LlGC - NLW
Cymraeg | English

Cynnwys

Rhagair


PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?

PENNOD 2: Pwy oedd William Morgan?

PENNOD 3 :Beth oedd arbenigrwydd Beibl 1588?

PENNOD 4 :Beth yw arwyddocad cyfieithu'r Beibl?

PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?

Heb ddysg, heb ddim, heb ddoniau syw,
Heb lyfyr Duw yn athro,
Heb ddysgeidiaeth gwir gan neb,
Mawr oedd dallineb Cymro.

Ond yn awr mewn cryfder ffydd,
Yr wyf yn prudd obeithio,
Yn ôl hyn o hudol haint,
Y cyfyd braint at Gymro.

O hil Frutus, rywiog ryw,
Rhowch glod i Dduw amdano,
Llyma'r G'lennig orau ras
Erioed a gafas Cymro.

Arfer ddarllen hwn yn glos,
Dan ddydd a nos myfyrio
Gair yr Arglwydd ymhob man,
Mewn llys a llan, y Cymro.

Diolch, diolch (hyn nid cam)
Y penyd am gyfieithio,
Drwy wir nerth yr Ysbryd Glân,
I’r Doctor Morgan, Gymro!

Dyna rai o benillion cân hir o ddiolch am y Beibl Cymraeg yn 1588 gan Thomas Jones, ficer Llandeilo Bertholau yn Sir Fynwy. Blwyddyn gythryblus yn hanes Cymru a Lloegr oedd 1588 ac roedd Thomas Jones eisoes wedi canu cân o ddiolch am waredigaeth oddi wrth Armada Sbaen. Daeth y Beibl Cymraeg o'r argraffwasg yn Llundain a chyrraedd Cymru tua diwedd y flwyddyn 1588, felly yr oedd yn ‘Glennig' neu'n anrheg Blwyddyn Newydd ardderchog. Y peth pwysicaf i'r bardd oedd bod y Beibl newydd yn agor llygaid y Cymro ac yn rhoi terfyn ar ei 'ddallineb'. Diolch am oleuni y mae llawer o Gymry eraill wrth sôn am y gymwynas o gyfieithu'r Beibl, er enghraifft leuan Tew, y bardd o ardal Cydweli yn Sir Gaerfyrddin:

Y Beibl faith yn ein hiaith ni
Yw'r Haul yn rhoi'i oleuni.

Achwyn am ddallineb yr hen drefn, heb y Beibl, a wna'r bardd Siôn Tudur o Wigfair yn Sir Ddinbych:

Gelyniaeth a wnaeth un wedd
Eglwys Rufain, gloes ryfedd.
Chwarae â ni'n chwerw a wnaeth,
Chwarae mwm, chwerwa' mamaeth;
Chwarae ddoe, yn chwerw ddeall,
Mig un dwyll â'r mwgan dall;
A'n pennau'n eu cau mewn cwd
Am ein magu mewn mwgwd.

Roedd Siôn Tudur yn beio hen Eglwys Rufain am y dallineb, gan ei bod hi'n cadw pen pob un mewn cwd neu sach, a mwgwd am wyneb dyn, fel na allai weld y gwirionedd. Gwyddai Cymry fel Siôn Tudur fod cyfieithiadau o'r Beibl i'w cael mewn ieithoedd eraill, fel Almaeneg a Saesneg, felly yr oedd y wawr yn hwyr yn torri yng Nghymru.

Wynebddalen Testament Newydd 1567: Y genedl yn deffro o dywyllwch anwybodaeth.

Darlun 2. Wynebddalen Testament Newydd 1567: Y genedl yn deffro o dywyllwch anwybodaeth.

Daeth cyfieithiad Cymraeg 1588 wedi canrif o astudio a chyfieithu testun y Beibl na fu ei thebyg trwy wledydd Cred. Ers canrif bu diddordeb dwfn ac ysol yn yr Ysgrythurau. Yn ail hanner y 14 ganrif mynnai John Wycliffe a'i ddilynwyr yn Lloegr gael testun y Beibl yn Saesneg. Ar ddechrau'r 15 ganrif mynnai dilynwyr Jan Hus gael yr un peth yn yr iaith Tsiec, sef iaith Bohemia. Yn 1500 trefnodd Cardinal Ximenes i argraffu Beibl mewn pedair iaith – Hebraeg, Groeg, Lladin a Chaldaeg – sef ‘Y Beibl Polyglot', ar wasg Prifysgol Alcalá de Henares yn Sbaen. Yn 1516 cyhoeddodd yr ysgolhaig Erasmus o Rotterdam destun Groeg y Testament Newydd ynghyd â nodiadau manwl i'w esbonio i'r lleygwr. Cafodd y cyhoeddiad hwn ddylanwad mawr ar y Diwygiwr Martin Luther. Yn 1522 pan oedd Martin Luther ar ffo, ac yn ymguddio mewn castell o'r enw Wartburg yn fforestydd Thuringia, aeth ati i gyfieithu'r Testament Newydd i'r Almaeneg, ac erbyn 1534 roedd wedi cyfieithu'r Beibl cyfan. Cafodd ei gyfieithiad ddylanwad aruthrol. Credai Luther fod ‘y Gair yn gallu cyflawni'r cyfan', a thrwy gydol ei fywyd bu'n hynod brysur yn cyhoeddi esboniadau ar yr Ysgrythurau ac yn trefnu i gyhoeddi ac ailgyhoeddi'r Beibl. Yn ystod oes Luther cyhoeddwyd 377 o argraffiadau o'i gyfieithiad.

