LlGC - NLW
Cymraeg | English

Cynnwys

Rhagair


PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?

PENNOD 2: Pwy oedd William Morgan?

PENNOD 3 :Beth oedd arbenigrwydd Beibl 1588?

PENNOD 4 :Beth yw arwyddocad cyfieithu'r Beibl?

PENNOD 4 :Beth yw arwyddocad cyfieithu'r Beibl?

No country in England so flourished in one hundred years as Wales hath done, since the government of Henry VII to this time, in so much that if our fathers were now living they would think it some strange country inhabited with a foreign nation, so altered is the country and countrymen, the people changed in heart within and the land altered in hue without, from evil to good, and from bad to better; the Lord continue his goodness towards us and make us thankful; and now not three years past we have the light of the gospel, yea the whole Bible in our own native Tongue, which in short time must needs work great good inwardly in the hearts of the people, whereas the service and sacraments in the English tongue was as strange to many or most of the simplest sort as the mass in the time of blindness was to the rest of England.

(George Owen, Henllys, Sir Benfro, 1591)

Ar y dechrau, fel y mae Huw Lewys yn sylwi yn Perl mewn Adfyd, roedd Beibl Morgan wedi ei rwymo wrth gadwyn – ‘nid oes cyrchfa ato namyn unwaith yn yr wythnos'. Hyd yn oed fel yna, roedd clywed Cymraeg mawreddog William Morgan bob Sul yn sicr o gael effaith ddofn ar y werin bobl, ac yn gymhelliad i offeiriaid fynd ati i ddysgu darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Effaith ail gyfieithiad Parry a Davies yn 1620 oedd gwneud Cymraeg y Beibl ychydig bach yn fwy hynafol, gan golli ambell ffurf o'r iaith lafar. Cymraeg hynod urddasol hefyd sydd yn Llyfr yr Homiliau gan Edward James (1606). I'r gwrthwyneb, fersiwn poblogaidd, yn defnyddio dulliau gwerinol y Canu Rhydd yw Salmau Cân Edmwnd Prys yn 1621, lle gosodir cyfieithiad urddasol William Morgan ar fesurau syml a chanadwy. Roedd cyhoeddi'r Beibl yn 1588 yn gosod safon o Gymraeg, ac yn hwb i eraill fentro i'r maes. Cawsom achos eisoes i sôn am Perl mewn Adfyd, Huw Lewys, a Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr, Maurice Kyffin. Fe'u dilynwyd gan lyfrau rhyddiaith Cymraeg, nes creu llenyddiaeth grefyddol yn Gymraeg a thraddodiad o drin a thrafod crefydd yn yr iaith.

Map o Sir Benfro, 1602, gan yr hanesydd George Owen, un o edmygwyr yr Esgob Morgan.

Darlun 32. Map o Sir Benfro, 1602, gan yr hanesydd George Owen, un o edmygwyr yr Esgob Morgan.

Cyhoeddwyd y fersiwn poblogaidd cyntaf o'r Beibl yn 1630, a chafwyd nifer o adargraffiadau yn ystod y 17 ganrif. Tua diwedd y ganrif daeth galw cynyddol am ragor o gopïau gan fod cymdeithasau wedi eu sefydlu, megis y Welsh Trust a'r S.P.C.K. (y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol), a oedd yn awyddus i ddosbarthu Beiblau i'r werin bobl. Un person plwyf a alwai ar yr S.P.C.K. yn Llundain am argraffiadau mwy niferus o Feiblau Cymraeg oedd Griffith Jones o Landdowror, a sefydlodd rwydwaith o ysgolion cylchynol yn y cyfnod o 1737 ymlaen, ysgolion a greodd gyhoedd o ddarllenwyr Cymraeg a galw cyson am gopïau o'r Beibl. Yn ei adroddiadau ar yr ysgolion hyn, y Welch Piety, dywedodd Griffith Jones fod Thomas Gouge, sefydlydd y Welsh Trust yn yr 1670au, wedi dosbarthu llaweroedd o Feiblau Cymraeg, ond gan nad oedd ysgolion ar gael i ddysgu'r werin, yr hyn a ddigwyddodd i'r Beiblau oedd iddynt gael eu cloi fel creiriau i'w trysori, heb neb yn eu darllen. Os gwir hynny am ddiwedd yr 17 ganrif, nid gwir fyddai hynny am y 18 ganrif, a chyda moddion addysg dyma'r cyfnod pryd y daeth mwyafrif y Cymry i adnabod eu Beiblau; roedd cyfle wedi dod o'r diwedd iddynt eu darllen drostynt eu hunain. Hyd yn oed ar ddechrau'r 18 ganrif yr oedd digon o adargraffiadau o'r Beibl Cymraeg yn bodoli i alluogi'r ysgolhaig Moses Williams i wneud catalog ohonynt, a hwnnw a ddefnyddiwyd yn sail i lyfr ar hanes y Beibl Cymraeg gan Dr. Thomas Llewelyn yn 1768.

'Y Beibl Bach', 1630, y Beibl Cymraeg cyntaf i'w argraffu i'r cyhoedd.

Darlun 33. 'Y Beibl Bach', 1630, y Beibl Cymraeg cyntaf i'w argraffu i'r cyhoedd.

Map printiedig o wledydd y Beibl allan o Feibl a olygwyd gan Richard Morris, 1746.

Darlun 34. Map printiedig o wledydd y Beibl allan o Feibl a olygwyd gan Richard Morris, 1746.

Yn y 18 ganrif argraffwyd Beiblau yn cynnwys mapiau ysgrythurol, Beiblau eraill a darluniau wedi'u hengrafio ynddynt, a llawer iawn o lyfrau esboniadol, i esbonio adnodau'r Beibl. Yn gynnar yn y 18 ganrif cyhoeddwyd math arall o lyfr a oedd yn gymorth mawr i ddarllenwyr ddefnyddio'r Beibl, a hwnnw oedd mynegai i eiriau'r Beibl, math o gytgordiad lle y gallai'r darllenydd ddarganfod ar unwaith ble yn y Beibl y ceid yr adnod a'r adnod, neu'r gair a'r gair.

Erbyn ail hanner y 18 ganrif roedd nifer o argraffdai wedi codi yma ac acw ar hyd a lled Cymru, ond gan argraffwyr y Brenin yn unig yr oedd yr hawl i argraffu Beiblau, ac eithrio'r hawl a roddwyd i brifysgolion Rhydychen a Chaer-grawnt. Ond gwelwyd bod ffordd o osgoi'r monopoli hwn trwy argraffu testun y Beibl ynghyd â nodiadau helaeth ar ymyl y ddalen, a'i werthu fel 'esboniad' yn hytrach nag fel Beibl. Y Cymro cyntaf i wneud hyn yn llwyddiannus oedd Peter Williams, ac fe ddaeth ‘Beibl Pitar Williams' yn argraffiad hynod boblogaidd.

Erbyn diwedd yr 17 ganrif roedd cryn bwyslais yn Eglwys Loegr ar yr arfer o ddarllen y Beibl gartref a myfyrio arno, ac fe ddaeth yr arfer yn gyffredin iawn erbyn diwedd y 18 ganrif, yn enwedig ymhlith y rheini a oedd wedi ymuno â chymdeithas y Methodistiaid, neu a oedd wedi ymneilltuo o'r Eglwys ac ymuno â sectau fel y Bedyddwyr. Beibl William Morgan a ddefnyddid yn yr ysgolion cylchynol, lle y cafodd miloedd o Gymry eu haddysg, a thua diwedd y 18 ganrif defnyddid ef yn yr Ysgolion Sul a sefydlwyd gan y Methodist, Thomas Charles o'r Bala. Cyfnod mwyaf dylanwadol yr Ysgolion Sul hyn oedd rhwng 1786 a thua 1880. Sefydlwyd cannoedd ohonynt trwy Gymru benbaladr, a gofalodd Thomas Charles am ddosbarthu Beiblau iddynt, yn ogystal â llyfrau gramadeg er mwyn iddynt ddeall Cymraeg cywir, a llyfrau esboniadol fel ei Eiriadur Ysgrythurawl, ‘Geiriadur Charles', clamp o lyfr a allai roi gwybodaeth bellach ar unrhyw bwnc yn y Beibl. Yn ôl y chwedl adnabyddus, fe ddaeth merch bymtheg oed, Mary Jones o Lanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd, i weld Thomas Charles yn y Bala yn 1800. Roedd wedi dysgu darllen, wedi cynilo triswllt a chwe cheiniog dros gyfnod o chwe blynedd, ac wedi cerdded yn droednoeth yr holl ffordd i'r Bala i brynu copi o'r Beibl. Yn ôl yr hanes, dwysbigwyd Thomas Charles gan yr ymdrech a'r aberth i ddylanwadu ar ei gyfeillion yn Llundain, a'u cael i sefydlu'r Feibl-Gymdeithas (The British and Foreign Bible Society) yn 1804, cymdeithas sy'n bod hyd heddiw yn dosbarthu Beiblau ar draws y byd mewn nifer o ieithoedd. Cymaint oedd llwyddiant y mudiadau addysgol ac efengylaidd yn ystod y 18 a'r 19 ganrif, fel y lledodd dylanwad y Beibl i bob cwr o'r Gymru Gymraeg, a chan nad oedd llawer iawn o ddiwylliant seciwlar neu fydol wedi ei argraffu yn Gymraeg, dywedid am y Cymry mai 'cenedl un llyfr' oeddynt, a Beibl William Morgan oedd y llyfr hwnnw.

Cofgolofn y cyfieithwyr ger Eglwys Llanelwy. Ffotograff gan John Thomas (1838-1905), ca. 1885

Darlun 35. Cofgolofn y cyfieithwyr ger Eglwys Llanelwy. Ffotograff gan John Thomas (1838-1905), ca. 1885

Mae'n drawiadol bod nifer o sgrifenwyr Cymraeg cyfnod William Morgan a'r ganrif ddilynol yn sôn am y Beibl Cymraeg fel gorchest genedlaethol yn gymaint ag fel gorchest grefyddol, a bod ei gymorth i'r Gymraeg yr un mor bwysig â'i gymorth i achub eneidiau'r Cymry. Yn absenoldeb llenyddiaeth amrywiol wedi ei hargraffu yn Gymraeg, daeth y Beibl yn ddylanwad hynod o gryf ar ddatblygiad yr iaith. Roedd cael testun mor rhwydd a darllenadwy yn hwb i lenorion eraill ac yn gosod safon o Gymraeg graenus ar hyd y canrifoedd. Er enghraifft, pan oedd ysgolheigion fel William Owen Pughe yn ceisio diwygio orgraff a gramadeg y Gymraeg ar ddechrau'r 19 ganrif, ac yn llwyddo i gyhoeddi geiriaduron a llyfrau eraill yn yr orgraff ryfedd honno, yr hyn a achubodd y Gymraeg oedd synnwyr cyffredin eglwyswyr yn amddiffyn Beibl William Morgan ac yn mynnu cadw at ei Gymraeg ef fel ffon-fesur.

Wrth gwrs, mae'n rhaid cofio bod William Morgan, er mwyn creu Cymraeg a fyddai'n ddigon urddasol i gyfleu ysbryd yr Hen Destament, wedi gosod safon o Gymraeg a oedd yn hen ffasiwn hyd yn oed yn ei gyfnod ef, gan ddefnyddio geiriau mwy hynafol a phurach nag iaith lafar y werin gyffredin bryd hynny. Os edrychir ar y math o Gymraeg ffwrdd-â-hi a geir yng nghaneuon y Canu Rhydd Cynnar yn oes Elisabeth I, gellir gweld fod bwlch llydan rhyngddo a Chymraeg William Morgan. Mae'r bwlch hwn rhwng llafar a llyfr wedi aros hyd heddiw yn y Gymraeg. Anodd rhoi bai ar William Morgan am hynny; bai ar gyfundrefn y Cymry ydoedd, lle'r oedd diffyg unrhyw gyfundrefn addysg yn y Gymraeg rhwng canol yr 16 ganrif a chanol y 18 ganrif. Fel y digwyddodd, cyhoeddwyd Beibl William Morgan yn 1588 ar adeg pan oedd y Gymraeg yn colli statws ac urddas ac yn dechrau ymrannu'n nifer o dafodieithoedd lleol. Yr oedd yr iaith yn mynd ar ei thramgwydd neu'n 'mynd ar gyfrgoll', fel y dywedid amdani. Erbyn diwedd yr 17 ganrif, cwynai nifer o lenorion eu bod yn ei chael hi'n anodd gwybod sut oedd ysgrifennu Cymraeg cywir, ac erbyn dechrau'r 18 ganrif, cwynai dosbarthwyr llyfrau crefyddol yn y Gogledd nad oedd y bobl yn deall pamffledi wedi eu hysgrifennu gan Ddeheuwyr, a'r Deheuwyr yn cwyno na ddeallent lyfrau wedi eu hysgrifennu yn iaith y Gogledd. Cymraeg gwasanaethau eglwys y plwyf, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin a Beibl William Morgan oedd yr unig ddolen gyswllt bron rhwng siaradwyr De a Gogledd cyn i fudiadau addysg y 18 ganrif gael effaith. Pan ddaeth argraffweisg i Gymru, a rhagor o gyfoeth ymhlith y bobl, a phan ddaeth cyfle i addysgu'r werin bobl yn y 18 ganrif, daeth Beibl William Morgan i'w oed fel petai; daeth trwch y boblogaeth yn gyfarwydd â'i Gymraeg. Heb Gymraeg eglur a safonol William Morgan, mae'n anodd gweld sut y gallai Deheuwyr fel Howell Harris, Williams Pantycelyn a Thomas Charles fod wedi pregethu'n gyson trwy Ogledd Cymru a throi'r Gogledd at Fethodistiaeth gyda'r fath lwyddiant ysgubol erbyn diwedd y 18 ganrif.

Mor gynnar â 1595, achwynodd Maurice Kyffin (braidd yn orddifrifol, efallai) mai rhyw ddiwylliant pen-ffair oedd gan Gymru, diwylliant o chwedlau a chaneuon ysgafn a diddyfnder, diwylliant difyr a llawen, nad oedd yn bwydo'r deall a'r meddwl. Erbyn y 18 ganrif roedd cymdeithas y Cymry wedi newid, a nifer fawr o unigolion meddylgar wedi ymddangos a oedd yn chwilio'n ddifrifol am fwyd i'r meddwl. Caent hynny wrth fyfyrio'n dawel ar y Beibl a'r esboniadau arno. Caent hyn yn Gymraeg, a daeth y diwylliant meddylgar hwn yn sylfaen i gymaint o ddiwylliant Cymraeg modern. O safbwynt yr iaith ei hun, roedd William Morgan wedi ymddangos ar yr unfed awr ar ddeg, ac wedi rhoi cyfle newydd i'r Gymraeg fod, ymhen amser, yn iaith fodern. Ni wnaethpwyd hyn yn yr 16 ganrif i'r ieithoedd Celtaidd eraill. Heb sôn am yr achosion eraill am eu dirywiad, ni wnaethpwyd fawr ddim i newid statws a bri'r iaith Wyddeleg neu'r Llydaweg, er enghraifft, er bod llawer iawn rhagor o bobl yn siarad y ddwy iaith hynny nag oedd yn siarad Cymraeg.

I ddynion fel William Morgan, roedd purdeb ac ardderchowgrwydd a helaethrwydd y Gymraeg yn bwysig, ond pwysicach o lawer oedd achub eneidiau'r Cymry. I Saeson a oedd yn barod i helpu, fel yr Archesgob Whitgift, dyma oedd yr unig gymhelliad, unig ddiben cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. I'r Protestant pybyr, nid oedd modd i'r unigolyn gael ei achub heb iddo ddeall ei sefyllfa druenus fel pechadur yn gyntaf, a chael tröedigaeth a throi at Dduw. Ni allai ddechrau sylweddoli beth oedd cyflwr enbyd ei enaid tragwyddol heb iddo glywed neges Crist yn ei iaith ei hun. Lleiafrif bach o'r Cymry a ddeallai Saesneg ac felly nid oedd gobaith i'r mwyafrif mawr yn eu dallineb uniaith Gymraeg. Felly y byddai am ganrif a mwy, a chenhedlaeth neu ddwy neu dair o Gymry uniaith yn mynd i uffern. Roedd sefyllfa felly'n wrthun i unrhyw Brotestant fel Whitgift.

