Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Postiwyd - 17-01-2014 Dim sylwadau

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Caergrawnt, Rhydychen a’r Pedwar Llyfr

Pwy tybed sydd wedi gwneud yn ymdrech fwyaf i ymweld â’n harddangosfa boblogaidd, 4 Llyfr?

Yr wythnos hon daeth ugain o fyfyrwyr yr holl ffordd o adrannau Celteg Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen i ymweld am y dydd â’r Llyfrgell. Wedi gweld yr arddangosfa yn oriel Hengwrt, daeth pawb ynghyd i’r Ystafell Addysg i fwynhau gweithdy ar lawysgrifau canoloesol, dan arweiniad yr Athro Paul Russell, Caergrawnt.

Gweithdy llawysgrifau
Yn dilyn sesiwn ar gadwraeth cyfrolau llawysgrif, cyflwynwyd nifer o drysorau i’r myfyrwyr ar ffurf ffacsimilïau.

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Trafododd yr Athro Russell destunau cyfraith Peniarth 28 a Llawysgrif Boston, a thaflodd ei fyfyrwraig ymchwil Myriah Williams oleuni newydd ar gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin.

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Cafwyd cyfle i fwrw trem ar destunau Cymraeg a Lladin Historia Gruffud vab Kenan, ar gopi John Davies, Mallwyd o ddarnau coll Llawysgrif Hendregadredd, ac ar weithiau Lladin Gerallt Gymro. Esboniodd Benjamin Guy, un arall o fyfyrwyr Caergrawnt, arwyddocâd cynnwys Llyfr Llandaf, a chafwyd cyfraniadau pellach gan yr Athro Thomas Charles-Edwards, Rhydychen a Mr Daniel Huws, Aberystwyth.

Sut mae cloriannu llwyddiant digwyddiad o’r math hwn o safbwynt y Llyfrgell Genedlaethol?

Yn gyntaf, mae’n dod a chenhedlaeth newydd o ysgolheigion ieuainc wyneb-yn-wyneb â chyfrolau y maent wedi astudio eu cynnwys (mewn llyfrau, ac yn ddigidol) y tu hwnt i Gymru. Rhydd hyn gyfle iddynt eu gwerthfawrogi’n well.

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Yn ail, mae’n gyfle euraid i’r Llyfrgell Genedlaethol roi hyfforddiant i ddarpar ddefnyddwyr ar y dulliau gorau a mwyaf gofalus o drin a thrafod rhai o’n trysorau mwyaf bregus a gwerthfawr. Bydd hyn yn sicrhau parhad hir-dymor ein casgliadau.

Ac yn drydydd, mae’n gyfle da i drosglwyddo a rhannu gwybodaeth, a hynny rhwng ysgolheigion, myfyrwyr, staff y Llyfrgell, ac yn y man, y cyhoedd.

Bydd ysgolheictod diweddaraf yr Hen Brifysgolion yn cael ei rannu yfory gyda dosbarthiadau ysgolion cynradd Cymru, a hynny trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Addysg. Dyna chwalu’r sôn am unrhyw dŵr ifori, a sicrhau’r buddsoddiad gorau yn addysg ein plant ar y naill law, a dyfodol ein casgliadau ar y llall.

Ceir ymateb myfyrwyr Caergrawnt i’r digwyddiad yma.

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 16-12-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Y Nadolig cyntaf hwnnw

A hithau ar drothwy’r Nadolig, mae modd i ymwelwyr â’r Llyfrgell Genedlaethol weld ymddangosiad cyntaf stori’r Geni yn yr iaith Gymraeg.

Llyfr Coch Talgarth

Llyfr Coch Talgarth

Ers mis Hydref, bu ymwelwyr ag Aberystwyth yn mwynhau’r cyfle prin i weld trysorau cynnar llawysgrifol y Gymraeg ochr-yn-ochr â’i gilydd am y tro cyntaf, a hynny yn arddangosfa’r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd. Seren y sioe yw Llyfr Coch Hergest, sydd ar fenthyg o Goleg Iesu Rhydychen, ac sy’n cynnwys trysorau llenyddol seciwlar y Gymraeg, gan gynnwys Canu Llywarch Hen a’r Mabinogi. Ysgrifennwyd rhannau helaeth o Lyfr Coch Hergest rhwng tua 1382 a 1410 gan ŵr o’r enw Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, a hynny ar gyfer noddwr o’r enw Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan, ger Abertawe. Ond nid dyna’r unig Lyfr Coch sydd yn arddangosfa’r Llyfrgell Genedlaethol eleni.

Lluniwyd Llyfr Coch Talgarth yntau ar drothwy Gwrthryfel Glyndŵr, eto gan Hywel Fychan, ond y tro hwn ar gyfer Rhys ap Thomas ab Einion, brawd i noddwr Llyfr Coch Hergest. Testunau crefyddol a geir yn y gyfrol femrwn o Dalgarth, ac mae’n llai o faint na’i chyfnither fawreddog o Hengwrt. Ar gyfer arddangosfa’r 4 Llyfr, agorwyd Llyfr Coch Talgarth i ddangos cyfieithiad i’r Gymraeg o hanes ymweliad Gabriel â Mair, hanes a gofnodir ym mhennod gyntaf yr Efengyl yn ôl Luc. Credir mai dyma’r copi cynharaf a erys o hanes y Geni yn y Gymraeg, wedi ei ysgrifennu ymron i ddwy ganrif cyn cyhoeddi Testament Salesbury a Beibl William Morgan.

Gobaith y Llyfrgell yw y bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn ceisio darllen geiriau’r llawysgrif, ac i’w cynorthwyo i wneud hynny, cyhoeddir y testun isod (wedi ei ddiweddaru rhyw ychydig):

Rhybudd Gabriel i Fair

Rhybudd Gabriel i Fair

Rhybudd Gabriel at Fair, pan ddisgynnodd Iesu Grist yn ei bru:
Fe anfonwyd Gabriel angel, gan Dduw, i ddinas Galilea, yr hwn oedd ei enw Nazareth, at wyry briod i ŵr, yr hwn oedd ei enw Joseff o lwyth Dafydd (sef yw hynny o dylwyth Dafydd). Ac enw y forwyn oedd Mair. A myned i mewn a oruc [wnaeth] yr angel ati, a dywedyd wrthi,
“Henffych well Fair, gyflawn o ras, y mae yr Arglwydd gyda thi. Bendigedig wyt ti ymhlith y gwragedd …”

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 27-11-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

John Petts: Dyluniadau Ffenest Gwydr Lliw

14 Medi – 14 Rhagfyr 2013

“An idea doesn’t exist unless you do something about it” John Petts

_DSC5616
Hanner can mlynedd yn ôl ar 15 Medi 1963, plannodd y grŵp eithafol y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama, gan ladd pedair merch ddu a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul yno.

Cyffyrddodd y weithred hon o derfysgaeth â chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr artist John Petts a oedd ar y pryd yn byw yn Llansteffan.  Cynigiodd ei wasanaeth drwy ddylunio ffenest gwydr lliw newydd ar gyfer yr eglwys, a gyda chymorth y Western Mail lansiodd ymgyrch i godi arian ar gyfer yr apêl.  Dwysaodd yr ymgyrch wrth i’r arian lifo i mewn oddi wrth y werin a’r miloedd, gyda’r Western Mail yn cyhoeddi delweddau o resi o bobl Gymreig o bob tras yn aros i roi’r hyn oedd ganddyn nhw tuag at yr achos.

Ymwelodd Petts â’r eglwys gan weithio ar y dyluniad dros gyfnod o flwyddyn.  Dyma’r astudiaethau a’r dyluniad terfynol gan Petts, yn darlunio Crist croenddu gyda’i freichiau ar led, a oedd yn cael ei ystyried ar y pryd yn ddadleuol.  Yn 1965, gosodwyd y ffenest yn ei lle, wedi’i chyflwyno gyda’r geiriau ‘Given by the people of Wales’.

Heddiw, mae’r ffenest yn cael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’ ac y mae’n symbol eiconig o’r mudiad hawliau sifil Americanaidd.

Postiwyd - 20-11-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

Worktown: Lluniadau Falcon Hildred

14 Medi – 14 Rhagfyr 2013

_DSC5691
Ers diwedd y 1950au, nod Falcon Hildred fu gwneud cofnod gweledol o adeiladau diwylliant diwydiannol a oedd yn prysur ddiflannu. Mewn llawer o ardaloedd, roedd yr hen ddiwydiannau’n methu, roedd cymunedau a oedd wedi’u hen sefydlu yn cael eu disodli gan gynlluniau tai enfawr ac roedd ailddatblygu trefol uchelgeisiol yn dechrau gafael. Ni allai Falcon wneud fawr ddim i atal hyn, ond fel dylunydd a darlunydd medrus gallai o leiaf sicrhau na fyddai adeiladau o bwys hanesyddol yn diflannu heb i ryw gofnod gael ei wneud ohonynt.

Cafodd Falcon Hildred ei eni yn Grimsby ym 1935, aeth i golegau celf yn Coventry a Birmingham, ac yna i’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Ers 1969 bu’n byw ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf mae wedi cofnodi llu o adeiladau a thirweddau yn ei luniadau manwl ond atgofus. Mae wedi’i ysgogi gan y gred bod adeiladau’n adlewyrchu bywydau’r bobl sydd wedi’u hadeiladu, wedi’u defnyddio ac wedi byw ynddynt. Yn ei eiriau ei hun:

Y peth am adeiladau yw eu bod nhw’n ymwneud â phobl. [...] Mae popeth a wnawn mewn bywyd naill ai’n cael ei wneud mewn neu o gwmpas adeiladau. Byddwn yn dathlu, yn addysgu, yn byw, yn gweithio, yn gwella, yn cystadlu, yn storio – byddwn yn gwneud popeth mewn neu o gwmpas adeiladau, ac maen nhw felly yn ymgorffori ein holl anghenion, ein holl obeithion, ein credoau, ein hofnau [...]. Nhw yw symbolau’r hyn sydd ei eisiau arnom a’r hyn a gredwn. Felly y perygl ydyw, pan ddinistriwn adeilad, ein bod ni hefyd yn dinistrio rhyw elfen ohonom ni ein hunain.

Prosiect Mynediad a Dysgu Falcon Hildred

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge, a chyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi prynu casgliad unigryw o fwy na 600 o luniadau gwreiddiol o adeiladau a thirweddau diwydiannol gan Falcon Hildred. Mae Falcon Hildred wedi cysegru ei fywyd fel artist i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gan gynhyrchu gwaith o werth esthetig, hanesyddol a chymdeithasol mawr.

Pwrpas Prosiect Mynediad a Dysgu Falcon Hildred yw diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn er mwynhad y cenedlaethau a ddaw, a hwyluso mynediad i’r casgliad drwy raglen gydgysylltiedig o ddigido, cyhoeddi, arddangos ac addysgu ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

I ddarganfod mwy, ewch i www.cbhc.gov.uk , neu astudiwch y llyfr, Worktown: the Drawings of Falcon Hildred.

Postiwyd - 13-11-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

Tirlun Cymru

19 Hydref – 10 Mai 2014

Codi’r clawr ar gasgliad helaeth y Llyfrgell o baentiadau a darluniau topograffigol.

DSC_9051
I arlunwyr sydd am dynnu lluniau o olygfeydd prydferth a thrawiadol, mae tirffurfiau Cymru yn wastad wedi bod yn atyniad cryf. Mae’r hen gestyll a’r abatai a mynyddoedd godidog Cymru wedi bod yn boblogaidd gydag arlunwyr a ffotograffwyr ar hyd y canrifoedd.

Yn ysblander Oriel Gregynog y Llyfrgell datgelir casgliad swmpus o baentiadau a darluniau topograffigol, yn dangos ymateb gwahanol arlunwyr i’r dirwedd gyda threigl amser. Wrth gael golwg fanwl ar y mannau hardd yr ydym oll yn gyfarwydd â hwy, ochr yn ochr â’r golygfeydd diwydiannol a threfol sy’n ein hamgylchynu bellach, gallwn weld y newid parhaus yn ein tirwedd drwy lygaid yr artistiaid.

Postiwyd - 06-11-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

Lloyd George: Y Dewin, yr Afr a’r Dyn Enillodd y Rhyfel

28 Medi – 10 Mai 2014

Cyflwyno hanes un o brif weinidogion enwocaf Prydain.

_DSC5620

Ni ddeuai David Lloyd George o gefndir arbennig o freintiedig, ond serch hynny daeth yn Brif Weinidog Prydain ym mis Rhagfyr 1916, pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth.  Hyd heddiw, ef yw’r unig Gymro i wasanaethu yn y swydd hon. Yn yr arddangosfa hon o’i ddyddiaduron a’i lythyrau cewch weld cymysgedd ddifyr o newyddion o’r byd gwleidyddol wedi’i blethu’n gelfydd â chlecs personol a theuluol. Bydd hefyd ffilmiau i’w gweld o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, yn ogystal ag eitemau personol o gasgliad Amgueddfa Lloyd George.

Ceir casgliad o glipiau o ffilmiau’n ymwneud â bywyd a gwaith David Lloyd George yma. Mae’r holl ffilmiau yn rhan o gasgliadau Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Postiwyd - 30-10-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd

12 Hydref – 15 Mawrth 2014

Cyfle prin i weld llawysgrifau canoloesol pwysicaf Cymru oll o dan yr un to.

Yn ei gyfrol Four Ancient Books of Wales (1868), rhoddodd yr ysgolhaig Celtaidd blaengar William Forbes Skene gynnig ar olrhain y ffeithiau hanesyddol ymhlith y chwedlau a’r storïau dychmygol yng ngwaith y beirdd Cymraeg cynnar. Am y tro cyntaf erioed byddwn yn dod â’r pedwar trysor a ddisgrifiodd Skene at ei gilydd mewn arddangosfa sy’n dathlu llenyddiaeth gynharaf Cymru: Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfr Aneirin o Lyfrgell Ganolog Caerdydd a Llyfr Coch Hergest o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
_DSC5673 low res

Postiwyd - 27-09-2013 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

Cipolwg i fyd y dyn enillodd y rhyfel…

Rydym ni’r tîm arddangosfeydd yn brysur yn paratoi ar gyfer agoriad yr arddangosfa gyntaf sy’n rhan o’r tymor o arddangosfeydd sydd gennym ar eich cyfer.

Bydd Lloyd George: Y Dewin, yr Afr a’r Dyn Enillodd y Rhyfel yn agor ddydd Sadwrn 28 Medi, ac yn olrhain bywyd a gyrfa’r Cymro o wleidydd nodedig hwn, gan gynnig cip i’w fywyd gwleidyddol a phersonol.

Yn rhan o’r arddangosfa, bydd cyfle i weld ei ddyddiaduron a’i lythyrau, ynghyd â detholiad difyr o ddogfennau gwleidyddol ochr yn ochr â chlecs personol a theuluol y cyn-Brif Weinidog.   Yn ogystal â dogfennau a llawysgrifau gwreiddiol, bydd nifer o ffotograffau, portread olew ohono, a phenddelw efydd anferth gan Michael Rizello yn rhan o’r arddangosfa.

Rydyn ni hefyd yn gyffro i gyd o gael benthyg nifer o eitemau personol Lloyd George oddi wrth Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, ac yn edrych ymlaen at eu harddangos ochr yn ochr â’n casgliadau ni ein hunain.  Gallwch weld ei gês pan yn Brif Weinidog, wales, sbectol Pince nez, a’r bensel olaf a ddefnyddiodd i ysgrifennu ei War Memoirs.

Yn rhan o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yma yn y Llyfrgell, ceir nifer o glipiau ffilm o Lloyd George, a bydd y rhain yn cael eu dangos yn yr arddangosfa… efallai’r mwyaf diddorol yw ymweliad Lloyd George â Hitler yn Haf 1936.

Cofiwch alw draw i weld yr arddangosfa – bydd i’w gweld tan 10 Mai 2014.

Dyma gipolwg bach i chi ar y tîm arddangosfeydd yn brysur wrth eu gwaith

Dyma gipolwg bach i chi ar y tîm arddangosfeydd yn brysur wrth eu gwaith

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog