PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?
PENNOD 2: Pwy oedd William Morgan?
Rhoist bob gair mewn cywair call,
Rhodd Duw, mor hawdd ei deall!
(Rhys Cain)
Doctor Wiliam Morgan a gyfieithodd y Beibl drwyddi yn hwyr o amser; gwaith angenrheidiol, gorchestol, duwiol, dysgedig; am yr hwn ni ddichon Cymry fyth dalu a diolch iddo gymaint ag a haeddodd ef. Cyn hynny hawdd yw gwybod mai digon llesg oedd gyflwr yr iaith Gymraeg, pryd na cheid clywed fynychaf, ond y naill ai cerdd faswedd, ai ynte rhyw fath arall ar wawd ofer heb na dysg na dawn na deunydd ynddi.
(Maurice Kyffin, Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr, 1595)
Erbyn heddiw nid yw'n hawdd dweud pa bryd yn union y dechreuodd William Morgan ar y gwaith o gyfieithu'r Beibl. Mynnai Syr John Wynn fod Richard Davies a William Salesbury wedi trosglwyddo cryn dalp o'r gwaith anorffenedig i William Morgan, ac felly nad oedd ganddo gymaint a chymaint o'r gwaith yn weddill i'w wneud. Ond mae sŵn malais yn y geiriau, neu, o bosib, yr oedd John Wynn yn teimlo na allai un gŵr fod wedi cyflawni'r fath gamp mewn amser mor fyr. Pwyllgorau o esgobion ac ysgolheigion a oedd wrthi'n cyfieithu Beiblau Saesneg, fel Beibl yr Esgobion 1568 a'r Beibl Awdurdodedig yn 1611. Dyna'r drefn yn yr ugeinfed ganrif hefyd. Efallai fod William wedi dechrau ar ei dasg gan feddwl bod eraill i fod i ddod ato i'w helpu. Yn wir, yn 1584 mae ei gyfaill Dr. Powel yn siarad am y gwaith fel pe na bai yn fwriad gan William i wneud y cyfan. Byddai'n rhesymol credu ei fod wedi dechrau gyda Phum Llyfr Moses, ac y mae arbenigwyr yn y maes hwn yn credu ei fod wedi gweithio ar y Pum Llyfr rhwng 1579 ac 1583, wedyn ei fod wedi cyfieithu gweddill yr Hen Destament rhwng 1583 ac 1587. Yn ystod 1587 aeth i Lundain i archwilio'r argraffu, ac yn niwedd 1588 roedd y Beibl yn barod.

Darlun 29. Lyfr Cyntaf Moses, neu, Llyfr Genesis, ym Meibl 1588.
Mae rhagair William i'r Beibl yn dangos fod Archesgob Whitgift wedi cynnal ei ysbryd pan oedd yn digalonni:
A minnau ond prin wedi ymgymryd â'r gwaith, byddwn wedi syrthio (fel y dywedir) ar y trothwy, wedi fy llwyr lethu gan anawsterau'r dasg a chan faint y gost, ac ni fyddwn wedi gallu gweld argraffu ond y Pum Llyfr, oni bai i'r Parchedicaf Dad yng Nghrist, Archesgob Caer-gaint, Maecenas rhagorol i lên a dysg, amddiffynnydd mwyaf eiddgar y gwirionedd, a gwarcheidwad tra doeth ar drefn a gweddusdra – oni bai iddo ef lwyddo i gael gennyf barhau gyda'r gwaith.Ystyr 'Maecenas', gyda llaw, yw ‘noddwr hael i'r celfyddydau', fel Maecenas gynt yn Rhufain. Dywed William fod Whitgift wedi gwasgu arno i ddod i Lundain i aros gydag ef ym Mhlas Lambeth, ond fe wrthododd y cynnig am fod Lambeth yr ochr draw i afon Tafwys a'r argraffwyr yr ochr yma, a byddai croesi'r afon byth a hefyd yn ormod o drafferth. Y cynnig a dderbyniodd oedd croeso hael Gabriel Goodman, a oedd erbyn hynny'n Ddeon Westminster, ac yn y deondy wrth ochr Abaty Westminster y bu William yn gweithio am flwyddyn:
Arferwn ailddarllen yr hyn yr oeddwn wedi'i gyfieithu yn ei gwmni ef [Goodman], ac yr oedd mor barod ei gymorth imi, gan fy helpu'n fawr iawn â'i lafur ac â'i gyngor. Hefyd rhoes imi nifer helaeth o'i lyfrau ei hun, a chaniataodd imi ddefnyddio'r gweddill yn rhydd. Trwy gydol y flwyddyn y bu'r llyfr yn y wasg rhoddodd lety imi, gyda chaniatâd mwyaf caredig aelodau'r Cabidwl.Y ‘Cabidwl' oedd swyddogion eraill Abaty Westminster. Nid yw'n syndod fod William Morgan wedi rhoi copi o'r Beibl ar 20 Tachwedd 1588 i lyfrgell Abaty Westminster, lle y mae'n cael ei gadw hyd heddiw.

Darlun 30. Abaty Westminster, lle'r oedd Gabriel Goodman yn ddeon. Engrafiad gan y Brodyr Buck, c. 1740.
Mae'r cyfeiriadau hynod o ganmoliaethus at Whitgift yn gymorth i ddeall sut y talwyd am yr argraffiad. Cred yr Athro Glanmor Williams mai Whitgift ei hun a dalodd y treuliau argraffu. Pam, tybed, yr oedd Whitgift – a chyfeillion iddo, fel Gabriel Goodman – mor awyddus i wneud popeth i gael Beibl Cymraeg o'r wasg yn 1588? Awgrym yr Athro Williams eto yw bod yma gysylltiad â helynt John Penry. Cymro ifanc tanbaid ei Brotestaniaeth oedd Penry, brodor o Langamarch yn Sir Frycheiniog, a aeth i Lundain a throi'n Biwritan selog. Penry oedd awdur nifer o bamffledi gwynias eu sêl efengylaidd a ymosodai'n ddidrugaredd ar esgobion Eglwys Loegr. Mae'n eithaf posibl bod Whitgift wedi ei bigo i'r byw gan ymosodiadau Penry. Ysgrifennodd John Penry rai pamffledi ar Gymru lle y mae'n defnyddio Cymru fel esiampl o esgeulustod yr esgobion, a Whitgift yn eu plith. Ffodd Penry i'r Alban, ond daeth yn ôl, fe'i daliwyd, a'i brofi yn y llys mewn prawf annheg. Whitgift a arwyddodd y warant i'w ddienyddio, ac fe'i crogwyd yn 1593.
Yr oedd 1587, y flwyddyn y daeth Whitgift a Goodman â William Morgan i Lundain i hyrwyddo argraffu'r Beibl, yn flwyddyn anodd a pheryglus i lywodraeth Elisabeth, adeg o gynllwynio yn erbyn y Frenhines, adeg dienyddio Mari Stuart, brenhines y Sgotiaid, a bygythion ymosodiad gan Sbaen. Anodd gwybod beth oedd cryfder Pabyddiaeth yng Nghymru, ond tua 1586-7 roedd Pabyddion wedi argraffu'n ddirgel, mewn ogof yn Rhiwledyn ar arfordir Gwynedd, eu llyfr propaganda Cymraeg, Y Drych Cristionogawl. Yn 1587 cyhoeddodd Penry ei lyfr, An Aequity of an Humble Supplication, lle'r oedd yn lladd ar yr esgobion am eu difaterwch ynglŷn â chyflwr Cymru. O gofio hyn, onid rhesymol yw credu bod Whitgift yn dyheu am weld Beibl Cymraeg yn cael ei gyhoeddi?
Rhagair (Lladin) William Morgan sy'n egluro inni orau beth oedd cymhellion y cyfieithydd. Yn gyntaf i gyd, y mae'n diolch i'r Frenhines am ganiatáu cyfieithu'r ddau Destament a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a chadarnhau hynny yn y Senedd. Dywed fod pobl Cymru'n dod yn fwy cyfarwydd â'r Saesneg bob dydd trwy allu cymharu'r ddwy iaith o'u clywed yn yr eglwysi. Llawer pwysicach na hynny oedd cyflwyno'r gwirionedd i'r Cymry. Yn ddiweddar, ni allai ond un neu ddau bregethu yn Gymraeg am nad oedd yr eirfa ganddynt i fynegi pethau dirgel y Beibl. Nid oedd dynion yn gallu gwahaniaethu rhwng yr Ysgrythurau eu hunain a dehongliadau ac esboniadau arnynt, a hynny am fod y cyfan mewn iaith estron. Rhaid oedd cyfieithu'r Beibl – yr Hen Destament o'r dechrau, a diwygio iaith y Testament Newydd. Os oedd rhai'n ceisio dadlau y dylid gorfodi'r Cymry i ddysgu'r Saesneg yn hytrach na thrafferthu i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, yna yr oeddynt yn euog o esgeuluso'r gwirionedd, ac o ddisodli crefydd yn eu sêl dros undod. 'Fe fydd pobl Dduw yn y cyfamser yn marw o newyn am Ei Air Ef.' Roedd cytgord mewn crefydd yn bwysicach na chytgord o ran iaith. Ni fyddai gwahardd cael Beibl yn y Gymraeg yn gwneud fawr o ddim i hyrwyddo dysgu Saesneg. Mae'n weddol amlwg mai'r ddadl hon dros ddysgu'r Saesneg i'r Cymry a barodd gynnwys y cymal yn neddf 1563, yn gorchymyn gosod y Beibl Cymraeg a'r un Saesneg ochr yn ochr yn yr eglwysi.
Mae'n ddiddorol fod William Morgan yn mynd dros ddadleuon fel hyn, yn eu codi i fyny ac yna'n eu saethu i lawr. Mae'n amlwg ei fod wedi gorfod dadlau'n frwd gyda rhai o blaid ei gyfieithiad. Sonia Kyffin yn ei lyfr yn 1595 am ryw ŵr eglwysig o Gymro a ddywedodd mewn eisteddfod nad oedd hi'n iawn i argraffu unrhyw lyfr Cymraeg, ond yn hytrach y dylid gorfodi'r Cymry ar unwaith i ddysgu Saesneg, ac na fyddai unrhyw les yn deillio o gael Beibl yn y Gymraeg. Hwn a barodd i Kyffin brotestio mewn brawddeg enwog: ‘A allai Ddiawl ei hun ddwedyd yn amgenach?' Gwelsom wrth edrych ar fywyd personol William Morgan ei fod yn gallu troi'n hynod o ystyfnig wrth ymgodymu â boneddigion trahaus. Roedd angen yr un ystyfnigrwydd arno wrth drin gelynion ei gyfieithiad mewn llys a llan.
Beth oedd rhinweddau William Morgan fel cyfieithydd? Roedd yn ddigon o ysgolhaig i drin y deunydd gwreiddiol gan ei fod wedi'i drwytho mewn Hebraeg gan Antoine Chevallier. Yn ail, roedd yn feistr ar Gymraeg cyfoethog ac ystwyth y beirdd, ac yn drydydd, gwyddai sut oedd cael gair Cymraeg at bopeth bron yn yr Hebraeg. Ar yr un pryd, gwyddai sut oedd cyfleu deunydd hynafol y Beibl mewn cystrawen gyfoes a oedd yn osgoi ffurfiau diflanedig. Yn olaf, roedd yn ieithydd naturiol ac yn llenor wrth reddf – efallai mai dyma'r rhinwedd bwysicaf oll, gan fod y reddf hon yn rhoi'r synnwyr iddo i drin deunydd amrywiol yr Hen Destament a'i droi'n llenyddiaeth fawr.
Gwyddai'n iawn mai orgraff Salesbury a andwyodd Destament a Llyfr Gweddi 1567. Dywed John Penry wrthym fod clywed gwasanaeth yn cael ei ddarllen yn merwino clust unrhyw Gymro yn yr eglwys. Aeth William yn ôl, felly, at orgraff draddodiadol y beirdd a'r cywyddwyr, gan osgoi'r rhan fwyaf o eiriau Lladinaidd Salesbury, gydag ambell eithriad fel sanctaidd, lle y dylai fod wedi ei newid i santaidd. Aeth William yn ôl at eglwys a gwrthod eccles. Yn ogystal, osgôdd fenthyciadau dieisiau Testament 1567, fel considro yn lle ystyried, neu scyrsio (o ‘scourge' yn Saesneg) yn lle fflangellu. Defnyddiodd Salesbury'r benthyciadau Saesneg hyn am eu bod ar lafar eisoes yn y Gymraeg. O edrych ar destunau eraill gellir gweld fod ei air entrio yn cael ei ddefnyddio gan eraill, ond myn William Morgan fyned i mewn, sydd yn fwy cwmpasog ond yn burach Cymraeg. Yn rhyfedd lawn, mae William yn defnyddio rhai ffurfiau gweddol dafodieithol ambell waith, er enghraifft, geirie, minne, tithe, lle y byddem ni yn disgwyl geiriau, minnau, tithau. Efallai mai ei fai mwyaf oedd gorddefnyddio cystrawen annormal y frawddeg Gymraeg wrth lunio'i frawddegau, er enghraifft, Yr Iesu a wylodd, yn hytrach nag Wylodd yr Iesu sydd yn naturiol i ni. Nid oedd ei arddull yn gwbl gyson, felly, nac yn gwbl draddodiadol, ond llwyddodd i greu Cymraeg urddasol a oedd yn gynnes ac yn ddealladwy ar yr un pryd, a thrwy hynny greu Cymraeg safonol y cyfnod modern.
Roedd Salesbury a Davies wedi ymgodymu'n lletchwith a chlogyrnaidd â phroblem tafodieithoedd De a Gogledd, gan geisio amrywio geiriau neu eu nodi ar ymyl y ddalen. Nid oedd William wedi byw llawer yn y De, ond y mae'n bosibl ei fod yn gyfarwydd â rhai o lawysgrifau rhyddiaith y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, ac yn y De yr ysgrifennwyd hwy gan amlaf, ac roedd blas y De ar eu hiaith. Dewisodd William rai ffurfiau o'r De a rhai o'r Gogledd: didwyll laeth y gair, nid llefrith, ond agoriadau, nid allweddau'r nef. Nain sydd ganddo, nid mam-gu, ond yn awr a gyda, nid rwan ac efo.
Y ffordd orau i weld rhagoriaeth Cymraeg Beibl 1588 yw cymharu ei gyfieithiad â chyfieithiad Testament a Llyfr Gweddi 1567. Yn Llyfr Gweddi 1567 cynhwyswyd darnau o'r Hen Destament a oedd i'w darllen fel llithiau'r gwasanaeth. Cyfieithwyd Salm 23, ac fe ellir cymharu fersiwn 1567 â fersiwn 1588:
Fersiwn Llyfr Gweddi 1567
Yr Arglwydd [yw] vy-bugeil, ny bydd diffic arnaf.
Ef a bair ym' orphwys mewn porva brydverth, ac am tywys ger llaw dyfredd tawel.
Ef y adver vy eneit, ac am arwein i rhyd llwybrae cyfiawnder er mwyn ei Enw.
A' phe rhodiwn rhyd glyn gwascot angae, nyd ofnaf ddrwc: can y ty vot gyd a mi: dy wialen ath ffon, hwy am diddanant.
Ti arlwyy vort gar vy-bron, yn-gwydd vygwrthnepwyr: ireist vy-pen ac oleo, [a']m phiol a orllenwir.
Sef ddaoni, a' thrugaredd am canlynant oll ddyddiae vy-bywyt, a' phreswiliaf yn hir amser yn-tuy yr Arglwydd.
Fersiwn Beibl 1588
Yr Arglwydd [yw] fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.
Efe a bar i'm orwedd mewn porfeudd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw dyfroedd tawel.
Efe a ddychwel fy enaid, ac a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
A phe rhodiwn ar hyd glynn cyscod angeu nid ofnaf niwed, o herwydd dy [fod] ti gyd â mi: dy wialen, a'th ffon a'm cyssûrant.
Ti a arlwyi fort ger fy mron, yn erbyn fyng-wrthwyneb-wyr: iraist fy mhen ag olew, fy phiol [sydd] lawn.
Daioni, a thrugâredd yn ddiau a'm canlynant oll ddyddiau fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ'r Arglwydd yn dragywydd.
Hawdd gweld ar unwaith mor anghyson oedd orgraff Salesbury. Mae f a v am yr un sain mewn gwahanol eiriau, ac ni ddangosir y treiglad yn vy-pen, ond disgwylir i'r darllenydd wybod mai fy-mhen y dylai ei ddweud. Yn olaf, ceir ambell ffurf or-Ladinaidd, megis oleo yn lle olew. Mae cyfieithiad Salesbury tua'r diwedd yn nes at y cyfieithiad Saesneg – a'm phiol a orllenwir am 'my cup runneth over'. Ond fy phiol sydd lawn sydd gan William Morgan.
Nid mater o iaith yn unig ydoedd; yr oedd gallu William Morgan fel llenor yn rhoi rhagoriaeth ac arbenigrwydd i'w gyfieithiad. Os edrychir ar ei gyfieithiad o Lyfr Genesis, a dilyn rhediad storïau fel stori Jacob ac Esau, neu'r stori am fynd i chwilio am Rebeca yn wraig, neu am Rahel a Lea, neu yn anad dim, efallai, stori Joseff a'i frodyr yn yr Aifft, y mae ei gyfieithiad yn darllen mor llyfn ac ystwyth â phe bai yn destun wedi ei ysgrifennu ddoe. Mae ei Gymraeg yn llifo fel yr afon, ac y mae'n gallu amrywio cymaint lle bo eisiau hynny – gwelir hynny eto yn Llyfr Job lle mae angen cyfleu mawrhydi aruthrol Duw yn gwneud i Job deimlo'n fychanigyn dibwys; yma mae Cymraeg William Morgan yn rhuthro ac yn rhuo â sŵn dyfroedd mawrion. Roedd Salesbury a Davies eisoes wedi cyfieithu'r Testament Newydd, ond yma hefyd y mae ail gyfieithiad William Morgan yn llwyddo i ddyfeisio a chreu geiriau cyfansawdd i gyfleu lled-ystyron anodd geiriau Groeg, iaith a oedd yn enwocach nag unrhyw iaith arall am ei gallu i greu geiriau cyfansawdd. Gallai wneud i'r iaith Hebraeg swnio fel Cymraeg, nes bod ymadroddion cwbl estron yn dal dychymyg y Cymro – er enghraifft, ymadrodd yn dod o stori Dafydd yn aros cyn mentro ymosod ar ei elynion yw'r geiriau ‘trwst (neu sŵn) ym mrig y morwydd'. Un Cymro o bob mil a ŵyr beth yw morwydden, ac eto y mae'n ymadrodd hwylus i gyfleu'r siffrwd lleiaf ym mrigau uchaf rhyw goed neu'i gilydd, a hynny'n tystio bod newid yn yr awel, ac felly yn arwydd o bell bod newid mawr i ddod. Dawn y cyfieithydd yw hon – ni ddaeth yn ymadrodd cyffredin yn Saesneg o gwbl.

Darlun 31. Wynebddalen Beibl 1620
Roedd y diffyg croeso i lyfrau 1567 yn arwydd na ellid cymryd yn ganiataol y byddai unrhyw gyfieithiad o'r Beibl, hyd yn oed o'i gydnabod fel cyfieithiad swyddogol, yn cael effaith am mai'r Beibl ydoedd. Cafodd Beibl 1588 groeso brwd gan bawb, yn arbennig am fod y testun mor hawdd ei ddeall a'i ddarllen, ac yn taro'r glust yn felys ac yn naturiol ar unwaith. Nid oedd William Morgan ei hun yn fodlon ar ei fersiwn o'r Testament Newydd – mae'n debyg am fod gormod o olion Salesbury a Davies ar ei eirfa – a bu'n gweithio am rai blynyddoedd ar fersiwn newydd. Un o olynwyr William yn Llanelwy, yr Esgob Richard Parry, a fu'n gyfrifol am ddod ag argraffiad newydd o'r Beibl o'r wasg yn 1620. Honnodd mai ef oedd yn gyfrifol am y cwbl a'i fod wedi gorfod ailgyfieithu Cymraeg William Morgan a gwella arni. Ond mae arbenigwyr yn credu i'r rhan fwyaf o'r gwaith gael ei wneud gan ei frawd-yng-nghyfraith, Dr. John Davies o Fallwyd, ffefryn-ddisgybl William Morgan, ac ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei gyfnod. Nodwedd yr ail fersiwn hwn yn 1620 yw bod ynddo gryn dipyn o dwtio a chymhennu ac o gysoni ar y Gymraeg, a chryn dipyn o gysoni'r cyfieithiad gyda fersiwn Saesneg awdurdodedig 1611. Beibl 1620 yw sylfaen pob argraffiad arall o'r Beibl, i bob pwrpas, hyd at ganol yr ugeinfed ganrif.
Beiblau mawrion i'w rhoi yn yr eglwysi plwyf oedd Beiblau 1588 ac 1620. Mae Beibl 1620 yn enfawr o ran maint ac yn llawer rhy drwm i unigolyn ei ddal i'w ddarllen ond ar ddesg neu bulpud. Wrth gwrs, yr oedd argraffiadau o'r Llyfr Gweddi yn llai o ran maint, ac roedd darnau helaeth o'r Beibl yn y rheini. Hefyd yr oedd William Morgan wedi trefnu i gyhoeddi yn Llundain yn 1588 fersiwn o'r Salmau yn unig, mewn argraffiad hylaw y gallai unigolyn afael ynddo. Ond symbol o'r Beiblau cynnar hyn yw'r copi sydd yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd – copi wedi ei glymu â chadwyn. Yn 1630 yn unig y cafwyd fersiwn o'r Beibl a allai gyrraedd y cyhoedd – Beibl bychan hylaw, ‘Beibl coron', gan mai pum swllt oedd ei bris. Talwyd am yr argraffiad poblogaidd hwn gan ddau farsiandïwr o Gymry yn byw yn Llundain, Thomas Myddelton a Rowland Heilyn. A dyna ddechrau mynd â'r Beibl i gartrefi Cymru.