Y Beibl Mawr yn Saesneg, 1539

Darlun 3. Y Beibl Mawr yn Saesneg, 1539

Un a ddaeth o dan ddylanwad Luther ac a aeth i astudio yn ei gartref yn Wittenberg oedd y Sais, William Tyndale. Dan amgylchiadau hynod anodd llwyddodd i gyhoeddi cyfieithiad o rannau helaeth o'r Beibl i'r Saesneg. Ond cwerylodd gyda llywodraeth y Brenin Harri VIII; fe'i herlidiwyd, ac yn 1536 fe'i daliwyd a chrogwyd ef i farwolaeth cyn iddo allu cyflawni'r gamp o orffen cyfieithu'r Beibl. Ond yr oedd Saeson eraill fel Miles Coverdale yn gweithio ar gyfieithiad arall, ac yn 1539 golygodd Coverdale argraffiad newydd o'r Beibl yn Saesneg, 'The Great Bible', dan nawdd ac anogaeth Archesgob Cranmer, a chyda chytundeb llywodraeth Harri VIII. Cafwyd wedi hynny nifer o fersiynau eraill o'r Beibl yn Saesneg nes cael y fersiwn awdurdodedig o'r wasg ar gais y Brenin Iago I yn 1611.

Y Brenin Harri'r VIII. Engrafiad, c. 1700.

Darlun 4. Y Brenin Harri'r VIII. Engrafiad, c. 1700.

Beth sydd yn esbonio'r fath ysfa ar draws gwledydd Cred i gyfieithu'r Ysgrythurau? Diwygwyr crefyddol, mae'n wir, oedd cyfieithwyr fel Luther a Tyndale. Ond Pabyddion oedd Cardinal Ximenes ac Erasmus o Rotterdam, ac er nad oedd y Pabyddion yn awyddus i roi'r Ysgrythurau yn nwylo lleygwyr anneallus yn y cyfnod hwn, cyhoeddwyd cyfieithiadau o'r Beibl ganddynt hwythau. I ddeall yr holl ysfa hon, y mae'n rhaid troi'n ôl ymhell i hanes yr Oesoedd Canol.

Rhoddwyd y Beibl Cristnogol at ei gilydd yng nghyfnod yr Eglwys Fore, yn ystod y canrifoedd cyntaf wedi amser Crist. Rhoddwyd y llyfrau a sgrifennwyd wedi amser Crist at ei gilydd yn Destament Newydd. Ond y mae Cristnogaeth yn hanu o grefydd yr Iddewon, ac mae Crist a'r Apostol Paul yn cyfeirio yn ôl gymaint at hanes a phroffwydoliaethau'r Beibl Hebraeg, sef Ysgrythurau'r Iddewon, nes bod yr Eglwys Fore yn teimlo nad oedd un testun yn gyflawn heb y llall, a rhaid oedd darllen y Beibl Hebraeg yng ngoleuni'r hyn a gofnodwyd yn y Testament Newydd. Roedd y Testament Newydd wedi ei sgrifennu mewn Groeg, ond nid oedd yn anodd asio'r Beibl Hebraeg (a alwyd gan yr Eglwys Fore'n Hen Destament) at y Testament Newydd gan fod fersiwn Groeg o'r Beibl Hebraeg ar gael ers dros ddwy ganrif cyn amser Crist – y fersiwn a elwir y 'Septuagint'. Yr oedd rhai llyfrau yn y Septuagint nad oedd fersiynau gwreiddiol ohonynt i'w cael yn yr Hebraeg, ac nid oedd yr Iddewon yn eu hystyried fel Gair Duw; galwyd y llyfrau hynny yn ‘Apocryffa'.

I Gristnogion gorllewin Ewrop roedd yr iaith Ladin yn llawer iawn mwy adnabyddus na Groeg, a chan fod cryn bwyslais yn yr Eglwys Fore ar ddarllen a gwrando'r Ysgrythurau, bu'n rhaid cael fersiwn Lladin ohonynt. Cyflawnwyd y gamp o'u cyfieithu gan Sant Ierom. Vulgus yw'r gair Lladin am bobl, a'r ‘Fwlgat' (‘y Beibl yn iaith y bobl') yw'r enw a roddir ar ei gyfieithiad Lladin. Y Fwlgat oedd y fersiwn a ddefnyddid yn yr Eglwys Gatholig trwy'r Oesoedd Canol. Yn ystod y cyfnod hwnnw ceid darlleniadau o'r Beibl yng ngwasanaethau'r Eglwys, ac felly roedd credinwyr ganrif ar ôl canrif yn clywed geiriau'r Ysgrythurau'n cael eu darllen yn gyson yn yr eglwysi. Os felly, pa ystyr a allasai fod i adfywiad neu ysfa newydd am ddeall geiriau'r Beibl ar ddiwedd yr Oesoedd Canol?

Rhaid i ni gofio mai rhan yn unig o'r grefydd Gatholig oedd darllen a gwrando'r Beibl. Fel yr âi'r canrifoedd yn eu blaen chwaraeai'r Beibl lai a llai o ran yng nghrefydd a diwylliant yr Eglwys. Roedd yr Eglwys Fore'n datblygu'n raddol yn Eglwys Gatholig yr Oesoedd Canol, sef ‘Catholig' yn yr ystyr ‘byd-eang'. Trowyd un genedl ar ôl y llall yn Gristnogion, nes troi'r cyfandir cyfan. I'r cyfandir Cristnogol hwn crewyd diwylliant grymus a chynhwysfawr, yn dylanwadu ar bob agwedd o fywyd. Ochr yn ochr â'r Beibl, roedd gan yr Eglwys gorff o ysgrifeniadau'r Tadau Eglwysig, hynny yw meddylwyr ac ysgolheigion a phregethwyr mawrion yr Eglwys Fore, a rhaid oedd astudio eu gweithiau hwy yn ogystal â'r Beibl. Wrth i'r holl genhedloedd gael eu tynnu i mewn i'r Eglwys, bu'n rhaid creu rhwydwaith o wledydd Cristnogol, a'u cadw mewn trefn. Bu'n rhaid cymathu diwylliant yr Eglwys Fore a chyfundrefnau llwythau a brenhinoedd gwledydd Cred. Hefyd, er mwyn cenhadu ymhlith y cenhedloedd hyn a'u cadw'n dynn at y ffydd Gristnogol, bu'n rhaid cymathu mewn ffordd arall, a datblygu diwylliant Catholig newydd a oedd yn gymysgedd o Gristnogaeth yr Eglwys Fore a diwylliant lleol a brodorol y cenhedloedd. Ar un llaw crewyd y drefn ffiwdalaidd trwy roi lliw neu arlliw Cristnogol ar drefn y gymdeithas o'i hamddiffyn ei hun trwy gyfrwng lluoedd o filwyr a oedd yn ffyddlon i dywysog neu arweinydd milwrol. Ar y llaw arall cymathwyd Cristnogaeth a diwylliant gwerin cenhedloedd Ewrop. Addaswyd eu chwedlau paganaidd, crewyd diwylliant o hwyl a llawenydd, o bererindota i ffynhonnau, o addoli seintiau lleol, o broffwydo a swyno a chyfareddu, a hyd yn oed o ddewiniaeth; diwylliant o wyliau mabsant a dramâu crefyddol, a digon o amrywiaeth i blesio pob plwyf a bro. Diwylliant cwmpasog ac ystwyth ydoedd, yn caniatáu amrywiaeth ym mhob ardal, ond yn cadw undod sylfaenol trwy ddisgyblaeth y Pabau yn Rhufain, trwy gydweithrediad y Pabau gydag arglwyddi ffiwdal, a thrwy ddefnyddio'r mynachod a'r lleianod, a oedd yn aelodau o urddau rhyngwladol, fel cynrychiolwyr trefn a disgyblaeth y Pabau yn Rhufain. Aeth y drefn hon o lwyddiant i lwyddiant hyd tua'r flwyddyn 1300, ac yn wir y mae diwylliant Catholig yr Oesoedd Canol yn un o ryfeddodau hanes. Ond yn sgil y broses hon o gadw undod ac o greu diwylliant poblogaidd a chynhwysfawr, gwthiwyd yr Ysgrythurau fwyfwy i'r cefndir.

Yn un peth, diwylliant anllythrennog ydoedd, lle nad oedd neb ond offeiriaid a mynachod yn gallu darllen; diwylliant nad oedd yn ystyried bod geiriau ysgrifenedig yn bethau pwysig. Yn yr Eglwys Fore fe astudid y geiriau'n ofalus am eu bod yn arwydd neu'n neges am ail-ddyfodiad buan Crist yn Nydd y Farn. Yr oedd y credinwyr yn lleiafrif yn y gymdeithas, a honno'n gymdeithas a oedd i ryw raddau'n gyfarwydd â thraddodiad y Groegwyr o drin a thrafod geiriau a dadlau'n athronyddol. Yr oedd yr Eglwys Fore hefyd yn gymdeithas o unigolion a oedd wedi cael tröedigaeth fel unigolion, a gwyddent i ryw raddau beth oedd personoliaeth unigol. Ond fel yr âi'r canrifoedd yn eu blaen a'r Eglwys Gatholig yn creu Cristnogaeth i holl wledydd Cred, symudodd y pwyslais at y diwylliant cyfan, at allu'r gyfundrefn Gatholig i gydweithio gyda Duw ac aberth Crist i ennill bywyd tragwyddol wedi Dydd y Farn. Y gamp fawr oedd achub y byd i Grist, nid apelio at eneidiau unigol.

'Y Beibl Ynghymraeg', darn o'r Beibl wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, o lawysgrif Peniarth 20, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Darlun 5. 'Y Beibl Ynghymraeg', darn o'r Beibl wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, o lawysgrif Peniarth 20, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Astudid yr Ysgrythurau, wrth gwrs, yn ystod yr Oesoedd Canol, yn ysgolion y mynachod, ac yn y prifysgolion a sefydlwyd gan yr Eglwys, ond o bell neu drwy ddrych yr astudid hwy fel arfer, trwy chwilio ynddynt am ddehongliadau moesol neu alegorïol neu symbolaidd. Yr oedd yr un mor bwysig i ysgolhaig astudio bywydau'r seintiau (bucheddau'r saint) neu drafodaethau crefyddol a moesol Tadau'r Eglwys, yr holl ysgrifeniadau pwysig a gafwyd wedi cyfnod y Beibl, yr hyn a elwid yn ‘Draddodiad yr Eglwys'. At ei gilydd, bach iawn o sôn oedd am neges y Testament Newydd i'r unigolyn o Gristion. Mae'n hawdd deall, felly, mai ychydig bach iawn o ddarnau o'r Beibl a oedd ar gael yn yr ieithoedd brodorol yn ystod yr Oesoedd Canol. Yn Gymraeg, er enghraifft, ychydig ddarnau yn unig a gyfieithwyd, hyd y gwyddom ni, a'r darnau hynny'n dod o albwm neu gompendiwm neu flodeugerdd o ddarnau o'r Ysgrythur yn hytrach nag o'r Beibl ei hun. Yn Lladin yr oedd y gwasanaeth ar ei hyd. Lladin oedd iaith gysegredig yr Eglwys, iaith ei chyfundrefn ryngwladol. Gallai'r offeiriad esbonio pob dim yr oedd eisiau i'r lleygwyr cyffredin ei wybod; nid oedd angen i'r lleygwyr ddeall pob sillaf, ac yn sicr nid oedd diben iddynt ddysgu darllen.

Roedd pwysigrwydd y Lladin fel iaith unedig yr Eglwys yn symbol o undod yr Eglwys ar draws gwledydd Cred ac ar hyd y canrifoedd. Hyd at 1300 neu 1340 llwyddodd yr Eglwys yn rhyfeddol i gadw'r cenhedloedd at ei gilydd a thawelu pob beirniadaeth. Ond wedi 1300 daeth cyfnod hir o wyntoedd croesion a helynt a stormydd. Roedd y gymdeithas unedig yr oedd yr Eglwys wedi gwneud cymaint i'w chreu yn dechrau ymddatod. Daeth cyfnod o ddadlau ac ymryson ymhlith yr offeiriaid eu hunain. Yn y 14 ganrif symudodd y Pabau o Rufain i dref Avignon yn Ffrainc. Ymrannodd yr Eglwys nes cael dau Bab, ac wedyn dri Phab, a'r tri ohonynt yn melltithio'i gilydd. Nid peth newydd oedd heresi, sef syniadau crefyddol anuniongred, ond wedi'r flwyddyn 1300 daeth heresi'n fwy cyffredin, yn anos ei chosbi a'i hatal. Ochr yn ochr â'r datblygiadau hynny datblygodd casineb at y clerigwyr a chwerthin am ben rhagrith yr offeiriaid, ac yn enwedig y mynachod, gyda lleygwyr yn teimlo'n eiddigeddus o'u cyfoeth yn y byd hwn a'u sicrwydd o nefoedd yn y byd nesaf. Ni wyddai'r Eglwys yn iawn sut oedd dygymod â'r gymdeithas newydd a oedd yn codi o'i chwmpas.

Gynt, buasai'r Eglwys yn ei chael hi'n hawdd i wastrodi brenhinoedd ac arglwyddi ffiwdalaidd; cosbwyd y Brenin John, tad-yng-nghyfraith y Tywysog Llywelyn Fawr, am iddo anufuddhau i'r Pab. Erbyn 1300 nid oedd llywodraethau mor barod i dalu trethi i Rufain, llai fyth yn 1400 neu 1500. Gynt buasai'r Eglwys yn ei chael hi'n hawdd i wastrodi lleygwyr beirniadol; gorchmynnwyd i frenin Ffrainc ymosod yn llym a didrugaredd ar yr Albigensiaid yn neheudir Ffrainc. Ond yn y 15 ganrif nid oedd modd cael brenhinoedd i ddinistrio Eglwys annibynnol Bohemia a oedd yn mynnu defnyddio'r iaith Tsiec, yn gwrthod talu trethi i Rufain, yn rhoi'r Ysgrythurau i'r Tsieciaid yn eu hiaith eu hunain ac yn rhoi Cymundeb iddynt ar ffurf bara a gwin, yn hytrach na'r bara yn unig, fel yr oedd yn arferol yn achos lleygwyr. Ni welai'r Eglwys – neu ni fynnai weld – fod llywodraethau wedi dod yn bwerau grymus a bod lleygwyr meddylgar a deallus wedi ymddangos mewn llawer man, gwŷr a oedd yn mynnu chwarae rhan bwysig yn eu bywyd crefyddol ac yn gweld bod yna ddiffyg croeso i'r unigolyn deallus yn yr Eglwys.

Bodidris, Llandegla. William Morgan a draddododd y bregeth yn angladd pendefig Bodidris.

Darlun 6. Bodidris, Llandegla. William Morgan a draddododd y bregeth yn angladd pendefig Bodidris.

O 1300 ymlaen daeth y lleygwyr deallus yng ngorllewin Ewrop yn fwyfwy beirniadol o'r drefn Eglwysig, ac yn yr un cyfnod roedd llawer yn rhagor o'r lleygwyr wedi dysgu darllen. Yn ogystal, roedd y mân offeiriaid yn fwyfwy beirniadol o arweinwyr yr Eglwys, ac o'u cwmpas yr oedd bywyd cymdeithasol ac economaidd mewn argyfwng am nifer o resymau. Roedd plâu fel y Pla Du ar gynnydd trwy Ewrop o 1349 ymlaen, roedd trefn economaidd y maenorau yn ymddatod, roedd y Twrciaid yn fwyfwy llwyddiannus yn eu hymosod creulon ar Gristnogion, ac roedd crefydd Islam ar gynnydd yn nwyrain Ewrop. Yn 1453 syrthiodd Caergystennin, sef prifddinas y Cristnogion yn y Dwyrain, i ddwylo'r Twrciaid, ac roedd cenhedloedd cyfain, fel yr Albaniaid a'r Bosniaid, yn barod i ymuno ag Islam. Oherwydd y rhaniadau y soniasom ni amdanynt yn yr Eglwys, ni allai hi roi arweiniad nac ysbrydoliaeth ar yr union gyfnod yr oedd mwyaf o angen amdanynt. Bu llawer o ganlyniadau difrifol. Ond un canlyniad cadarnhaol oedd bod lleygwyr deallus yn dechrau astudio materion crefyddol i geisio eu hatebion eu hunain, ac un ffordd sylfaenol o wneud hynny oedd mynd at yr hen Ysgrythurau i chwilio am ffon-fesur newydd, a chwilio am wir safonau. Oni ellid pwyso a mesur Pabau ac esgobion yn y fantol yn ôl pwysau geiriau Crist ei hun? Onid oedd Paul yn ei epistolau yn sgrifennu at gylchoedd bychain o unigolion meddylgar y tu allan i gyfundrefnau mawrion? Yr oedd cael gafael ar yr Ysgrythurau yn ddatguddiad rhyfeddol i'r cylchoedd hyn o leygwyr. Er gwaethaf yr holl amgylchiadau anodd, yr oedd syched am lyfrau ar y darllenwyr hyn, ac ni ellid torri'r syched â llyfrau llawysgrif am grefydd a moes a defosiwn personol. A dyna paham y dyfeisiwyd yr argraffwasg tua 1450, rywle yn yr Almaen – yn ninas Mainz, fwy na thebyg. O'r diwedd, yr oedd modd gan ddynion i gynhyrchu copiau di-rif o'r Beibl – ac fel mae'n digwydd, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu, hyd y gwyddom, oedd Beibl Lladin, a Johannes Gutenberg oedd yr argraffydd. Mewn byd cythryblus o glefyd a phla a rhyfeloedd diddiwedd – y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc, er enghraifft – chwiliai'r lleygwyr am atebion, ac o fethu cael atebion clir gan yr Eglwys, chwilient amdanynt yn yr Ysgrythurau.

