BLOG - Monthly Archives: Awst 2010

Postiwyd - 31-08-2010

Newyddion a Digwyddiadau @cy

Ar y Cledrau

“I never travel without my diary. One should always have something sensational to read in the train.”  Oscar Wilde

Pryd fuoch chi ar drên ddiwethaf? Oes gennych chi atgofion melys o deithiau a wnaed gennych ar y cledrau? Mae teithio ar drên bob amser yn fy atgoffa o’r daith flynyddol y byddwn i a’m teulu yn ei wneud i Lundain. Teimlwn fel brenhines yn ngherbyd y trên yn gwylio’r byd a’i betws yn llithro heibio drwy wydr y ffenestr.

Cyn gwneud gwaith ymchwil ar hanes rheilffyrdd yng Nghymru, doeddwn i ddim wedi sylweddoli gymaint o effaith mae’r ffurf yma o drafnidiaeth wedi ei gael ar hanes a diwydiant ein gwlad.

Adeiladwyd y rheilffordd gyntaf yng Nghymru yn 1842 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd, a datblygwyd y rhwydwaith reilffordd yng Nghymru ar y cyd â rhwydwaith gweddill y Deyrnas Unedig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sbardunwyd datblygiad prif lwybrau rheilffordd ar draws Cymru o ganlyniad i awydd i wella cysylltiadau rhwng Llundain ac Iwerddon. Adeiladwyd llawer o reilffyrdd i allforio glo a haearn o dde Cymru, a llechi o ogledd Cymru. Roedd rheilffordd Caer a Chaergybi Robert Stephenson yn 1848-50 yn cynnwys ei geubontydd arloesol yng Nghonwy ac Afon Menai. Roedd twristiaeth yn ffynnu yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd y rheilffyrdd yn gwasanaethu cyrchfannau megis Llandudno, y Barri a lleoliadau ar hyd arfordir y Cambria.

Mae gan Gymru nifer sylweddol o reilffyrdd treftadaeth, yn enwedig yn ardaloedd mynyddig gogledd Cymru. Roedd rhai o’r rheilffyrdd hyn yn arfer bod yn rheilffyrdd cul diwydiannol, megis Rheilffordd Corris. Roedd eraill wedi’u ffurfio o rannau o reilffyrdd safonol nad oeddent yn cael eu defnyddio, a oedd naill ai wedi’u cadw fel rheilffordd safonol neu wedi’u trawsnewid yn rheilffordd gul. Gelwir rhai o’r rheilffyrdd cul treftadaeth yn Great Little Trains of Wales.

Os am wybod mwy am ddatblygiad y rheilffyrdd yng Nghymru neu os am weld casgliad amrywiol o ffotograffau yn ymwneud â thrafnidiaeth, dewch i weld arddangosfa Byd Bach:Teithio yng Nghymru a Thwnt fydd yn agor yn y Llyfrgell ar Hydref 16 2010.

Carys Mai
Swyddog Dehongli

Postiwyd -

Casgliadau @cy

Cipolwg drwy’r drws

Pen-y-bryn

Pen-y-bryn

Os byddwch yn teithio ar hyd yr A55 rhwng Conwy a Bangor efallai y cewch chi gip drwy’r coed ar dŷ dirgel gyda thŵr uchel, wedi’i leoli ar dwmpath.  Pen-y-bryn yw hwn, a chredir mai dyma oedd plasty Llywelyn Fawr.  A diolch i gofnodion profeb sydd wedi goroesi, ac sydd bellach i’w gweld wedi eu digido ar-lein, cawn gipolwg ar du mewn yr adeilad yn y gorffennol.

Teulu o’r enw Thomas oedd yn byw ym Mhen-y-bryn yn ystod y 17eg-18fed ganrif.  Mae rhestr eiddo John Thomas, sydd wedi ei ddyddio 1705, yn ein tywys drwy ystafelloedd sy’n bodoli hyd heddiw:
The parlour chamber
The middle tower chamber
The porch chamber
The hall chamber
The room above the cellar  (lle bydd ymwelwyr heddiw yn ei chyrraedd drwy drapddor yn y llawr, yn debyg i’r Famous Five!)

Yn ogystal â’r dodrefn yn yr ystafelloedd hyn roedd John Thomas yn berchen gwerth £59 3s 6d o aur ac arian, da byw, bwydydd, padellau, piwter, llieiniau, darn o frethyn coch, olwynion cert, offer amaethyddol, llyfrau, llestri arian a llawer o eitemau eraill.

Mae’r ddogfen yma yn rhoi mynediad i ni i un o dai hynafol Cymru a’n galluogi i edrych ar eiddo personol y perchennog.  Datgelir ffeithiau diddorol eraill mewn ewyllysiau a rhestri eiddo: lleoliad adeiladau sydd wedi diflannu ers tro, galwedigaethau trigolion y plwyf, eu crefydd a’u cydberthynas, gan gynnwys ffrae fawr deuluol yng Nghaerdydd yn 1680 (mwy am hyn maes o law, yn ôl y galw!).  Mae cofnodion profeb felly yn ffynonellau gwych ar gyfer ymchwilwyr hanes teulu, haneswyr cyfreithiol, crefyddol a lleol, neu bobl fusneslyd…..!

Hilary Peters

Postiwyd - 27-08-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Arddangosfa Derbynion Diweddar

Tybed a ydych chi wedi cael cyfle i ymweld ag Arddangosfa’r Derbynion Diweddar, sef eitemau newydd sbon sydd wedi cyrraedd y Llyfrgell yn ddiweddar? Os nad ydych, beth am droi tuag at anecs Oriel Gregynog a dod am sbec arni? Cofiwch mai detholiad yn unig a geir yma, o blith nifer fawr o eitemau sy’n ein cyrraedd drwy gydol y flwyddyn. Dyma ddisgrifiad byr o’r papurau, llyfrau printiedig a’r deunydd electronig sy’n cael eu harddangos hyd Medi 11.

Ceir detholiad o blith casgliad o ryddiaith a llawysgrifau barddonol Dylan Thomas (1914-53), gan gynnwys dalen waith ar gyfer ‘Elegy’, cerdd a adawyd heb ei gorffen pan fu farw. Y mae hefyd restr faith o eiriau ar gyfer ‘Poem on His Birthday’.

Mae detholiad o lawysgrifau’r awdures Jan Morris, gan gynnwys llyfrau nodiadau a draft wedi ei gywiro gan y cyhoeddwr o’i hunangofiant Conundrum.

Enghreifftiau o bapurau’r arlunydd Alfred Janes (1911-99), aelod o ‘gylch’ Dylan Thomas, gan gynnwys ffotograffau.

Dangosir dalennau o ddrafftiau nofelau’r awdur Niall Griffiths, gan gynnwys Grit;
Sheepshagger; Kelly and Victor; Stump; Wreckage; a Runt.

Y mae yno lawysgrif gerddorol, sy’n enghraifft wych o lawysgrif o gartref g?r bonheddig, gyda rhai ychwanegiadau mewn pensil, yn cynnwys gwersi, caneuon, cerddi ac alawon ar gyfer y delyn.

Mewn darllenydd electronig gellid gweld a chwilio esiamplau o’r e-adnoddau newydd megis yr House of Commons Parliamentary Papers - sef Papurau Seneddol T?’r Cyffredin yn cynnwys dros 200,000 o bapurau sesiynol T?’r Cyffredin o 1715 i’r presennol, gyda deunydd atodol yn ôl i 1688; yr Oxford Art Online – sy’n cynnwys: Grove Art Online, The Oxford Companion to Western Art, Encyclopedia of Aesthetics a The Concise Oxford Dictionary of Art Terms.

Ymysg yr eitemau printiedig, gellid gweld rhai o lyfrau casgliad y ‘gwenyn’, sef llyfrau o blith casgliad Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil ar Wenyn.

Byddaf yn rhoi nodyn ar y darluniau, ffotograffau a’r negyddion sy’n cael eu harddnagos yn yr Arddangosfa wythnos nesa’.

Postiwyd -

Blog Kyffin

Sialensau wrth Ddigido

Yn ddiweddar y darnau mwyaf unigryw ac yn sialens i’w sganio oedd y printiau leino. Os y’ch chi, fel o’n i, ddim yn siŵr iawn beth yn union yw print leino, wel, darn cerfiedig o waith artist, Kyffin Williams yn yr achos yma, a oedd yn cael ei ddefnyddio i greu printiau ydyw!

Roedd rhai o’r eitemau hyn yn fawr ac yn drwm, a felly yn creu problemau wrth i ni eu paratoi i’w sganio, gan ein bod ni yn poeni ar un pwynt os oeddent, nid yn unig yn rhy fawr i’r sganer, ond hefyd yn rhy drwm! Roedd hi’n anodd hefyd dal y darnau wedi eu cerfio gyda golau’r sganer, gan ei fod yn adlewyrchu o uwchben yn unig!

Dyma beth oedd gan Simon Evans, aelod o’r staff delweddu i’w ddweud ynglŷn â’r hyn a wnaethom –

“Due to the nature of the Kyffin Williams lino-cuts we had to use a different process than we would for flat, printed materials. The large scanners we normally use have very flat, even lighting and the tests we did didn’t really show the depth of the cuts very well. We used a medium format camera fitted with a 22 megapixel digital back attached to a copy-stand. This set-up allowed us to use just one source of light, from one side, which brought out the detail and depth of the tooling in the lino”.


Felly, dyma gipolwg o un ohonynt i chi, ynghyd â llun o Simon yn gwneud y gwaith.

Lon Vaughan

Postiwyd - 26-08-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Gwneud gwahaniaeth – cefnogi’r Llyfrgell

Un o fy mhrif ddyletswyddau fel Swyddog Codi Arian yw ceisio sicrhau cyfraniadau rheolaidd o unigolion tuag at waith y Llyfrgell Genedlaethol. Soniais eisoes am y cynllun noddwyr Penodau, ond mae’r gwaith yn cynnwys denu cyfraniadau eraill hefyd. Ei chefnogwyr heb amheuaeth yw asgwrn cefn y Llyfrgell a’r nod yw sicrhau fod amrywiaeth o ffyrdd iddynt gyfrannu, a chyfleoedd eang i wneud hynny. Gwerthfawrogir pob rhodd, boed fawr neu fychan ac anogir pobl i gyfrannu fel y gallant a hynny trwy roddion ar-lein, a thrwy ddebyd uniongyrchol. Ar hyn o bryd rydym yn brysur yn llunio taflen rhoddi’n rheolaidd newydd a fydd yn barod ar gyfer ei ddosbarthu yn ystod yr hydref. Cofiwch gadw llygad allan amdano.

Efallai i chi sylwi wrth fynd o amgylch adeilad y Llyfrgell ar y blychau rhoi newydd a wnaed gan Richard Evans, ein saer coed, trwy ail ddefnyddio pren nad oedd bellach o ddefnydd i ni. Rwy’n siŵr y cytunwch fod y blychau newydd yn gweddu’n dda gyda chymeriad arbennig yr adeilad. Sialens arall yw sicrhau ein bod fel Llyfrgell yn achub ar y cyfle i elwa hyd yn oed yn fwy o unrhyw gyfraniad unigol drwy hawlio treth yn ôl arno trwy’r cynllun rhodd cymorth. Dyma’r rheswm dros lunio’r amlenni rhodd cymorth newydd a welir yn y blychau.

Wrth reswm mai sicrhau symiau sylweddol at brosiectau gwahanol yn allweddol, ond mae cyfraniadau rheolaidd fel hyn yn sicrhau incwm cyson a mawr yw ein diolch i bawb sy’n gwneud cyfraniad.

Postiwyd - 25-08-2010

Newyddion a Digwyddiadau @cy

Dilyn llwybr y Porthmyn

Ers i mi fod yn gwneud gwaith ymchwil ar arddangosfa Byd Bach: Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt, dwi wedi dod ar draws nifer o hanesion difyr yn ymwneud â theithio yng Nghymru. A minnau’n enedigol o ardal Tregaron, dwi wedi ymddiddori yn hanes y porthmyn ers yr oeddwn i’n ferch ifanc.

Am ganrifoedd bu porthmyn Cymreig yn gyrru anifeiliaid o’r gorllewin gwyllt dros y ffin i Loegr.  Yn ogystal ag arian roedd y porthmyn yn dod â ffasiynau newydd gyda nhw o brifddinas Lloegr, megis y tonau cerddorol diweddaraf, y syniadau amaethyddol mwyaf modern a hyd yn oed yr iaith Saesneg.

Roedd gan y porthmyn wisg nodweddiadol; het ymyl llydan a smoc i’w gwarchod rhag y glaw; trowsus brethyn a sanau gwlân drostynt hyd at y pengliniau; ac am eu traed byddent yn gwisgo esgidiau trwm neu glocsiau.

Ar ei anterth, byddai’n agos at 60,000 o wartheg yn gwneud y siwrne hon, ac un gyr mawr yn cynnwys 400 o wartheg yn cael eu gyrru gan 8 o borthmyn, 6-8 o g?n a merlod.

Mae un o’r hanesion mwyaf difyr am y porthmyn yn ymwneud â’u c?n. Wedi cwblhau’r daith i Loegr, byddai’r c?n yn teithio adref ar eu pen eu hunain. Mae’n anodd credu, ond byddai’r c?n yn dilyn yr union lwybr yn ôl adref, gan aros yn yr un tafarndai er mwyn cael eu bwydo gan y tafarnwyr oedd eisoes wedi cael eu talu gan y porthmyn.

Yn dilyn newid yn y byd amaethyddol a datblygiad y rheilffyrdd yn y 1840au gwelwyd gostyngiad yn y nifer o deithiau a wnaed gan borthmyn. Cofnodwyd y daith fawr olaf o wartheg ar draws Cymru yn 1870.

Cofiwch ddod i weld arddangosfa Byd Bach: Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 16 Hydref 2010 a 2 Ebrill 2011.

Postiwyd -

Casgliadau @cy

Berta Ruck – Brenhines Gymreig Byd Rhamant

Ymysg yr archifau a gatalogiwyd yn ddiweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae llawysgrifau a phapurau fu’n eiddo i’r nofelydd rhamantaidd poblogaidd, Berta Ruck (1878-1978), papurau sy’n rhoi cipolwg ar fywyd hir a diddorol. Er iddi gael ei geni yn India roedd ei theulu yn hanu o Esgair a Phantlludw, ger Pennal, Meirionnydd.

Hyfforddwyd hi fel arlunydd ond roedd hefyd yn ysgrifennu storïau a straeon cyfres i gylchgronau. Cyhoeddwyd un o’r rhain, His Official Fiancée, fel nofel ym 1914 a daeth yn nofelydd eithriadol o boblogaidd dros y degawdau canlynol. Ysgrifennodd tua pedwar-ugain nofel i gyd.

Mae Archif Berta Ruck yn LlGC yn cynnwys amryw lawysgrifau a phapurau eraill. Ei llyfrau nodiadau, 1906-1973, yw’r mwyafrif. Cynhwysa’r rhain lythyrau oddi wrth deulu a ffrindiau, gan gynnwys amryw awduron, actorion a pheilotiaid enwog.  Maent hefyd yn cynnwys ei dyddiaduron. Ceir ynddynt ddisgrifiadau bywiog o’i bywyd preifat a chymdeithasol (ac o’i ffrindiau enwog). Yn ystod y 1920au a’r 1930au rhannodd ei hamser rhwng ei chartref a’i theithiau yn Ewrop, gan wario llawer o amser yn Fienna. Roedd yn hoff iawn o hedfan, diddordeb a drosglwyddwyd i un o’i meibion a ddaeth yn beilot RAF.

Daeth y ffordd yma o fyw i ben gyda chychwyn yr Ail Ryfel Byd. Gadawodd Lundain gyda’i gŵr (yr awdur storïau ysbryd Oliver Onions) a setlo yn Aberdyfi lle bu’n byw am weddill ei hoes. Mae’r dyddiaduron yn parhau hyd at 1973 pan oedd hi’n 94 mlwydd oed.

Rhys M. Jones

Postiwyd - 20-08-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Penodau: Dechrau tymor newydd

Andrew Green gyda David Loyn

Andrew Green gyda David Loyn

Gyda mis Medi ar ein gwarthau mae’r digwyddiad cyntaf yn nhymor newydd gweithgareddau Penodau, cynllun noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol, yn brysur agosâi hefyd. Yn gyfnewid am eu cefnogaeth rydym yn darparu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau i’r aelodau, ac fe fydd y tymor newydd yn dechrau gydag ymweliad a chyflwyniad i Archif Sgrin a Sain Cymru ar 22 Medi.

Cafwyd tymor llwyddiannus iawn llynedd, gan gynnwys ymweliadau difyr gan Terry Jones a David Loyn, a noson cyn y Nadolig yng nghwmni’r gemydd Mari Thomas.

Y gamp fydd enyn chwilfrydedd yr aelodau eleni eto a denu rhai newydd i ymuno â ni. Heb amheuaeth y gweithgareddau sy’n rhoi gwir fwynhad i’r aelodau yw’r digwyddiadau a drefnir yng nghwmni aelodau o’r staff sy’n cyflwyno agweddau gwahanol ar gasgliadau amrywiol y Llyfrgell.

Yn ystod mis Hydref fe fydd cyfle i ddathlu gwaith yr artist Ray Howard-Jones yng nghwmni Rhiannon Michaelson-Yeates ac fe fydd Iwan Bryn James yn rhoi cyflwyniad i’r prosiect adfer negyddion o gasgliad Geoff Charles a niweidiwyd gan syndrom finegr ganol Tachwedd.

Rhaid cyfaddef fod cyfraniadau ariannol aelodau Penodau yn bwysig i’r Llyfrgell mewn cyfnod anodd yn ariannol. Wrth dalu trwy ddebyd uniongyrchol mae’r tâl aelodaeth ar gyfer unigolion yn swm digon rhesymol o £20 y mis, ond er mor bwysig yw’r cyfraniad ariannol, heb amheuaeth mae eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth i’r gwaith a gyflawnir gan y Llyfrgell yn amhrisiadwy. Ar lawer ystyr mae’r aelodau yn wahanol iawn o ran eu hanian a’u cefndir, ond eto mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin sef eu cariad at y Llyfrgell. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu croesawi nôl yma mis nesaf.

Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian

Postiwyd -

Heb ei gategoreiddio @cy

Persbectif ar wybodaeth

Llun Casgliad LlGC

Llun Casgliad LlGC

I’r ffotograffau sy’n addurno’r Caffi Bach newydd ym Mhrif Gyntedd y Llyfrgell.

Edrycha, dyma lyfrgell.
Dyma lyfrgell genedlaethol.
Wele ganrif o’n hanes.
Wele osodiad.
Wele ffaith.

Dyma graig eingwybodaeth ni.

 

Llun Julia Thomas

Llun Julia Thomasgwybodaeth ni.

Ond beth am edrych arni fel hyn?
Neu fel hyn?

O fa’ma?
Neu fa’ma?

O’r safbwynt hwn?
Neu hwn?

 

Llun Julia Thomas

Llun Julia Thomas

Edrycha trwy liw gwahanol lygaid.
Cama i glocsiau dy gyndadau,
Sefa’n eu sodlau simsan,
Clustfeinia am lais dy nain,
A thro’r byd a’i ben i lawr

Ac edrycha … dyma lyfrgell …
dyma glai dy wybodaeth di.

 

Llun Mark Davey

Llun Mark Davey

Llun Mark Davey

Llun Mark Davey

Postiwyd - 19-08-2010

Casgliadau @cy

Llawysgrifau heddiw ac yfory

Piazza Navona

Piazza Navona

Un o’r ffyrdd rydym yn sicrhau ein bod yn dilyn arferion gorau yn ein proffesiwn fel curaduron llawysgrifau yw cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasau megis Cymdeithas Archifau a Chofnodion (ARA), y Gymdeithas ar gyfer Archifau a Llawysgrifau mewn Casgliadau Ymchwil (AMARC) a Chymdeithas Llyfrgelloedd Ymchwil Ewropeaidd (LIBER).

Cynhaliwyd cynhadledd grŵp llawysgrifau LIBER yn Rhufain ar 26-28 Mai eleni, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gynrychioli’r Llyfrgell yn y gynhadledd. Mae’r gynhadledd yn gyfle da i ddysgu am y ffordd mae archifau a llawysgrifau yn cael eu curadu mewn gwahanol wledydd ar draws Ewrop. Eleni bu cynrychiolwyr o Ddenmarc, Norwy, Lithwania, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Bwlgaria, Portiwgal, y tiroedd Tsiec a Llyfrgell y Fatican yn taflu goleuni ar y modd y mae llawysgrifau ac archifau yn cael eu rheoli yn eu gwledydd hwy.

Thema’r gynhadledd eleni oedd ” Meeting with manuscripts, today and tomorrow” gan drafod materion megis deunyddiau digidanedig, rhwydweithiau o lawysgrifau canoloesol a modern, cynulleidfaoedd hen a newydd ar gyfer llawysgrifau, a hyfforddi llyfrgellwyr llawysgrifau.

Mae’r llun yn dangos rhai o’r cynadleddwyr yn archwilio llawysgrifau canoloesol yn ystod ymweliad â’r Angelica Biblioteca, Piazza S. Agostino.

 

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog