Blog - Digido

Posted - 07-04-2014 No Comments

Digido

Martin John Ridley (1861-1936)

 

Bydd 857 o negyddion gwydr gan y ffotograffydd masnachol a chyhoeddwr cardiau post Martin John Ridley o Bournemouth  yn mynd yn fyw ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol yn fuan. Trwy gyfrwng y casgliad o negyddion gwydr yma llwyddodd Ridley i ddogfennu nifer o ardaloedd pwysig yn Ne Cymru yn ystod degawdau olaf y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Ceir lluniau ganddo o Barc y Rhath a Phier Penarth i Eglwys Gadeiriol Llandaf a Chastell Caerdydd, ond yr hyn sydd yn dal y llygad yw ei ffotograffau dogfennol o fywyd bob dydd ar strydoedd yr ardaloedd diwydiannol hyn.  Yn ôl curadur casgliad ffotograffig y Llyfrgell Genedlaethol, William Troughton ‘There is no escaping the gritty realism in his photography’.

 

Cardiau Post

Roedd cardiau post yn ffenomena enfawr  yn ystod cyfnod Ridley ac fe wnaethant barhau yn boblogaidd iawn tan 1918. Ym 1909 dosbarthodd y Swyddfa Bost 866 miliwn o gardiau post. Rhaid cofio hefyd  i nifer fawr o gardiau post gael eu prynu a’u cadw fel cofroddion ac felly ni chawsant byth eu postio.

 

 

'Stryd yr Eglwys, Abertyleri', Martin John Ridley, [ca. 1905], (rid01848) Rhif catalog: vtls006075550

‘Stryd yr Eglwys, Abertyleri’, Martin John Ridley, [ca. 1905],
(rid01848) Rhif catalog: vtls006075550

Dyma lun o Stryd yr Eglwys yn Abertyleri gan Ridley o tua 1905. Gwelir ar flaen y ffotograff y rhif 5998, a olyga fod y ffotograff wedi ei gynhyrchu ar gyfer cael ei werthu fel  cerdyn llun (picture postcard). Mae naws naturiol a dogfennol y ffotograff yma yn nodweddiadol  iawn o waith Ridley. Mae’r gwaith hefyd mewn gwrthgyferbyniad llwyr â nifer o gardiau post ffurfiol y cyfnod  lle yn aml roedd y bobl yn sefyll yn llonydd o flaen y camera.  Mae hyn yn rhywbeth i’w ganmol gan gofio taw nôd Ridley oedd gwneud arian o’r golygfeydd yma. Yn hytrach na phortreadu rhyw ddelwedd ffug o’r ardal, roedd yn portreadu realiti bywyd  ardaloedd diwydiannol y De. Tirluniau diwydiannol, trefol a dinesig De Cymru oedd un o’i hoff bynciau. Yn ystod yr Oes Edwardaidd roedd y pyllau glo, y gweithfeydd haearn a’r gweithfeydd tunplat yn denu miloedd o ddynion ifanc a’u teuluoedd i’r De ac yn ei gwneud yn ardal bwysig a diddorol iawn i’w dogfennu.

 

Disgrifiodd y ffotograffydd enwog Americanaidd Walker Evans y math yma o waith ffotograffig fel ffotograffiaeth werinol ‘folk photography’.  Dywedodd: ‘The very essence of daily city and town life got itself recorded quite inadvertently on the penny picture postcards of the early 20th century.… Those honest direct little pictures have a quality today that is more than mere social history.… The picture postcard is folk document’. Rhaid cofio hefyd taw tasg anodd iawn i ffotograffydd oedd cymryd ffotograff heb dynnu sylw ato’i hun wrth ddefnyddio camera ‘plât llawn’ ar drybedd. Er hyn llwyddodd Ridley i ddogfennu bywyd y gymdeithas yn Ne Cymru mewn modd naturiol iawn.

 

Bydd y negyddion gwydr yma yn mynd yn fyw ar wefan y Llyfrgell yn fuan.

 

 

Morfudd Bevan-Williams

Posted - 13-01-2014

Casgliadau / Digido

J. T. Job a Chadair Eisteddfod Pencader 1895

Cadair Eisteddfod Pencader 1895

Cadair Eisteddfod Pencader 1895

Ar ddechrau mis Awst cefais alwad ffôn yn cynnig rhoi cadair Eisteddfod Pencader 1895 yn ôl i’r pentref, ac yn holi a wyddwn am gartref addas iddi. Cyfeiriwyd at y ffaith taw J.T. Job oedd enillydd y gadair a bod ei deulu wedi rhoi’r gadair i Kathryn Jenkins ar ôl iddi orffen ei thraethawd MA amdano. Wedi trafod penderfynwyd y byddem yn cadw’r gadair yn yr Hen Gapel ym Mhencader, sydd bellach yn ganolfan gymunedol, lle gobeithir agor amgueddfa fechan yn y dyfodol agos.

Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, ‘roeddwn wedi sylwi ar erthygl am Eisteddfod Pencader 1895 wrth chwilio drwy wefan Papurau Newydd Cymru Arlein am ddeunydd marchnata i’r Llyfrgell ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Roedd yr erthygl yn enwi cartrefi a llefydd cyfarwydd i mi yn ardal Pencader a nodai enw’r bardd buddugol, J. T. Job, enw a oedd yn gyfarwydd i mi o’m gwaith ar y Bywgraffiadur Arlein.
Mi es ati ar unwaith i chwilio eto am yr erthygl yn y Brython Cymreig. Wrth chwilio ymhellach cefais hyd i lu o erthyglau’n cyfeirio at yr eisteddfod a’r gadair yn y Cambrian News and Merionethshire Standard, Celt (Bala), y Cardiff Times a’r London Kelt. Roedd nifer o’r rhain yn cynnwys rhestr gyflawn o’r buddugwyr. Yn eu plith roedd copïau o feirniadaethau’r beirniaid, ‘Gurnos’ (y Parch E. Gurnos Jones) (Tarian y Gweithiwr) a ‘Hawen’ (D. Adams) (Tarian y Gweithiwr).
Roedd nifer o erthyglau hefyd yn sôn am y dathlu yn Aberdâr pan ddychwelodd adref gyda’r gadair, ac yn cynnwys cerddi cyfarch (Tarian y Gweithwyr a’r Merthyr Times and Dowlais Times and Aberdare Echo), a chyfeiriadau at y ffaith iddo hefyd ddod yn ail agos am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un wythnos.
Chwiliais drwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a darganfod bod rhai rhaglenni Eisteddfod Pencader yng nghasgliad y Llyfrgell, a chyffroi o weld bod yma gopi o raglen eisteddfod 1895.

Rhaglen eisteddfod Pencader 1895 - clawr bachRhaglen eisteddfod Pencader 1895

 

Image00002cropImage00001crop

 

Yna mi es ati i gopïo llinell o’r gerdd a ddyfynnwyd yn y beirniadaethau i weld a fyddai modd canfod y gerdd gyfan yn rhywle. Bu’n rhaid i mi droi at ‘Google’ y tro yma, a chanfod copi electronic anghyflawn o’r gerdd yn y Llenor, Hydref 1896, tt.17-24. Sut bynnag, mater bach oedd dod o hyd i’r copi print yn y Llyfrgell ar ôl dod o hyd i’r wybodaeth yma.

 

J. T. Job

J. T. Job

Darganfyddais lawer o fanylion personol am J. T. Job hefyd ar y we, yn cynnwys hanes ei weinidogaethau, adroddiadau ar ei briodas, a cherddi coffa a theyrngedau i’w wraig a’i blant. Arweiniodd fy chwilfrydedd mi ymhellach, a deuthum ar draws erthygl amdano yn y Traethodydd ar wefan Cylchgronau Cymru. Ond er i mi chwilio’n gyflym drwy gasgliad ffotograffau’r llyfrgell i geisio rhoi wyneb i’r enw ni lwyddais i gael gafael ar lun ohono yn y casgliadau. Sut bynnag, chwiliais drwy ddelweddau ‘Google’ ar y we a darganfod llun a gyhoeddwyd yn Barddas, rhifyn Gorffennaf/Awst 2004. Awdur yr erthygl oedd ei ŵyr, Dafydd Job, a llwyddais drwy ‘Google’ i gael gafael ar ei gyfeiriad e-bost. Anfonais neges ato, a chefais ateb o fewn oriau’n cynnwys lluniau o’i daid.

 

Mae’n rhyfedd meddwl nad oedd bron angen i mi symud o’m cadair i fedru darganfod yr holl wybodaeth yma – on’d yw digido yn wych?

Morfudd Nia Jones

 

Tags: , , , , , ,

Posted - 21-10-2013 No Comments

Casgliadau / Digido

Blasu’r gorffennol

Tybed a ydych chi, fel fi, wedi bod yn mwynhau gwylio’r gyfres ddiweddar o’r rhaglen goginio The Great British Bake Off ar BBC2? Er nad wyf yn arbenigo mewn coginio na phobi, rwy’n mwynhau gwneud ambell deisen siocled neu fara brith, dim byd sy’n rhy gymhleth! Felly, roeddwn i’n eithaf cyffrous pan gefais fy nhasg ddiweddar o ddigido Llawysgrif Peniarth 513D. Cyfrol o ryseitiau coginio a meddyginiaethol yw hon. Fe’i hysgrifennwyd mewn Saesneg ac fe gasglwyd y ryseitiau gan Meryell Williams o Ystâd Ystumcolwyn, Meifod tua diwedd y 17eg ganrif. O edrych yn fras ar y cynnwys, meddyliais yn syth y byddai’n ddiddorol ceisio dilyn un o’r ryseitiau i weld a fydden i’n medru llwyddo i greu rhywbeth bwytadwy.

Mae’r llawysgrif hon yn adlewyrchu’r math o brydau a fyddai’n cael eu coginio yn nhai uchelwyr ei chyfnod. Mae nifer o’r ryseitiau ar gyfer prydau gwahanol iawn i’r rhai y byddwn ni’n eu coginio heddiw, o ran cynnwys ac arddull. Roedd nifer o’r cynhwysion yn ddieithr i mi e.e. gumdragon (gwm dragant/draenen y geifr), ac eraill yn anodd ei darllen oherwydd y llawysgrifen. Yn ffodus, mae detholiad o’r ryseitiau hyn wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg yn y llyfr Gwraig orau o’r Gwragedd gan Dr Enid Pierce Roberts (Gwasg Pantycelyn), a bu hwn yn help mawr i mi wrth ddewis rysáit.

"Lemon Bisketts", NLW MS 513D, tud. 91Pa rysáit, felly? Wel, ‘doedd yr un am sut i baratoi Pen Mochyn ddim yn apelio rywsut, na’r Pwdin Traed Llo ‘chwaith, a doeddwn i ddim yn gallu dychmygu ‘stiwio’ Adar y To, felly mi benderfynais geisio dilyn rysáit y “Lemon Bisketts” neu’r Bisgedi Lemwn. Mae’r rysáit hon yn ymddangos yn weddol syml o’i chymharu â rhai o’r lleill e.e. Bisgedi Safwy (Savoy Bisketts) a oedd yn gofyn am droi’r gymysgedd am 2 awr!!

Y cynhwysion: 3 gwynnwy, pil lemwn wedi ei falu, a siwgr.

Y camau:

  1. Curo’r gwynnwy. (Doedd dim son am faint o amser oedd angen curo’r gwynnwy, felly mi wnes i guro nes bod y gymysgedd yn weddol gadarn).
  2. Ychwanegu’r pil lemwn i’r gymysgedd. (Roedd y rysáit yn gofyn i falu’r lemwn (“mince the peele…”), felly mi nes i ratio’r lemwn, wedyn ei wasgu gyda phen rholbren).
  3. Ychwanegu digon o siwgr i wneud y gymysgedd yn bast ysgafn a’i rholio gyda rholbren cyn ei dorri i wahanol siapiau. Taenu siwgr ar bapur a gosod y bisgedi arno. (Ar ôl ychwanegu tua 800g o siwgr arferol, roedd y gymysgedd dal yn wlyb iawn, felly ychwanegais 400g o siwgr eisin ato, ond doedd y gymysgedd dal ddim yn ddigon cadarn i’w rolio, felly, yn hytrach, mi wnes osod llwyeidiau o’r gymysgedd yn syth ar y papur).
  4. Paentio dŵr a siwgr ar y bisgedi i roi sglein arnynt a’u crasu (Doedd dim sôn am ble i’w crasu, nac ar ba dymheredd ac am ba hyd, felly rhoddais hwy yn y ffwrn ar dymheredd o 160°C am tua 25 munud a gobeithio am y gorau!).

DSC05052hanner seisWn i ddim ai dyma’r hyn ‘roedd Meryell Williams yn golygu, ond fel y roeddwn yn disgwyl o ddarllen y rysáit, roedd y canlyniad yn fwy fel meringues bach na ‘bisgedi’, ac rwy’n credu y byddan nhw’n gweddu yn well i’w bwyta fel pwdin gyda ffrwythau a hufen a.y.b.

Os ydych chi am fentro i ddilyn rhai o ryseitiau o lawysgrif Meryell Williams, bydd y gyfrol i’w gweld ar ein gwefan yn fuan…

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

 

Posted - 04-10-2013 No Comments

Casgliadau / Digido

“Byddin Gymreig yn y maes” a sefydlu’r Corfflu Cymreig yn 1914

Diddorol ydoedd darllen blog cydweithiwr i mi peth amser yn ôl bellach, yn sôn am ei waith yn catalogio pamffledi o gasgliad Gladstone yma yn y Llyfrgell, ac yn arbennig, pamffled yn dwyn y teitl “Through terror to triumph!”.  Copi o araith David Lloyd George oedd hon a draddododd fel Canghellor y Trysorlys ar 19 Medi 1914 yn Neuadd y Frenhines yn Langham Place, Llundain.  Er nad yw’r adeilad yn bodoli bellach wedi iddo gael ei ddifrodi yn ystod y Blitz yn 1941, pan oedd y wlad ynghanol erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, mae’r hyn a glywyd yno 99 mlynedd yn ôl o arwyddocâd enfawr i hanes Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr.

Byrdwn yr araith oedd ceisio cyfiawnhau cyfrifoldeb Prydain i amddiffyn y cenhedloedd bychain megis Gwlad Belg a Serbia – “the little five-foot-five nations” fel y cyfeiriodd Lloyd George atynt yn ei araith, ond yr hyn a ddywedodd tua diwedd ei araith sydd am gymryd fy sylw yn y blog yma.

“ Wales must continue doing her duty.  I should like to see a Welsh Army in the field.  I should like to see the race that faced the Norman for hundreds of years in a struggle for freedom, the race that helped to win Crecy, the race that fought for a generation under Glendower against the greatest captain in Europe – I should like to see that race give a good taste of its quality in this struggle in Europe; and they are going to do it. ”

Dyna union eiriau’r Cymro a oedd yn mesur ond ryw bum troedfedd a phum modfedd o daldra ei hun, ac wrth iddo gyhoeddi y byddai’n hoffi gweld byddin Gymreig yn y maes, mi dderbyniodd gymeradwyaeth hirfaith oddi wrth y gynulleidfa.  Roedd yr hyn a ddywedodd yn gydnaws â theimladau’r genedl ar y pryd gyda mynegiant o undod cenedlaethol yn dilyn sefydlu Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

blog001_m

Clawr blaen a detholiad o dudalen 13 o gyfieithiad o’r araith a draddododd David Lloyd George yn Neuadd y Frenhines ar 19 Medi 1914.
(Welsh Army Corps Records, C113/9)

Ond, beth a ddaeth o hyn?  Deuddydd yn ddiweddarach, dechreuwyd rhoi’r geiriau hynny ar waith mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn 11 Stryd Downing gydag ychydig o Gymry blaenllaw yn bresennol.  Yno, ffurfiwyd pwyllgor dros dro, a chyn diwedd y mis, trefnwyd Cynhadledd Genedlaethol ganddynt yng Nghaerdydd er mwyn lansio Cynllun ar gyfer y Corfflu Cymreig gydag Iarll Plymouth yn Gadeirydd ac Owen W. Owen yn Ysgrifennydd.  Gyda bron i ddwy fil o wahoddedigion yn cynrychioli Cymry ar bob lefel, addawyd y byddai Cymru ynghyd â Sir Fynwy yn codi Corfflu cyfan a hynny gyda sêl bendith yr Arglwydd Kitchener, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel.

Copi carbon o ddalen cyntaf llythyr a ddanfonodd Owen W. Owen at y Cadfridog Syr W. Henry Mackinnon, y General Officer Commanding-in-Chief trannoeth y Gynhadledd yn Park Hall, Caerdydd ar 29 Medi 1914. (Welsh Army Corps Records, C11/1)

Copi carbon o ddalen cyntaf llythyr a ddanfonodd Owen W. Owen at y Cadfridog Syr W. Henry Mackinnon, y General Officer Commanding-in-Chief trannoeth y Gynhadledd yn Park Hall, Caerdydd ar 29 Medi 1914.
(Welsh Army Corps Records, C11/1)

 

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ar 2 Hydref 1914 yn y Llysoedd Barn yng Nghaerdydd ac erbyn y 10fed o’r mis, cyhoeddwyd i’r General Officer Commanding-in-Chief dros Reolaeth Orllewinol lythyr wrth y Swyddfa Ryfel yn awdurdodi’r Pwyllgor i godi Corfflu Cymreig o ddwy Adran.  Erbyn diwedd Chwefror 1915, roedd gan y Corfflu Cymreig 20,000 o ddynion – digon i godi’r Adran gyntaf, a ddaeth i’w adnabod yn derfynol fel y 38th (Welsh) Division.

Yma yn y Llyfrgell, ceir archif y Corfflu Cymreig a ddaeth yn rhodd wrth weddw Owen William Owen, CBE yn 1930.  Mae’r casgliad wedi’i rhannu’n dri grŵp – gohebiaeth, cyfrifon a thendrau ar gyfer dillad ac angenrheidiau wrth iddynt sefydlu’r Corfflu; ceisiadau ar gyfer comisiwn; a phapurau gweinyddol.  Wrth fynd trwy’r casgliad cyfan o 167 bocs, 5 cyfrol, 3 rholyn ac un ffolder, ceir darlun llawn o waith a chyraeddiadau’r Corfflu Cymreig rhwng 1914 a 1921.

Mi ddewiswyd yr archif fel un o’r casgliadau fyddai’n cael ei ddigido yn ei chyfanrwydd ar gyfer project sy’n cael ei hariannu gyda Jisc sef Rhyfel Byd Cyntaf a’r profiad Cymreig, 1914-1918.  Cyn diwedd eleni, bydd modd byseddu trwy’r casgliad cyfan o unrhyw le yn y byd pan fydd gwefan y project wedi’i lansio.

D. Rhys Davies

Isadran Digido, Disgrifio a Derbynion Etifeddol

Tags: ,

Posted - 30-07-2013 No Comments

Digido

Digon o le i bawb? – Safbwynt hanesyddol

Gyda’r sylw diweddar ar y newyddion am boblogaeth y byd yn croesi saith biliwn, cafwyd dadleuon am yr effaith gall hyn gael ar safonau byw wrth i fwy o bobl gystadlu am yr adnoddau sydd ar gael. Wrth ychwanegu bod disgwyliad oes pobl yn cynyddu, effeithiau newid hinsawdd ar y blaned a phrinder ynni, gellid rhagweld y gallai problemau sylweddol wynebu’r ddynoliaeth yn y degawdau nesaf.

Diddorol felly oedd darllen am agwedd pobl o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r mater hwn. Ymysg casgliad Gladstone (pamffledi a anfonwyd ato am bob math o destunau pan oedd yn Brif Weinidiog) deuthum ar draws cyhoeddiad o ddarlith gan Arnold Lupton, a ddaeth yn hwyrach yn Aelod Seneddol o’r Blaid Ryddfrydol, gyda’r teitl Our Inheritance in the Earth or Room enough for all. Traddodwyd y ddarlith ar y 24ain o Chwefror, 1883.

Gan ddefnyddio mathemateg ac economeg, dadleuodd Lupton fod gobaith gwirioneddol i’r ddynoliaeth fynd o nerth i nerth am ganrifoedd i ddod. Roedd y ddamcaniaeth hon yn anghytuno gyda syniadau Thomas Malthus a gredodd fod tŵf poblogaeth yn mynd yn groes i gymdeithas wtopia. Daeth rhai o broffwydoliaethau Lupton yn wir. Er enghraifft, nododd y gallai poblogaeth y Ddaear gynyddu tua phum gwaith yn y ganrif o 1883 gyda datblygiadau adnewyddol a chynnydd mewn cyfoeth. Roedd poblogaeth y byd yn 1.3 biliwn yn 1883, a mae wedi cyrraedd yn agos i bum gwaith hyn erbyn heddiw.

Y Parchg Thomas Maltus, arbenigwr yn y meysydd economi gwleidyddol a demograffeg

Y Parchg Thomas Malthus FRS -  arbenigwr yn y meysydd economi gwleidyddol a demograffeg

Credai Arnold Lupton fod digon o le ar y Ddaear i gynnal can biliwn o bobl yn gyfforddus, ac o bosib pump gwaith hyn gyda dyfeisiad newydd yn y byd amaethyddol. Dywed hyn yn rhannol oherwydd roedd gwledydd mwyaf cyfoethog y byd hefyd yn rai oedd â phoblogaeth mwyaf dwys; ei enghreifftiau oedd Ynysoedd y Sianel, Gwlad Belg a Phrydain. Ymresymai fod Iwerddon yn dlawd oherwydd ei diffyg poblogaeth er fod y tir yn ffrwythlon. Pan fod y boblogaeth yn denau ysgrifennodd fod rhannu llafur yn anodd. Mae’r gost o gadw ffyrdd, llefydd cyhoeddus a melinau yn rhy fawr i’w cadw. Fel daw’r boblogaeth yn fwy daw rhannu llafur yn haws; gall pawb wneud gwaith arbenigol, ac fel y cynydda’r boblogaeth adeiladir rheilffyrdd a ffatrioedd, trefnir gwasanaeth bysiau a chaiff llafur di-angen ei arbed. Felly daw gwaith pawb yn fwy cynhyrchiol. Cyferbynai sefyllfa o gant o bobl yn crafu bywoliaeth lle byddai mil o bobl yn gallu cynnal eu hunan a’u teuluoedd yn gyfforddus ac yn ffyniannus gyda digon i’w sbario.

Wrth gymhwyso damcaniaeth Lupton i’n sefyllfa heddiw, rhaid ystyried nifer o ffactorau ychwanegol, er enghraifft, – a oes modd parhau i gynnal poblogaeth gynyddol hŷn nad ydynt yn abl i weithio heb i safon byw ostwng i bawb? A fydd dulliau gwyddonol o wella amaethyddiaeth yn parhau i ddatblygu? A fyddwn yn gallu darganfod dulliau newydd, ymarferol o gynhyrchu ynni na fydd yn ymharu ar yr amgylchfyd? Her ein hoes yw dysgu o’r gorffennol, ond hefyd darganfod dulliau newydd o ddatrys problemau’r ddynoliaeth.

Hywel Lloyd

Posted - 25-06-2013 No Comments

Digido

Cylchgrawn o’r Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth weitho ar brosiect y Rhyfel Byd Cyntaf rydw i wedi dod ar draws nifer o eitemau diddorol. Yn ddiweddar darganfyddais gylchgrawn blynyddol y 38th Welsh Division. Yn hwn mae ‘na storiau, barddoniaeth, cartwnau a hysbysebion yn ymwneud â’r uned yma o’r fyddin. Mae ‘na dri rhifyn yn y gyfrol 1917 i 1919. Yn bersonnol rwy’n hoff o’r Dudvertisements ar ddiwedd cyfrol Blwyddyn Newydd 1918 lle gellir gweld  hysbysebion am bethau fel “Dr. Wilhelm’s Pink Pills for Prussians”  gyda llun o’r Kaiser Wilhelm ei hyn yn lle Dr. Williams a oedd yn gwerthu’r “Pink Pills for Pale People.”  Mae ‘na lawer o wybodaeth am y milwyr a’i gwaith mewn ffordd ddigri! Hefyd mae ‘na ambell ddigwyddiad dychmygol yn cael ei bortreadu, ond byddem wedi mwynhau gweld yr Almaenwyr yn edrych ar afr yn hedfan dros no-man’s land yn barod i chwarae ei ran!

38th Welsh Division

Nia Morwen Williams

Posted - 12-06-2013 No Comments

Digido

Delweddau o Batagonia

Rwyf newydd fod yn paratoi casgliad o ddelweddau a dynnwyd gan William Richard Owen (1906-1982) i’w llwytho ar y Drych Digidol.

dwb00147crop

W. R. Owen yn Ogof Madryn, 1965

Roedd W. R. Owen yn gynhyrchydd radio i’r BBC, a theithiodd i Batagonia ym 1955 i ymchwilio a recordio’r rhaglenni radio Cymraeg cyntaf o’r Wladfa i’r BBC ym 1955. Mae’r delweddau yn y casgliad yn cynnwys ffotograffau a sleidiau o’i ymweliadau a Phatagonia ym 1955 a 1965, ac yn cynnwys golygfeydd o Buenos Aires a phentrefi’r Wladfa, adeiladau a chapeli, y trigolion a’r diwylliant lleol, ynghyd a delweddau o dathliadau canmlwyddiant sefydlu’r Wladfa. Cofnodir y cyfan – o’r daith awyren a’r teithwyr, ciniawau swyddogol, cymanfaoedd canu, gwasanaethau, dawnsfeydd, cyngherddau, dramâu, asados, a’r cofebau a dadorchuddiwyd yn ystod y dathliadau. Ceir hefyd rai cardiau post yn dangos golygfeydd ac adeiladau’r ardal, a delweddau a gasglodd W.R. Owen fel rhan o’i ymchwil. Rhoddwyd y casgliad, ynghyd a llawysgrifau ac eitemau sain a ffilm i’r Llyfrgell gan ei ferch, Dwynwen Belsey. Gallwch weld y casgliad o’r delweddau wrth glicio yma.

Ymfudodd nifer fawr o Gymry i Batagonia ym 1865 yn y gobaith o gael bywyd gwell – doedd dim gwaith, ac roedd llawer yn byw mewn tlodi. Hwyliodd tua 150 o Gymry ar y Mimosa, ond sylweddolwyd yn gyflym nad oedd y wlad mor ddelfrydol ag yr awgrymwyd. Gwellodd y sefyllfa’n raddol wrth iddynt ddysgu hela, a thorri camlesi i ddyfrhau a ffrwythloni’r tir.  Roedd Michael D. Jones yn awyddus iawn iddynt fedru gadw’u hunaniaeth, ac i ddiogelu’r iaith a’r diwylliant Cymreig. Ond er gwaethaf yr ymdrech i ddiogelu eu hiaith a’u traddodiadau, Sbaeneg oedd cyfrwng y cyfathrebu y tu allan i’r cartref a’r capel erbyn 1950, ac anghofiodd y Cymry adref am y drefedigaeth Gymreig ym Mhatagonia.

Yn ystod ei ymweliad ym 1955 cyfarfu W. R. Owen ag arweinyddion y cymunedau Cymreig a ffigyrau dylanwadol y dalaith, a darlledwyd tair rhaglen am y Wladfa ar y radio. Arweiniodd y rhaglenni yma at ail-gynnau’r diddordeb a’r cyswllt rhwng y ddwy wlad, a sefydlwyd pwyllgorau i drefnu dathlu canmlwyddiant y mudo cyntaf. Dychwelodd W.R Owen gyda mintai o Gymru blaenllaw i ddathlu’r canmlwyddiant ym 1965.

O ganlyniad i’r adroddiadau am hanes y canmlwyddiant yn y wasg Gymreig ym 1965, cynyddodd yr ymwybyddiaeth a’r diddordeb am hanes yr ymfudwyr. Denwyd twristiaid o Gymry, a cychwynnodd athrawon ail-iaith fynd yno o’u gwirfodd i redeg dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Cynyddodd y cyswllt, a noddodd y Swyddfa Gymreig athrawon Cymraeg i fynd yno i gryfhau’r iaith, hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg lleol, a datblygu gweithgareddau diwylliannol, ac o ganlyniad dechreuwyd dysgu Cymraeg fel pwnc yn yr ysgolion am y tro cyntaf ers canrif. Erbyn heddiw mae nifer o deithiau yn cael eu trefnu i’r Wladfa’n flynyddol, gyda nifer fawr yn cael ei trefnu ar gyfer dathlu 150 o flynyddoedd yn 2015.

Tags: , , ,

Posted - 28-05-2013 No Comments

Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Gwenwch!

Wrth i mi bori drwy wefan y Llyfrgell, y blog a’r Drych Digidol. Un casgliad sydd o hyd yn fy rhyfeddu, yw casgliad Geoff Charles. Dyma gasgliad anhygoel o luniau cyffredin, o bobl gyffredin adeg yr Ail Ryfel Byd, 1939-1945.

Erbyn hyn mae 6000 o luniau ar gael ar -lein i bawb cael gweld, rhan fwyaf ohonynt ar gyfri Flickr y Llyfrgell.
Yn aml byddwn yn tynnu sylw at y casgliad yma drwy drydar ac mae’r ymateb yn ffafriol dros ben, mae’n amlwg iawn, bod pobl yn hoff o luniau! Dyma un o fy ffefrynnau. Mae ddigon posib i chi adnabod rhywun o’r lluniau efallai, cymrwch gip olwg….

Tags: , , ,

Posted - 20-05-2013 No Comments

Digido

Gwn ei ddyfod, fis y mêl

Gwaith y bardd 'Eryr', o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Gwaith y bardd ‘Eryr’, o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Wrth feddwl am destun i’r blog y tro hyn, penderfynais bori drwy’r wefan newydd, Papurau Newydd Cymru Arlein, am ysbrydoliaeth, gan ganolbwyntio ar erthyglau neu eitemau yn ymwneud â mis Mai. Ces fy synnu fod cymaint o farddoniaeth ar gael ar y testun yma, oll yn canu clod i fis Mai.

Ceir esiamplau diri o feirdd yn trafod y mis hwn mewn modd rhamantaidd megis ‘Gyndelyn’, bardd o Gonwy, yn ei englyn yn Seren Cymru, Mai 24ain, 1895, tud. 10:

Mai inni wyt ddymunol – dy laswellt

A dy lysiau swynol;

Bron a dweyd mai bryn a dôl,

Na fu Eden fwy hudol.

 

Eto hefyd mae E B Morris, o Lanbedr Pont Steffan, yn llawn angerdd tuag at fis Mai yn y Goleuad, Mai 22ain 1903, t. 5:

O fisoedd y flwyddyn,

Y mwynaf yw Mai;

Goreura y dyffryn

A’r bryndir yn chwai.

 

Ceir natur ei gorau

Mewn mantell werdd, dlos;

A thryfrith gan flodau,-

Meill, briaill, a rhos…

 

Y defaid a borant

Mewn llonder ar fryn,-

A’r gwartheg mewn mwyniant

Hyd lanau y llyn…

 

Fel y gwelir, mae’r farddoniaeth yma yn canolbwyntio ar natur ac effaith y tywydd mwyn ar yr amgylchfyd a bywyd cefn gwlad, e.e. fel y gwneir hefyd yng ngwaith G Bat Davies o Ystradgynlais yn y Gwladgarwr, Ebrill 2il, 1864 (tud. 7)

 

HARDDWCH Y DDOL YN MIS MAI

Er chwythu o Chwefror a Mawrth yn ein herbyn,

A’r eira can oered yn syrthio mor sydyn !

Nes cuddio holl harddwch y bryniau a’r bröydd,

A chuddio gogoniant celfyddyd y trefydd.

 

Daw Mai mewn prydferthwch a’r ddol yn feillionog,

Y gog glywn yn canu, bydd pawb yn galonnog;

Canfyddir y coedydd yn gwisgo’u gwyrddlesni,

Ac anian a welir yn llon adlewyrchu….

 

Nid yw’r tywydd wedi bod yn rhy ffafriol yn yr ardal hon dros yr wythnosau diwethaf, gyda chawodydd cyson o law a hyd yn oed cesair yn cwympo mewn rhai mannau, ond wrth gwrs mae’n rhaid cofio fod unrhyw law a gawn ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn angenrheidiol i dyfiant cnydau a phlanhigion dros y misoedd nesaf. Canai Ednant am hyn yn Nharian y Gweithiwr dros ganrif yn ôl (12fed o Fai, 1910) (t. 3):

CAWOD MAI

Yn ysgafn gyda’r awel

Daeth cawod Mai i lawr,

Heb dwrf fel cysgod angel

Yn gloewi gwen y wawr.

 

Mae anian yn llawn ynni

Yn drachtio’r dafnau chwai,

Un dyner fel goleuni

Yw maethlawn gawod Mai.

 

Difyr iawn oedd medru pori drwy gymaint o ddarnau cerdd o’r gorffennol, ac os ydych am fynd i chwilio eich hunain am bwnc o’ch dewis, ceir miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol Cymreig yn rhad ac am ddim ar y wefan.

papuraunewyddcymru.llgc.org.uk

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

Tags: , ,

Posted - 11-02-2013 No Comments

Digido

Archifau y Rhyfel Byd Cyntaf

Drwy weithio ar brosiect y Rhyfel Byd Cyntaf rwy wedi dod ar draws sawl eitem diddorol, gan gynnwys dyddiaduron, ffurflenni a llythyron.

Ymhlith y deunydd mae copi gwreiddiol o’r gerdd “Yr Arwr” gan Hedd Wyn (Ellis H. Evans). Hwn oedd y copi gwreiddiol aeth i’r Eisteddfod ym Mhen Bedw yn cynnwys beirniadaeth ar y gerdd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael yn anodd i ddeall ei ysgrifen.

Mae archif y Cardiganshire War Tribunal yn un eithriadol o ddiddorol, efallai oherwydd hon yw’r unig gasgliad o’i math sydd wedi goroesi hyd yma. Cafodd  papurau cyffelyb eu dinistrio ar ddiwedd y rhyfel. Yn y casgliad deuthum ar draws rheolau i ddynodi pwy oedd raid ymrestru i’r rhyfel a phwy nad oedd yn cael mynd. Yna mae bocsys llawn o ffurflenni apêl gan bobl a gredai na ddylent orfod mynd i ryfel. Dyma enghraifftiau o’r math o resymau a roddwyd ganddynt:

•    byddai busnes yn methu
•    angen iddynt weithio ar y fferm
•    mam/gwraig/blentyn yn dost a neb arall i edrych ar eu hôl

Roedd bob math o resymau pam nad oedd pobl yn mynd i ryfel ac mae’n ddiddorol darllen penderfyniad y tribiwnlys ymhob achos. Tybed pwy o’r rhai a ddanfonwyd i ryfel a ddaeth nôl?

Nia Morwen Williams

Tags: , ,

← Older Posts Newer Posts →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog

Subscribe2