Blog - Casgliadau @cy

Postiwyd - 07-08-2014

Casgliadau @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Cofnodion coll yr Eisteddfod Genedlaethol

Picture 511

Rhestr Testunau Eisteddfod Aberdâr

Ddechrau’r flwyddyn cysylltodd Llyfrgellydd Ymchwil Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr â’r Llyfrgell trwy ein gwasanaeth ymholiadau yn cynnig i ni gyfansoddiadau a phapurau gweinyddol Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1956. Mae sawl bwlch gyda ni yn ein daliadau o gyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1950au felly dyma groesawu’r rhodd annisgwyl hon. Ar ôl dros hanner canrif dyma nhw’n gweld golau dydd unwaith eto pan gawsant eu trosglwyddo ataf i’w hychwanegu at goeden archifol Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau.

Cystadleuaeth boblogaidd iawn yn Aberdâr oedd yr englyn ‘Craith’ gyda 236 o ymgeiswyr. Roedd lle amlwg i’r ddrama yn nhestunau’r eisteddfod gyda nifer fawr o gystadlaethau gan gynnwys dramâu byrion addas ar gyfer y Nadolig, drama i blant o dan 11 oed, yn seiliedig ar unrhyw chwedl Gymreig a nifer o drosiadau i’r Gymraeg. Yr oedd cystadleuaeth arbennig i rai o dan 18 oed yn yr Adran Fwyngloddiaeth, sef ysgrifennu traethawd: ‘Discuss the problem of intensive mechanisation at the coal face’. Ymhlith y cyfansoddiadau hefyd mae llyfryn Cymraeg addas i blant ysgol o 11 i 13 oed ar Henry Richard; cerddi coffa i W. J. Gruffydd; dychangerddi: ‘Ffurflenni’; stori ar gân: ‘Lewsyn yr Heliwr’ a thraethawd: ‘Disgrifiad manwl o unrhyw dri o hen chwaraeon Cymru’.

Mathonwy Hughes2

Seremoni cadeirio Mathonwy Hughes gyda’r Archdderwydd Dyfnallt a Cynan wrth ei ochr

‘Gwraig’ oedd testun yr awdl a ‘Wil’a ddaeth i’r brig sef y bardd a’r golygydd Mathonwy Hughes (1901-1999), awdur yr ‘awdl ogleisiol’ hon. Yr oedd y gadair yn rhoddedig gan Gymdeithas Cymry Johannesburg, De Affrica. Y tri beirniad oedd T. H. Parry-Williams, Geraint Bowen a John Evans. ‘Yr unig un yn y gystadleuaeth hon, i’m tyb i, sy’n sicr ohono’i hun fel bardd ac artist ydyw Wil’ yn ôl Geraint Bowen. ‘Awdl wan iawn mewn cystadleuaeth wan oedd yr awdl fuddugol’ oedd barn Alan Llwyd amdani.

Cyflwynwyd papurau Mathonwy Hughes i’r Llyfrgell yn 2000 ac yn eu plith mae’r awdl hon a chyfarchion ar ennill y gadair. Mewn datganiad i’r wasg (Papurau Mathonwy Hughes R1/4) disgrifiwyd y gadair fel un o dderw Cymreig gyda ‘cushion of Dunlopillo from Dunlop’s factory at Hirwaun, covered in the fleece of a Welsh ewe bred at Dyffryn farm, Hirwaun’. Cyfforddus iawn!

Yn anffodus nid oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y goron, a oedd yn rhoddedig gan Lefi D. Jones, Johannesburg, sef ‘Drama fydryddol a’r testun yn agored’, a’r tri beirniad oedd Thomas Parry, D. Tecwyn Lloyd a J. Ellis Williams. Y Parchedig W. T. Gruffydd oedd enillydd y fedal ryddiaith am gyfres o erthyglau gwreiddiol a gyhoeddwyd fel Y pwrpas mawr neu helynt yr atom ac erthyglau eraill yn 1957.

Bu Aberdâr yn gartref i’r eisteddfod ar dri achlysur hyd yma – 1861, 1885 a 1956. Tybed a fydd yr ŵyl yn ymweld â Chwm Cynon eto yn y dyfodol?

Ann Francis Evans

Postiwyd - 16-07-2014

Casgliadau @cy

Archifau newydd eu rhyddhau

Mae’r rhestr isod o archifau sydd wedi eu hychwanegu yn ddiweddar i’r Catalog Arlein yn dangos sut y gall y Llyfrgell ddiwallu anghenion yr ystod eang o ddefnyddwyr sy’n chwilio am ffynonellau gwreiddiol er mwyn hybu eu hymchwil. Mae’r pynciau a gynrychiolir yn yr archifau yn cynnwys archeoleg, celf a cherflunio, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ynghyd â hanes lleol a theuluol.

Mae casglu papurau unigolion ‘sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl’ wedi cael sylw amlwg ym Mholisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell o’r cychwyn cyntaf. Mae casgliadau o’r fath yn anhepgor, nid yn unig ar gyfer dibenion bywgraffyddol, ond oherwydd eu bod hefyd yn medru taflu goleuni ar y pwnc dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth werthfawr ar unigolion amlwg eraill sy’n rhannu’r un alwedigaeth, neu’n rhannu diddordebau tebyg. Felly, tra bod papurau Jonah Jones (1919-2004) yn adlewyrchu ei waith fel cerflunydd, arlunydd ac awdur, mae presenoldeb y llythyrau ato gan gylch eang o ffrindiau a chydweithwyr, megis Melvyn Bragg, John Petts a Jan Morris, yn ychwanegu at botensial ymchwil yr archif. Yn yr un modd, mae papurau Cyril Fox (1882-1967) yn cynnwys nid yn unig ei bapurau gwaith fel archeolegydd, ond hefyd gohebiaeth bersonol a phroffesiynol, a phapurau a gasglwyd gan ei fab ar gyfer paratoi bywgraffiad ei dad.

Mae’n amserol cwblhau’r gwaith catalogio eleni ar gasgliad Jeff Towns (Dylan Thomas) yn yr un flwyddyn â Gŵyl Dylan Thomas 100 (http://dylanthomas100.org/cymraeg/cartref/) sy’n dathlu geni un o gewri llenyddol mwyaf Cymru. Dyma archif a drosglwyddwyd i’r Llyfrgell gan Jeff Towns, llyfrwerthwr hynafiaethol o Abertawe sydd, am flynyddoedd maith, wedi mynd ati’n fwriadol i gasglu llyfrau, ffotograffau, llawysgrifau, a deunyddiau eraill a grëwyd gan, neu sy’n ymwneud â Dylan Thomas. Mae’r archif yn cynnwys sgriptiau, gohebiaeth, rhaglenni a phapurau yn ymwneud â chyhoeddi Dan y Wenallt, ynghyd â chynyrchiadau radio, llwyfan, a ffilm o’r ddrama, 1953-2005. Ceir hefyd llythyrau gan Dylan Thomas, a llythyrau a phapurau ei wraig Caitlin, eu tri plentyn, a’i rieni, 1935-2007.   Gellir gweld rhai o’r eitemau o’r archif yn arddangosfa aml-gyfrwng y Llyfrgell (http://www.llgc.org.uk/cy/ymweld/pethau-i-wneud/arddangosfeydd/dylan/) sy’n gyfle unigryw (tan 20 Rhagfyr 2014) i ddathlu bywyd a gwaith y llenor eiconig Cymreig.

 

DylanThomas Elegy Notes_ c. David Higham Associates

Drafftiau cynnar, yn cynnwys geiriau, ymadroddion, a rhestr o ffurfiau penillion posib, wedi’u hysgrifennu gan Dylan Thomas wrth gyfansoddi’r gerdd anorffenedig ‘Elegy’ i’w dad yn 1953.

 

Cynnyrch sefydliadau neu gwmnïau, yn hytrach nag unigolion, yw’r tair archif arall sydd wedi eu hychwanegu at y Catalog Arlein yn ddiweddar. Yn gyntaf, llawysgrifau a phapurau Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru sy’n cynnwys nifer helaeth o lawysgrifau cerddorol gan gyfansoddwyr Cymreig amrywiol, gan gynnwys Alun Hoddinott, J. R. Heath, Arwel Hughes ac Ian Parrott; yn ail, cofnodion Cwmni Roberts & Evans, Cyfreithwyr, Aberystwyth, sef papurau o swyddfa’r Cwmni ynghyd â phapurau nifer o gleientiaid sy’n cynnwys gwybodaeth werthfawr am nifer o deuluoedd a stadau, yn bennaf yng Ngheredigion; ac yn drydydd, archif stad Wynnstay sy’n cynnwys cofnodion stadol a theuluol, 1183-1946, teulu dylanwadol Wynn a Williams Wynn o Wynnstay, sir Ddinbych, a oedd yn berchen ar diroedd ledled Gogledd Cymru. Mae’r archif nid yn unig yn cynnwys cofnodion, megis dogfennau tir, llyfrau rhent a chyfrifon, yn ymwneud â gweinyddu’r stad o ddydd i ddydd, ond hefyd ceir gohebiaeth deuluol a stadol; llawysgrifau hynafiaethol, cyfreithiol a llenyddol; siarteri cynnar a dogfennau tir, 1183-1676, yn ymwneud ag Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell, ger Y Trallwng, sir Drefaldwyn; rholiau cyfrifon y Frenhines Henrietta Maria, 1627-1649; ynghyd â chofnodion maenorol a chyfreithiol, a phapurau’n ymwneud ag etholiadau seneddol. Ychydig o archifau stadol yn y Llyfrgell sy’n cynnwys gymaint o gofnodion amrywiol o ddiddordeb i ystod eang o ddefnyddwyr, a’r gobaith yw y bydd y dasg enfawr o drefnu archif mor sylweddol (182 o flychau a 591 o gyfrolau) yn caniatáu i ddefnyddwyr y presennol a’r dyfodol fanteisio ar gyfoeth a photensial yr adnodd yma.

 

Wynne Stay, seat of Sir Watkins Williams Wynne' by John Ingleby, (1749-1808)

‘Wynne Stay, seat of Sir Watkins Williams Wynne’ gan John Ingleby, (1749-1808)

 

Sir Cyril Fox Papers

Jonah Jones Papers

Roberts & Evans, Aberystwyth (Solicitors) Records

Jeff Towns (Dylan Thomas) Collection

Welsh Music Information Centre (WMIC) Manuscripts and Papers

Wynnstay Estate Records

 

Alwyn Roberts

 

Postiwyd - 10-07-2014

ArAgor / Casgliadau @cy

Dechrau da i #ArAgor

Rydym wedi cael ymateb gwych i’n prosiect ymchwil #ArAgor wedi i mi son amdano yn fy nghyflwyniad ar ‘Werth bod yn Agored’ yn nigwyddiadau Wythnos Arloesedd Digidol Cymru ddydd Llun. Mae’r prosiect yn ystyried sut rydym yn dangos neu’n mesur gwerth ac effaith rhannu casgliadau yn agored.

Mae rhai wedi holi am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn rydym yn chwilio amdano. Dyma rai mathau o wybodaeth a fyddai o ddiddordeb i ni:

  • enghreifftiau o ffyrdd y mae casgliadau digidol (eitemau unigol, setiau a chasgliadau cyfan) wedi eu defnyddio ar ôl cael eu rhyddhau o gyfyngiadau (e.e. gweithiau neu gynnyrch deilliadol, gwasanaethau neu raglenni sy’n seiliedig ar gasgliadau agored);
  • allbynnau ymchwil i fodelau busnes agored a sut y mae’n cymharu â modelau mwy caeedig;
  • dulliau o arddangos gwerth ac effaith gwneud casgliadau digidol yn agored (e.e. mesur ac – os yn bosibl – rhoi gwerth ar ymwybyddiaeth brand ac enw da)
  • dulliau o ddarganfod sut mae casgliadau digidol yn cael eu defnyddio unwaith maent yn agored (e.e. chwilio am ddelweddau am yn ôl)

Rhowch wybod i ni os bydd gennych unrhyw wybodaeth i’w rannu â ni, os gwelwch yn dda! Gallwch adael sylwadau ar gofnodion blog, trydar gan ddefnyddio’r hashnod #ArAgor, neu gallwch anfon ebost at hawliau@llgc.org.uk

Postiwyd - 06-07-2014

ArAgor / Casgliadau @cy

Cychwyn prosiect ymchwil sy’n astudio gwerth ac effaith rhannu casgliadau digidol yn agored!

geoff_charles_billy_meredith

 Pa effaith a geir o rannu casgliadau digidol yn agored? Pa werth y mae mynediad agored yn ei gynhychu i’r defnddiwr, i’r gymdeithas a’r economi ac i’r sefydliad sy’n rhannu ei gasgliadau? Sut ellir mesur gwerth ac effaith casgliadau digidol agored? 

Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn ceisio eu hateb mewn prosiect ymchwil a elwir yn #ArAgor sy’n cael ei lawnsio dan raglen ymchwil y Llyfrgell Genedlaethol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod atebion i’r cwestiynau hyn, ac os oes gennych unrhyw brofiadau, wybodaeth neu dystiolaeth a allai gyfrannu i’r prosiect hwn, ymunwch â ni os gwelwch yn dda trwy gynnwys #ArAgor yn eich trydar a chofnodion ar y testun hwn neu gysylltu â ni trwy hawliau@llgc.org.uk.

Postiwyd - 19-05-2014

Casgliadau @cy

Lluniau Syr T. H. Parry-Williams

Picture 271Roedd y Llyfrgell yn falch iawn o  dderbyn yn ddiweddar  dau ddarlun olew o T. H. Parry-Williams (1887-1975). Yr oedd yr Athro Thomas Herbert Parry-Williams yn ysgrifwr, ysgolhaig a bardd. Fe’i ganed yn Rhyd-ddu, sir Gaernarfon. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1908 ac mewn  Lladin yn 1909, a bu’n astudio yn ddiweddarach yn Rhydychen, 1909-1910, Freiberg, 1911-1913, a Paris,1913. Enillodd y Goron a’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1912 ac eto yn 1915. Yn 1914 fe’i penodwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ac yn 1920 cafodd ei benodi i Gadair y Gymraeg, lle yr arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1952. Cafodd ei urddo’n farchog yn 1958.Picture 270
Lluniwyd y naill boretread gan [Scott] Nisbett – nid yw hwn wedi ei ddyddio, ond tybir i Parry-Williams fod yn  ei 50au cynnar. Cafodd y llall ei lunio gan Hywel Harries, yn 1963, a cheir label ar ei gefn yn dweud ‘Arddangoswyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Mai/Mehefin 1989’. Mae’r ddau ddarlun yn gaffaeliad pwysig at gasgliadau’r Llyfrgell.

Rhiannon Michaelson-Yeates

Postiwyd - 31-03-2014

Casgliadau @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Tymor newydd Chaucer yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Teimlo’n wag a di-gyfeiriad wedi dyddiau arddangosfa’r 4 Llyfr? Nac ofnwch, mae hi’n dymor newydd y Gwanwyn, a gallwn ddathlu agoriad arddangosfa newydd sbon sy’n rhoi sylw i’n llawysgrifau Saesneg cynharaf: ‘Dweud stori: Chaucer a Chwedlau Caergaint’.Ystafell Hengwrt

Rhwng 29 Mawrth a 14 Mehefin, bydd modd i ymwelwyr ag oriel Hengwrt y Llyfrgell weld ein llawysgrif Saesneg enwocaf, Chaucer Hengwrt. Credir mai hwn yw’r copi cynharaf a erys o Chwedlau Caergaint Geoffrey Chaucer, ac i’r gyfrol gael ei hysgrifennu cyn marw’r awdur yn 1400, a hynny gan ei scrifydd personnol, Adam Pinkhurst. Ochr-yn-ochr â’r llawysgrif bydd trysorau eraill o’n casgliadau, gan gynnwys y Boece gan Chaucer, sydd hefyd yn llaw Pinkhurst, a gweddillion bregus ‘Dernyn Merthyr’, y copi coll hwnnw o Chwedlau Caergaint sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif.

Chaucer Hengwrt Dalen flaenCuradwyd yr arddangosfa gan Dr Sue Niebrzydowski o Brifysgol Bangor, a thrwy ei chyflwyniad awr ginio ar 23 Ebrill, a’i sgyrsiau galeri ar 24 Ebrill, cewch y cipdrem gorau posibl ar hanes Chaucer a’i chwedlau, a’ch cyflwyno’n benodol i gymeriadau difyr y Wraig o Gaerfaddon a’r Pardynwr.
I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cynnal cynhadledd academaidd yn y Llyfrgell ar 14-16 Ebrill. Edrychwn ymlaen i groesawu ysgolheigion o bell ac agos i Aberystwyth i edrych o’r newydd ar lawysgrifau o weithiau Chaucer, ac i ystyried dulliau digidol newydd posibl o ymchwilio i’r waith.Y Pardynwyr

Ymysg y digwyddiadau eraill sy’n rhan o dymor byr Chaucer mae dangosiad ar 30 Mai o Chwedlau Caergaint, y ffilm a ennillodd bedair Gwobr Emmy am gamp mewn animeiddio, ac ymgais ysgolheigaidd i ddatrys hen ddirgelwch: ar 15 Mai bydd yr Athro Andrew Prescott o Goleg y Brenin Llunain yn ystyried achos Cecily Champagne, merch i bobydd, wnaeth ddatganiad ym Mai 1380 na fyddai’n erlyn Geoffrey Chaucer mewn achos o ‘raptus’. A oedd Chaucer, storïwr Saesneg mwyaf yr Oesoedd Canol, yn dipyn o ‘ddyn budur’? Dewch i ystyried baw selebs y bedwaredd ganrif ar ddeg yng nglendid diogel y Llyfrgell Genedlaethol!

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 24-03-2014

Casgliadau @cy

Cyhoeddi llyfrau yng Ngheredigion

Bwriad Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (CLC), a sefydlwyd 60 mlynedd yn ôl yn Aberystwyth yn 1954, oedd cyhoeddi llyfrau a fyddai o ddiddordeb i bobl Ceredigion, ynghyd â llyfrau i blant. Dywed yr Athro Dafydd Jenkins yn ei bennod ‘Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: babi Alun Edwards’ yn Rheinallt Llwyd (gol.), Gwarchod y gwreiddiau: cyfrol goffa Alun R. Edwards (Llandysul, 1996), mai drwy gymdeithasau cydweithredol yn cyhoeddi llyfrau yn Nenmarc a Sweden y plannwyd y syniad yn Alun R. Edwards i sefydlu’r gymdeithas.

Llyfr aelodaeth (Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 68)

Llyfr aelodaeth (Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 68)

Cyflwynwyd Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i ofal y Llyfrgell yn 1997 a cheir llawer o ohebiaeth yn ymwneud â’i chyhoeddiadau, ffeiliau gweinyddol, a gohebiaeth y Parch. T. Oswald Williams, llywydd y gymdeithas. Yr Athro Dafydd Jenkins oedd ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas a gwelir ei lawysgrifen gain yn y llyfr aelodaeth.

Cyhoeddwyd catalogau o lyfrau’r gymdeithas hefyd wedi’u rhestru yn ôl pwnc.

Bu CLC hefyd yn gyfrifol am gyflwyno clasuron Mary Vaughan Jones, sef Sali Mali a’r Pry bach tew, i ddarllenwyr ifancaf Cymru. Yn Adroddiad Blynyddol 1970 ceir tystiolaeth am werthiant anhygoel y llyfrau hyn: “Yn ystod yr haf cafwyd ail argraffiad (5,000 yr un) o’r tri llyfr cyntaf yn y Gyfres Darllen Stori gan Mary Vaughan Jones, sef Sali Mali, Y Pry Bach Tew a Jaci Soch a maent yn dal i werthu’n dda”.

Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 79

Catalogau (Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 79)

Ceir gohebiaeth hefyd yn ymwneud â chyfieithiadau J. T. Jones o ddwy ddrama Shakespeare sef Hamlet (1960) a Nos Ystwyll (1970). Ailgyhoeddwyd yr olaf gan Wasg Gomer yn 2011.

Daeth nofelau T. Llew Jones, Y ffordd beryglus ac Ymysg lladron i amlygrwydd drwy Gymdeithas Lyfrau Ceredigion a cheir llythyrau wrth yr awdur yn ymwneud â’u cyhoeddi hwy a’r gyfres boblogaidd Llyfrau darllen newydd. Bu’r gymdeithas hefyd yn gyfrifol am drefnu addasiadau o nofelau’r awdures boblogaidd Allen Raine, a cheir gohebiaeth ynglŷn â hyn. Yn ogystal, cyhoeddwyd addasiadau o lyfrau awduron poblogaidd Saesneg fel Shirley Hughes, Roald Dahl a Michael Morpurgo.

Bu Cymdeithas Lyfrau Ceredigion yn destun traethawd ymchwil gan Catrin Lyn Edwards: ‘Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: plentyn ei hoes ynteu sefydliad oesol?’ (Aberystwyth, 1999/313).

