LlGC - NLW
Cymraeg | English

Cynnwys

Rhagair


PENNOD 1: Pam roedd eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg?

PENNOD 2: Pwy oedd William Morgan?

PENNOD 3 :Beth oedd arbenigrwydd Beibl 1588?

PENNOD 4 :Beth yw arwyddocad cyfieithu'r Beibl?

Rhagair

Rwyf yn ddiolchgar i Bwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl am fy ngwahodd yn y lle cyntaf i ysgrifennu hanes byr y cyfieithiad hwnnw. Diolch i staff y Cyngor Llyfrau Cymraeg am eu cymorth wrth baratoi'r llawysgrif ar gyfer ei chyhoeddi, i'r Athro Emeritws Glanmor Williams a'r Athro R. Geraint Gruffydd am ddarllen y llawysgrif ac am lawer o awgrymiadau gwerthfawr, ac i Mr. Paul Joyner am ei gyngor a'i gymorth wrth ddewis a dethol y lluniau.

Fel rheol, y drefn wrth ysgrifennu llyfr fydd cael testun, ac yna addurno'r testun hwnnw â lluniau ond yn achos y llyfr hwn, dewisais y lluniau yn gyntaf ac wedyn ysgrifennu'r testun, a'u cadw hwy mewn golwg. Rwyf wedi hepgor nodiadau, ac er mwyn hwyluso'r darllen diweddarais orgraff y dyfyniadau (Saesneg a Chymraeg). Wrth imi ddyfynnu o ragair Lladin Dr. Morgan i Feibl 1588, defnyddiais gyfieithiad Mr. Ceri Davies, Caerdydd, sydd wedi ei gyhoeddi yn ei lyfr Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Caerdydd 1980).

Prys Morgan Abertawe 1988


Mae'r testun a'r delweddau hyn dan hawlfraint a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatâd i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.