Cyfle newydd i fusnesau Cymru

Bydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt heddiw yn ymweld a digiDo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth er mwyn dysgu mwy am y prosiect sy’n cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae digiDo yn cynnig cyfle i fusnesau creadigol yng Nghymru ddatblygu gwasanaeth neu gynnyrch newydd trwy ddefnydd o gasgliadau cyfoethog y Llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys dros 3.8 miliwn o eitemau digidol o dudalennau papurau newydd a chylchgronau, i lawysgrifau ac archifau hyd at ddarluniau a ffotograffau.

Mae Menna Lloyd, dylunydd gemwaith o Rhondda Cynon Taf eisoes wedi manteisio ar ddefnydd o’r prosiect ac mae hi ar hyn o bryd yn cael mynediad i’r casgliadau digidol er mwyn datblygu casgliad o emwaith sydd wedi’u hysbrydoli gan eitemau o’r Aifft.

“Dwi wrth fy modd ar gael cynnig y cyfle i fanteisio ar brosiect digiDo Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig cyfoeth enfawr o adnoddau gwerthfawr i mi allu integreiddio i mewn i fy ngwaith. Trwy ddefnyddio techneg ddylunio arbenigol mae modd i mi ddod a llawysgrifau ac archifau hynafol yn fyw trwy fy nghasgliad gemwaith newydd. Rwy’n bwriadu troi ein treftadaeth Gymreig yn gelf gwisgadwy ar gyfer y dyfodol.”

Yn ystod ei hymweliad, roedd modd i Jane Hutt weld cynifer o eitemau cyfoethog sydd wedi ymgartrefu yma a’r ffordd gallai busnesau creadigol ennill ysbrydoliaeth trwy rhain.

Dywedodd Jane Hutt, “Mewn cyfnod lle mae pwysau mawr ar bwrs cyhoeddus y wlad, dwi’n falch o weld llwyddiant prosiectau sydd wedi cael cefnogaeth gan adnoddau’r UE sy’n cyfrannu tuag at targedau Rhaglen y Llywodraeth i hybu busnesau cystadleuol yng Nghymru. Bydd rhoi cymorth i fusnesau Cymru i fanteisio ar gyfleoedd i arloesi a defnyddio technoleg newydd yn sicrhau llwyddiant masnachol a hybu twf o fewn economi Cymru”.

Os oes unrhyw un yn dymuno dysgu mwy am gasgliadau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, byddai mynychu digwyddiad ‘Cyflwyno’r Casgliadau Digidol’ ar y 16 o Orffennaf yn fuddiol. Barn Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch yw, “Roedd y digwyddiad hwn yn agoriad llygad i’r cyfoeth o eitemau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddaf yn awgrymu digiDo i olygyddion eraill.” Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.

hut

Cyhoeddwyd yn Heb ei gategoreiddio | | Gadewch sylw

Cynhadledd CILIP Cymru

Wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynychu cynhadledd blynyddol CILIP Cymru a gynhaliwyd yn Ngwesty’r Radisson Blu yng Nghaerdydd.

Logo Cynhadledd CILIP  2013

Logo Cynhadledd CILIP 2013

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â CILIP Cymru, mae’n  sefyll am The Chartered Institiute of Library and Information Professionals – felly roedd y gynhadledd wedi’i anelu at bobl sy’n gweithio, neu’n gysylltiedig â llyfrgelloedd, ledled Cymru, gan hefyd ddenu cynadleddwyr o thu hwnt yn ogystal.

Llynedd cafwyd araith gan Huw Lewis, cyn-weinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau llyfrgell oedd yn dangos partneriaeth a chydweithio wrth gyflwyno gwasanaethau mewn dulliau arloesol er mwyn gwella ansawdd bywyd cymunedau yng Nghymru – ac fe barhawyd a’r thema yma eleni.

Cafwyd nifer o gyflwyniadau ar y thema yma dros y dau ddiwrnod, ac ar ddydd Gwener cafwyd araith gan John Griffiths, Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant. Yn dilyn ei araith aeth i agor llyfrgell newydd ym Mhontycymer, sy’n rhannu’r un safle a’r ganolfan hamdden lleol.

Roedd y Llyfrgell yn y gynhadledd gyda stondin yn hyrwyddo ein gwasanaethau, ar y  thema ‘y Llyfrgell o bell’ gan ganolbwyntio ar yr adnoddau sydd i’w cael ar y wê. Un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw Papurau Newydd Cymru Arlein, a lansiwyd eleni. Mae’n adnodd sy’n profi’n hynod o boblogaidd, ac yn gyflym yn ennill ei blwy gyda haneswyr lleol, haneswyr teulu ac ymchwilwyr yn gyffredinol.

Cafwyd cyflwyniad poblogaidd gan Siân Thomas o’r Llyfrgell am Archif Digidol ITV Cymru, sydd bellach yn y Llyfrgell – adnodd pellach sy’n cyfoethogi ein casgliadau gwerthfawr.

Roedd gynhadledd 2013 yn un llwyddiannus iawn, gan ddenu dros 200 o gynadleddwyr, a diolch i’r trefnwyr am eu gwaith. Cafwyd cyfle da i rannu syniadau a phrofiadau gyda’n cyd-weithwyr yn y maes, ac wrth gwrs i gymdeithasu yn y fargen!

Cyhoeddwyd yn Newyddion a Digwyddiadau | | Gadewch sylw

Gwn ei ddyfod, fis y mêl

Gwaith y bardd 'Eryr', o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Gwaith y bardd ‘Eryr’, o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Wrth feddwl am destun i’r blog y tro hyn, penderfynais bori drwy’r wefan newydd, Papurau Newydd Cymru Arlein, am ysbrydoliaeth, gan ganolbwyntio ar erthyglau neu eitemau yn ymwneud â mis Mai. Ces fy synnu fod cymaint o farddoniaeth ar gael ar y testun yma, oll yn canu clod i fis Mai.

Ceir esiamplau diri o feirdd yn trafod y mis hwn mewn modd rhamantaidd megis ‘Gyndelyn’, bardd o Gonwy, yn ei englyn yn Seren Cymru, Mai 24ain, 1895, tud. 10:

Mai inni wyt ddymunol – dy laswellt

A dy lysiau swynol;

Bron a dweyd mai bryn a dôl,

Na fu Eden fwy hudol.

 

Eto hefyd mae E B Morris, o Lanbedr Pont Steffan, yn llawn angerdd tuag at fis Mai yn y Goleuad, Mai 22ain 1903, t. 5:

O fisoedd y flwyddyn,

Y mwynaf yw Mai;

Goreura y dyffryn

A’r bryndir yn chwai.

 

Ceir natur ei gorau

Mewn mantell werdd, dlos;

A thryfrith gan flodau,-

Meill, briaill, a rhos…

 

Y defaid a borant

Mewn llonder ar fryn,-

A’r gwartheg mewn mwyniant

Hyd lanau y llyn…

 

Fel y gwelir, mae’r farddoniaeth yma yn canolbwyntio ar natur ac effaith y tywydd mwyn ar yr amgylchfyd a bywyd cefn gwlad, e.e. fel y gwneir hefyd yng ngwaith G Bat Davies o Ystradgynlais yn y Gwladgarwr, Ebrill 2il, 1864 (tud. 7)

 

HARDDWCH Y DDOL YN MIS MAI

Er chwythu o Chwefror a Mawrth yn ein herbyn,

A’r eira can oered yn syrthio mor sydyn !

Nes cuddio holl harddwch y bryniau a’r bröydd,

A chuddio gogoniant celfyddyd y trefydd.

 

Daw Mai mewn prydferthwch a’r ddol yn feillionog,

Y gog glywn yn canu, bydd pawb yn galonnog;

Canfyddir y coedydd yn gwisgo’u gwyrddlesni,

Ac anian a welir yn llon adlewyrchu….

 

Nid yw’r tywydd wedi bod yn rhy ffafriol yn yr ardal hon dros yr wythnosau diwethaf, gyda chawodydd cyson o law a hyd yn oed cesair yn cwympo mewn rhai mannau, ond wrth gwrs mae’n rhaid cofio fod unrhyw law a gawn ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn angenrheidiol i dyfiant cnydau a phlanhigion dros y misoedd nesaf. Canai Ednant am hyn yn Nharian y Gweithiwr dros ganrif yn ôl (12fed o Fai, 1910) (t. 3):

CAWOD MAI

Yn ysgafn gyda’r awel

Daeth cawod Mai i lawr,

Heb dwrf fel cysgod angel

Yn gloewi gwen y wawr.

 

Mae anian yn llawn ynni

Yn drachtio’r dafnau chwai,

Un dyner fel goleuni

Yw maethlawn gawod Mai.

 

Difyr iawn oedd medru pori drwy gymaint o ddarnau cerdd o’r gorffennol, ac os ydych am fynd i chwilio eich hunain am bwnc o’ch dewis, ceir miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol Cymreig yn rhad ac am ddim ar y wefan.

papuraunewyddcymru.llgc.org.uk

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

Cyhoeddwyd yn Digido | Wedi ei 'dagio' , , | Gadewch sylw

Yr archaeolegydd swil a ‘Llyfr Dydd y Farn Eifionydd’

‘Roedd Colin Gresham yn feistr ym maes archaeoleg a hanes gogledd Cymru, ond ni chafodd sylw haeddiannol. Eleni, gan mlynedd ar ôl ei eni ym mis Mai 1913, mae cyfle i nodi’r hyn a gyflawnodd.

Picture 034Ganed Gresham yn Knutsford, sir Gaer, a’r disgwyl oedd iddo ddod yn bensaer neu ddilyn ôl traed aelodau eraill o’r teulu fel peiriannydd; daeth ei dad James yn enwog am dyfeisio brêc gwactod ar gyfer y rheilffyrdd, a llysenw ei hen-dadcu oedd ‘Cast-Iron Colin’. Ond y byd hynafol a ddenodd sylw’r Colin ifanc, a syrthiodd mewn cariad ag ardal Cricieth, lle symudodd y teulu i fyw pan oedd e’n bedair mlwydd oed.

Ymddiddorodd Gresham mewn hanes, hynafiaethau a diwylliant lleol yn syth gyda’i ymroddiad nodweddiadol, gan ddechrau gwaith ar hanes Eifionydd cyn iddo adael Coleg Marlborough. Dysgodd Gymraeg, ac astudiodd archaeoleg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, cyn cynorthwyo’r archaeolegwyr Mortimer Wheeler a Wilfred Hemp yn eu gwaith maes yng ngogledd-orllewin Cymru yn y 1930au.

Dyn swil oedd Gresham, ond ‘roedd ei gyfraniad at hanes ac archaeoleg Sir Gaernarfon a Meirionnydd yn helaeth. Ei brif weithiau oedd Eifionydd: a study in landownership … (a ddisgrifiwyd gan ysgolhaig o Rydychen fel ‘Domesday Eifionydd’), Medieval stone carving in north Wales, a chyfrol gynta’r History of Merioneth (gydag E. G. Bowen). Picture 033Cyfrannodd at atlasau o’r ardal, a chyhoeddodd erthyglau am hanes eglwysi tywysogion Gwynedd, ac am ystadau fel Clenennau.

Yn ogystal â bod yn aelod blaengar o gyrff archaeolegol a hanesyddol, prynodd ddwy fferm, a daeth yn wybodus am fridio gwartheg Duon Cymreig; dysgodd ganu’r delyn a dawnsio gwerin; ac ysgrifennodd ddramâu, straeon byr a sgriptiau radio. Pan fu farw Dr Colin Gresham F.S.A., F.R.Hist.S., ym 1989, collodd Eifionydd fab mabwysiedig talentog iawn – ond mae ei archif yn y Llyfrgell o hyd.

David Moore

Cyhoeddwyd yn Archifau a Llawysgrifau | | Gadewch sylw

Hugh Hughes ‘Y Limner’

Bu farw Hugh Hughes gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Cyhoeddodd y North Wales Chronicle ar 28 Mawrth 1863: ‘On the 11th instant, at Malvern aged 73, Hugh Hughes Esq. artist. The deceased was a good Christian, a man of sterling qualities, upright, and honourable in all his transactions.’

Pam tybed bu i arlunydd o bwys cenedlaethol symud i Loegr yn ei ddyddiau olaf? Pam ei fod yn cael ei adnabod, nid yn gymaint am ei gelf, ond am ei fod yn ddyn cadarn, moesol? A oes modd esbonio hyn yn rhannol trwy honni fod Hughes yn barod iawn i wrthsefyll syniadau enwogion ei ddydd, ac yn barod ac abl i sefyll dros Gymru a’i phobl?

Picture 251Mae gwaith celfyddydol Hughes yn achos dathliad arbennig eleni hefyd. Cyhoeddodd Beauties of Cambria fel cyfrol lawn ym 1823, cyfrol sy’n cynnwys chwe deg o brintiau cain wedi eu hengrafu gan Hughes ei hunan, gyda nodiadau’r arlunydd ar gyfer pob llun. Mae’r disgrifiadau’n adlewyrchu ei ffordd o weithio: er enghraifft, yn y print ‘Brynllys Castle’, mae’n nodi: ‘this view was taken on the 23rd September 1820 the figures were sketched at the same time from life, the subjects passing, on their return from the fair at Talgarth.’

Pam cofio marw Hughes? Roedd ganddo sgiliau a diddordebau eang iawn. Gallai baentio tirluniau a phortreadau, a gallai gynhyrchu cartwnau gwych. Fel awdur, ysgrifennodd yn danllyd a chlir, ac fel Cymro, roedd yn fodlon siarad ar ran eraill, heb ystyried y gost.

Paul Joyner

Cyhoeddwyd yn Archifau a Llawysgrifau | | Gadewch sylw

Newyddiadurwyr Cymru : Gareth Vaughan Jones

Ar ddydd Sadwrn, 16 Mawrth 2013, bu’r newyddiadurwr Guto Harri a’r ymchwilydd Wynford Jones yn ymweld ậ’r Llyfrgell Genedlaethol, ar ran cwmni Tinopolis, Llanelli, er mwyn ffilmio rhaglen ddogfen sylweddol awr o hyd ar y newyddiadurwr enwog Gareth Richard Vaughan Jones (1905-35). Y bwriad yw darlledu’r rhaglen ar S4C yn ystod yr hydref eleni fel rhan o gyfres uchelgeisiol ar newyddiadurwyr nodedig a hanai o Gymru.

Blog JGJ GVJ

John Graham Jones a Guto Harri yn Ystafell y Cyngor

Roedd Gareth Jones yn frodor o’r Barri ac yn fab i’r Uwchgapten Edgar Jones, prifathro Ysgol Ramadeg y Bechgyn lleol, a’i wraig Annie Gwen Jones. Ac yntau’n ieithydd arbennig o ddisglair a thalentog, graddiodd Gareth o Goleg Aberystwyth a Phrifysgol Caergrawnt cyn mwynhau gyrfa gyffrous, llawn antur fel ymchwilydd (gan gynnwys cyfnodau ar staff Lloyd George), newyddiadurwr uchel ei barch a theithiwr di-ofn. Cyflwynwyd archif sylweddol o’i ohebiaeth a’i bapurau i ofal y Llyfrgell gan aelodau o’i deulu ym 1987 a 2007-11.

Defnyddiwyd yr archif wych hon yn helaeth wrth baratoi’r rhaglen a wnaeth ddefnydd mawr o lythyrau manwl Gareth Jones at ei deulu, ynghyd ậ’i ddyddiaduron a’i lyfrau nodiadau poced a gadwodd yn gydwybodol wrth grwydro’r byd, gan gynnwys teithiau i wledydd mwy diarffordd fel Rwsia, Tseina, Japan a Manchuria.

Ceir yn ogystal drafftiau a chopïau o’r erthyglau craff a threiddgar a gyhoeddodd mewn papurau newydd a chylchgronau safonol dros nifer o flynyddoedd, ynghyd ậ thorion papur newydd niferus ohonynt. Jones oedd yn bennaf gyfrifol am ddatgelu i’r gorllewin sgil-effeithiau erchyll y newyn yn yr Wcran ganol y 1930au oherwydd gweithredu polisïau Stalin. Llofruddiwyd Gareth Jones gan ‘ladron’ ym Mongolia Mewnol ar 12 Awst 1935 ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeg-ar-hugain mlwydd oed. Yn drist iawn, daeth bywyd hollol unigryw llawn addewid a photensial i ben yn ddisyfyd.

J. Graham Jones

Cyhoeddwyd yn Archifau a Llawysgrifau | | Gadewch sylw

Cymry Ruhleben

Yn ddiweddar gofynnwyd i mi ddisgrifio pecyn o bapurau hanesyddol a difyr (NLW ex 2803). Papurau David Evans (1886-1968) ydynt, Athro Almaeneg ac awdur A simplified German grammar (1948). Bu’r brodor o Sir Benfro yn fyfyriwr Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Berlin, ac roedd yno pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.  Fe’i carcharwyd am bedair blynedd gyda rhyw bum mil o garcharorion sifil yng ngwersyll rhyfel Ruhleben, ger Berlin. Sefydlwyd ysgol y gwersyll yn 1915 a David Evans oedd pennaeth Astudiaethau Celtaidd ac yn gyfrifol am roi gwersi Cymraeg. Un o’i ddisgyblion ail-iaith oedd Ifor Evans (1897-1952) ac ni freuddwydiodd y byddai’r myfyriwr ifanc hwn yn dod yn Bennaeth arno yntau ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn blynyddoedd! Ceir atgofion Mrs Ruth Evans am brofiadau ei gŵr Ifor yn y gwersyll hefyd yma’n y Llyfrgell (NLW ex 1837). Rhestrir David ac Ifor Evans ymhlith y carcharorion rhyfel ar wefan hanes Ruhleben.

Blog Ann - RuhlebenYr oedd côr y gwersyll yn cyfarfod yn wythnosol i ddysgu hen alawon Cymreig a chynhelid darlithiau ar lenyddiaeth Gymraeg. Roedd llyfrgell y gwersyll ar agor yn ddyddiol a cheir tystiolaeth fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi anfon llyfrau atynt. Cynhaliwyd ‘cyfarfod adloniadol’ ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 1917 dan adain y Gymdeithas Gymraeg a’r cadeirydd oedd David Evans.

Argraffwyd y taflenni hyn gan wasg y gwersyll – Ruhleben Printing Works. ‘Oes y byd i’r iaith Gymraeg’ yw’r arwyddair a welir arnynt. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt ar ddiwedd erthygl David Thorne, ‘Y Gymraeg ym ‘Mhrifysgol Ruhleben”, yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cymro arall a fu’n garcharor yng ngwersyll Ruhleben oedd y Capten Rowland Humphreys, meistr yr SS Saxon, a anwyd yn Amlwch yn 1879. Cipiwyd ei long, ynghyd â’r criw o bedwar dyn ar ddeg, bedwar diwrnod cyn i’r rhyfel ddechrau. Diddorol oedd canfod llythyr, 1967, at ferch Capten Humphreys yn llaw David Evans ymhlith y papurau a gyflwynwyd ganddi yn 2007 (NLW ex 2495) yn ymwneud â’i thad. Ceir prosbectws ysgol y gwersyll, 1917, ymysg y papurau a gwelir isod pa mor amrywiol oedd y gwersi a ddysgwyd gan D. Evans ymhell o’i famwlad.

Blog Ann - Ruhleben

Bydd detholiad o gylchgronau gwersyll Ruhleben i’w gweld ar wefan prosiect Rhyfel Byd 1914-1918 a’r Profiad Cymreig ymhen ychydig fisoedd.

Ann F. Evans

Cyhoeddwyd yn Archifau a Llawysgrifau | | Gadewch sylw

Gwirfoddoli gyda Llawysgrif Boston

Prynwyd Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda mewn ocsiwn yn Llundain gan y Llyfrgell Genedlaethol y llynedd, gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn sgil hyn cododd y cyfle i gynnig cyfnod o wirfoddoli ar y prosiect, ac o dderbyn hysbyseb drwy ein hadrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn y Nadolig, manteisiodd y ddwy ohonom ar y cyfle.

Jessica yn gwirfoddoliTrefnwyd pedair taith dywys i arddangos y llawysgrif i’r cyhoedd ym mis Ionawr 2013, gan roi taith yr un i bedair ohonom a lwyddodd i gael lle ar y prosiect. Derbyniodd y ddwy ohonom hyfforddiant i baratoi at ein teithiau: treuliasom brynhawn yn ymdrin â gwahanol lawysgrifau hynafol yn dyddio nôl cyn belled â’r drydedd ganrif ar ddeg. Cawsom arweiniad ar sut i afael yn gywir yn y deunydd, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Mared yn gwirfoddoliBu’r hyfforddiant hwn wedyn o gymorth ar y teithiau tywys ar y 21ain a’r 23ain o Ionawr. Ein gwaith oedd arddangos rhannau o Lawysgrif Boston i’r ymwelwyr: yr hen gloriau a’r dail memrwn, a sut yr oedd plygiadau yn ffurfio cyfrol trwy gyfrwng y broses rwymo. Yn ychwanegol, dangosem ffacsimili o lawysgrif Peniarth 28, llawysgrif gyfreithiol arall sy’n cael defnydd helaeth y tu hwnt i adeilad y Llyfrgell.

Bu’r profiad yn un gwerthfawr ac unigryw i’r ddwy ohonom. Cawsom weithio gyda’r llawysgrif arbennig hon, a gyda staff y Llyfrgell a oedd yn hynod gefnogol ac mor barod i roi eu hyder ynom a rhyddid i fwynhau’r profiad. Roedd y prosiect yn un cyffrous i fod yn rhan ohono, a bu’r dyddiau yn rhai cofiadwy iawn.

Mared a Jess

Cyhoeddwyd yn Archifau a Llawysgrifau | | Gadewch sylw

Galw gwirfoddolwyr ar draws Cymru …

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda phrosiect sy’n cofnodi effaith y Rhyfel Mawr  ar bob agwedd o fywyd, iaith a diwylliant Cymru.

Tapiau sain o gyfweliadau â phobl o ardaloedd pyllau glo De Cymru sy’n sôn am eu profiadau yn ystod y Rhyfel, yw’r casgliad o dan sylw, a’r nod yw sicrhau bod y casgliad yn hygyrch.

Mae’r gwaith yn cynnwys gwirio a golygu trawsgrifiadau o dapiau sain, ynghyd â chreu trawsgrifiadau o’r newydd.  Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn y tapiau sain ar Gof Bach USB a bydd gofyn iddynt drosglwyddo’r cynnwys i ddogfen ‘Word’ a’i e-bostio yn ôl i’r swyddog prosiect.  Darperir canllawiau.

Gofynion hanfodol:
•    Y gallu i weithio’n annibynnol;
•    Sgiliau TG – ‘Word’, e-bost, a phrofiad o weithio gyda Realplayer neu Quicktime;
•    Sgiliau llythrennedd da iawn yn Gymraeg  a/neu Saesneg;
•    Gofalus a threfnus.

Medrwch weithio o’ch cartref, fel sy’n gyfleus.

Am ragor o wybodaeth, neu i ddatgan diddordeb, cysylltwch â:
Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr,
Ffôn – 01970 632991
E-bost – gwd@llgc.org.uk

Cyhoeddwyd yn Heb ei gategoreiddio | | 1 Sylw

Archifau y Rhyfel Byd Cyntaf

Drwy weithio ar brosiect y Rhyfel Byd Cyntaf rwy wedi dod ar draws sawl eitem diddorol, gan gynnwys dyddiaduron, ffurflenni a llythyron.

Ymhlith y deunydd mae copi gwreiddiol o’r gerdd “Yr Arwr” gan Hedd Wyn (Ellis H. Evans). Hwn oedd y copi gwreiddiol aeth i’r Eisteddfod ym Mhen Bedw yn cynnwys beirniadaeth ar y gerdd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael yn anodd i ddeall ei ysgrifen.

Mae archif y Cardiganshire War Tribunal yn un eithriadol o ddiddorol, efallai oherwydd hon yw’r unig gasgliad o’i math sydd wedi goroesi hyd yma. Cafodd  papurau cyffelyb eu dinistrio ar ddiwedd y rhyfel. Yn y casgliad deuthum ar draws rheolau i ddynodi pwy oedd raid ymrestru i’r rhyfel a phwy nad oedd yn cael mynd. Yna mae bocsys llawn o ffurflenni apêl gan bobl a gredai na ddylent orfod mynd i ryfel. Dyma enghraifftiau o’r math o resymau a roddwyd ganddynt:

•    byddai busnes yn methu
•    angen iddynt weithio ar y fferm
•    mam/gwraig/blentyn yn dost a neb arall i edrych ar eu hôl

Roedd bob math o resymau pam nad oedd pobl yn mynd i ryfel ac mae’n ddiddorol darllen penderfyniad y tribiwnlys ymhob achos. Tybed pwy o’r rhai a ddanfonwyd i ryfel a ddaeth nôl?

Nia Morwen Williams

Cyhoeddwyd yn Digido | Wedi ei 'dagio' , , | Gadewch sylw