Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hugh Hughes ‘Y Limner’
Bu farw Hugh Hughes gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Cyhoeddodd y North Wales Chronicle ar 28 Mawrth 1863: ‘On the 11th instant, at Malvern aged 73, Hugh Hughes Esq. artist. The deceased was a good Christian, a man of sterling qualities, upright, and honourable in all his transactions.’

Pam tybed bu i arlunydd o bwys cenedlaethol symud i Loegr yn ei ddyddiau olaf? Pam ei fod yn cael ei adnabod, nid yn gymaint am ei gelf, ond am ei fod yn ddyn cadarn, moesol? A oes modd esbonio hyn yn rhannol trwy honni fod Hughes yn barod iawn i wrthsefyll syniadau enwogion ei ddydd, ac yn barod ac abl i sefyll dros Gymru a’i phobl?

Mae gwaith celfyddydol Hughes yn achos dathliad arbennig eleni hefyd. Cyhoeddodd Beauties of Cambria fel cyfrol lawn ym 1823, cyfrol sy’n cynnwys chwe deg o brintiau cain wedi eu hengrafu gan Hughes ei hunan, gyda nodiadau’r arlunydd ar gyfer pob llun. Mae’r disgrifiadau’n adlewyrchu ei ffordd o weithio: er enghraifft, yn y print ‘Brynllys Castle’, mae’n nodi: ‘this view was taken on the 23rd September 1820 the figures were sketched at the same time from life, the subjects passing, on their return from the fair at Talgarth.’

Pam cofio marw Hughes? Roedd ganddo sgiliau a diddordebau eang iawn. Gallai baentio tirluniau a phortreadau, a gallai gynhyrchu cartwnau gwych. Fel awdur, ysgrifennodd yn danllyd a chlir, ac fel Cymro, roedd yn fodlon siarad ar ran eraill, heb ystyried y gost.

Paul Joyner

Newyddiadurwyr Cymru : Gareth Vaughan Jones
Ar ddydd Sadwrn, 16 Mawrth 2013, bu’r newyddiadurwr Guto Harri a’r ymchwilydd Wynford Jones yn ymweld ậ’r Llyfrgell Genedlaethol, ar ran cwmni Tinopolis, Llanelli, er mwyn ffilmio rhaglen ddogfen sylweddol awr o hyd ar y newyddiadurwr enwog Gareth Richard Vaughan Jones (1905-35). Y bwriad yw darlledu’r rhaglen ar S4C yn ystod yr hydref eleni fel rhan o gyfres uchelgeisiol ar newyddiadurwyr nodedig a hanai o Gymru.

John Graham Jones a Guto Harri yn Ystafell y Cyngor

Roedd Gareth Jones yn frodor o’r Barri ac yn fab i’r Uwchgapten Edgar Jones, prifathro Ysgol Ramadeg y Bechgyn lleol, a’i wraig Annie Gwen Jones. Ac yntau’n ieithydd arbennig o ddisglair a thalentog, graddiodd Gareth o Goleg Aberystwyth a Phrifysgol Caergrawnt cyn mwynhau gyrfa gyffrous, llawn antur fel ymchwilydd (gan gynnwys cyfnodau ar staff Lloyd George), newyddiadurwr uchel ei barch a theithiwr di-ofn. Cyflwynwyd archif sylweddol o’i ohebiaeth a’i bapurau i ofal y Llyfrgell gan aelodau o’i deulu ym 1987 a 2007-11.

Defnyddiwyd yr archif wych hon yn helaeth wrth baratoi’r rhaglen a wnaeth ddefnydd mawr o lythyrau manwl Gareth Jones at ei deulu, ynghyd ậ’i ddyddiaduron a’i lyfrau nodiadau poced a gadwodd yn gydwybodol wrth grwydro’r byd, gan gynnwys teithiau i wledydd mwy diarffordd fel Rwsia, Tseina, Japan a Manchuria.

Ceir yn ogystal drafftiau a chopïau o’r erthyglau craff a threiddgar a gyhoeddodd mewn papurau newydd a chylchgronau safonol dros nifer o flynyddoedd, ynghyd ậ thorion papur newydd niferus ohonynt. Jones oedd yn bennaf gyfrifol am ddatgelu i’r gorllewin sgil-effeithiau erchyll y newyn yn yr Wcran ganol y 1930au oherwydd gweithredu polisïau Stalin. Llofruddiwyd Gareth Jones gan ‘ladron’ ym Mongolia Mewnol ar 12 Awst 1935 ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeg-ar-hugain mlwydd oed. Yn drist iawn, daeth bywyd hollol unigryw llawn addewid a photensial i ben yn ddisyfyd.

J. Graham Jones

Cymry Ruhleben
Yn ddiweddar gofynnwyd i mi ddisgrifio pecyn o bapurau hanesyddol a difyr (NLW ex 2803). Papurau David Evans (1886-1968) ydynt, Athro Almaeneg ac awdur A simplified German grammar (1948). Bu’r brodor o Sir Benfro yn fyfyriwr Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Berlin, ac roedd yno pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.  Fe’i carcharwyd am bedair blynedd gyda rhyw bum mil o garcharorion sifil yng ngwersyll rhyfel Ruhleben, ger Berlin. Sefydlwyd ysgol y gwersyll yn 1915 a David Evans oedd pennaeth Astudiaethau Celtaidd ac yn gyfrifol am roi gwersi Cymraeg. Un o’i ddisgyblion ail-iaith oedd Ifor Evans (1897-1952) ac ni freuddwydiodd y byddai’r myfyriwr ifanc hwn yn dod yn Bennaeth arno yntau ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn blynyddoedd! Ceir atgofion Mrs Ruth Evans am brofiadau ei gŵr Ifor yn y gwersyll hefyd yma’n y Llyfrgell (NLW ex 1837). Rhestrir David ac Ifor Evans ymhlith y carcharorion rhyfel ar wefan hanes Ruhleben.

Yr oedd côr y gwersyll yn cyfarfod yn wythnosol i ddysgu hen alawon Cymreig a chynhelid darlithiau ar lenyddiaeth Gymraeg. Roedd llyfrgell y gwersyll ar agor yn ddyddiol a cheir tystiolaeth fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi anfon llyfrau atynt. Cynhaliwyd ‘cyfarfod adloniadol’ ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 1917 dan adain y Gymdeithas Gymraeg a’r cadeirydd oedd David Evans.

Argraffwyd y taflenni hyn gan wasg y gwersyll – Ruhleben Printing Works. ‘Oes y byd i’r iaith Gymraeg’ yw’r arwyddair a welir arnynt. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt ar ddiwedd erthygl David Thorne, ‘Y Gymraeg ym ‘Mhrifysgol Ruhleben”, yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cymro arall a fu’n garcharor yng ngwersyll Ruhleben oedd y Capten Rowland Humphreys, meistr yr SS Saxon, a anwyd yn Amlwch yn 1879. Cipiwyd ei long, ynghyd â’r criw o bedwar dyn ar ddeg, bedwar diwrnod cyn i’r rhyfel ddechrau. Diddorol oedd canfod llythyr, 1967, at ferch Capten Humphreys yn llaw David Evans ymhlith y papurau a gyflwynwyd ganddi yn 2007 (NLW ex 2495) yn ymwneud â’i thad. Ceir prosbectws ysgol y gwersyll, 1917, ymysg y papurau a gwelir isod pa mor amrywiol oedd y gwersi a ddysgwyd gan D. Evans ymhell o’i famwlad.

Bydd detholiad o gylchgronau gwersyll Ruhleben i’w gweld ar wefan prosiect Rhyfel Byd 1914-1918 a’r Profiad Cymreig ymhen ychydig fisoedd.

Ann F. Evans

Gwirfoddoli gyda Llawysgrif Boston
Prynwyd Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda mewn ocsiwn yn Llundain gan y Llyfrgell Genedlaethol y llynedd, gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn sgil hyn cododd y cyfle i gynnig cyfnod o wirfoddoli ar y prosiect, ac o dderbyn hysbyseb drwy ein hadrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn y Nadolig, manteisiodd y ddwy ohonom ar y cyfle.

Trefnwyd pedair taith dywys i arddangos y llawysgrif i’r cyhoedd ym mis Ionawr 2013, gan roi taith yr un i bedair ohonom a lwyddodd i gael lle ar y prosiect. Derbyniodd y ddwy ohonom hyfforddiant i baratoi at ein teithiau: treuliasom brynhawn yn ymdrin â gwahanol lawysgrifau hynafol yn dyddio nôl cyn belled â’r drydedd ganrif ar ddeg. Cawsom arweiniad ar sut i afael yn gywir yn y deunydd, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Bu’r hyfforddiant hwn wedyn o gymorth ar y teithiau tywys ar y 21ain a’r 23ain o Ionawr. Ein gwaith oedd arddangos rhannau o Lawysgrif Boston i’r ymwelwyr: yr hen gloriau a’r dail memrwn, a sut yr oedd plygiadau yn ffurfio cyfrol trwy gyfrwng y broses rwymo. Yn ychwanegol, dangosem ffacsimili o lawysgrif Peniarth 28, llawysgrif gyfreithiol arall sy’n cael defnydd helaeth y tu hwnt i adeilad y Llyfrgell.

Bu’r profiad yn un gwerthfawr ac unigryw i’r ddwy ohonom. Cawsom weithio gyda’r llawysgrif arbennig hon, a gyda staff y Llyfrgell a oedd yn hynod gefnogol ac mor barod i roi eu hyder ynom a rhyddid i fwynhau’r profiad. Roedd y prosiect yn un cyffrous i fod yn rhan ohono, a bu’r dyddiau yn rhai cofiadwy iawn.

Mared a Jess

Galw gwirfoddolwyr ar draws Cymru …
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda phrosiect sy’n cofnodi effaith y Rhyfel Mawr  ar bob agwedd o fywyd, iaith a diwylliant Cymru.

Tapiau sain o gyfweliadau â phobl o ardaloedd pyllau glo De Cymru sy’n sôn am eu profiadau yn ystod y Rhyfel, yw’r casgliad o dan sylw, a’r nod yw sicrhau bod y casgliad yn hygyrch.

Mae’r gwaith yn cynnwys gwirio a golygu trawsgrifiadau o dapiau sain, ynghyd â chreu trawsgrifiadau o’r newydd.  Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn y tapiau sain ar Gof Bach USB a bydd gofyn iddynt drosglwyddo’r cynnwys i ddogfen ‘Word’ a’i e-bostio yn ôl i’r swyddog prosiect.  Darperir canllawiau.

Gofynion hanfodol:

•    Y gallu i weithio’n annibynnol;

•    Sgiliau TG – ‘Word’, e-bost, a phrofiad o weithio gyda Realplayer neu Quicktime;

•    Sgiliau llythrennedd da iawn yn Gymraeg  a/neu Saesneg;

•    Gofalus a threfnus.

Medrwch weithio o’ch cartref, fel sy’n gyfleus.

Am ragor o wybodaeth, neu i ddatgan diddordeb, cysylltwch â:

Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr,

Ffôn – 01970 632991

E-bost – gwd@llgc.org.uk

Archifau y Rhyfel Byd Cyntaf
Drwy weithio ar brosiect y Rhyfel Byd Cyntaf rwy wedi dod ar draws sawl eitem diddorol, gan gynnwys dyddiaduron, ffurflenni a llythyron.

Ymhlith y deunydd mae copi gwreiddiol o’r gerdd “Yr Arwr” gan Hedd Wyn (Ellis H. Evans). Hwn oedd y copi gwreiddiol aeth i’r Eisteddfod ym Mhen Bedw yn cynnwys beirniadaeth ar y gerdd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael yn anodd i ddeall ei ysgrifen.

Mae archif y Cardiganshire War Tribunal yn un eithriadol o ddiddorol, efallai oherwydd hon yw’r unig gasgliad o’i math sydd wedi goroesi hyd yma. Cafodd  papurau cyffelyb eu dinistrio ar ddiwedd y rhyfel. Yn y casgliad deuthum ar draws rheolau i ddynodi pwy oedd raid ymrestru i’r rhyfel a phwy nad oedd yn cael mynd. Yna mae bocsys llawn o ffurflenni apêl gan bobl a gredai na ddylent orfod mynd i ryfel. Dyma enghraifftiau o’r math o resymau a roddwyd ganddynt:

•    byddai busnes yn methu

•    angen iddynt weithio ar y fferm

•    mam/gwraig/blentyn yn dost a neb arall i edrych ar eu hôl

Roedd bob math o resymau pam nad oedd pobl yn mynd i ryfel ac mae’n ddiddorol darllen penderfyniad y tribiwnlys ymhob achos. Tybed pwy o’r rhai a ddanfonwyd i ryfel a ddaeth nôl?

Nia Morwen Williams

‘Your Paintings’
Bydd un o’r nifer o weithiau celf sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei daflunio ar adeiladau yn nhair o ddinasoedd Cymru heno fel rhan o ddigwyddiad i ddathlu Your Paintings– gwefan sy’n arddangos casgliad o 210,000 o weithiau olew o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Rhwng 4.30pm a 10pm bydd Sunflowers with mountains beyond, 1940-1950 gan Syr Kyffin Williams yn cael ei arddangos ymhlith gweithiau eraill ar furiau Canolfan y Ddraig Goch, Caerdydd; Adeilad Miss Selfridge, Princess Way, Abertawe; a Marks & Spencer’s, Wrecsam.

Mae’r tafluniadau yn nodi dechrau mis o arddangosfeydd a digwyddiadau a drefnwyd gan y BBC a’r Public Catalogue Foundation i ddathlu cwblhau Your Paintings. Mae’r Llyfrgell yn arddangos bron i 2,000 o weithiau o’i chasgliadau ar y wefan a gallwch weld y cyfan yma.

Newyddion a Digwyddiadau
Crempog, Pancos, Poncage

Dydd Mawrth 12 Chwefror

Crempog, Pancos, neu Poncage – beth bynnag chi’n eu galw, mae nhw ‘run mor flasus.

A hithau’n Ddydd Mawrth Ynyd, beth am ymweld â ni yn Café Pen Dinas yn y prynhawn i flasu’r goreuon.

Cofiwch ddod yn gynnar cyn iddynt ddiflannu!

Hitler, Stalin a Mr Jones

Nos Fercher, 13 Chwefror 7.30pm

Cyfle i glywed am y Cymro Gareth Jones – y newyddiadurwr gyfarfu â Hitler a Stalin, cyn iddo cael ei lofruddio dan amodau amheus.

Pwy oedd yn gyfrifol a pham?

Dewch i weld y ffilm am hanes ei fywyd.

Mynediad am ddim trwy docyn

Who Do You Think You Are? – LIVE

22-24 Chwefror

Y Llyfrgell yn ymweld ag Olympia, Llundain, i gymeryd rhan yn Ffair Hanes Teulu mwyaf Prydain.

Arbennigwyr Hanes Teulu’r Llyfrgell yn bresennol i’ch cynhgori am wanahol agweddau o ffynhonellau hanes teulu yng Nghymru.

Am wybodaeth pellach ymwelwch a gwefan WDYTYA- Live

Gŵyl Dewi

1 Mawrth

Dewch i Café Pen Dinas dros ginio heddiw i fwynhau pryd blasus o gawl traddodiadaol.

Gallwch hefyd fwynhau gwrando ar gyfeiliant y delynores rhyngwladol ac amryddawn, Nest Jenkins.

Cynnig arbennig o 10% i ffwrdd o brisau llyfrau yn Siop y Llyfrgell heddiw.

Estynnwn groeso cynnes iawn i bawb!

Sul y Mamau

10 Mawrth

Wedi penderfynnu ar anrheg eto?

Beth am alw i mewn i Siop y Llyfrgell i weld yr amrywiaeth eang o anrhegion â chardiau chwaethus sydd ar gael.

Ceir rhai eitemau ar ein gwefan yn ogystal.

Rhywbeth at ddant a phoced pawb!

Syllwr newydd mapiau
Rydym yn y broses o greu syllwr newydd ar ein gwefan a fydd yn arddangos detholiad o fapiau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae yna fapiau sirol gan Thomas Taylor a mapiau morwrol gan Lewis Morris a William Morris ar y Drych Digidol.

Wedi i ni gwblhau’r gwaith yma byddwn yn cynnig mynediad at ystod lawer ehangach o fapiau o Gymru. Bydd y syllwr newydd yn cynnwys mapiau sy’n darlunio Cymru fel gwlad gyfan ac wedi ei rhannu yn ôl ei siroedd gwahanol. Byddwn hefyd yn arddangos mapiau o ystadau Cymru.

Wrth weithio ar y prosiect yma, mae ambell i fap wedi dal fy llygaid, e.e. map Christopher Saxton o Gymru, 1580:

“Cambriae (quae nunc vulgo Wallia nuncupatur)” gan Christopher Saxton, 1580 (MAP 01003):

Hefyd, dyma fap lliwgar o Geredigion gan John Speed, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1611 yn ei Theatre of the Empire of Great Britain:

“Cardigan shyre described” gan John Speed, [1676] (MAP 5151)

Ar lefel bersonol, mae wedi bod yn ddiddorol darganfod nifer o fapiau o ffermydd a thiroedd cyfagos i’m hardal enedigol ym mhlwyf Penbryn, De Ceredigion, yng Nghyfrol 39 o fapiau Ystâd Gogerddan gan Thomas Lewis. Yn 1784 roedd Ysgwier Ystâd Gogerddan, Edward Loveden Loveden, yn berchen ar lawer o dir yn yr ardal, gan gynnwys ein fferm deuluol ni heddiw:

“Maps of the estate of Edward Loveden Loveden Esqr in the several counties of Cardigan and Pembroke, South Wales” gan T. Lewis,1787 (Casgliad Ystad Gogerddan, Cyfrol 39, tud. 28r)

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

Casgliad y Canon D.S. Yerburgh
Rhoddwyd casgliad y Canon David S. Yerburgh i’r Llyfrgell Genedlaethol ‘nôl yn 2010.  Casgliad yw’r rhain o brintiau lliw a du a gwyn sy’n dyddio gan fwyaf o’r 19eg ganrif a diwedd y 18fed ganrif ac sy’n darlunio rhaeadrau ledled Cymru, o ddisgynfa fawreddog Abergwyngregyn yn y Gogledd i Ferw Rhondda yn y De. Cyfres o raeadrau – braidd yn undonog (os maddeuwch y mwyseirio) meddech chi. Wel, nac ydyn, oherwydd nad y rhaeadr yn unig sydd wedi’i bortreadu mewn nifer o’r darluniau (nac ychwaith sydd bob tro’n ganolbwynt i’r darlun) ond delwedd gyfan o dirlun yr ardal o’i chwmpas, efallai’n cynnwys pobl – bugail gyda’i gi a’i braidd, cerddwyr hamddenol – neu adeiladau e.e. melin (y ffynhonnell ddŵr cyfagos yn hanfodol i’w gynhaliaeth), ffermdy neu hyd yn oed, mewn un enghraifft, lety gwledig sy’n adnabyddus heddiw fel yr Hafod Arms Hotel. Bu’r arlunydd a’r engrafwr – weithiau yr un yw’r ddau – wrthi’n cyd-weithio i greu campwaith o fanylder cywrain, mor fanwl yn wir fel bod angen syllu am rai munudau cyn sylwi ar y bachgen yn pysgota ar lan yr afon, y ci’n rhedeg drwy’r goedlan ar y lan, yr wyneb sy’n ymddangos yn ffenest uchaf y tyddyn tu hwnt i’r bompren.

Pan ewch nesaf i ymweld ag Abergwyngregyn, am dro i Raeadr Dolgoch, neu i edmygu gwynder ewynnog Sgŵd Gwladys, pan gyfeiriwch wyneb eich ffôn symudol i gofnodi’r olygfa mewn chwinciad yn y fan a’r lle, cofiwch y bu eraill yno o’ch blaen gydag offer dipyn mwy anhylaw. Mae canlyniad eu llafur yma trwy garedigrwydd un gŵr.