Cofnodau wedi Archifo
Cefndir y blog
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.
Categorïau
Archif blynyddol: 2009
Nadolig 1940
Gyda Nadolig 2009 yn prysur agosáu, hoffwn dynnu’ch sylw at gopi o lythyr ysgrifennodd Kyffin adre, Nadolig 1940. Ysgrifennodd hwn ar drobwynt yn ei fywyd, ac yntau newydd glywed ei fod yn dioddef o epilepsi, ac felly’n gorfod gadael y … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Ffotograffau Kyffin
Daw ton o’r felan dros rywun wrth ddechrau pori drwy ffotograffau person ymadawedig. Wedi eu casglu’n frysiog mewn bocsys sgidie a thinie bisgedi, mae’r caleidosgop o ddelweddau’n datguddio bywyd sydd bellach wedi darfod. Yn anorfod mae yna bortreadau Fictorianaidd di-enw, … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Digido’r Gweithiau
Dwi am ysgrifennu’r blog o ochr ddigido’r prosiect. Mae’r gwaith o ddigido’r casgliad wedi cychwyn ers mis Ebrill, ac y mae pob dim yn mynd yn dda. Rydw i’n ystyried fy hun yn ffodus iawn, gan fod pob rhan o’r … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Archif Kyffin Williams
Dyma archif anhygoel! Ro’n i’n gyfarwydd â gwaith celf Kyffin wrth gwrs ond wyddwn i ddim llawer am y dyn ei hun. Daw ei gymeriad i’r amlwg drwy’r archif gyfan. Rhoddwyd rhywfaint o drefn ar y papurau cyn imi ddechrau … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Catalogio’r gwaith celf
Ers Gorffennaf 2008, fy ngwaith yw catalogio’r gwaith celf sy’n rhan o Gymynrodd Syr Kyffin Williams. Rwy’n hoff iawn o’i waith, ac yn falch fy mod wedi ymweld ag ef cynt yn ei stiwdio, ac yn aml wedi cael budd … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Y Tîm
Dyma’r criw dethol sydd â’r cyfrifoldeb am ddisgrifio’r deunydd a gasglwyd o Bwllfanogl. Nhw sy’n cael y fraint o gyflwyno’r casgliad i Gymru a’r byd. Siân Bowyer Bu Siân, sy’n enedigol o’r Wyddgrug, ar staff y Llyfrgell ers dros 17 … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Pwllfanogl
Diwrnod braf o Hydref oedd hi pan gefais y fraint o fod yn rhan o’r tîm fu’n casglu lluniau Kyffin o’i stiwdio yn Pwllfanogl. Roedd yr holl waith oedd yn ei stiwdio wedi ei adael i’r Llyfrgell a’n cyfrifoldeb ni … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
Cefndir y blog
Yn dilyn marwolaeth yr arlunydd Syr Kyffin Williams yn 2006 derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ran helaeth o’i ystâd, yn cwmpasu’r gweithiau a grewyd ganddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, a’i archifau sy’n cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron a ffotograffau. … Parhewch i ddarllen
Cyhoeddwyd yn Blog Kyffin