Os oedd pethau'n dywyll i'r Eglwys yng ngorllewin Ewrop, tywyllach fyth oedd pethau yng Nghymru, yn ôl ein harbenigwr pennaf ar y maes, yr Athro Glanmor Williams. Mae ef wedi tynnu darlun tywyll, os nad du, o grefydd yng Nghymru o tua 1340 ymlaen, a hynny am fod y cyfnod yn un o ddirywiad yn safon yr offeiriaid a'r eglwyswyr. Un rheswm dros hynny oedd y ffaith bod cymaint o gecru a chweryla rhwng yr esgobion a'r offeiriaid lleol am fod y swyddi pwysig yn nwylo estroniaid – Saeson, gan amlaf – a'r mân offeiriaid plwyf yn Gymry a deimlai fod yr esgobion a'r prif swyddogion yn tra-arglwyddiaethu'n drahaus ar y brodorion. Casgliad yr Athro Williams yw mai effaith drist y dirywiad hwn oedd drysu'r Cristnogion cyffredin, a chryfhau'r duedd at grefydd fecanyddol, allanol, ddefodol. Mae hyn yn wir i raddau, wrth gwrs, am bob rhan o orllewin Ewrop – oes oedd hi o godi allorau a mynd ar bererindodau ac addoli creiriau gyda seremonïau lliwgar. Ond yng Nghymru nid oedd yna gymdeithas drefol a allai gynhyrchu lleygwyr meddylgar, deallus ac annibynnol eu barn a fyddai'n troi at y Beibl fel at lys apêl yn erbyn diffygion yr Eglwys. O'r Cyfandir ac o Loegr y byddai'n rhaid i'r arweiniad ddod; yno yr oedd dinasoedd ac argraffweisg a phrifysgolion.

Tudalen o'r llyfr cyntaf i'w argraffu yn y Gymraeg,

Darlun 7. Tudalen o'r llyfr cyntaf i'w argraffu yn y Gymraeg, Yny lhyvyr hwnn, 1846.

Hyd yn oed yn Lloegr nid oedd y llwybr at gael yr Ysgrythurau yn Saesneg yn ddidramgwydd. Yno cysylltid yr Ysgrythurau Saesneg gyda hereticiaid fel dilynwyr John Wycliffe. Amcangyfrifir bod rhyw 200 copi o Feibl y Lolardiaid wedi goroesi mewn llawysgrif, a hynny yn arwydd diamheuol o'i boblogrwydd. Hyd yn oed yn yr 1530au, pan oedd Harri VIII wedi torri pob cysylltiad â'r Pab yn Rhufain ac yn troi'r Eglwys Anglicanaidd – Eglwys Loegr – yn Eglwys annibynnol ar Rufain, nid oedd croeso i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur fel y mynnent yn Saesneg. Lladdwyd William Tyndale pan oedd ar hanner cyfieithu'r Beibl i'r Saesneg. Yn 1539 rhoddwyd y Beibl Saesneg yn yr eglwysi, ond yn fuan wedi hynny rhwystrwyd pawb ond offeiriaid rhag ei ddarllen. Nid cyn teyrnasiad mab Harri VIII, y brenin ifanc Edward VI (1547-53), y daeth Diwygwyr selog i rym yn Eglwys Loegr i ddiwygio trefn y gwasanaethau a rhoi lle blaenllaw i'r Beibl yn yr eglwysi. O dan reolaeth Archesgob Cranmer, yn 1549 cafwyd Llyfr Gweddi Gyffredin i'w ddefnyddio ym mhob eglwys, a chychwynnwyd trefn o ddarllen y Beibl yn rheolaidd, a'r cyfan yn Saesneg.

Protestiodd trigolion Cernyw na ddeallent y Llyfr Gweddi newydd, a'u bod mor anghyfarwydd â'r Saesneg nes bod bregliach y gwasanaeth Saesneg yn swnio fel 'Christmas game'. Yng Nghymru hefyd yr oedd unigolion o Ddiwygwyr yn ymdeimlo â'r awydd i gael Ysgrythurau y byddai'r Cymry yn eu deall. Yn wir, mae yna gyfieithiadau Cymraeg mewn llawysgrifau sy'n ymddangos fel pe baent wedi defnyddio cyfieithiad Tyndale, a chan fod argraffwasg ar gael er 1450, nid oedd esgus dros beidio â chael Beibl Cymraeg. Dyna a ddywedodd Syr John Prys yn 1546:

Ac yn awr y rhoes Duw y print i'n mysg ni er amlhau gwybodaeth ei eiriau bendigedig ef, iawn inni, fel y gwnaeth holl gristionogaeth heb law, gymryd rhan o'r daioni hwnnw gyda 'nhw, fel na bai ddiffrwyth rhodd gystal â hon i ni mwy nag i eraill.

A'r un oedd neges William Salesbury yn 1547 ond fod ei nod i'r Cymry yn fwy pendant:

Pererindodwch yn droednoeth at ras y Brenin a'i gyngor i ddeisyf cael cennad i gael yr Ysgrythur lân yn eich iaith, er mwyn y cynifer ohonoch or nad yw'n abl nac mewn cyffelybwriaeth i ddysgu Saesneg ... mynnwch yr Ysgrythur yn eich iaith.
Gallwn glywed o hyd y taerineb yn llais Salesbury. Ond yr oedd meini tramgwydd ar y llwybr i'r sawl a fyddai'n pererindota'n droednoeth at y Brenin.

Yn yr 1530au, yr un adeg ag yr oedd llywodraeth Harri VIII yn troi'r Eglwys yn Eglwys annibynnol ar Rufain, yr oedd y llywodraeth yn cryfhau'i gafael ar y deyrnas, ac yn uno rhannau gwahanol y deyrnas yn dynnach wrth rym ac awdurdod y Brenin. Yn 1536 ac 1542 pasiwyd dwy ddeddf yn llwyr ad-drefnu llywodraeth yng Nghymru. Dyma'r deddfau a elwir heddiw ‘Y Ddeddf Uno'. Ymhlith llawer o newidiadau mawrion, gwaharddwyd defnyddio'r Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. O hynny allan rhaid oedd dysgu Saesneg os oedd dyn am gael swydd gyhoeddus yng Nghymru. Wrth gwrs, yr oedd bron pawb yn siarad Cymraeg ac fe gadwodd y Gymraeg eillle fel iaith diwylliant ar hyd y ganrif. Ond roedd hi wedi ei diraddio'n swyddogol, ac roedd rhai Cymry hirben yn gweld yn eglur beth oedd wedi digwydd. Mae Salesbury yn sôn am 'gynnal yr iaith sydd yn cychwyn ar dramgwydd'. Pan ddaeth y Llyfr Gweddi Gyffredin yn fater o ddeddf gwlad yn 1549, Saesneg yn unig a ganiateid yn eglwysi Cymru. Am y tro cyntaf erioed clywid sain y Saesneg bob Sul ym mhob cwr o Gymru.

Wynebddalen

Darlun 8. Wynebddalen Kynniver Llith a Bann gan William Salesbury, 1551.

Eithriad, wrth gwrs, oedd William Salesbury. Cyfuniad prin a rhyfedd ydoedd o Gymro gwlatgar yr oedd ei galon yn gwaedu dros ddirywiad y Gymraeg, o Ddyneiddiwr a oedd yn awyddus i ddod â manteision addysg newydd Ewrop i Gymru, ac o Brotestant selog a oedd yn awyddus i achub enaid pob Cymro a Chymraes trwy gyfrwng Ysgrythurau yn Gymraeg. Aeth Salesbury ati i gyhoeddi llyfrau Cymraeg i foderneiddio diwylliant hynafol a hen-ffasiwn y Cymry, ac i ddangos hefyd fod y Gymraeg yr un mor ystwyth, mor gyflawn a helaeth ei geirfa ag ieithoedd modern Ewrop, fel Eidaleg neu Saesneg. Byddai angen amser maith arno i gyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg, ond fel tamaid i aros pryd cyhoeddodd yn 1551 gasgliad o'r enw Kynniver Llith a Bann (hynny yw ‘Cynifer o lithiau a phenodau') a oedd yn cynnwys detholiad o ddarlleniadau neu lithiau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin y gallesid (pe na waherddid y Gymraeg) eu darllen yn yr eglwysi. Cyfieithodd ei destunau o'r ieithoedd gwreiddiol, a chredai mai trwy'r Gymraeg yn unig y gellid achub enaid y Cymro. Nid oedd gobaith am ganrif a mwy i gael pob Cymro i ddysgu'r Saesneg yn ddigon da i ddeall crefydd, ac i ddarllen y Beibl yn Saesneg. Yn y cyfamser byddai eneidiau tair cenhedlaeth yn mynd i uffern. Apeliodd Salesbury yn ei ragymadrodd ar i'r esgobion ymgymryd â'r gwaith, ond nid oes sôn iddo gael unrhyw ymateb, ac yn 1553 chwalwyd holl obeithion Diwygwyr fel Salesbury yn sgil marwolaeth Edward VI, a'i olynu gan ei chwaer Mari Tudur, a oedd yn Babyddes selog a di-ildio. Aeth rhai o gyfeillion Salesbury, dynion fel Richard Davies, brodor o'r Gyffin, Conwy, i ymguddio, ac erbyn 1555 roedd Davies yn Frankfurt yn yr Almaen. Aeth eraill i Genefa a dod o dan ddylanwad Jean Calvin yno. Yn Lloegr a Chymru, Lladin oedd iaith yr eglwysi unwaith eto, ac anghofiwyd am gyfieithu'r Beibl.

Byr oedd teyrnasiad Mari, a bu farw yn 1558 ar ôl pum mlynedd ar yr orsedd, pum mlynedd a gofid gan Ddiwygwyr fel blynyddoedd o losgi Diwygwyr wrth y stanc – 'y merthyron Protestannaidd'. Yn 1558 daeth chwaer y Frenhines Mari, sef Elisabeth I, i'r orsedd, a buan yr ailsefydlwyd Eglwys Anglicanaidd a oedd yn gymedrol ei Phrotestaniaeth. Rhoddwyd trefn ar yr Eglwys mewn dwy ddeddf seneddol yn 1559 ac 1563. Yn y deddfau hyn rhoddwyd pwyslais ar unffurfiaeth a disgyblaeth; rhaid oedd i bawb fynd i'r eglwys a chydymffurfio, a dilyn y gwasanaethau yn rheolaidd yn eglwys y plwyf. Saesneg eto fyddai iaith y gwasanaeth yng Nghymru, fel yn Lloegr. Gan fod y fath bwyslais ar gydymffurfio, syndod nid bychan yw deall bod y senedd wedi pasio deddf newydd yn 1563 yn caniatáu darllen yr Ysgrythurau a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg yn yr eglwysi yng Nghymru. Ac nid hynny'n unig; yr oedd hyn yn orfodol ble bynnag yr oedd y Gymraeg yn iaith arferedig. Yn wir, mynnodd y ddeddf fod yn rhaid i esgobion Cymru ac esgob Henffordd (rhaid cofio bod rhannau o Sir Henffordd am y ffin â Chymru yn Gymraeg eu hiaith yn 1563) drefnu'n ddiymdroi i gael cyfieithiadau o'r Ysgrythurau ac o'r Llyfr Gweddi. Mae'n ddirgelwch sut y cafwyd y fath newid yn agwedd y llywodraeth. Barn yr Athro Glanmor Williams am y ddeddf yw:

Gellid yn iawn ddadlau fod Deddf 1563 er cyfieithu'r Beibl cyn bwysiced o ran ei chanlyniadau â Deddf Uno 1536.

Sicrhaodd y ddeddf newydd fod yna barch ac ystyr i lyfrau Cymraeg, a bu'n gyfrifol am wneud Cymru'n wlad drwyadl Brotestannaidd. Hefyd fe roddodd sylfaen i'r Gymraeg ddatblygu i fod yn iaith fodern, i bontio'r bwlch anodd rhwng diwylliant yr Oesoedd Canol a'r Oesoedd Modern.

Yr Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy, lle claddwyd yr Esgob Morgan. Yma hefyd y treuliodd Richard Parry gyfnod fel esgob.  Dyfrlliw gan John Josiah Dodd, (1821?-1894) 19fed ganrif.

Darlun 9. Yr Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy, lle claddwyd yr Esgob Morgan. Yma hefyd y treuliodd Richard Parry gyfnod fel esgob. Dyfrlliw gan John Josiah Dodd, (1821?-1894) 19fed ganrif.

Dywedwyd eisoes fod cyfaill Salesbury, Richard Davies, wedi ffoi i Frankfurt, ond daeth yn ôl yn 1558, yn ŵr o gryn ddylanwad ymhlith y Diwygwyr. Gwnaethpwyd ef am gyfnod byr yn Esgob Llanelwy, ond yn 1561 cafodd ei drosglwyddo i esgobaeth fwyaf Cymru, Tyddewi, ac yno y bu hyd ei farw yn 1581. Roedd yn gyfaill i'r Archesgob newydd, Matthew Parker, a hefyd i brif gynghorydd y Frenhines Elisabeth, William Cecil (yntau yn hanu o deulu Seisylliaid Alltyrynys, ac yn ymwybodol o'i dras Cymreig). Mae'n eithaf posibl (er nad oes prawf o gwbl) mai Richard Davies a oedd yn bennaf cyfrifol am newid barn y llywodraeth ac am lywio'r ddeddf trwy'r Senedd. Sut y llwyddodd i ddarbwyllo dynion fel Parker a Cecil? Ni allwn ond dyfalu. Roedd gan Parker ddiddordeb yn hanes yr Eglwys yn Ynysoedd Prydain. Roedd y syniad bod cyfieithiad o'r Ysgrythurau i iaith yr Hen Frythoniaid yn goroesi yn rhywle, o ddiddordeb dwfn iddo. Mae'n debyg y byddai Richard Davies wedi dadlau bod egwyddorion Protestaniaeth yn gryfach nag egwyddorion unffurfiaeth neu gydymffurfiaeth mewn iaith. Hynny yw, y peth pwysicaf i Gristion oedd ei fod yn cael clywed neges yr Efengyl yn ei iaith ei hun – dyna'r unig ffordd i achub pob enaid gwerthfawr i Grist. Ni ellid gwneud hyn yng Nghymru ond trwy'r Gymraeg. Beth pe bai'r genedl yn parhau i fod yn Gymry Cymraeg? Byddent o leiaf yn Brotestaniaid Cymraeg, ac roedd undod crefyddol mewn teyrnas yn bwysicach peth nag undod iaith. Mae'n debyg mai dadleuon tebyg i'r rheini a roddwyd gerbron y Saeson i'w darbwyllo. Ond gellir tybio hefyd fod rhyw newid eisoes yn yr awyr cyn 1563, newid hinsawdd a'i gwnaeth yn bosibl i wireddu'r newid agwedd mor ddidrafferth. Eisoes yn esgobaeth Llanelwy yn 1561 fe drefnwyd i ddarllen darnau o'r Beibl yn y Gymraeg ar ôl eu darllen yn Saesneg. Mae'n bosibl fod rhan o wasanaeth yr Eglwys a elwir y ‘Litani' wedi ei hargraffu yn Gymraeg yn Llundain yn 1562, ond bod pob copi ohoni wedi mynd ar goll. O leiaf, cafwyd caniatâd i'w hargraffu yn y flwyddyn honno. Mae hyn yn gwneud y newid polisi yn 1563 yn fwy credadwy. Ni ddylid bychanu ei bwysigrwydd.

Os mai Richard Davies a luniodd ddeddf 1563, yna yr oedd yn llawn gobaith a hyder. Gorchymyn y ddeddf oedd bod yn rhaid i'r esgobion gael y Beibl cyfan a'r Llyfr Gweddi yn Gymraeg erbyn 1567 a'u defnyddio yn syth wedi hynny.

Wynebddalen Llyfr Gweddi Gyffredin 1567.

Darlun 10. Wynebddalen Llyfr Gweddi Gyffredin 1567.

Aeth Richard Davies ati yn ddiymdroi i gasglu llenorion o'i gwmpas yn ei blas yn Abergwili, ger Caerfyrddin, un o blasau esgobion Tyddewi, ac erbyn 1567 yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith wedi ei orffen – cyhoeddwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg. Thomas Huet, brodor o Sir Frycheiniog, a phennaeth y cabidwl yn yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi, a gyfieithodd Lyfr y Datguddiad. Richard Davies a gyfieithodd nifer o epistolau Paul, ond Salesbury fwy na thebyg oedd biau'r rhan fwyaf o'r gwaith mawr, y Testament a'r Llyfr Gweddi. Mae'n rhaid cofio bod Davies yn gorfod gweithio'n brysur fel esgob, a'i fod yn aelod o'r pwyllgor a oedd yn paratoi'r Beibl Saesneg, y 'Bishops' Bible', ar gyfer y wasg. Richard Davies yw awdur y cyflwyniad i'r Testament Newydd yn ei ‘Epistol at y Cymry'. Yn ogystal â'r dadleuon Protestannaidd arferol a chyfarwydd, y mae'r esgob yn tynnu sylw at ddadleuon nad ydym ni hyd yma wedi sôn amdanynt, ond sydd yn gymorth i ni ddeall peth o gymhelliad dynion fel Davies a Salesbury (a William Morgan, o ran hynny) a'u cydeglwyswyr yn y cyfnod.

Y ddadl y mae'r esgob yn ei defnyddio yw bod gan y Cymry genhadaeth arbennig yn y byd, bod ganddynt eu cyfraniad arbennig i'w wneud i'r Eglwys yn Ynysoedd Prydain. Daeth Cristnogaeth i Brydain gyntaf yn fuan wedi'r Croeshoeliad, ac yn union syth o Balesteina trwy Joseff o Arimathea, yr Iddew a ofalodd am gladdu Crist. Sefydlodd Joseff Eglwys ym Mhrydain a oedd yn gwbl annibynnol ar Rufain, a hynny ymhlith cyndadau'r Cymry, y Brythoniaid. Gwir bod y Saeson wedi dod i'r ynysoedd hyn yn baganiaid, a'u bod yn y pen draw wedi derbyn Cristnogaeth trwy Awstin o Gaer-gaint, a oedd yn gynrychiolydd y Pab. Gwir hefyd bod y Normaniaid wedi cryfhau gafael Eglwys Rufain ar yr Eglwys yn yr ynysoedd hyn. Ond ar ôl canrifoedd o ddallineb a chaethiwed, yr oedd mab i Gymro, y Brenin Harri VIII, wedi arwain yr Eglwys allan o grafangau'r Pab ac wedi adennill annibyniaeth yr Eglwys. Y Cymry oedd unig ddisgynyddion yr hen Frythoniaid, yr unig rai a oedd yn parhau i siarad eu hiaith. Hwy felly oedd yr unig wir ddolen gyswllt rhwng yr Eglwys Anglicanaidd bresennol a'i dechreuadau. Onid oedd parch yn ddyledus, felly, i'r Cymry a'u hiaith? Myth, wrth gwrs, neu ffug-hanes, ydyw'r chwedl, ond myth a oedd yn help i wneud y Cymry'n Brotestaniaid ac i wneud i'r Saeson barchu'r Beibl Cymraeg.

Tamaid i aros pryd oedd y Testament Newydd yn 1567. Ebe Richard Davies:

Dyma'r naill ran yn barod, yr hon a elwir y Testament Newydd; tra fyddwch yn aros (trwy Dduw ni bydd yn hir hynny) y rhan arall, a elwir yr Hen Destament.

Ond hir fu'r aros. Mae'n debyg bod Salesbury a Davies wedi mynd ymlaen â'r gwaith yn Abergwili ac ymlafnio â'r gwaith aruthrol anodd o gyfieithu'r Hen Destament. Ond wedi peth amser aeth y gwaith i'r gwellt. Anodd gwybod beth oedd y rheswm paham. Genhedlaeth yn ddiweddarach yr oedd Syr John Wynn o Wydir (gŵr y byddwn yn dod ar ei draws yn y stori hon fwy nag unwaith) yn honni bod Davies a Salesbury wedi anghyd-weld ynglŷn ag ystyr un gair a bod hynny wedi bod yn ddigon i beri iddynt roi'r ffidil yn y to. Efallai fod gronyn o wir yn hynny yn symbolaidd, hynny yw bod Davies wedi hen flino ar fympwyon academaidd William Salesbury, ac yn rhag-weld y byddai ei syniadau rhyfedd am orgraff yn gwneud yr Hen Destament yn annarllenadwy. Hefyd ni chafodd y Testament Newydd na'r Llyfr Gweddi fawr o groeso gan y Cymry, ac ni allai hynny ond digalonni'r cyfieithwyr yn Abergwili.

Syr John Wynn o Wydir, noddwr a chyfaill yr Esgob Morgan. Engrafiad gan R. Vaughan, c. 1700.

Darlun 11. Syr John Wynn o Wydir, noddwr a chyfaill yr Esgob Morgan. Engrafiad gan R. Vaughan, c. 1700.

Y prif fai oedd orgraff Salesbury, ei ffordd ryfedd o sgrifennu'r Gymraeg. Roedd dull y Cymry o sgrifennu'r Gymraeg yn weddol sefydlog, yn fwy felly nag orgraff llawer o ieithoedd Ewrop ar y pryd. Ond mynnai Salesbury newid pethau i ddangos tarddiad geiriau a'u cysylltiad â'r Lladin. Nid oedd sacramentau a seremonïau yn ddigon da, rhaid oedd sgrifennu sacramentae a seremoniae. Gan fod eglwys yn dod o ecclesia rhaid oedd sgrifennu eccles; gan dybio rywsut y byddai'r sawl a fyddai'n darllen y Testament a'r Llyfr Gweddi yn gallu ei ynganu fel Cymraeg. Ceisiai Salesbury fodloni siaradwyr tafodieithoedd Gogledd a De, gan roi geiriau'r ddwy dafodiaith i mewn yn gymysg â'i gilydd. Er mwyn dangos helaethrwydd geirfa'r Gymraeg mynnodd ddefnyddio'r amrywiaeth helaethaf posibl o eiriau, yn lle chwilio am gysondeb ac eglurder. Canlyniad hyn oll oedd testun a oedd yn anarllenadwy ac, o'i ddarllen, yn annealladwy. Tystiai rhai mai poen i'r glust oedd clywed personiaid plwyf yn straffaglu i'w ddarllen ar y Sul. Eto, dylid cofio bod William Morgan yn frwd ei ganmoliaeth i gyfieithiad Salesbury.

Barn Syr John Wynn oedd bod cryn swrn o'r gwaith o gyfieithu'r Hen Destament wedi ei wneud pan ddigwyddodd yr anghytundeb rhwng Davies a Salesbury, bod y deunydd wedi'i drosglwyddo i William Morgan, a bod hynny wedi ysgafnu'r baich gryn dipyn iddo. Ond pan ysgrifennodd y geiriau hynny, yr oedd Wynn wedi troi'n elyn i William Morgan ac roedd yn awyddus i fychanu a dibrisio ei gyfraniad. Mae'n amhosibl dibynnu ar eiriau John Wynn. Mae'n amlwg bod Richard Davies yn gymeriad cynnes a chymdeithasol, yn Brotestant brwd a ddioddefodd erledigaeth dros ei ffydd, ond ei fod yn Gymro brwd hefyd. Noddai ddysg y beirdd a'r cywyddwyr, a cheisiai benodi Cymry da i swyddi yn yr Eglwys. Aeth Syr John Wynn ymhellach na hynny a dweud bod Richard Davies yn awyddus i benodi gwŷr o Wynedd, o'i fro ei hun, i swyddi da:

Loving entirely the North Wales men, whom he placed in great numbers ... having ever this saying in his mouth ... I will plant you, North Wales men, grow if you list.

Un o'r bechgyn addawol o Wynedd y mynnodd Davies eu plannu yn ei esgobaeth yn 1572 oedd William Morgan, bachgen nid yn unig o Wynedd, ond o Benmachno, heb fod ymhell o gartref Davies yn is i lawr Dyffryn Conwy. Penodwyd Morgan yn ficer Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth, Sir Aberteifi. Ef oedd y dyn a fyddai'n dod â'r gwaith mawr o gyfieithu'r Beibl i ben, ond nid cyn y flwyddyn 1588.

'Nôl i'r brig

Mae'r testun a'r delweddau hyn dan hawlfraint a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatâd i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.