Mae'n bosibl bod rhai, yn Gymry a Saeson, yn gwrando ar apêl dadleuon hanesyddol rhai fel Richard Davies mai'r Cymry oedd etifeddion y Brythoniaid hynny a dderbyniodd neges Crist gyntaf i gyd oddi wrth Joseff o Arimathea, ac felly bod cyfiawnhad i Feibl yn y Gymraeg er mwyn i'r Cymry gydnabod eu rhan yn nhraddodiad Cristnogol Ynysoedd Prydain. Yn sicr, roedd digon o Gymry a Saeson ar ddiwedd yr 16 ganrif yn ofni bod y Cymry, na allent glywed neges a chenhadaeth Eglwys Loegr, mewn perygl o droi at Gatholigiaeth. Ystyrid Cymru'n wlad hen-ffasiwn lle'r oedd arferion yr Oesoedd Canol wedi goroesi. Beth pe bai'r Sbaenwyr yn ymosod yn fuan? A fyddai'r Cymry'n debygol o ochri gyda hwy? Hyd yn oed mewn plwyf pellennig fel Llanrhaeadr-ym-Mochnant roedd William Morgan – gyda help milwr a ddaethai adref o ryfeloedd yn erbyn Sbaenwyr yn yr Iseldiroedd – yn drilio'r pentrefwyr mewn gwarchodlu 'Home Guard' rhag ofn i Sbaenwyr lanio yn rhywle. Roedd llawer o fynd a dod ar y moroedd rhwng Cymru a Sbaen. Beth pe bai'r Cymry yn troi yn erbyn y Saeson fel roedd y Gwyddelod yn ei wneud yn y cyfnod hwn? Beth pe bai Beibl Cymraeg yn help i iaith leiafrifol fel y Gymraeg i oroesi? Pris bychan i'w dalu oedd hynny o'i gymharu â gwerth ennill teyrngarwch y Cymry i Eglwys Loegr.

Canlyniad cyfieithiad 1588, felly, oedd prysuro tröedigaeth y Cymry i fod yn Brotestaniaid pybyr. Wrth gwrs, roedd holl rym ac awdurdod llywodraeth Llundain yn gorfodi'r Cymry i newid, ond gwnaethpwyd y ffordd yn llawer haws iddynt newid trwy gael Beibl a Llyfr Gweddi a phopeth arall yn Gymraeg. Beth pe na bai'r Cymry wedi cael eu Beibl? Beth pe na baent wedi troi'n Brotestaniaid pybyr? Beth pe baent wedi glynu'n wargaled neu'n arwrol at Gatholigiaeth? Ni ellir bod yn sicr, wrth gwrs, ond gwyddom fod y Saeson wedi ystyried cynlluniau i blannu trefedigaethau o Brotestaniaid teyrngar o Saeson trwy Gymru. Byddai trefedigaethau felly wedi bod yn ddigon i ladd y genedl yn yr 16 a'r 17 ganrif, o gofio mor gryf oedd Lloegr ac mor fach oedd poblogaeth Cymru. Ni ddigwyddodd hyn; fe drodd y genedl yn Brotestaniaid ufudd, rhai ohonynt yn Brotestaniaid pybyr. Mae'n wir ein bod yn dueddol o droi pob rhaid yn rhinwedd. Mae perygl mewn dadlau felly. Ond o ystyried y bygythion i barhad y Cymry fel cenedl a oedd yn bodoli yn yr 16 a'r 17 ganrif, ac o gofio bod y Beibl Cymraeg wedi troi'r Cymry'n genedl o Brotestaniaid, gellir dweud fod William Morgan wedi rhoi cyfle i'r genedl ei hun oroesi.

'Nôl i'r brig

Mae'r testun a'r delweddau hyn dan hawlfraint a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatâd i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.