PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?
PENNOD 2: Pwy oedd William Morgan?
[Mae'r Beibl] yr awrhon, yn ddiweddar, wedi'i gyfieithu, a'i droi i'r Gymraeg, drwy boen a dyfal ddiwydrwydd y gwir ardderchog ddysgedicaf ŵr Dr. Morgan, i bwy un mae holl Gymru byth yn rhwymedig, nid yn unig am ei boen a'i draul yn hyn, cyd bai hynny clodfawr ac addas o ddiolch, eithr hefyd am iddo ddwyn y cyfryw drysor, sef gwir a phurlan air Duw, i oleuni yn gyffredinol i bawb, 'rhwn ydoedd o'r blaen guddiedig rhag llawer, gan adferu eilwaith i'w pharch a'i braint iaith gyfrgolledig ac agos wedi darfod amdani.
(Huw Lewys, Perl Mewn Adfyd, 1595)

Darlun 12. Yr Esgob William Morgan. Darlun dychmygol mewn golch, pen ac inc gan T. Prytherch, 1907.
Mae cryn ansicrwydd ynglŷn â dyddiad geni William Morgan, a'r farn gyffredinol erbyn heddiw yw mai 1545 oedd y flwyddyn ond nid oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â'r man. Fe'i ganed yn y Tŷ Mawr (y Tyddyn Mawr, ebe rhai), Wybrnant, plwyf Penmachno, lle mae'r plwyf hwnnw yn agosáu at blwyf Dolwyddelan, yn yr hen Sir Gaernarfon, yng Ngwynedd. Mae'n debyg mai un o bump o blant ydoedd, yr ail fab i John ap Morgan a'i wraig Lowri. Tenant copyhold ar ystad Gwydir, ger Llanrwst, oedd John ap Morgan, ond tenant gweddol gefnog, yn ddisgynnydd i'r un math o deulu â theulu Gwydir ei hun, hen fonedd Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn ddisgynnydd i o leiaf ddau o sylfaenwyr ‘Pymthecllwyth Gwynedd', sef Hedd Molwynog a Nefydd Hardd. Roedd gwraig John ap Morgan, Lowri, yn ferch i William John ap Madoc ap Ifan Tegin o'r Diosgydd ym Metws-y-coed, yn yr un ardal, ac yn ddisgynnydd i deulu hynafol Marchudd ap Cynan. Cofid yr achau hyn yr adeg honno, ac nid mater o falchder oeddynt bob amser. Pan oedd Syr John Wynn yn cecru'n gas gyda William Morgan byddai'n dannod iddo ei fod yn ddisgynnydd i gaethion neu ‘bondmen', a hynny ar sail traddodiad (sydd yn ymddangos i ni heddiw yn hollol chwerthinllyd) bod Nefydd Hardd, am ryw amryfusedd ganrifoedd ynghynt, wedi ei ddiraddio o fod yn fonheddwr i fod yn gaeth.

Darlun 13. Plas Maenan, Dyffryn Conwy. Cartref uchelwr o gyfnod yr Esgob Morgan. Olew gan J. T. Steadman, 1887.
O'u cymharu â theuluoedd fel Wynniaid Plas Gwydir, digon tlawd oedd teulu Tŷ Mawr, Wybrnant, ac eto roeddynt yn ddigon cefnog i allu fforddio addysg prifysgol i un o'r meibion am flynyddoedd, pan oedd hynny'n beth eithriadol o brin ymhlith teuluoedd o Gymry. Mân foneddigion oeddynt, yn byw mewn cyfnod pan oedd cryn wahaniaeth rhwng yr ychydig a oedd yn ffodus i gydio fferm wrth fferm i greu ystad (fel Wynniaid Gwydir), a'r mwyafrif a oedd yn feibion iau ac yn denantiaid yn talu rhent blynyddol i'r ystadau mawrion. Roedd hen draddodiad di-sail yn honni bod Wybrnant yn ardal lle'r oedd yr hen ffydd Gatholig wedi goroesi, a bod William Morgan wedi ei addysgu'n fachgen gan hen fynach a oedd wedi gorfod ymadael ag un o'r mynachlogydd lleol. Un peth a gafodd yn ei ardal enedigol oedd Cymraeg rhywiog a chyfle i ymgydnabod â diwylliant y beirdd. Dangosai hoffter mawr o'u gwaith ar hyd ei oes, ac fe gadwyd nifer o gywyddau yn canu ei glodydd.

Darlun 14. Tŷ Mawr, Wybrnant, Penmachno. Cartref William Morgan. Lluniad gan Kyffin Williams.
Sut le oedd Tŷ Mawr, Wybrnant? Yn ffodus, y mae'r tŷ yn sefyll hyd y dydd heddiw, ac yn agored i'r cyhoedd. Saif ar ochr nant ym mlaenau Cwm Wybrnant ar lannerch wyrddlas agored, a'r llethrau coed o'i gwmpas. Aeth yr hen dŷ yn adfail rywbryd yn y 18 ganrif, ond fe'i prynwyd gyntaf gan Arglwydd Mostyn ac wedyn gan Arglwydd Penrhyn, a hwnnw a'i hatgyweiriodd yng nghanol y 19 ganrif, a gosod carreg goffa i William Morgan uwchben y drws. Yn ystod y ganrif bresennol daeth Tŷ Mawr, ynghyd â llawer o ystadau'r Penrhyn, i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a hwy sydd â gofal am y tŷ heddiw. O'r tu allan, gyda'i do llechi a'i ffenestri cymharol fodern, mae'r tŷ yn rhoi'r argraff mai ffermdy o ganol y 19 ganrif ydyw, ond y mae muriau'r tŷ yn llawer hŷn na hynny, y rhan helaethaf ohonynt yn mynd yn ôl i ddechrau'r 17 ganrif. Mae peth anghytundeb wedi bod ymhlith yr arbenigwyr ynglŷn ag oed y muriau, ond o ddilyn hen ddisgrifiadau o'r tŷ fel yr oedd cyn yr atgyweirio gan Arglwydd Penrhyn, mae lle i gredu fod cyplau o bren yng nghanol y tŷ yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol. Dyna oedd barn yr hanesydd a'r pensaer lleol, Owain Gethin Jones, ‘Gethin'. Uwchben yr hen ddrws yr oedd arysgrif hynafol yn dweud ‘Heb Dduw Heb Ddim. Duw a Digon', ac ym marn Gethin gellid cymharu'r cyplau a geid yn y Tŷ Mawr â chyplau tebyg a geid mewn tyddynnod cyfagos a oedd yn sicr yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol. Beth am y wlad o gwmpas Tŷ Mawr? Faint o newid fu ynddi hi er amser William Morgan? Yn yr hen amser, wrth gwrs, nid oedd yno ddim o'r fforestydd o binwydd duon a geir heddiw ar y bryniau, a lle mae pinwydd heddiw, yr oedd llaweroedd o fân dyddynnod, cartrefi bugeiliaid y llethrau.
Cawsom achos eisoes i sôn am Syr John Wynn o Wydir. Yr oedd William Morgan yn fab i denant ar ystadau Gwydir, ac yn sicr dyma un o gysylltiadau pwysicaf bywyd William Morgan. Roedd yn gymydog ac yn gyfaill i Wynniaid Gwydir ar adeg o ffyniant i'r teulu, ac ar adeg pan oedd Wynniaid Gwydir ymhlith y teuluoedd mwyaf galluog a diwylliedig ac uchelgeisiol yng Ngogledd Cymru – nage, yng Nghymru benbaladr. I weld rhwysg a gogoniant y Wynniaid ni raid ond ymweld â Llanrwst yn Nyffryn Conwy, a gweld eu beddfeini yn eglwys y plwyf, neu groesi afon Conwy dros y bont hardd i Blas Gwydir ac i gapel bychan Gwydir Uchaf. Gwir bod y plas wedi ei atgyweirio a'i ailadeiladu gryn dipyn er amser John Wynn, ond mae'n ddigon agos at arddull y gwreiddiol i roi syniad eglur o gyfoeth boneddigion Gwynedd yn y 16 ganrif. Cadwai Wynniaid Gwydir gysylltiad agos â'r llys brenhinol, a chefnogi Protestaniaeth, a noddi'r ddysg newydd a'r celfyddydau, gan gynnwys dysg draddodiadol y beirdd. Hyd at ganol y ganrif ddilynol, Cymraeg oedd eu hiaith lafar er eu bod yn rhoi addysg Saesneg i'w plant er mwyn iddynt ddod ymlaen yn y byd. Fel y cawn weld, byddai perthynas William Morgan â'r Wynniaid yn troi yn y pen draw i fod yn un stormus a chwerylgar. Ond hyd at flynyddoedd olaf ei fywyd, mantais fawr iddo oedd y ffaith ei fod dan nawdd teulu Gwydir.

Darlun 15. Plas Gwydir, ar draws yr afon o Lanrwst. Cartref noddwyr William Morgan. Dyfrlliw gan James Bourne (1773-1854)

Darlun 16. Capel Teulu Gwydir yn eglwys Llanrwst. Engrafiad ar bren gan Hugh Hughes, 1823.
Arfer y teulu oedd gwahodd bechgyn galluog o blith plant cymdogion neu denantiaid o gryn sylwedd a chyfoeth i gael eu haddysg wrth draed tiwtoriaid gydag aelodau o'r teulu, a hynny mewn stafelloedd yn yr hen borth, darn o'r plas gwreiddiol sydd yn sefyll yn ddigyfnewid hyd y dydd heddiw. Roedd y ddysg yn ddysg newydd, wrth gwrs, ond roedd yr arfer hwn o gael plant i mewn o deuluoedd eraill yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol, pryd y byddai bachgen bonheddig yn mynd yn page neu'n facwy i ryw lys cyfagos i ddysgu moesau a bod yn annibynnol. Mater o lwc ryfeddol i William Morgan oedd cael addysg ar aelwyd teulu mor ddiwylliedig, a mater o lwc hefyd oedd iddo ddod i wybod, trwy Wynniaid Gwydir, am yr addysg y gellid ei chael yn y brifysgol yng Nghaer-grawnt. Roedd gan Syr John Wynn o Wydir ewyrth, Dr. John Wynn neu Gwynn, a fu'n gymrawd yng Ngholeg Sant loan, Caer-grawnt, er y flwyddyn 1548, a phan fu farw yn 1574 rhoes lawer o eiddo yn waddol i'r coleg hwnnw. Teulu uchelgeisiol oedd y Wynniaid, yn awyddus i'w meibion fynd naill ai i'r brifysgol neu i golegau'r Gyfraith, yr Inns of Court yn Llundain. Wedi Deddfau Uno 1536 ac 1542 daeth yn bwysig i foneddigion wybod manylion y gyfraith Seisnig. Gan fod Dr. John Gwynn wedi bod yng Nghaer-grawnt er y flwyddyn 1548, mae'n rhaid bod William Morgan, wrth fynychu ei wersi yng Ngwydir, yn gwbl gyfarwydd â safonau addysg Caer-grawnt ac yn gwybod bod Coleg Sant loan ar flaen y gad yn yr ymgyrch Brotestannaidd i ddiwygio Lloegr. Ni wyddom a gafodd William Morgan unrhyw gymorth ariannol gan y Wynniaid i fynd i Gaer-grawnt, ond nid oes eisiau esbonio paham yr aeth William i Goleg Sant loan yn fyfyriwr yn 1565.

Darlun 17. Coleg Sant Ioan, Caer-grawnt. Ffotograff, 1881. LLGC Llyfr Ffoto 611
Roedd William Morgan bryd hynny tua ugain oed, ychydig bach yn hŷn na'r darpar-fyfyrwyr fel arfer, ond nid yn eithriadol felly. Mae'n debyg bod mab hynaf Tŷ Mawr, Wybrnant, wedi aros gartref i weithio ar y fferm, gan adael yr ail fab i fynd i'r coleg, a'i fryd fwy na thebyg ar fynd yn offeiriad. Arhosodd yng Nghaer-grawnt o 1565 i 1571. Roedd gan William un ffordd o leihau'r baich ariannol ar ei dad, sef trwy weithio yn y coleg fel sizar, hynny yw, math o 'was bach' i weini ar fyfyrwyr gwell eu byd neu fyfyrwyr o bendefigion yn y coleg. Ar y dechrau gelwid William yn sub-sizar ac wedyn yn proper sizar, a hyn i gyd tra oedd yn gweithio am ei radd Baglor yn y Celfyddydau – B.A. Roedd ganddo nifer o fân ddyletswyddau i'w gwneud o gwmpas stafelloedd y myfyrwyr mwy ffodus, a hynny mae'n siwr yn prinhau'r amser a oedd ganddo i ddilyn ei ddiddordebau ei hun. Ond roedd ganddo ddigon o amser i gyfeillachu â chyfellion yn y coleg, rhai ohonynt yn Gymry a fyddai wedi hynny yn chwarae rhan bwysig yn ei fywyd. Tri o'r Cymry ifainc hyn oedd Richard Vaughan o Nyffryn yn Llŷn, a ddaeth wedyn yn Esgob Bangor, Caer, a Llundain; Edmwnd Prys o Lanrwst, a addysgwyd hefyd yng Ngwydir, ac a ddaeth yn Archddiacon Meirionnydd; a Gabriel Goodman o Ddinbych a ddaeth yn Ddeon Westminster. Ymhlith ei gyfeillion eraill yng Nghaer-grawnt roedd William Hughes a ddaeth yn Esgob Llanelwy, a Hugh Billot (neu Bellott) a ddaeth yn Esgob Bangor a Chaer. Roedd yn gylch deallus a diddorol, yn cyfuno Protestaniaeth bybyr a dyneiddiaeth addysg, ac yn achos rhai, o leiaf, fel Prys a Morgan, hoffter o farddoniaeth Gymraeg. Mae'r ffaith fod cymaint ohonynt wedi llwyddo i gael swyddi uchel yn yr Eglwys yn arwydd bod Cymry yn gallu dod i'r brig, yn wahanol i'r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Nid yw'n syndod bod offeiriaid o Gymry pybyr yn y 18 ganrif yn edrych yn ôl at deyrnasiad Elisabeth I fel rhyw fath o oes aur pryd yr oedd parch i'r Gymraeg a safle i Gymry yn yr Eglwys yng Nghymru.

Darlun 18. Eglwys Gadeiriol Ely, lle'r ordeiniwyd William Morgan yn offeiriad. Ffotograff, 1881. LLGC Llyfr Ffoto 611
Rhwng 1565 ac 1568 gwnaeth William ei radd gyntaf fel baglor, a'i diwtor oedd Sais o Swydd Derby o'r enw John Dakyns. Byddai wedi dysgu Mathemateg, Rhesymeg, Rhethreg ac Athroniaeth, ac astudid cryn dipyn o Ladin yn y broses. Wedyn, o 1568 i 1571 gwnaeth ei ail radd, Meistr yn y Celfyddydau, neu M.A. Ond cyn mentro ar ei gwrs M.A. penderfynodd fynd yn offeiriad ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn Eglwys Gadeiriol Ely yn 1568. Mae'r eglwys hon yn agos at Gaer-grawnt, eglwys hynod drawiadol sy'n sefyll fel llong yng nghanol corstir dyfrllyd Fens dwyrain Lloegr.

Darlun 19. Beibl Hebraeg a fu ym meddiant yr Esgob Morgan, yn cynnwys nodiadau Cymraeg yn ei lawysgrifen ar ystyr ambell air Hebraeg.
I wneud ei radd Meistr rhaid oedd iddo astudio rhagor o Athroniaeth, Seryddiaeth, Groeg, Hebraeg, a Diwinyddiaeth. Astudiodd Hebraeg – iaith yr Hen Destament – o dan athro hynod o fedrus, Antoine Chevallier, Protestant o Ffrancwr a oedd wedi ffoi i'r Almaen yn ystod teyrnasiad Mari Tudur, ac a oedd wedi bod yn athro Ffrangeg ar y Frenhines Elisabeth ei hun. Mae'n bosib bod Chevallier wedi dysgu Ffrangeg iddo hefyd, gan fod ambell un o gyfoeswyr William Morgan yn dweud ei fod yn gwybod yr iaith honno. Daeth y ddysg Hebraeg a gafodd ganddo yn fanteisiol iawn wrth iddo gyfieithu'r Hen Destament, fel y dywed y bardd Siôn Tudur wrth ddiolch am y Beibl ar gywydd:
Cweiriaist, ordeiniaist air Duw,
Cost dibrin troi'r tecst Ebryw.
Mil a chwechant, tyfiant teg,
Oed Duw oedd, onid deuddeg,
Pan y troist bob pennod draw,
I’r bobl drist, o'r Beibl drostaw.
Y mae copi o Feibl Hebraeg yn perthyn i William Morgan wedi goroesi. Bu ym meddiant Arglwyddes Llanofer ac y mae heddiw yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Gellir gweld ar ymylon y ddalen nodiadau manwl William Morgan ar ystyron geiriau Hebraeg.
Roedd Prifysgol Caer-grawnt ar flaen y gad yn yr ymgais i efengylu Lloegr, ac roedd plaid y Piwritaniaid, sef y bobl a oedd yn fwyaf awyddus i symud Lloegr ar hyd llwybr Diwygiad, yn hynod gryf yno. Ond cadw at lwybr cymedrol rhwng y Diwygwyr a'r ceidwadwyr a wnaeth William a'i gyfaill Edmwnd Prys. Ysgrifennwyd cerdd ddychan gan Babydd o'r enw Stephen Valenger yn dwyn y teitl ‘The Cuckold's Calendar', cerdd a oedd yn dychanu ysgolheigion a myfyrwyr yng Nghaer-grawnt, a thrwy chwarae ar eiriau gelwir William Morgan ynddi yn gybydd ariangar – 'More Gain'. Yr oedd Whitgift – a ddaeth wedi hynny'n Archesgob Caer-gaint – yng Nghaer-grawnt ar y pryd, ac y mae'n bosibl ei fod wedi dod i wybod am alluoedd William Morgan a'i fod yn gymedrol ei ddaliadau crefyddol.

Darlun 20. Eglwys Llanbadarn Fawr, lle cafodd William Morgan ei swydd gyntaf. Darlun olew gan arlunydd Prydeinig Fictoraidd, 1895.
Aeth William ymlaen i raddio'n M.A. yn 1571. Ni wyddom yr union ddyddiad y gadawodd Gaer-grawnt, ond cadwodd ei gysylltiad â'i hen brifysgol, gan ddychwelyd yn 1578 i gymryd ei radd yn Faglor mewn Diwinyddiaeth (B.D.), ac yn 1583 enillodd radd Doethur mewn Diwinyddiaeth (D.D.). Daeth tro ar fyd yn 1572 pan gafodd ei benodi gan Richard Davies, Esgob Tyddewi, yn ficer plwyf Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth. Arhosodd yn Llanbadarn am dair blynedd ac y mae'n fwy na thebyg mai yn ystod y cyfnod hwn y daeth ei alluoedd fel ysgolhaig i sylw Richard Davies ac i hwnnw yn ei dro sylweddoli mai Morgan oedd y gŵr i barhau â'r gorchwyl o gyfieithu'r Hen Destament, gorchwyl a oedd yn profi'n drech nag ef a William Salesbury.

Darlun 21. Y Trallwng, lle bu William Morgan yn ficer. Darlun olew gan Edward Days (1763-1804), 1803.
Yn 1575 fe'i penodwyd yn ficer y Trallwng yn Sir Drefaldwyn gan ei hen gyfaill William Hughes a oedd erbyn hynny'n Esgob Llanelwy. Cafodd gryn ffafrau gan William Hughes a roddodd iddo nifer o fywoliaethau eglwysig a oedd yn ‘segur-swyddi', sef swyddi lle nad oedd angen ymweld â'r plwyfi o gwbl, dim ond derbyn y gyflog a phenodi offeiriad arall i wneud y gwaith ar gyfran fach o'r gyflog honno. Fel hyn y cafodd Morgan segur-swyddi rheithoriaeth Dinbych a Llanfyllin a Phennant Melangell. Pwnc llosg, wrth gwrs, oedd amlblwyfiaeth, ac yn naturiol roedd cryn feirniadu ar Eglwyswyr am dderbyn llawer o blwyfi, ond yr oedd hawl gan offeiriaid i gael ambell swydd fel hyn, ac nid oedd hynny'n anghyfreithlon.

Darlun 22. Map printiedig o Gymru gan gyfoeswr i'r Esgob Morgan, Humphrey Lhuyd, c. 1580.
Yn 1578 penodwyd ef gan yr Esgob Hughes yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn Sir Ddinbych, a chyda'r plwyf hwn yn bennaf y cysylltir ei enw am mai yma y bu wrthi'n cyfieithu'r Beibl ac am mai yma y bu hwyaf mewn swydd, o 1578 i 1595. Roedd hefyd yn rheithor plwyf bychan Llanarmon Mynydd Mawr a saif ychydig uwchben Llanrhaeadr yn y bryniau. Saif Llanrhaeadr ei hun mewn cilfach ymhlith bryniau dwyreiniol Mynydd y Berwyn ar ffiniau siroedd Dinbych a Threfaldwyn. Ffrydia afon Rhaeadr i lawr o raeadr uchaf Cymru cyn arllwys i mewn i afon Tanat. Yn union i'r dwyrain y mae plwyf Llansilin, ac ychydig ymhellach i'r cyfeiriad hwnnw mae'r ffin â Sir Amwythig. Fel cymaint o'r ardaloedd am y ffin â Lloegr, yr oedd hon yn ardal gyfoethog ei diwylliant Cymraeg. Yr un flwyddyn ag y penodwyd ef yn ficer Llanrhaeadr cafodd William Morgan ei benodi'n Bregethwr y Brifysgol yng Nghaer-grawnt, arwydd o gryn ffafr, ac arwydd ei fod yn dderbyniol gan awdurdodau'r Eglwys. Mae hyn yn ei gwneud hi'n eithaf posibl ei fod wedi pregethu ar ryw adeg neu'i gilydd wrth groes Eglwys Sant Paul yn Llundain, a dyna a ddywed y bardd Rhys Cain amdano:
Euraist reswm, wers trasyth,
O Groes Bowls, gair a sai' byth.
Saif hen eglwys a hen reithordy Llanrhaeadr hyd heddiw, er bod cryn newid wedi bod ar yr adeiladau. Mae'r pentref hardd yn glwstwr o'u cwmpas, a'r fynwent a gardd yr hen reithordy yn agos at lannau afon Rhaeadr. Yr oedd yno ficer enwog yn y 18 ganrif, gŵr o'r enw William Worthington, ac ef, mae'n bosibl, oedd yn gyfrifol am ran helaethaf y rheithordy presennol, ond gellir gweld fod llawer o ran gefn y tŷ yn hynafol ac o bosibl yn mynd yn ôl i amser William Morgan. Trwy groesi'r fynwent a mynd y tu cefn i'r rheithordy gellir croesi afon Rhaeadr a dringo i fyny i ffin Sir Drefaldwyn trwy elltydd coediog, a gweld golygfeydd hyfryd dros y pentref. Yn ôl traddodiad lleol, byddai William yn hoff o gerdded yma, a mynd i weithio mewn math o ddeildy bychan ym Mhen-y-Walk; eisteddai yno i astudio ar dywydd teg. O weld prydferthwch y llecyn, hawdd credu hynny.
Ond os oedd y man yn eithriadol o hyfryd, yr oedd elfen arall yn dwyn hyfrydwch i'w fywyd hefyd, gan iddo briodi tua 1578 tra oedd yn Llanrhaeadr. Ei wraig oedd Catherine ferch George, merch i rieni digon cyffredin o Groesoswallt – rhaid cofio bod Croesoswallt yn dref Gymraeg i bob pwrpas yr adeg honno – a gweddw ddwywaith trosodd. Hyd y gwyddom bu'n briodas ddedwydd a hapus. Ond yn anffodus, daeth y briodas hon â William i gysylltiad â theuluoedd bonheddig yr ardal, ac arweiniodd hynny ef i ganol helyntion a'i blinodd yr holl amser y bu yn Llanrhaeadr.
Roedd Oliver Thomas, ail ŵr Catherine ferch George, yn frawd i wraig un o deulu Maredudd neu Meredith o'r Lloran Uchaf, fferm fawr (a saif hyd heddiw) y tu mewn i blwyf Llansilin ond heb fod ymhell o bentref Llanrhaeadr. Mawr oedd siom a dicter y teulu pan welsant fod y weddw ifanc, Catherine ferch George, wedi priodi'r ficer William Morgan. Aelod mwyaf uchelgeisiol teulu'r Lloran oedd Ifan neu Evan Meredith, a ddaeth yn gyfreithiwr llwyddiannus, ac ef oedd yn fwyaf dig wrth y rheithor. I wneud y drwg yn waeth, yr oedd nai i Evan Meredith â'i obeithion ar gael gafael ar fferm Maes Mochnant trwy briodi â'r etifeddes yno. Cyn iddo allu cyflawni hyn, yr oedd William Morgan wedi defnyddio'i ddylanwad i berswadio merch Maes Mochnant i briodi â Robert Wynn o Wydir, mab hen noddwr ei blentyndod. Aeth yn ffrae fawr rhwng plaid y Lloran a phlaid Maes Mochnant, a Maes Mochnant yn cyhuddo Evan Meredith o fod yn odinebwr gan nad oedd yn briod mewn glân briodas â'r ferch yr oedd yn cyd-fyw â hi. Rhaid oedd mynd â'r achos i'r Llys Eglwysig, Llys yr Uchel Gomisiwn, a dyfarnodd hwnnw yn erbyn Meredith. Yn ôl traddodiad a gofnodir gan Charles Edwards (yn ei lyfr Hanes y Ffydd Ddiffuant), gŵr a hanai o ardal gyfagos i Lanrhaeadr, ond ganrif yn ddiweddarach, bu achos Evan Meredith o flaen y llys yn Llwydlo. Er y flwyddyn 1577 roedd Whitgift wedi bod yn Esgob Caerwrangon ac yn llywydd Cyngor y Gororau, ac yn Llwydlo y cyfarfu unwaith eto â William Morgan; yno y daeth i wybod am ei waith cyfieithu.
Canfu'r prelad ei odidowgrwydd ef, ac a'i hanogodd ef i'r gwaith bendigaid hwnnw.
Anodd dweud faint o wir sydd yn y chwedl honno, ond mae'n werth cofio am yr holl helyntion hyn wrth feddwl am y ficer ifanc yn mynd ymlaen â'i waith cyfieithu.
Aeth Meredith yn ei flaen i gyd-fyw â'r wraig, Margaret Ellis, er gwaethaf dyfarniad y llys, ond mynnai mai William Morgan oedd wrth wraidd y drwg. Anogodd bawb yn y plwyf i droi yn ei erbyn a gwrthod talu degwm iddo, neu oedi'r degwm a gorfodi'r ficer i ddwyn achosion blinderus a chostus yn eu herbyn i'w herlyn. Mae'r cywyddwyr yn sôn i William gael trafferthion mawrion gyda'i blwyfolion. Yn 1589, er enghraifft, roedd deddf gwlad yn gorfodi personiaid plwyfi i ddod â gwŷr y plwyf ynghyd a'u hyfforddi i fod yn fyddin leol i amddiffyn y deyrnas yn erbyn ymosodiad a allai ddod o Sbaen. Daeth Meredith â chriw o ddynion i bentref Llanrhaeadr ac ymosod ar William Morgan a'i gau yn y rheithordy. Bu'n rhaid iddo ddwyn achos yn erbyn Meredith, a Meredith wedyn yn dwyn achos yn erbyn y ficer. Bu'r ddau am y gorau yn taflu cyhuddiadau at ei gilydd. Cyhuddodd Morgan Evan Meredith o ymosod ar ei gurad Lewis Hughes yn ei dŷ liw nos. Atebodd Meredith mai'r cyfan a ddigwyddodd oedd ei fod ef a chriw o lanciau wedi dod draw i fenthyg telyn gan y curad er mwyn iddynt gael noson lawen yn y tŷ dafarn cyfagos.
Yn 1591 dug Meredith achos arall yn erbyn y ficer gan geisio profi ei fod ef a'i gurad yn dod â milwyr ynghyd nid i amddiffyn y deyrnas ond yn hytrach i ymosod arno ef a'i deulu. Aeth y dadlau a'r gwrth-ddadlau mor gas nes gorfod dod â'r achos gerbron Llys y Seren (y Star Chamber) yn Llundain. Mor ddifrifol oedd y sefyllfa nes bod yn rhaid i William Morgan gario pistol o dan ei fantell er mwyn ei amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau teulu Meredith. Cyhuddodd Meredith y ficer o roi elusen i ychydig bach o tlodion dethol yn unig gan anwybyddu gweddill tlodion y plwyf; yn wir, meddai, gyrrid hwy o ddrws y rheithordy gan gi mawr ‘mastiff'.
Yn yr achos yn Llys y Seren bu'n rhaid i Morgan gyfaddef ei fod yn dal nifer o segur swyddi, a'i fod wedi bygwth nifer o dyddynwyr tlawd o Lanrhaeadr y byddai'n llosgi eu tai i'r llawr pe baent yn parhau i ddwyn coed-tân. Bu'n rhaid iddo gytuno ei fod wedi taro ei fam-yng-nghyfraith ei hun pan oedd hi'n annog gweision Morgan i fynd ati i ymosod yn filain ar weision Meredith. Arwydd yw hynny, wrth gwrs, fod William Morgan yn ceisio cadw'r heddwch. Braidd yn chwerthinllyd, mewn gwirionedd, yw llawer o gyhuddiadau Meredith, er enghraifft bod gwraig y ficer, Catherine ferch George, yn ferch gomon, ei bod yn 'wafer woman', yn mynd o gwmpas o dafarn i dafarn a basged ar ei braich yn gwerthu 'wafers' i'r llymeitwyr. Chwerthinllyd, efallai'n wir, ond roedd yn hynod o anffodus bod y ficer yn ymgecru byth a hefyd â'i blwyfolion. Mae'n bwysig i ni oedi gyda'r achosion hyn am eu bod yn cyfleu anawsterau bywyd person plwyf yn oes Elisabeth. Onid cryn gamp oedd hi fod William Morgan wedi gallu cwblhau ei gyfieithiad o dan y fath amgylchiadau? Yn y pen draw daeth yr ymgecru i ben am fod Syr John Wynn o Wydir wedi ymyrryd, a dod â'r ddwy ochr at ei gilydd a rhoi taw ar y cweryla. Ond yn y broses roedd William Morgan wedi gorfod ymladd llawer o achosion ac wedi colli llawer o'i arian. Gan mai twrnai proffesiynol oedd Meredith nid oedd yntau gymaint ar ei golled.
Er gwaethaf yr holl helynt fe aeth y gwaith mawr o gyfieithu'r Beibl yn ei flaen yn llwyddiannus. Trefnwyd i'r ficer fynd i Lundain yn 1587 ac aros yno am flwyddyn gron i ddelio â'r argraffwyr. Yr oedd hyn yn angenrheidiol gan mai Saeson uniaith oeddynt ac na allent olygu'r gwaith wrth iddo fynd trwy'r wasg. Wedi i'r Beibl ddod allan tua diwedd 1588, yr oedd William Morgan yn ddyn enwog. Roedd eisoes yn adnabyddus trwy'r esgobaeth fel un o'r ychydig a allai bregethu. Mewn adroddiad ar gyflwr esgobaeth Llanelwy ym mis Chwefror 1587 dywedwyd nad oedd ond tri phregethwr yn yr esgobaeth heblaw'r esgob ei hun, sef Dr. Morgan, ei gyfaill Dr. Powel, yr hanesydd a pherson Rhiwabon, a pherson yn byw yn Llanfechain:
There is never a preacher within the said diocese (the Lord Bishop only excepted) that keepeth ordinary residence and hospitality upon his living, but Dr. Powel and Dr. Morgan and the parson of Llanvechen, an aged man about eighty years old.
Un o'r pregethau a draddododd William Morgan oedd un ar achlysur angladd y bonheddwr Syr Ifan Llwyd o blas Bodidris ar fryniau Llandegla, heb fod ymhell i ffwrdd, a hynny ar 12 Mawrth 1587. Yn ôl yr hanes fe argraffwyd y bregeth hon ond mae pob copi ohoni wedi diflannu. Mae'n siwr mai pregeth Gymraeg oedd hi gan fod Llwydiaid Bodidris yn dal i lynu wrth eu Cymraeg ymhell wedi amser William Morgan.
Roedd ei enwogrwydd fel cyfieithydd y Beibl a'i enwogrwydd lleol fel un o ychydig bregethwyr esgobaeth Llanelwy yn ei osod ben ac ysgwyddau yn uwch na phersoniaid plwyf ei genhedlaeth. Gan fod yr awdurdodau Eglwysig yn awyddus i benodi Cymry da i swyddi ar y fainc esgobol, mater o amser oedd hi cyn y byddai William Morgan yn cael ei ddyrchafu'n esgob. Daeth ei gyfle pan symudwyd Gervase Babington, Esgob Llandaf, yn 1595. Honnai Syr John Wynn, yn gwbl nodweddiadol ohono ef, mai ef a gafodd y swydd i William Morgan trwy ohebu â rhyw Mr. Boyer a thrwy hynny ddylanwadu ar Cecil a Whitgift a'r Frenhines. Digon posibl bod Wynn wedi bod o gymorth, ond yr oedd Morgan wedi byw yn Llundain trwy gydol 1587-88 ac wedi troi yng nghwmni dynion fel Whitgift yno, felly nid oedd angen tynnu rhagor o sylw at ei alluoedd a'i rinweddau. Yr oedd angen llenwi dwy esgobaeth yng Nghymru, sef Bangor a Llandaf, a'r awgrym yw mai ei gyfaill Richard Vaughan o Nyffryn oedd i fod i fynd i Landaf. Roedd ef yn Archddiacon Middlesex bryd hynny ac felly wedi cael peth dyrchafiad eisoes. Ond trefnwyd i Vaughan fynd i Fangor a rhoddwyd swydd Llandaf i Morgan. Aeth ef i lawr i Croydon, gerllaw Llundain, lle'r oedd un o blasau Archesgobion Caer-gaint, i gael ei urddo'n esgob. Gwnaethpwyd hynny yn eglwys Croydon gan Archesgob Whitgift ac eraill ar 20 Gorffennaf 1595. Mae'r eglwys a fuasai yno wedi ei hailadeiladu erbyn heddiw, ond ynddi y claddwyd Whitgift yn 1604 ac y mae cerflun ohono yno.

Darlun 23. Eglwys Gadeiriol Llandaf, lle bu William Morgan yn esgob. Engrafiad gan y Brodyr Buck, 1741.

Darlun 24. Eglwys Gadeiriol Llandelwy, lle bu William Morgan yn esgob. Engrafiad gan y Brodyr Buck, 1742.
Aeth William a'i wraig i lawr i'r De. Cawsant fenthyg ceffylau gan Syr John Wynn i fynd ar eu taith hir o Lanrhaeadr, ac yn y De y buont yn byw o 1595 i 1601. Roedd Eglwys Gadeiriol Llandaf rywbeth yn debyg i'r hyn yw hi heddiw, ond roedd yr adeiladau eisoes wedi dechrau dirywio. Un o fwriadau pennaf William Morgan oedd cynllunio i'w hatgyweirio, ond roedd yr esgobaeth yn rhy dlawd, a dirywio ymhellach a wnaeth yr eglwys nes mynd yn adfail erbyn y 18 ganrif. Roedd tlodi'r esgobaeth yn druenus, a phendefigion a brenhinoedd wedi ysbeilio'r tiroedd i gyd; yn wir, roedd ei thlodi'n ddiarhebol. Efallai fod William Morgan yn gwybod y stori am y Sais o Esgob Llandaf a ddywedodd am ei esgobaeth mai 'Bishopric of Af' y dylai fod am fod pawb wedi dwyn y ‘Lland' (y tir). Safai plas yr esgobion ar fryncyn uwchlaw'r eglwys. Fe'i hysbeiliwyd gan filwyr Owain Glyn Dŵr at ddechrau'r 15 ganrif, a'i adael yn adfail, ac mae adfeilion ei byrth hardd yn sefyll hyd heddiw. Felly roedd yn rhaid i William a'i wraig fyw yn yr ail blas, ym mhen draw'r esgobaeth ym Mathern (Merthyr Tewdrig yn llawn) gerllaw Cas-gwent. Mae plas yr esgobion – sy'n dŷ preifat ers canrif a mwy – yn sefyll hyd heddiw mewn llecyn hardd heb fod ymhell o Bont Hafren. Yn Sir Fynwy roedd William yn byw, felly, ac yn y sir honno y cyfarfu ag un o'i broblemau mwyaf fel esgob. Sut oedd dygymod â'r nifer fawr o Babyddion a oedd yno? Sut oedd gwastrodi'r Pabyddion a gâi loches a nodded gan deulu pendefigaidd Castell Rhaglan, Ieirll Caerwrangon? Roedd llawer o waith i'w wneud yn yr esgobaeth, ac yn ôl yr hanes fe'i cyflawnodd yn ddiwyd ac yn gydwybodol.

Darlun 25. Llythyr gan William Morgan at Syr John Wynn, Mai 1601.
Parhaodd â'i waith ysgolheigaidd hefyd yn ddiwyd ac yn gydwybodol, yn ailolygu testun y Testament Newydd at gyfer rhyw argraffiad posibl yn y dyfodol, ac yn gofalu am ailolygu'r Llyfr Gweddi Gyffredin a gyhoeddwyd yn 1599. Yn ôl ei gyfaill a'i ddisgybl ifanc Dr. John Davies (a ddaeth wedyn yn berson Mallwyd), roedd Morgan hefyd yn casglu deunydd geiriadur, peth naturiol i'r fath ysgolhaig ei wneud, ac yntau wedi bod yn ymhél gymaint ag ystyron geiriau amryw ieithoedd. Yn anffodus, diflannodd llawysgrif y geiriadur hwn. Rhoddai anogaeth gref i ysgolheigion Cymraeg yn ei esgobaeth, dynion fel James Parry o Euas (ar ffin Sir Henffordd) a ddechreuodd osod y Salmau ar ffurf caneuon Cymraeg i'w canu yn yr eglwysi (gwaith a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan Edmwnd Prys yn 1621), ac Edward James, person Caerllion, Sir Fynwy, bryd hynny, a weithiodd ar gyfieithiad o bregethau swyddogol Eglwys Loegr gan John Jewel ac eraill, cyfieithiad gwych a gyhoeddwyd yn 1606 ac sy'n adnabyddus fel Llyfr yr Homiliau. ‘Homili' oedd gair y cyfnod am bregeth, ac mae llyfr Edward James – sy'n un o gampweithiau'r Gymraeg – yn dangos dylanwad cryf William Morgan.

Darlun 26. Eglwys Pennant Melangell, un o'r eglwysi lle'r oedd William Morgan yn ficer. Dyfrlliw gan John Ingleby (1749-1808), 1795
Beth bynnag a ddywedwyd amdanynt gan eu plwyfolion yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, roedd William a'i wraig yn hael eu croeso i feirdd a chywyddwyr yn eu plas ym Mathern. Mae nifer o gywyddau moliant a diolch iddynt wedi goroesi gan feirdd megis Huw Machno, Lewys Dwnn a Siôn Mawddwy. Dywed Lewys Dwnn:
Hael a brau iawn, hylwybr yw,
Im erioed am aur ydyw,
Yntau Wiliam yn talu
A gâr fawl y gwŷr a fu.

Darlun 27. Palas Mathern, ger Cas-gwent. Darlun pensil gan C. M. W., c. 1820.
Mwy diddorol na'r cywyddau mawl yw'r cywydd gofyn gan Siôn Mawddwy at William Morgan ar ran Siors Wiliam o Flaen Baglan, yn gofyn i'r esgob am ganiatâd i godi capel anwes yng nghornel pellaf plwyf Glyncorrwg. Roedd Siors Wiliam (bonheddwr a berthynai i linach o noddwyr y beirdd a barhaodd i siarad Cymraeg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif) wedi symud o blas Blaen Baglan (gerllaw Baglan, Port Talbot, heddiw) i Glun y Bont, Cwm-gwrach, a chwyn Siors a'i gydblwyfolion oedd na allent groesi'r mynyddoedd ar dywydd mawr i gyrraedd eglwys Glyncorrwg. A ellid codi capel anwes neu gapel o esmwythdra iddynt ar lannau Gwrach a Nedd?
Mae Siôn Mawddwy yn cyfarch yr esgob yn gyntaf:
Goleunod, awdur glanwaith,
Goleuaist, noddaist ein iaith,
O Roeg ag Ebriw hygwbl,
A Lladin call, dawn y cwbl,
Troist y ddau Destament trostynt
Yn Gymraeg, hoywdeg hynt.
Hyn nis gwnaethid, ddi-lid wledd,
Heb eni mab o Wynedd.
Fel pawb arall, sonia am oleuni yn dod wedi dallineb:
I Gymru, iach fu wych faeth,
Yn deg eich genedigaeth,
I’n dwyn i gyd, enwog iôn,
O dywyllwch, rai deillion.
Daw Siôn Mawddwy at graidd ei gywydd gofyn: ‘Gwas wyf a'm neges yw hyn'. Mae ei noddwr, Siors Wiliam, wedi prynu tir mewn blaeneudir ym mhlwyf Glyncorrwg, ond ysywaeth:
Hir yw ffordd hwn, Brytwn bro,
Hyd i'r eglwys i dreiglo,
A'r gaeaf yn dragywydd,
Iôr ir doeth, pan oero'r dydd.
Odid un cryf, Dydain Cred,
Y llew mwynwych, all myned,
O Lyn Nedd, lawen wiwddawn,
I Lyncorrwg, amlwg iawn.
Ond nid yw ei noddwr am fod heb wasanaeth eglwys, ac felly mae'n gofyn caniatâd i godi capel anwes:
Arnad, f'arglwydd, rhwydd benrhaith,
Y mae'n deisyf mewn dwyswaith,
Cyn daeth cennad i weithio
Capel i'w barsel lle'i bo.
Ar ddiwedd y cywydd mae'n dymuno i ‘Iôr Llandaf' gael ei wneud yn Archesgob Caer-gaint.
Codwyd y capel ar ei ‘barsel' o dir yng Nghlun y Bont, Cwm-gwrach, ac fe saif ei olynydd ar y fan hyd heddiw. Parhaodd disgynyddion Siors Wiliam i addoli yno (er eu bod wedi codi capel arall yn ymyl eu cartref yn Aberpergwm gerllaw) ac roedd un ohonynt, Maria Jane Williams, ‘Llinos', y casglydd alawon gwerin, yn warden eglwysig yno yn y 19 ganrif. Roedd yn werth dyfynnu o'r cywydd am ei fod yn arwydd o hoffter yr esgob o waith y beirdd, ac am ei fod yn symbol o'i arhosiad yn Llandaf, un o adegau hapusaf ei fywyd. Y mae'n arwydd hefyd o adeg hapus yn niwylliant Cymru, adeg o gydweithrediad llawen rhwng y beirdd a'r boneddigion a'r eglwyswyr, a phawb yn defnyddio'r Gymraeg – adeg a oedd i ddiflannu'n rhy fuan.
Yn y flwyddyn 1600 bu farw hen gyfaill William Morgan, William Hughes, Esgob Llanelwy, a bu cryn ohebu ynghylch cael olynydd iddo. Barn cyfaill arall i'r ddau, Gabriel Goodman, Deon Westminster, oedd mai William Morgan oedd y gŵr mwyaf cymwys i fod yn esgob. Ysgrifennodd at Robert Cecil, a oedd wedi dod yn lle ei dad yn gynghorydd i'r Frenhines:
My lord of Llandaff is well known to be the most sufficient man in that country both for his learning, government and honesty of life, and hath also best deserved of our country for his great pains and charges in translating the Bible into our vulgar tongue, with such sufficiency as deserveth great commendation and reward.
Unwaith eto, barn Whitgift oedd mai Morgan oedd y dyn at y swydd gan ei fod wedi clywed gair da amdano gan Gymry'r De a'r Gogledd. Felly, fe'i penodwyd i Lanelwy, a'i orseddu yno yn 1601. Roedd Llanelwy gryn dipyn yn gyfoethocach nag esgobaeth Llandaf a chan fod hawl ganddo i ddal swydd archddiaconiaeth Llanelwy yn ogystal â'r esgobaeth, roedd ei incwm ddwywaith yr hyn ydoedd yn Llandaf.

Darlun 28. Ni lwyddodd yr Esgob Morgan i atal dadfeiliad Eglwys Gadeiriol Llandaf. Engrafiad gan S Hooper 1787.
Felly, aeth ef a'i wraig yn ôl i'r Gogledd i fyw. (Gyda llaw, ni bu plant i Catherine ferch George o'i phriodas gyntaf nac o'r ail.) Fel yn Llandaf, yr oedd plas yr esgobion yn Llanelwy hefyd yn adfeilion, ac aethant i fyw yn nhŷ'r archddiacon, tŷ o'r enw Plas Gwyn ym mhentref Dyserth, ychydig i'r dwyrain o Lanelwy. Yma eto parhaodd eu croeso i'r beirdd. Ysgrifennwyd cywydd croeso iddynt i Lanelwy gan Owain Gwynedd. Ysgrifennodd Rhys Cain gywydd doniol ar ran William Morgan at John Vaughan a oedd yn ficer Abergele, yn diolch iddo am anrheg o wyddau, ond yn dweud bod gwyddau Abergele mor ffyrnig nes lladd gwyddau'r esgob ei hun, ynghyd â'i filgi. Yn union fel y gwnaeth yn Llandaf, creodd yn Llanelwy gylch o gyfeillion llawen a llengar a fyddai'n mwynhau englyn a chywydd gyda'i gilydd.
Yn ôl pob sôn, gwnaeth ei waith yn Llanelwy yn gwbl gydwybodol. Yr unig aelod o'i dylwyth a gafodd nawdd arbennig ganddo oedd ei nai, mab ei frawd, bachgen o'r enw Evan Morgan a benodwyd yn ficer Llanasa yn Sir Fflint. Ond noddai'r ysgolheigion orau y gallai ac un o'r pethau olaf a wnaeth oedd rhoi rheithoriaeth Mallwyd i'w gyfaill a'i ddisgybl Dr. John Davies, un o ysgolheigion mwyaf y Gymraeg. Roedd yr esgob yn heneiddio (yn ôl safonau'r oes honno, beth bynnag) ond yn parhau i weithio ar gyfieithiad newydd o'r Testament Newydd, ac fe'i gorffennodd yn 1603. Aethpwyd â'r llawysgrif i Lundain gan Thomas Salesbury ond diflannodd pan fu'n rhaid i Salesbury ffoi o Lundain o achos y pla. Un enghraifft o waith cydwybodol Morgan fel esgob oedd ei fod wedi talu â'i arian ei hun am roi to newydd ar yr eglwys gadeiriol.
Trist yw gorfod cofnodi ei fod wrth ddychwelyd i'r Gogledd wedi cweryla ac ymgecru unwaith eto, nid yn gymaint â phlwyfolion y tro hwn ond â boneddigion yr esgobaeth. Yn 1602 bu ffrae rhwng yr esgob a thirfeddiannwr grymus o Abergele, David Holland o'r Teirdan, gŵr hynod o ystyfnig a dialgar a pharod i gyfreitha. Ffrae ynghylch degwm plwyf Abergele ydoedd, a bu'n rhaid i Syr John Wynn o Wydir ymyrryd unwaith eto i setlo'r ffrae a helpu ei hen gyfaill William Morgan. Nid oedd cweryla o'r fath yn beth anarferol iawn yn y cyfnod hwn, gan fod boneddigion yn gweld eu cyfle i ymgyfoethogi trwy gael cyfoeth yr Eglwys i'w dwylo. Tristach na'r ffrae â Holland y Teirdan oedd ffrae annisgwyl ym mis Chwefror 1603 rhwng William Morgan a'i hen gyfaill John Wynn. Roedd iechyd yr esgob yn dirywio erbyn hyn. Degymau plwyf Llanrwst oedd asgwrn y gynnen. Ceisiodd Wynn gael yr esgob i roi prydles iddo o ddegymau Llanrwst, a hynny am rent bychan. Gwyddai'r esgob y byddai cryn elw'n mynd yn syth i bocedi John Wynn a gwrthododd eu rhoi. Dywedodd mai er budd a lles yr Eglwys yr oedd yn gwrthod ildio, ond credai Wynn a'i gyfeillion mai bwriad yr esgob oedd dal bywoliaeth Llanrwst ei hun ac ychwanegu'r incwm at ei gyflog ei hun. Digiodd John Wynn yn arw. Teimlai'n chwerw am ei fod ef wedi helpu'r esgob gyda phob math o gymwynasau bob cam o'r daith. Roedd ei deulu wedi addysgu Morgan a honnodd fod William Morgan wedi addo rhoi'r degymau iddo yn y lle cyntaf. Bu cryn ohebu (yn Saesneg) rhwng John Wynn a'r esgob yn 1603 ac 1604, ac yn ei lythyr olaf at Wynn ar 24 Gorffennaf 1604, dywed Morgan ei fod yn gwrthod ildio modfedd iddo a'i fod erbyn hyn yn ddyn claf. Bu yn Lloegr am chwe mis yn chwilio am feddygon a meddyginiaeth i'w wella, ond yn ofer. Dychwelodd i Lanelwy a bu farw yno ar 10 Medi 1604. Claddwyd ef rywle yn eglwys Llanelwy – yn ymyl yr allor yn y gangell, fwy na thebyg – ond nid oes faen coffa iddo yn yr eglwys. Bu ei wraig fyw am flwyddyn wedi hynny. Aeth hi yn ôl i Groesoswallt, ei thref enedigol, ac yno y bu farw a'i chladdu.
Gadawodd William Morgan ewyllys, a'i ysgutorion oedd Dr. John Davies o Fallwyd, ei nai Evan Morgan, John Chambres o Leweni a oedd yn nai i Gabriel Goodman, a John Price, prifathro ysgol Rhuthun. Iawn y dywedodd John Wynn o Wydir mai marw'n ddyn tlawd a wnaeth yr esgob. Tua £110 oedd gwerth ei eiddo, swm bach iawn o'i gymharu ag eiddo unrhyw ŵr bonheddig bryd hynny, ac roedd yn rhaid talu rhai dyledion allan o'r swm yna. Roedd ganddo, yn ôl yr ewyllys, gasgliad o 45 o ddarnau o lestri piwtar, pump o botiau blodau, dau baun a dau alarch. Felly, yr oedd yn hoff o anifeiliaid ac o flodau, ac efallai o bethau prydferth fel llestri piwtar. Difyr a dynol yw'r math yna o fanylion am ei fywyd personol, ond mae'r ewyllys yn dangos bywyd mor syml a dirodres oedd gan William Morgan, ac mor wahanol i rwysg a rhodres boneddigion oes Elisabeth ac lago I. Ni ellir cael gwell cyferbyniad â'i fedd di-enw na beddau Wynniaid Gwydir.