BLOG - Monthly Archives: Medi 2010

Postiwyd - 30-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Cofio?

Mae’n ddiwrnod cofio Waldo Williams heddiw; y bardd o sir Benfro a aned ar y dydd hwn yn 1904. Bardd a chymeriad cyfarwydd i ni i gyd. Ond, yn ôl Damian Walford Davies mewn darlith yn Aberystwyth neithiwr, cymeriad gor-gyfarwydd, i raddau helaeth iawn, a dymuniad Damian yw ceisio dieithrio’r cymeriad hwnnw. Fe hoffai i ni anghofio’r syniad poblogaidd ohono fel sant, ac i ystyried y dyn cymhleth sy’n ddarlun cywirach ohono fo a’i farddoniaeth.

Yn anorfod bron, mae pob un ohonom yn creu cymeriad i rywun fel Waldo sy’n ein siwtio ni. Pan glywais ei lais yn ddiweddar ar y gyfres Gwlad Beirdd ar S4C, a hynny am y tro cyntaf, dwi’n meddwl, doedd o ddim yn swnio fel Waldo o gwbl! Nid fy syniad i ohono fo beth bynnag.

Un o syniadau Gwyn Thomas wedi iddo gael ei benodi yn Fardd Cenedlaethol oedd fod angen recordio beirdd heddiw yn darllen eu gwaith. Efallai ei fod wedi ei ysbrydoli gan y gwaith wnaeth Andrew Motion wrth sefydlu ‘r Poetry Archive. Academi fyddai’n gyfrifol am y gwaith, gyda’r Archif yma yn rhoi help llaw. Fe wnaed rhywfaint o waith, ond ella fod angen i mi holi a yw’r freuddwyd honno’n dal yn fyw! Mae’n destun tristwch mawr i Gwyn Thomas nad yw llais R. Williams Parry wedi ei gadw am byth ar dâp – heblaw fod y tâp hwnnw’n llechu mewn rhyw atig yn rhywle wrth gwrs…

Postiwyd - 29-09-2010

Newyddion a Digwyddiadau @cy

Sgwrsio gyda Owen Sheers…

Ar yr 30ain o Fedi mi fyddwch yn dod i’r Llyfrgell, beth yn union yw’r achlysur?
Cefais fy ngwahodd gan Cyril Evans i ddod i ddarllen a rhoi sgwrs yn y Llyfrgell. Yn ddiweddar fe gyhoeddais novella White Ravens, fel rhan o gyfres Seren New Stories of the Mabinogion, lle mae nofelwyr cyfoes yn ymateb i straeon gwreiddiol y Mabinogi. Fe ddewisais i ysgrifennu yngl?n â Branwen ferch Ll?r. Gan fod y llawysgrifau gwreiddiol yn rhan o gasgliad y Llyfrgell teimlaf ei bod yn briodol fy mod yn dod i sôn am y broses o ysgrifennu White Ravens a darllen darnau o’r llyfr. Byddaf hefyd yn darllen a thrafod fy nofel Resistance ar ffilm fydd yn cael ei ffilmio ym mis Hydref. Fe gyd-ysgrifennais y ‘screenplay’ gyda chynhyrchydd y ffilm, Amit Gupta, felly gobeithio bydd fy sgwrs o ddiddordeb i fyfyrwyr ffilm Prifysgol Aberystwyth.

Yda chi’n edrych ymlaen?
Wrth gwrs. Rwyf wrth fy modd yn dod i Aberystwyth. Rwyf wedi teithio dipyn ond i fi, yno mae’r machlud haul gore yn y byd.

Yda chi wedi bod i’r Llyfrgell o’r blaen? Beth oedd y rheswm?
Er mawr cywilydd nid wyf erioed wedi bod yn y Llyfrgell. Mae hynny yn reswm arall pam ‘rwyf yn edrych ymlaen at fy ymweliad. Rwy’n gobeithio bydd amser i mi gael gweld rhywfaint o’r Llyfrgell ynghyd â rhai o’i chasgliadau.

Llyfr neu e-book reader?
Yn ddi-ffael – llyfr. I mi, mae llyfr yn llawer mwy na chyfrwng i ddarllen testun. Mae e’n ddihangfa oddi wrth y sgrin…. Er, wedi dweud hynny, rwyf newydd lawrlwytho cyfanwaith Shakespeare i fy i-phone a chyn ysgrifennu hwn roeddwn yn darllen rhai o’i sonedau wrth aros am rywun yn yr orsaf drenau.

Mae Archif Llenyddiaeth Cymru  yn annog llenorion i feddwl am gadw a diogelu’r gwaith sydd ganddynt ar gyfrifiadur fel na fydd y genedl yn dlotach yn y dyfodol. Yda chi’n berson llythyr, e bost neu Twitter?
Nid wyf yn Trydar – mae’n ddigon posib mai’r ferf sy’n wrthyn gennyf yn fwy na dim. Hynny, ac ym amlach na pheidio preifatrwydd y syniad neu’r sylw sy’n ei wneud yn arbennig. Y preifat yn cymuno gyda’r meddwl.
Rwyf yn ebostio’n rheolaidd – ar gyfer gwaith ac yn gymdeithasol. Rwyf hefyd dal i dderbyn llythyron, a phan nad oes cyfeiriad ebost ar gael, byddaf yn trio fy ngorau i anfon llythyr yn ôl. Mae yna rhai achlysuron mewn bywyd y teimlaf eu bod yn haeddu parch llythyr neu gerdyn. Y rhai mawr – genedigaethau, priodasau, marwolaethau. Cariad.

An Evening with Owen Sheers
30.09.10
Y bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau Owen Sheers yn cyflwyno noswaith o ddarlleniadau a barddoniaeth.
Mynediad drwy docyn £10.00

Postiwyd - 28-09-2010

Casgliadau @cy

Llyfr Aneirin

Yn eu cyfarfod ar 9 Medi, penderfynodd Cyngor Caerdydd drosglwyddo Llyfr Aneirin, un o’r llawysgrifau Cymraeg hynaf a phwysicaf, ar fenthyciad parhaol i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Ysgrifennwyd y llawysgrif yn ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, a cheir ynddi awdlau’n clodfori milwyr llwyth y Gododdin a laddwyd mewn cyrch aflwyddiannus ar Gatraeth, swydd Efrog, tua’r flwyddyn 600. Credir mai gwaith y bardd Aneirin ydynt.

Wedi hir grwydro, bydd y gyfrol yn dychwelyd at hen gyfeillion: bu Llyfr Aneirin yn cadw cwmni i drysorau fel Llyfr Taliesin a Llyfr Du Caerfyrddin ar silffoedd Hengwrt, Meirionnydd hyd at ail hanner y 18fed ganrif. Ynghyd â Llawysgrif Hendregadredd, diflannodd o Hengwrt cyn diwedd y ganrif honno, a bu’n crwydro o law i law cyn cartrefu yn Llyfrgell Caerdydd ym 1896.

Digwyddodd dau beth pwysig yn hanes Llyfr Aneirin yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf. Yn gyntaf, cafodd ei drwsio a’i ail-rwymo gan Julian Thomas o’n Huned Triniaeth Cadwraeth ym 1986. Manteisiwyd ar y cyfle bryd hynny i gynhyrchu ffacsimili o’r cynnwys (bargen o’n Siop am £20!), gyda rhagymadrodd gwych o waith Daniel Huws.

Yn ail, ym 1999, sylwodd yr Almaenwr Ingo Mittendorf fod llawysgrifen un o’r mynaich a ysgrifennodd Lyfr Aneirin i’w gweld hefyd mewn dwy lawysgrif yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, sef llawysgrifau Peniarth 14 a 17. Ar sail hyn, gellir tybio mai yng ngogledd Cymru y lluniwyd Llyfr Aneirin, o bosibl yn abaty Sistersaidd Aberconwy.

Hyd nes y daw Llyfr Aneirin i Aberystwyth, bydd yn rhaid bodloni ar weld gwaith llaw’r mynach hwnnw yn llawysgrif Peniarth 17, fydd i’w gweld yn arddangosfa ‘Byd Bach – Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt’, yn ystafell arddangos Hengwrt, am y 6 mis nesaf.

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 27-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Caewch y Llenni

Meingefn wedi pylu

Un o brif swyddogaethau’r Llyfrgell yw gwarchod ein casgliadau yn y modd gorau posibl er mwyn estyn eu hoes a’u defnyddioldeb.  I wneud hyn, dylid ceisio sicrhau amodau glân a sefydlog.

Cysgodwyd yr hanner isaf

Rhaid hefyd gochel rhag goleuni rhy lachar yn ein storfeydd gan fod golau yn pylu lliwiau ac yn gwanhau ac yn dinistrio defnyddiau fel lledr, lliain a phapur.  Dylid yn sicr gadw ein casgliadau rhag goleuni haul uniongyrchol gan fod ymbelydredd o’r fath yn mesur 10,000 lux – 200 gwaith y lefel a argymhellir.

Rhan o ‘ngwaith yw codi ymwybyddiaeth am ffactorau sy’n peryglu’n casgliadau gan gynnig cyngor i’r staff a’r cyhoedd.  Er mwyn ceisio cyflawni hyn , lluniais sawl tudalen ar wefan y Llyfrgell i ledaenu’r neges ataliol – gweler Gofal Casgliadau, Effaith Goleuni a Hunangymorth a.y.b.

Mae’r lluniau yn dangos effaith ddinistriol goleuni, a’r cyngor i chi adref yw cadwch eich llenni ar gau gymaint ag sy’n bosib er mwyn estyn oes eich llyfrau a’ch darnau celf. Pe bai’r cyfrolau yn y lluniau wedi’u cysgodi rhag goleuni o’r dechrau, byddent yn dal fel newydd heddiw.

Copi'r Llyfrgell ar y dde!

Yn fy marn i, aneffeithiol yw gosod ffilm uwch fioled ar ffenestri gan nad yw hynny yn amddiffyn rhag y goleuni gweladwy a’r gwres a ddaw o’r haul.  Da o beth felly yw gweld bod llenni newydd wedi eu gosod yn ddiweddar ar ffenestri gorllewinol Stac Un y Llyfrgell.

Iwan Bryn James
Rheolwr Uned Cadwraeth Ataliol

Postiwyd - 24-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

2+2=4….ystadegau!

‘Dw i’n hoffi meddwl am fy hun fel person weddol o greadigol (weddol!), ond mae’n rhaid i fi gyfaddef, mae gen i le bychan yn fy nghalon ar gyfer ystadegau hefyd!

Fel yr e-Olygydd, fi sy’n gyfrifol am ddadansoddi holl ystadegau gwasanaethau arlein y Llyfrgell – sydd yn gallu bod yn fendith ac yn felltith ar adegau. Mae nifer o bobl yn cael ofn wrth glywed y gair heb son am weld rhestr o ffigyrau moel yn syllu arnynt ar sgrin – gyda geiriau mawr fel ‘cyfraddau adlamu’, ‘hits’ a ‘Content Drilldown’ (dyw e ddim mor wael a mae e’n swnio!) fel arweiniad. Ond mae’n rhaid i fi gyfaddef, unwaith mod i wedi eistedd i lawr a dechrau gweithio trwy’r ffigyrau mae rhywbeth eithaf boddhaol am fedru canfod patrwm arbennig a gallu dweud pam ei fod yn digwydd.

Mae’r Llyfrgell bellach yn cael llawer mwy o ymwelwyr arlein nag i’r adeilad yma yn Aberystwyth. Felly mae’r gwaith ystadegol yn bwysig iawn er mwyn llywio sut ry’ ni’n datblygu ein gwasanaethau arlein, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n datblygu yn y modd gorau posib i’n defnyddwyr. (Cyhoeddir ystadegau defnyddwyr arlein y Llyfrgell yn yr adroddiad blynyddol).

Un enghraifft yw ystadegau presennoldeb y Llyfrgell ar Flickr Commons. Mae’r Llyfrgell wedi bod yn aelod ers Ebrill 2009, ac mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr. Ry’ ni’n llwytho ffotograffau sydd allan o hawlfraint i Flickr Commons fel bod unrhyw un yn gallu eu gweld. Bellach mae 71% o’r delweddau wedi eu nodi fel ‘hoff lun’ ac mae 43% wedi cael sylwadau, sydd yn arbennig o dda. Felly yn seiliedig ar yr ystadegau yma, rydym wedi penderfynu parhau â’r prosiect am y dyfodol canolig beth bynnag…gan barhau i gadw llygad ar yr ystadegau wrth gwrs!

Ydych chi wedi gweld ein llun mwyaf poblogaidd ar Flickr Commons? Sut all unrhyw un ond cwympo mewn cariad â’r ci bach hyn?

Siân Pugh, e-Olygydd

Postiwyd - 23-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Gwlad yr Addewid

Fe es i i’r theatr neithiwr i weld perfformiad y Cwmni Theatr Cenedlaethol o ‘Gwlad yr Addewid’, sef cyfieithiad, neu addasiad, gan Sharon Morgan o ‘House of America’. Pe bawn i ddim wedi fy llusgo fy hun yno, mae’n ddigon posib y byddwn wedi treulio’r noson yn gwylio rhyw gêm bêl-droed ddibwys iawn ar y teledu. Heb fynd ati i gymysgu delweddau’n ormodol, mae’n debyg y gallwn i ddweud i’r ddrama hefyd fod yn gêm o ddau hanner! Ac un hanner yn tipyn fwy difyr na’r llall!

Ond mae’r croesbeillio diwylliannol yn nghyd-destun ffurfiau gwahanol yn rhywbeth difyr tu hwnt. Mae modd gweld y ffilm ‘House of America‘ yng nghasgliadau’r Archif wrth gwrs. Gobeithio fod y Cwmni Theatr yn ddigon hirben hefyd i gadw cofnod fideo o’u holl gynyrchiadau – bydd hwnnw’n adnodd difyr a phwysig maes o law.

Enghraifft arall ddifyr a llwyddiannus oedd y ffilm Dal: Yma/Nawr. Yn hon fe gymerir nifer o gerddi Cymraeg o ddyddiau Aneirin a’r Gododdin, ymlaen at Ddafydd ap Gwilym – lle cawn Mathew Rhys ac Ioan Gruffudd yn darllen, neu berfformio, un o gywyddau serch y bardd o ogledd Ceredigion – hyd at ein cyfnod ni gyda beirdd fel y diweddar, ysywaeth, Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen yn darllen eu gwaith, gan greu cyflwyniad sinematig pwerus, ac, ar adegau, telynegol ohonyn nhw. Mae hi’n ffilm hyfryd iawn.

Byddai’n braf meddwl – pan fydd y sefyllfa economaidd sydd ohoni’n fwy addawol – y gallen ni fel Archif gyd-weithio’n greadigol fel hyn gan ddwyn bywyd newydd i’n casgliadau. Wedi’r cyfan nid stôr o wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig sydd yma ond sbardun i’r dychymyg a’r broses greadigol.

Dafydd Pritchard

Postiwyd -

Casgliadau @cy

Supertramp

Wythnos nesaf (26 Medi 2010) byddwn yn nodi 70 mlynedd ers marwolaeth W. H. Davies (1871-1940), y bardd grwydryn o Gasnewydd.

Un o’i gerddi enwocaf yw ‘Leisure’, sy’n cychwyn

“What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare”

 

Mae copi o’r gerdd hon yn llawysgrifen W. H. Davies ei hun, wedi dyddio 8fed o Fai 1914, ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yma hefyd ceir tua 30 o gerddi eraill yn llawysgrifen W. H. Davies, rhai ohonynt sydd heb eu cyhoeddi. e.e.  ‘A Boy’s Sorrow’ sy’n sôn am ymateb bachgen ifanc i’r amgylchiadau sy’n dilyn marwolaeth cymydog.

Pan yn 22 oed, teithiodd i Efrog Newydd, gan gyrraedd yr Unol Daleithiau gyda dim ond ychydig o ddoleri yn ei boced. Wedi hynny dechreuodd fyw fel trempyn, bywyd a ddisgrifir ganddo yn ei hunangofiant Autobiography of a Super-Tramp (1908) – gan deithio miloedd o filltiroedd ar draws America yn cardota, ond hefyd yn gwneud gwaith achlysurol a theithio’n anghyfreithlon ar y trenau cludo nwyddau. Ar y ffordd i gloddfeydd aur yn y Klondike, cwympodd o dan drên gan dorri ei droed dde, ac yn dilyn hyn cafodd dorri ei goes i ffwrdd o dan y ben-glin.

Am grynodeb o holl lawysgrifau a llythyrau W. H. Davies sydd gennym yn y Llyfrgell ewch i dudalen newydd W. H. Davies ar ein gwefan.

Postiwyd - 22-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Glanhau Cadwraethol

Swyddogaeth bwysig iawn o fewn yr Uned Ataliol yw gwaith arbenigol y glanhawyr cadwraethol. Rhaid wrth offer a sgiliau arbennig oherwydd gall anadlu’r llwydni a’r llwch organig sydd i’w cael ar lyfrau neu lawysgrifau fod yn andwyol iawn i iechyd.  Yn aml, derbynnir eitemau llygredig yn llawn llwydni, baw a phryfed o hen gapeli llaith, seler llenor, garej artist neu atig bardd – llefydd nad yw’r amodau amgylcheddol yn ffafriol ar gyfer storio papur a.y.b.  Yn ffodus mae’r tîm glanhau wrth law i ddelio â derbynion o’r fath er mwyn diogelu iechyd staff a darllenwyr, ac er mwyn gwarchod gweddill casgliadau’r Llyfrgell rhag cael eu difwyno.

Bu amryw o staff yn gweithio fel rhan o’r tîm glanhau,  ond ar hyn o bryd Bill (William Harries) sydd wrth y peiriant  glanhau. Gorchwyl Bill  heddiw yw rhoi sylw i roliau ple y Sesiwn Fawr, eitemau a dderbyniwyd i’r Llyfrgell o’r hen P.R.O (Public Record Office, Kew) mewn cyflwr digon budr.

Credwch neu beidio, dros yr wyth mlynedd diwethaf mae’r tîm glanhau wedi delio â thros hanner miliwn o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell – gan gynnwys dros ddau gan mil o ddogfennau’r Sesiwn Fawr.

Iwan Bryn James
Rheolwr Uned Cadwraeth Ataliol

Postiwyd - 21-09-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Diweddaru sgiliau

O bryd i’w gilydd byddaf yn dilyn ambell sesiwn hyfforddiant sy’n berthnasol i’r swydd er mwyn diweddaru fy sgiliau.  Un sesiwn yr euthum iddi’n ddiweddar oedd sesiwn am system cofnodi gwyliau ac oriau gwaith.  System ar lein yw hon sy’n galluogi pob aelod o’r staff i wneud ei g/cheisiadau am wyliau neu am addasu’r cofnod o’r oriau gwaith (yn dilyn dyletswydd i ffwrdd o’r adeilad, er enghraifft).  Mae’r system hon yn disodli’r hen system bapur lle’r oedd gan bawb ‘ffurflen wyliau’ i’w phrosesu.  Mae’r system ar lein yn gyflym – a dweud y lleiaf – ac mae’n adnodd a fydd ar flaen bysedd pawb yma ymhen rhai wythnosau, adnodd sy’n llawn gwybodaeth berthnasol i staff a’u rheolwyr llinell.

Rwyf hefyd wedi cael hyfforddiant yn ddiweddar i ddatblygu fy sgiliau cyhoeddi ar wefan y Llyfrgell (yn bennaf rwy’n cyhoeddi gwybodaeth, yn ôl y galw, ar dudalennau mewnol yn ymwneud, er enghraifft, â chyfleusterau’r adeilad, materion amgylcheddol, caffael a chyllid).

Ar ôl pob sesiwn hyfforddiant mae’n bwysig imi fynd i’r afael ag unrhyw nodwedd anghyfarwydd rwyf wedi dysgu amdani.  Rwy’n awyddus i feistroli pob system berthnasol (electronig ai peidio) gan y gallaf wedyn gynnig hyfforddiant i gyd-weithwyr yn y swyddfa, am ychydig funudau bob hyn a hyn, yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr llinell.

Mae’r Llyfrgell yn rhoi bri mawr ar hyfforddi eu staff ac rwyf wedi elwa’n fawr ar yr hyfforddiant dros y blynyddoedd. 

Nid yw’r byd gweinyddol yn aros yn ei unfan – symud ymlaen mae popeth, a minnau hefyd!

David Greaney
Ysgrifennydd Adrannol
Adran Gwasanaethau Corfforaethol

Postiwyd -

Blog Kyffin

Cadwraeth y gweithiau ar bapur

Er 2007 aseswyd pob gwaith oedd heb ei fframio a dewiswyd 190 eitem i’w trwsio.

Mae nifer o’r rhain ar bapur catris a rwygwyd o lyfrau lluniadu. Mae yna bapur a wnaed â llaw, papur ‘Ingres’ a ‘Fabriano’. Defnyddiwyd papur a byrddau Whatman ar gyfer rhai o’r gweithiau cynnar. Ceir hefyd papur salach, fel papur dargopïo a thudalennau o lyfrau ysgrifennu ysgol. Defnyddiodd Kyffin ddeunydd (yn aml wedi ei daenu’n drwchus) fel pensel meddal, sialc, siarcol, pen neu frwsh ac inc India, pigment dyfrlliw, gouache, neu’n fwy diweddar pin ffelt.

Baw ar wyneb y gweithiau, olion pla, rhwygiadau a chrychu yw’r problemau mwyaf, a dirywiad oherwydd tâp adlynol a ‘blu-tack’. Mae paent olew wedi ei golli ar nifer, ac mae staen hylif ac olion bysedd ar rai; er bod y nodweddion hyn yn cael eu cyfrif yn rhan o’r gwaith celf gwreiddiol. Mae tystiolaeth gyson o storio a thrafod gwael. Mae peth o’r inc mwyaf trwchus a’r gouache wedi cracio, a llwydni ar rai o’r papurau.

Y nod yw sefydlogi a diogelu’r gweithiau drwy wneud cyn lleied o waith cadwraeth ag sydd angen: glanhau’r wyneb, tynnu’r tâp a’r glud, codi’r papurau a’r byrddau allanol, trwsio gyda phapur meinwe arbennig a dileu crychiadau. Mae defnyddio byrddau arbennig (2200mic) ar gyfer y mowntio yn gwarchod y papur, inc a phigment trwchus.

Kate Newton

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog