Tower, a gyhoeddir fis Ebrill, fydd ei drydedd gyfrol. Yn ddiweddar bu'n ymweld ag UDA i dynnu ffotograffau sy'n cymharu merched sy'n byw yn ardaloedd glofaol Kentucky, West Virginia, Virginia a Tennessee â merched sy'n byw yn niwylliant newidiol cymoedd de Cymru. Gobeithir cyhoeddi'r llyfr hwn, dan y teitl Merched y Cymoedd and the American Dream tua diwedd 1998. Fe fydd yn dychwelyd i UDA yn ddiweddarach eleni i wneud cyfres newydd a fydd yn canolbwyntio ar ddylanwadau Cymreig yn Pennsylvania.

Am wybodaeth bellach ar waith a llyfrau Roger Tiley, ysgrifennwch at:

Incline Publications
Celynen De
Ynys Uchaf
Ystradgynlais
Powys
SA9 1RP
Ebost: INCLINERT@aol.com



Adran y Darluniau a'r Mapiau

Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1998.