Picture 291Ar 11 Ebrill 2009 trosglwyddwyd y busnes cyhoeddi i Wasg Gomer, ac mewn cyfarfod blynyddol o Gyngor Llyfrau Cymru ar 1 Rhagfyr 2010 penderfynodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion ddirwyn i ben gan drosglwyddo’i hasedau i’r Cyngor Llyfrau. Cyhoeddwyd teitlau gydag apêl leol fel Atgofion Ceinewydd, Ar lethrau Ffair Rhos, Atgofion Cardi, Ar ymylon Cors Caron, Storïau glannau Ystwyth a Ceredigion – atlas hanesyddol yn y cyfnod cynnar. Flynyddoedd yn ddiweddarach parhawyd gyda’r traddodiad drwy gyhoeddi cyfrolau fel Bro Dafydd ap Gwilym, Crochan Ceredigion, Cyfoeth y Cardi a Pity the swagman. Bu cyfraniad Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i’r byd cyhoeddi llyfrau yng Nghymru yn un gwerthfawr.

Ann F. Evans

Postiwyd - 24-02-2014

Casgliadau @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Penblwydd Hapus Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Eleni, mae’n hanner canrif ers i Jim Griffiths , AS Llafur dros Lanelli gael ei benodi  yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Cyn hynny, roedd Gweinidog yn y Swyddfa Gartref yn gyfrifol am faterion Cymreig ond penderfynodd y Prif Weinidog, Harold Wilson ddyrchafu’r rôl i lefel aelod o’r Cabinet. Dros  34 o flynyddoedd wedyn, ychwanegwyd at bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol nes i’r rhan fwyaf ohonynt gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Bellach yr Ysgrifennydd Gwladol sydd yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol, y berthynas gyda’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru, a materion yn ymwneud â Chymru sydd heb gael eu datganoli.
Mae 16 AS wedi cymryd y rôl, gyda 3 ohonynt (David Hunt , Paul Murphy  a Peter Hain ) yn y swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Barwn Crughywel (Nicholas Edwards), Ron Davies , a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol . Er taw dyn o Gymru oedd e, ac roedd e wedi bod yn Aelod Seneddol dros Gonwy, Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru hefyd.

Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol wedi mynd ymlaen i swyddi dylanwadol eraill yn y byd gwleidyddol. Daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Peter Thomas, John Morris, George Thomas, Jim Griffiths, a Cledwyn Hughes.

Pum Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Peter Thomas, John Morris, George Thomas, Jim Griffiths, a Cledwyn Hughes.

 

YR ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIG
Gan fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi bod yn ffigwr mor bwysig ym myd gwleidyddiaeth Cymru, dyw hi ddim yn syndod bod papurau nifer o Ysgrifenyddion Gwladol yn rhan o’r Archif Wleidyddol Gymreig , yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae papurau Jim Griffiths, Barwn Cledwyn, Is-iarll Tonypandy, Yr Arglwydd Morris, yr Arglwydd Crughywel, Ron Davies a Peter Hain ar gael ar gyfer ymchwil. Yn ychwanegol i bapurau yn ymwneud â swydd yr Ysgrifennydd Gwladol, mae’r papurau yn adlewyrchu eu diddordebau ehangach. Er enghraifft, ceir deunydd ym mhapurau Jim Griffiths ynglŷn â sefydlu’r Swyddfa Gymreig yn y 1960au a’i waith ar Yswiriant Gwladol yn y 1940au. Mae papurau Barwn Cledwyn yn cynnwys deunydd yn ymwneud â Thrychineb Aberfan, S4C, y Gymanwlad ac Amaeth, a phapurau Is-iarll Tonypandy yn cynnwys deunydd o’i gyfnod fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, yr Undeb Ewropeaidd a diddordebau elusennol. Mae papurau’r Arglwydd Morris yn cynnwys ystod eang o bynciau, gyda nifer o gyfnod Comisiwn Killbrandon a refferendwm datganoli Cymru yn 1979. Mae datganoli yn bwnc pwysig ym mhapurau Arglwydd Crughywel a Ron Davies tra bod blas rhyngwladol ar bapurau Peter Hain gyda llawer o ddeunydd yn ymwneud ag apartheid a materion rhyngwladol eraill.

Ers dechrau’r broses  o ddatganoli, mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau. Galwyd am ddileu’r swydd gan Uned y Cyfansoddiad yn 2001, a gan  yr Arglwydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd fel rhan o becyn newidiadau pellgyrhaeddol, gan fod rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud;

“Y pumed olwyn yn y goets seneddol ydyw bodolaeth Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru. Mae dau is-weinidog yn Swyddfa Cymru, un yn Nhŷ’r Cyffredin ac un newydd sbon am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi. Beth yn y byd y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, Duw a ŵyr!”

Felly, wrth i swydd yr Ysgrifennydd Gwladol gyrraedd ei hanner cant mae ‘na gwestiwn gwirioneddol am ei dyfodol. O leiaf gyda phapurau rhai o ddeiliaid dylanwadol y swydd ar gael i ymchwilwyr trwy’r Archif Wleidyddol Gymreig, a mwy i ddod gobeithio, bydd ei hanes yn ddiogel.

Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol – Archif Wleidyddol Gymreig

Postiwyd - 03-02-2014

Casgliadau @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Dewch Atom!

Rydym ni ar fin lansio prosiect gwirfoddoli newydd sbon – ac  os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau a phersonoliaethau Cymru’r ugeinfed ganrif – wel dyma  gyfle cyffrous ichi’n cynorthwyo i ychwanegu gwerth at gasgliad ffotograffau unigryw a gwerthfawr Geoff Charles.

Mae’r casgliad yn wirioneddol unigryw.  Bu Geoff Charles yn  gweithio fel ffoto-newyddiadurwr i amryw o bapurau newydd gan  gynnwys y ‘Wrexham Advertiser’, ‘Montgomreyshire Express’ a ‘Y Cymro’, o’r 1930au hyd at y 1970au. Dros y cyfnod hwn fe wnaeth ffafr fawr â ni’r Cymry drwy gofnodi’r  ffordd Gymreig o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn.  Bellach, mae’r casgliad o dros 120,000 o negyddion yn un o drysorau’r Llyfrgell ac yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer awduron, darlledwyr, haneswyr, myfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Un o luniau mwyaf adnabyddus Geoff Charles - Y bardd Carneddog (Richard Griffiths) a’i wraig, Catrin, yn bwrw golwg olaf dros yr Wyddfa cyn ymadael a’u fferm ym mynyddoedd Carneddau.

Un o luniau mwyaf adnabyddus Geoff Charles – Y bardd Carneddog (Richard Griffiths) a’i wraig, Catrin, yn bwrw golwg olaf dros yr Wyddfa cyn ymadael a’u fferm ym mynyddoedd Carneddau.

Er bod casgliad ffotograffau Geoff Charles eisoes wedi ei ddigido a’i gatalogio mewn setiau, mae nifer o ddisgrifiadau’r ffotograffau (a welir yn y catalog copi caled) heb eu cynnwys yn y catalog ar-lein eto. Bydd gwirfoddolwyr felly’n adysgrifio’r disgrifiadau i gronfa ddata a rhoi manylion ynghylch pryd yn union yr ymddangosodd y lluniau mewn papurau newydd.

Bydd cymal cyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • ffotograffau Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd (1950 – 1968),
  • ffotograffau yn ymwneud â rheilffyrdd, a
  • ffotograffau cyffredinol o 1939.

Wedi hyn, bydd cyfle i bori trwy ragor o hanes diwylliannol a diwydiannol yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys cofnod ffotograffig amhrisiadwy Geoff Charles o gymuned dyffryn Tryweryn cyn ei boddi yn 1965.

Dafydd a Nel Roberts, Cae Fadog, ynghyd â Eira Rowlands, Mrs Rowlands a Emrys Rowlands, Y Gelli, yn gadael Capel Cynon, Tryweryn, am y tro olaf.

Dafydd a Nel Roberts, Cae Fadog, ynghyd â Eira Rowlands, Mrs Rowlands a Emrys Rowlands, Y Gelli, yn gadael Capel Cynon, Tryweryn, am y tro olaf.

Os na fedrwch ddod i adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth i weld y casgliad, beth am fynd ar-lein i bori drwyddo?  Os ydych yn adnabod rhai o’r unigolion yn y ffotograffau, cysylltwch â ni fel y gallwn ychwanegu at y wybodaeth sydd gennym.

Byddwch yn rhan o’n hymdrech ni i rannu’r casgliad pwysig hwn gyda’r byd!

Felly, ar gychwyn blwyddyn newydd fel hyn, beth am i chwi wneud addewid bach gwerth chweil a rhoi cynnig ar fod yn wirfoddolwr yn y Llyfrgell Genedlaethol. Pa well calennig i’w roi i’r hen sefydliad parchus hwn?

Mae cynllun gwirfoddoli’r Llyfrgell  yn cynnig amrywiaeth o dasgau a phrosiectau cyffrous a diddorol, o drawsysgrifio i roi trefn ar ddarluniau a dwstio llyfrau.  Cewch gyfle i ddysgu sgiliau a chwrdd â ffrindiau newydd wrth gynorthwyo’r Llyfrgell i wella ei gwasanaethau i ddefnyddwyr.

Ewch i’r dudalen ‘Am LlGC – Gwirfoddoli’ ar wefan y Llyfrgell am ragor o wybodaeth ac i weld y cyfleoedd cyfredol sydd ar gael ichi.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am wirfoddoli – byddwn yn falch o glywed gennych trwy e-bost: gwyneth.davies@llgc.org.uk

Gwyneth Davies

Postiwyd - 17-01-2014

Arddangosfeydd / Casgliadau @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Caergrawnt, Rhydychen a’r Pedwar Llyfr

Pwy tybed sydd wedi gwneud yn ymdrech fwyaf i ymweld â’n harddangosfa boblogaidd, 4 Llyfr?

Yr wythnos hon daeth ugain o fyfyrwyr yr holl ffordd o adrannau Celteg Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen i ymweld am y dydd â’r Llyfrgell. Wedi gweld yr arddangosfa yn oriel Hengwrt, daeth pawb ynghyd i’r Ystafell Addysg i fwynhau gweithdy ar lawysgrifau canoloesol, dan arweiniad yr Athro Paul Russell, Caergrawnt.

Gweithdy llawysgrifau
Yn dilyn sesiwn ar gadwraeth cyfrolau llawysgrif, cyflwynwyd nifer o drysorau i’r myfyrwyr ar ffurf ffacsimilïau.

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Trafododd yr Athro Russell destunau cyfraith Peniarth 28 a Llawysgrif Boston, a thaflodd ei fyfyrwraig ymchwil Myriah Williams oleuni newydd ar gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin.

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Cafwyd cyfle i fwrw trem ar destunau Cymraeg a Lladin Historia Gruffud vab Kenan, ar gopi John Davies, Mallwyd o ddarnau coll Llawysgrif Hendregadredd, ac ar weithiau Lladin Gerallt Gymro. Esboniodd Benjamin Guy, un arall o fyfyrwyr Caergrawnt, arwyddocâd cynnwys Llyfr Llandaf, a chafwyd cyfraniadau pellach gan yr Athro Thomas Charles-Edwards, Rhydychen a Mr Daniel Huws, Aberystwyth.

Sut mae cloriannu llwyddiant digwyddiad o’r math hwn o safbwynt y Llyfrgell Genedlaethol?

Yn gyntaf, mae’n dod a chenhedlaeth newydd o ysgolheigion ieuainc wyneb-yn-wyneb â chyfrolau y maent wedi astudio eu cynnwys (mewn llyfrau, ac yn ddigidol) y tu hwnt i Gymru. Rhydd hyn gyfle iddynt eu gwerthfawrogi’n well.

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Yn ail, mae’n gyfle euraid i’r Llyfrgell Genedlaethol roi hyfforddiant i ddarpar ddefnyddwyr ar y dulliau gorau a mwyaf gofalus o drin a thrafod rhai o’n trysorau mwyaf bregus a gwerthfawr. Bydd hyn yn sicrhau parhad hir-dymor ein casgliadau.

Ac yn drydydd, mae’n gyfle da i drosglwyddo a rhannu gwybodaeth, a hynny rhwng ysgolheigion, myfyrwyr, staff y Llyfrgell, ac yn y man, y cyhoedd.

Bydd ysgolheictod diweddaraf yr Hen Brifysgolion yn cael ei rannu yfory gyda dosbarthiadau ysgolion cynradd Cymru, a hynny trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Addysg. Dyna chwalu’r sôn am unrhyw dŵr ifori, a sicrhau’r buddsoddiad gorau yn addysg ein plant ar y naill law, a dyfodol ein casgliadau ar y llall.

Ceir ymateb myfyrwyr Caergrawnt i’r digwyddiad yma.

Maredudd ap Huw

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog