BLOG - Monthly Archives: Mehefin 2010

Posted - 30-06-2010

Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Edrych yn ôl ar brosiect MYGLYW

Mae’n beth gweddol anghyffredin gweld acronym Cymraeg yn cydio a chael ei ddefnyddio’n eang a chwbwl naturiol mewn sgyrsiau. Nid felly yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn bendant nid felly MYGLYW. Gyda’r cynllun bellach wedi dod i ben mae’n werth bwrw golwg yn ôl dros rai o lwyddiannau MYGLYW, a gweld sut y mae modd i ysgolion barhau i elwa ohono am y blynyddoedd sydd i ddod.

Nod Maes y Gad i Les y Wlad oedd cyflwyno gwybodaeth am fywyd yng Nghymru rhwng 1939 ac 1959 trwy amryw o ddulliau a chyfryngau gwahanol. O greu straeon digidol i ddigido lluniau Geoff Charles, y syniad oedd creu adnodd fyddai’n edrych ar hanes y blynyddoedd hyn drwy lygaid Cymreig.

Does dim modd edrych ar hanes unrhyw gyfnod heb ganolbwyntio ar rai agweddau ohono, a dyna wnaeth MYGLYW wrth edrych yn benodol ar themâu oedd yn berthnasol i’r cwricwlwm ysgol. Drwy edrych ar Hamdden a thechnoleg newydd, Gwaith a Chyflogaeth, a Chymdeithas a Gwleidyddiaeth aed ati i gyflwyno hanes Cymru a Phrydain yn y cyfnod o safbwynt Cymreig.

Mae’n anodd osgoi digwyddiadau rhyngwladol ac effaith y rhain ar Gymru yn y cyfnod hefyd. Aed ati felly i edrych ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a dechrau’r Rhyfel Oer, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y gwrthdaro yn Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol.

Ffrwyth y gwaith yw llwyth o adnoddau addysgiadol y gall athrawon yng Nghymru eu defnyddio yn eu gwersi. O straeon digidol gafodd eu cynhyrchu gan blant ysgol Cymru dan arweiniad Culturenet Cymru, i becynnau addysg, a llyfr o ffotograffau Geoff Charles gynhyrchwyd gan Wasanaeth Addysg LLGC, mae dewis eang o ddefnyddiau parod nawr ar gael yn ddwyieithog ar y blynyddoedd rhwng 1939 ac 1959.

Owen Llywelyn, Gwasanaeth Addysg LLGC

Posted - 29-06-2010

Blog Kyffin

Label y Gymynrodd

Roedd derbyn Cymynrodd Syr Kyffin yn garreg filltir bwysig o ran casglu deunydd, nid yn unig i’r Llyfrgell Genedlaethol ond hefyd i Gymru gyfan. Roedd eisoes wedi rhoi cannoedd o weithiau celf i’r Llyfrgell cyn ei farw, a theimlwyd y dylai natur neilltuol y Gymynrodd gael ei dathlu gyda label arbennig a fyddai’n gweddu i artist o fri rhyngwladol.

Dewiswyd print-leino bach o ddyn a’i gi yn edrych yn fodlon braf eu byd: rhyw olwg o’r artist mewn hwyliau da yn mwynhau tirwedd ei wlad.


Cafodd y labeli eu dylunio’n arbennig gan David Vickers, argraffwr gweithiau Kyffin a Rheolwr Gwasg Gregynog, a’u hargraffu gan y wasg honno yn 2009 i’r safonau uchel roedd Kyffin yn eu hedmygu. Mae’r labeli wedi eu hargraffu mewn lliw llwyd – ‘llwyd Kyffin’, lliw a ddewisodd Kyffin ei hun ar gyfer argraffiad o’r llyfr Two Old Men gan Kate Roberts.

Bydd y labeli’n cael eu gosod ar bob eitem yn y gymynrodd, fel bod modd dweud ar unwaith pa luniau sy’n perthyn i’w rodd i’r genedl.

Ar 23 Ionawr 2009 ymwelodd David Vickers â’r Llyfrgell er mwyn cyflwyno’r labeli i’r Llywydd a’r Llyfrgellydd, gan felly gwblhau’r cylch o greadigrwydd ac argraffu.

Noddwyd yr holl waith gan aelodau Penodau, cynllun noddwyr y Llyfrgell. Mae eu haelioni’n adlewyrchu ysbryd y label a chariad Kyffin at le ac at bobl.

Paul Joyner

Posted -

Newyddion a Digwyddiadau

Cwrdd â darllenwyr y dyfodol.

Ddoe mi ges i’r fraint o fynychu G?yl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin yng Nghanolfan Glantwymyn ger Machynlleth. Roedd y plant wrth eu boddau yn cael eu diddanu gan y gantores dalentog Gwenda Owen a chafwyd ymddangosiad arbennig gan y bytholwyrdd…. Sali Mali.
Be’ oedd y Llyfrgell yn ei wneud yno medda chi? Wel, roeddwn i yno i hyrwyddo gwaith y Llyfrgell ymysg y rhieni ar neiniau ar teidiau.  Roedd hi’n braf cael y cyfle i sôn am y Llyfrgell a’i thrysorau, ac i annog rhieni i ymweld â’r Llyfrgell boed ar daith tywys, i gael cinio yn caffi Pen Dinas neu i ddefnyddio’r stafelloedd darllen. Roedd nifer ohonynt yn falch ein bod bellach ar agor ar Sadyrnau, ac am fanteisio ar y gwasanaeth, er mwyn dod i weld ein harddangosfeydd.

Roeddwn wedi anghofio’n llwyr fod criw’r Porthmon yn cerdded defaid o Fachynlleth i Bow Street hefyd bore ddoe. Mi ddois ar draws y criw ddwywaith – yn gyntaf yn Derwen Las neu Derwen Lês fel mae pobl yr ardal yn ei ynganu ac yna yn Taliesin. Roedd y defaid i gyd wedi eu cneifio’n daclus ac i weld yn ufudd iawn wrth aros am arweiniad gan Ifan Evans, Y Porthmon.
Wrth sôn am y gyfres – da ni’n edrych ymlaen at groesawu criw ffilmio’r Porthmon yma fory i ffilmio casgliad Dr. Richard Phillips, ac i ffilmio cyfweliadau gyda’i ddwy ferch. Mae’n braf fod y Llyfrgell yn cael y cyfle i gyfrannu at raglen sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn!

Posted - 25-06-2010

Casgliadau

David Lloyd George a Rhyddfrydiaeth yng Nghymru

Yfory bydd y Llyfrgell yn lansio llyfr newydd ar fywyd a gwaith David Lloyd George, ‘David Lloyd George and Welsh Liberalism’, yng nghwmni Ffion Hague.

Bu’r Dr John Graham Jones, awdur y llyfr newydd hwn, yn astudio Lloyd George dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Defnyddiodd yn helaeth y prif archifau sy’n gysylltiedig â’r gwleidydd a’r ffynonellau craidd eraill a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle y bu’r awdur yn gweithio fel archifydd ers 1980. Ef ar hyn o bryd yw Pennaeth Yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell.

Mae’r erthyglau adolygiadol ac arloesol hyn, a ail-gyhoeddir nawr ar ffurf cyfrol, yn dangos rhai pethau o’r newydd inni ar y prif themâu a’r digwyddiadau hynny a nodweddai fywyd a gyrfa unigryw Lloyd George (David Lloyd George and Welsh Liberalism. ISBN: 978-1-86225-084-0). Mae’r erthyglau hefyd yn ystyried nifer o gyfoeswyr Lloyd George megis yr Arglwydd Davies o Landinam, Syr Alfred Mond, C. F. G. Masterman a W. Llewelyn Williams. Trafodir hefyd ei blant, sef y Fonesig Megan Lloyd George a’r Uwchgapten Gwilym Lloyd-George, Is-iarll Tenby, dau a ddaeth yn ffigyrau gwleidyddol amlwg ar eu liwt eu hunain.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido rhannau o archif David George Lloyd. Gweler er enghraifft, y dyddiadur ar gyfer 1886 sy’n cynnwys hanes ei fywyd personol a’i yrfa wleidyddol, a hefyd y 3,292 o lythyrau gan Lloyd George at ei frawd William George, 1886-1943. Hefyd, ceir arddangosfa ar-lein o ffotograffau yn ymwneud â David Lloyd George ar wefan y Llyfrgell.

Am ragor o wybodaeth am yr Archif Wleidyddol Gymreig, y cylchlythyr a’r ddarlith flynyddol ewch i wefan AWG.

Nia Mai Daniel

Posted - 24-06-2010

Newyddion a Digwyddiadau

Hafan

Mae’n fwriad gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu gofod Hafan yn ystod y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd pwrpas Hafan yw cynnig lle i deuluoedd i ymlacio, edrych ar rai adnoddau, ac ymgymryd â gweithgareddau cyfyngedig.

Y nod yw datblygu’r gofod i fod yn ardal addysg teulu go iawn drwy fynd ati i greu pecynnau gwaith y gall teuluoedd eu defnyddio i weithio’n annibynnol. Addysg anffurfiol fydd hwn, ac ni fydd o reidrwydd unrhyw gysylltiad rhwng y cwricwlwm ysgol a’r gweithgareddau fydd yn cael eu cynnig.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod modd i riant dreulio rhyw awr gyda phlant yn y gofod yn gwneud gweithgareddau sy’n seiliedig ar gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y pecynnau gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau plant o 4-9 oed, boed y rheini’n sgiliau ymchwilio, rhifedd neu lythrennedd. Bydd modd i rieni weithio drwy’r ymarferion hyn gyda phlant llai, neu adael i blant hŷn i weithio ar eu liwt eu hunain.

O ran amserlen bydd nifer fach o weithgareddau ar gael er gyfer gwyliau’r haf, 2010, ac mae’n fwriad gennym i lansio pecyn sylweddol fydd yn cael ei hysbysebu’n eang erbyn gwyliau’r Pasg 2011.

Ry’n ni hefyd yn trafod gydag un o unedau addysg y BBC i weld os oes modd cydweithio gyda nhw ar brosiect penodol, a defnyddio rhai o’u hadnoddau nhw ochr yn ochr â’n rhai ni.

Owen Llywelyn, Gwasanaeth Addysg LLGC

Posted - 23-06-2010

Newyddion a Digwyddiadau

“Time flies when you’re having fun” medda nhw!

Wel, mae’n wir i ddweud fod yr wyth mis diwetha’ wedi gwibio heibio! Lle mae amser yn mynd ‘dwch?

Ym mis Tachwedd 2009 fe ddechreuais ar fy swydd fel Swyddog Mynediad a Marchnata yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae’n braf cael dweud fy mod yn mwynhau pob munud!
Dwi’n berson sy’n hoff iawn o amrywiaeth, ac felly mae’r swydd yma yn fy mhlesio i’r dim. Does yna ‘run diwrnod sydd ‘run fath! Un diwrnod byddaf yn paratoi datganiad i’r wasg, diwrnod arall byddaf yn gyfrifol am edrych ar ôl digwyddiadau’r Drwm neu’n mynychu cyfarfod!

Pan holodd y Llyfrgellydd i mi yn ystod fy wythnosau cyntaf yma pa eiriau sy’n dod i’r cof wrth feddwl am y Llyfrgell – y ddau air amlycaf oedd Mawr a Chyfeillgar. Dwi bellach wedi ymgyfarwyddo gyda’r adeilad ei hun – ond, mae’n rhaid cyfaddef byddai “Sat Nav” wedi bod yn ddefnyddiol ar brydiau er mwyn dod o hyd i wahanol swyddfeydd ayb.

Mae gennym ni fel Uned Hyrwyddo nifer o brosiectau ar y gweill yn y dyfodol agos gan gynnwys trefnu a hyrwyddo G?yl Lens 6 – sef G?yl Dogfennu Cymru â’r Camera; yn ogystal ag Estyn Allan, ble bydd y Llyfrgell yn ymweld ag ardal Wrecsam i sôn am ein casgliadau ac i hyrwyddo’r Llyfrgell, heb sôn am yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Llanelwedd. Felly digon i’n cadw’n brysur!

Posted - 18-06-2010

Digido / Newyddion a Digwyddiadau

‘mae gen i broblem….. dwi methu stopio siarad am bêl droed’

Wrth bori drwy’r Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell, braf oedd dod ar draws casgliad lluniau’r diweddar Geoff Charles, y Ffotograffydd papur newydd a roddodd 50 mlynedd o’i oes i bortreadu Cymru trwy lens ei gamera. Mae ei archif o 120,000 o ffotograffau yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

A bod yn onest, mi oedd hi reit anodd dewis ffefryn allan o’r archif o 120,000 o ffotograffau, ond gyda Cwpan y Byd bellach yn ei hanterth, mae’n rhaid cyfaddef i mi gael fy nhynnu at y lluniau pêl droed, yn enwedig y llun o Ffeinal Llanfair Caereinion yn y Trallwng, Ebrill 26, 1941.

Dyddia’ yma, go brin byddai Rooney, Giggs a Lampard yn mentro i chwarae ar gae o’r safon yma, heb sôn am chwarae efo pêl sy’n amlwg wedi gweld ei dyddiau gwell!
Bu i mi chwerthin yn uchel wrth weld y golwr yn chwarae yn ei gap fflat a’i sanau streipïog, gydag un arall o’r chwaraewyr yn edrych fel petai’n gwisgo ei grys gorau â’r llewys wedi cael eu torchi!…… ‘sgwn i beth ddigwyddodd nesaf? Gafodd y dorf y fraint o weiddi “Gôl”?

Mae ein dyled ni fel Cymry i Geoff Charles yn fawr iawn. Bu iddo ddogfennu Cymru â’r camera gan gofnodi’r llon a’r lleddf, rhyfel a heddwch a hynny yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Posted - 16-06-2010

Newyddion a Digwyddiadau

Llechen Ystrad Fflur

Un eitem o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n destun rhyfeddod i bobl o bob oedran yw Llechen 1, Cell W7. Cafwyd hyd iddi gyda nifer o eitemau eraill yn Ystrad Fflur yn 1946. Mae’n edrych yn gwbwl ddinod, rhyw damed o lechen wedi ei hysgythru, gyda thwll yn y top. Yn ôl y sôn doedd y rhai wnaeth ei darganfod ddim yn credu ei bod yn bwysig iawn, ac ar un adeg bu bron iddyn nhw ei thaflu.

Diolch byth ei bod wedi goroesi a dod yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O’i gosod mewn cyd-destun hanesyddol gall fod yn adnodd dysgu effeithiol dros ben wrth esbonio themâu cymhleth i blant ysgol.

Daw’r llechen o’r 15fed ganrif, o tua’r flwyddyn 1470. Arni ceir gwybodaeth am fferm Hafodwen sy’n cynnwys tir mewn pedwar plwyf rhwng Afon Aeron ac Afon Teifi. Pwrpas y llechen oedd cofnodi’r rhent, ac mae’n rhestru sawl cawell (trugg) o geirch roedd yn rhaid i bob tenant dalu am ei dir.

Dyma agor y drws yn syth i esbonio maint cyfoeth a phŵer y mynachlogydd yn Oes y Tywysogion, a’r rhan ganolog oedd ganddyn nhw yn economi, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Drwy ychwanegu mapiau, llawysgrifau a delweddau o gasgliad y Llyfrgell gallwn gyflwyno pecyn cynhwysfawr i blant, gyda llechen Ystrad Fflur yn brif eitem yn y canol.

Mae’r llechen hefyd yn cynnig y cyfle i gyflwyno’r Tuduriaid fel pwnc. Er ei bod yn dyddio o’r blynyddoedd cyn Brwydr Bosworth, mae’r hyn sydd arni yn cyfleu’n glir un o’r rhesymau, neu esgusodion, oedd gan Harri’r VIII dros ddiddymu’r mynachlogydd.

Mae’r ddau bwnc yma, sef bywyd yng Nghymru yn Oes y Tywysogion, a’r Tuduriaid, yn bethau sy’n rhaid i bob disgybl eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae unrhyw beth rhyfedd yn siŵr o ddal sylw plentyn, ac mae’r ysgythriad ar gefn y llechen sy’n dangos pen brenin gyda’i dafod allan bob amser yn ennyn trafodaeth.

Felly hefyd y tenantiaid sy’n cael eu henwi ar y llechen; does dim modd trafod enwau fel Dafydd ap y Mab Moel, Llywelyn ap Dafydd Ddu, neu Dafydd Dew ap Ieuan ap Gruffydd heb i blant ddysgu rhywbeth am y modd roedd y Cymry’n cymryd a throsglwyddo enwau neu ddisgrifiad o’u cyndeidiau yn eu henwau nhw’u hunain.

Yn aml iawn pethau annisgwyl sy’n dal sylw pobl ifanc, ac mae’r tamed yma o lechen yn drysor sy’n dal i ryfeddu ac addysgu.

Owen Llywelyn, Gwasanaeth Addysg LLGC

Posted - 14-06-2010

Blog Kyffin

Digido Casgliad Kyffin Williams

Mae tua blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gychwyn ar y gwaith digido sy’n gysylltiedig â’r prosiect, ac erbyn hyn mae’r broses yn raddol dod i ben. Mae felly’n gyfle amserol i ni fwrw golwg yn ôl dros y flwyddyn ac ystyried rhai o’r sialensiau bu’n rhaid eu hwynebu wrth ddigido’r casgliad sylweddol ac amrywiol hwn.

Fel gyda phob prosiect y mae’r uned ddigido yn ymwneud â hi, cynhaliwyd cyfarfodydd meincnodi cyn i’r gwaith gychwyn. Yn y bôn trafodaeth yw’r broses meincnodi lle cytunir ar drefniadau llif gwaith, anghenion trafod, a manylion y delweddau. Mae hyn yn sicrhau bod y deunydd gwreiddiol yn cael ei drin mewn ffordd briodol ac yn cael ei ddigido yn y modd mwyaf effeithiol, ac ar yr un pryd yn darparu canllawiau i bawb sy’n ymwneud â’r broses ddigido wrth iddynt fynd ati i gyflawni eu tasgau penodol.

Oherwydd yr amrywiaethau bu’n rhaid meincnodi pob set o eitemau’n unigol fel y daethant yn barod i’w digido. Un o’r prif ystyriaethau oedd y cyfarpar oedd i’w ddefnyddio i ddelweddu’r deunydd arbennig dan sylw, ond hefyd ystyriwyd yr amser y byddai’r prosesau penodol yn eu cymryd, gan sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Bu hwn yn brosiect diddorol iawn, a bu’n brofiad arbennig medru trafod y gweithiau gwreiddiol hyn. Mae tipyn bach o waith i’w wneud eto cyn i’r broses ddigido ddod i ben, ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gweithiau yn cael eu harddangos ar-lein.

Julia Thomas

Posted -

Digido

Deall gwybodaeth

Mae pwyllgor i drafod pa ffurf ar wybodaeth sydd ei angen yn medru swnio’n beth diflas – nifer o bobl o gwmpas bwrdd yn trafod beth yw’r ffordd orau o gofnodi dyddiad cylchgrawn neu bapur newydd a phethau tebyg.

Ond er ei fod yn swnio’n ddiflas hoffwn i ddatgan yn groyw iawn nad yw hynny’n wir o gwbl. Hoffwn nodi hefyd fod y gwaith yn hanfodol os yw’r adnoddau digidol mae’r Llyfrgell yn eu creu fel rhan o’i rhaglen a’i phrojectau digido yn mynd i fod yn rhai y gellir eu defnyddio’n hawdd ac yn effeithiol. Ac mae’n rhaid i hyn gael ei gynllunio cyn bod sôn am wefan na chynnig mynediad i neb.

Y gair technegol am y math o wybodaeth bues i’n ei thrafod yr wythnos diwethaf yw metadata. Yn fyr gellid dweud taw ystyr metadata yw ‘gwybodaeth am wybodaeth’, hynny yw y manylion hanfodol hynny sydd eu hangen er mwyn gwneud sens o bethau sydd wedi’u digido.

Roedden ni’n trafod cynllun y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido ei holl ddaliadau o bapurau newydd a chylchgronau hanesyddol. Gan fod hynny’n golygu miloedd ar filoedd o dudalennau mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi trefn arnynt ac mae’n bwysig gwneud hynny mewn ffordd gyson a safonol. Mae’n gadwyn hir sy’n ymestyn o dudalen, i rifyn, i gyfrol, ac i rediad cylchgrawn. Ond mae mwy na hynny hefyd, rhaid cofnodi pob delwedd a phob ffeil destun sy’n perthyn i bob tudalen ac yna gwneud yn siŵr ein bod wedi cofnodi’r dyddiadau mewn ffordd sy’n golygu y gellir eu gosod yn y drefn gywir pan ddaw’r amser i’w rhoi ar-lein.

Dwi’n falch o ddweud fod ‘na bobl yn y Llyfrgell gyda’r wybodaeth a’r profiad i fedru gwneud hyn yn effeithiol a dyna sy’n gwneud trafod manylion yn gymaint o bleser.

LYN LÉWIS DAFIS

Newer Posts →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog

TANYSGRIFIO!

Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i anfon hysbysiadau atoch fel tanysgrifiwr i'r Blog. Ni throglwyddir eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti.

Am ragor o wybodaeth am ddefnydd y Llyfrgell o'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch a gofyn@llgc.org.uk neu ymwelwch â'n tudalennau gwarchod data