BLOG - Monthly Archives: Tachwedd 2010

Postiwyd - 30-11-2010

Blog Kyffin

Ysgol Highgate

Wedi i Kyffin orffen ei hyfforddiant yn y Slade yn 1944, cychwynnodd ar yrfa fel athro celf yn Ysgol Highgate yn Llundain. Disgrifiodd y cyfle hwn, yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’ fel un o’r ‘eiliadau mwyaf ffodus yn fy mywyd’. Dengys hyn yn glir iddo gael boddhad mawr yn y cyfnod yma, wrth ei waith yn dysgu celf, hyd ei ymddeoliad yn 1973.

Mae Cymynrodd Kyffin i’r Llyfrgell yn cynnwys nifer o weithiau gan artistiad eraill a ffrindiau, yn ogystal â’i waith ei hun. Ymysg y rhain mae ‘na gasgliad diddorol o weithiau disgyblion Highgate: tua 250 o ddarluniau ar bapur a 25 o doriadau leino. Dywedodd cyn ddisgybl yr arferai Kyffin ofyn iddynt yn achlysurol am eu caniatâd i gadw eu gwaith. Mae’n gasgliad difyr oherwydd amrywiaeth y gwaith, a’r modd mae Kyffin weithiau’n ychwanegu brasddarlun yn esiampl i’r disgybl ar y cefn, a hyn yn cyfateb i’r darlun ar y blaen.

Daeth nifer o’i gynddisgyblion yn artistiaid llwyddiannus a chynhyrchiol eu hunain, yn enwedig Anthony Green a Patrick Procktor a ddaeth yn gyd-aelodau maes o law o’r Academi Frenhinol. Ymysg y casgliad mae ‘na ddarlun cynnar a wnaed gan Anthony Green.

Iwan Dafis

Postiwyd - 29-11-2010

Digido @cy / Newyddion a Digwyddiadau @cy

Mae’r gaeaf wedi dod

Heddiw cynhelir un o ddiwrnodau mwyaf pwysig yn y calendr amaethyddol, wel yn fy meddwl i beth bynnag!!! Mae Ffair Aeaf Amaethyddol Cymru yn cael ei gynnal yn Llanelwedd heddiw dydd Llun y 29 i ddydd Mawrth y 30 o Dachwedd. Gan fy mod i’n ferch gyda chefndir amaethyddol ac wedi fy magu ar fferm yng nghanolbarth Cymru, penderfynais edrych drwy gasgliadau’r Llyfrgell i ymchwilio i ba ddelweddau sydd ar gael yn y maes amaethyddol.

Wrth ymchwilio drwy gatalogau’r Llyfrgell sylweddolais mai un enw pendant a welir yn aml yw’r ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002). Mae ganddo 120,000 o negyddion yng nghasgliad y Llyfrgell yn cofnodi bywyd y Cymry am dros 50 mlynedd.

Gellir gweld llawer o ddelweddau gwahanol yn cynnwys buwch Friesian wedi dod a thri llo, merch sy’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Orthopedic Gobowen gyda oen anwes, 10fed gwerthiant blynyddol meheryn mynydd yn Nholgellau.

Ond mae’n rhaid dweud mai fy ffefryn i yw’r ddelwedd yma o ddynion yn cario gwair i’r defaid ar eu cefnau yn Frongoch, Y Bala, yn ystod tywydd caled gaeaf 1963.

Mae tanlinellu pan fo’r tywydd yn troi ni allwn ddibynnu ar beiriannau. Mae’n rhaid dibynnu ar yr hen arferion a gwneud pethau gyda’n dwylo ein hunain, yn enwedig wrth gofio pa mor aeafol mae’r tywydd.

Gellir gweld llawer o ddelweddau eraill o gasgliad Geoff Charles wrth edrych ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Postiwyd - 26-11-2010

Newyddion a Digwyddiadau @cy

Ymestyn Allan Wrecsam 2010

Bob blwyddyn mae’r Llyfrgell yn ymestyn allan i wahanol ardaloedd yng Nghymru. Wrecsam sydd wedi ei benodi eleni felly fel rhan o dîm arddangosfeydd y Llyfrgell, ein swydd ni yw trefnu a chynnal arddangosfa i gyd-fynd â’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn ardal Wrecsam yn ystod tymor yr Hydref 2010.

Y cam gyntaf oedd gwneud gwaith ymchwil ar yr ardal. Roedd nifer fawr o luniau, delweddau a mapiau ar gael yng nghasgliad enfawr y Llyfrgell. Roedd nifer fawr o ffotograffau yn cynnwys casgliad ffotograffwyr Francis Frith, John Thomas a Geoff Charles. Wrth bori drwy’r delweddau daethpwyd o hyd, nid yn unig i luniau strydoedd Wrecsam ond delweddau oedd yn cynrychioli ystod eang o themâu yn cynnwys diwydiant, diwylliant, chwaraeon ac eisteddfodau yn yr ardal.

Roedd nifer fawr o ddelweddau i ddewis ohonynt ond yn y diwedd penderfynwyd ar tua 25 yn cynnwys delweddau o ddiwydiant clai Cefn Mawr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Wrecsam yn 1950 a gêm bêl-droed ryngwladol Cymru yn erbyn Iwerddon.

Y cam nesaf oedd trefnu mowntio, fframio ac ysgrifennu cyflwyniad a chapsiynau i bob delwedd.  Mae’r prosesau yma i gyd yn cael eu gweithredu yn fewnol yn adrannau arbenigol y Llyfrgell.

Y broses nesaf oedd pacio’r arddangosfa a’i gosod yn Llyfrgell Wrecsam cyn yr agoriad swyddogol ar ddydd Iau 11 o Dachwedd.

Tîm arddangosfeydd yn gosod yr arddangosfa
Noson Agored, Llyfrgell Wrecsam, 11 o Dachwedd 2010

Cafwyd agoriad llwyddianus iawn, gyda nifer o fobl wedi mynychu. Gellir gweld mwy o luniau’r noson agoriadol  ar ein tudalen facebook

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Llyfrgell Wrecsam o 11 o Dachwedd i 10 o Ragfyr 2010, felly ewch yn llu!

Postiwyd - 25-11-2010

Newyddion a Digwyddiadau @cy

Edrych trwy’r LENS

Ffotograffau: pethau digon cyffredin y dyddiau hyn, diolch i’r chwyldro digidol.  Ond mae ganddynt y gallu o hyd i dynnu pobl at ei gilydd i ddangos, i edmygu ac i drafod.

Llun o gasgliad J D Willans c1950

Llun o gasgliad J D Willans c1950

Cynhaliwyd chweched Gŵyl LENS yn y Drwm ddydd Sadwrn diwethaf.  Yn fwriadol ceisiwn gymysgu elfennau gwahanol o ffotograffiaeth:  proffesiynol a’r amatur, esthetig a masnachol.  Weithiau mae’r cyfuniad cemegol hwn yn arwain at ffraeo – a dyna beth ddigwyddodd ddydd Sadwrn, ar ôl i ffotograffydd ‘celebs’ ‘Cool Cymru’ Terry Morris ymosod ar y drefn addysgol sefydlog yn y maes, a methiant ein diwylliant i werthfawrogi’r grefft yn deilwng.  Teimlad sawl un yn y gynulleidfa oedd  bod Terry yn anwybyddu a dibrisio agweddau ar ffotograffiaeth nad oeddynt yn cyd-fynd â’i gysyniad e.

Siaradodd Pete Davis a Llinos Lanini am eu teithiau proffesiynol gwahanol: hynt Pete o’i awydd i ddogfennu cynefin ei blentyndod yn y Sblott, Caerdydd i yrfa lwyddiannus, er gwaethaf gwrthwynebiad i rai o’i brosiectau; sylweddoliad Llinos, yn weddol hwyr yn ei bywyd, y gallai tynnu lluniau roi pleser arbennig ac ar yr un pryd arwain at ffordd o ennill bywoliaeth.

Yn y Llyfrgell rydym yn ymwybodol iawn o’r dyletswydd sydd arnom i ychwanegu yn gyson i’n casgliad amhrisiadwy o luniau – dros dri chwarter miliwn ohonynt, o’r cyfnod cyngharaf yn yr 1840au a’r 1850au, pryd roedd Abertawe yn un o’r mannau genedigaeth ffotograffiaeth, i’r oes bresennol.  Dangosodd Will Troughton, ein Llyfrgellydd Delweddau Gweledol, rai lluniau o ddau gasgliad o’r oes Edwardaidd sydd wedi cyrraedd y Llyfrgell yn ddiweddar, gan gynnwys casgliad J.D. Willans sy’n canolbwyntio ar fywyd a phobl ardal y Drenewydd.

Un o’r pwyntiau pwysig a wnaed yn y drafodaeth ar ddiwedd y dydd oedd bod pawb bron erbyn hyn yn medru tynnu lluniau da, ar gamerâu ond hefyd ar ffonau symudol, a dylen ni geisio cwmpasu’r newid hwn yn yr ?yl yn y dyfodol.  Wedi’r cwbl, yr ?yl ffotograffiaeth fwyaf ym Mhrydain erioed, debyg iawn, oedd y brotest gan fyfyrwyr yn Llundain dim ond pythefnos yn ôl.

Dau droednodyn: mae Will Troughton newydd gyhoeddi llyfr newydd o luniau, hen a newydd, o’i dref ei hun, Aberystwyth through time, a bydd y Fonesig Lynne Brindley, Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig, yn traddodi Darlith J.D.Willans ym Mhrifysgol Aberyswyth ar 3 Mawrth 2011: ei thema fydd ‘The role of libraries in the 21st century’.

Andrew Green

Postiwyd - 24-11-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Noson brysur i’r Archif!

P’nawn ‘ma, mi fydda i a Rhodri Shore (Swyddog Technegol yr Archif Sgrin a Sain) yn teithio i Lanrwst i gynnal Noson Ffilmiau. Bydd y noson yn ran o’r wyl flynyddol, Llanast Llanrwst. Bydd Llion Williams (neu George Huws i ffans C’mon Midffîld) yn cyflwyno’r ffilmiau, felly bydd digon o hwyl i gael!

Cyhoeddi Eisteddfod Llanrwst 1950

Cyhoeddi Eisteddfod Llanrwst 1950

Mae’r noson yma wedi’i threfnu ers dipyn o amser – ers i Iwan Williams o broject Goleuo gysylltu â mi ym mis Chwefror.  Mae Goleuo yn ceisio hybu digwyddiadau fin nos yn ardal wledig Conwy. Ers hynny, dwi wedi bod yn gweithio ar ddewis ffilmiau a chlipiau diddorol i’w dangos yn y noson – rhai a fydd o ddiddordeb i’r bobl lleol fydd yn bresenol.

Bydd y ffilmiau yn amrywio o glipiau o’r ffim Nov. 2nd 1925. The Dolgarrog Disaster a Chyhoeddi Eisteddfod Llanrwst 1950 – gan obeithio bydd rhywbeth at ddant y gynulleidfa i gyd!

Dolgarrog 1925

Dolgarrog 1925

Yn ogystal â hyn, bydd criw o WI Llanilar yn ymweld â’r Drwm heno i weld y ffilm Bus To Bosworth. Iwan Jenkins (o’r Archif) fydd yng ngofal y criw yma!

Anwen Pari Jones
Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad

Postiwyd - 23-11-2010

Casgliadau @cy

NEGYDDION GWYDR J B WILLANS

Neuadd Penrhos, Sir Drefaldwyn, dymchwelyd tua 1904.

Neuadd Penrhos, Sir Drefaldwyn, dymchwelyd tua 1904.

Mae’n syndod y darlun y gellir ei baentio o rywun o gasgliad o negyddion gwydr cymysgu ac amrywiol, ac mae JB Willans, a oedd yn tynnu lluniau o tua 1895 i tua 1910, yn enghraifft o hyn. Tirfeddiannwr o Sir Drefaldwyn ydoedd, a gofnododd yn fanwl ffermydd ac adeiladau ar ei ystâd yn Kerry ger y Drenewydd. Yn 1905, yn 24 oed, ysgrifennodd ‘The Byways of Montgomeryshire’ gan ddarlunio’r llyfr gyda 79 o’i ffotograffau ei hun. Byddai’n tynnu’r lluniau ar ei deithiau ar y trên neu weithiau ar geffyl a thrap gan ddefnyddio’r tri chamera a gymerai gydag e.

Roedd Willans yn hoff iawn o bensaernïaeth grefyddol a dogfennai’n ofalus y tu mewn a’r tu allan i eglwysi Sir Drefaldwyn. Mae’r elfen ysbrydol hon o’i bersonoliaeth yn cael ei amlygu hefyd yn ei benderfyniad i ymweld â Thransylvania,

crud Undodiaeth, lle tynnodd luniau o safleoedd a phersonoliaethau a oedd yn gysylltiedig â’r enwad. Ganrif yn ôl byddai taith o’r fath yn galw am lawer iawn o gynllunio, ac amynedd hefyd. Roedd Willans yn Undodwr brwd, yn ogystal â bod yn adnabyddus fel rhoddwr hael i sefydliadau addysgol a diwylliannol ar draws Cymru, ac i ysgolion yn ei ardal leol.

Mae’r casgliad yn cynnwys un syrpreis bach arall. Mae Blwch rhif 28 o’i negyddion yn cynnwys negyddion o fapiau, peintiadau a darluniau llyfr sy’n gysylltiedig â bywyd Napoleon Bonaparte. Mae’n ymddangos yn rhyfedd i mi fod dyn deallusol a dyngarol oedd yn caru heddwch wedi ymddiddori cymaint yn un o ormeswyr mwyaf hanes oedd yn enwog am ysbeilio a lladd.

Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am Y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig

Postiwyd - 22-11-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Wacsio, shafio a lot o sbri!

Jaimie'n torri gwallt Andrew (llun: Mike Jones)

Am 3 o’r gloch prynhawn ddydd Gwener roedd Pendinas yn debycach i barlwr harddwch na chaffi. Y rheswm? Plant Mewn Angen wrth gwrs! Trwy’r dydd roedd pawb wedi bod yn talu i bleidleisio i weld aelod anffodus o staff yn cael eu coesau wedi wacsio. Hefyd, roedd ymgyrch i godi £100 i weld Andrew Davies yn cadw at ei addewid i shafio ei wallt at yr achos. Casglwyd y £100 angenrheidiol cyn amser paned bore felly roedd Andrew yn gwybod yn gynnar iawn y byddai’n rhaid iddo ffarwelio gyda’i wallt ond roedd pethau’n dynnach gyda’r wacsio. Erbyn cinio, roedd dau geffyl blaen wedi dod i’r amlwg ond roedd hi’n dynn iawn rhwng Fred Farrow a Simon Evans; pwy fyddai’n gorfod godde’r boen?!

Wrth i’r ddau chwysu yn aros i glywed eu tynged, roedd aelodau’r Gymdeithas Staff, yn ei gwisgoedd ffansi, wrthi’n casglu arian mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys stopio staff wrth iddynt gyrraedd yn y bore, a gwerthu cacennau cartref amser paned. Bu cryn dipyn o grafu pen ynglyn â’r gystadleuaeth ‘Pwy ‘di Pwy’ wrth i bobl geisio dyfalu’r aelodau staff o’r lluniau ohonynt yn blant. Roedd ambell un yn haws eu adnabod nag eraill, ond Angharad a Meryl oedd yn nabod eu cydweithwyr orau, gan gael marciau llawn, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol!

Fred yn cael ei wacsio! (llun: Mike Jones)

Amser cinio cafwyd twrnament bowlio deg ar Wii yn yr Atriwm gydag ambell un yn cael tro ar y gêm am y tro cyntaf. Ond roedd Mark Evans yn amlwg yn hen law arni gan gipio teitl ‘Pencampwr Wii’ cynta’r Llyfrgell Genedlaethol. Pwy fydd ddigon dewr i’w herio flwyddyn nesaf tybed?

Yn ystod yr wythnos roedd tocynnau raffl wedi bod yn gwerthu fel slecs gyda phawb yn awyddus i ennill un o’r llu o wobrau a oedd yn rhoddedig gan fusnesau lleol ac aelodau staff. Dim syndod felly pan oedd Pendinas yn llawn am 3 o’r gloch!

Dim dianc i Simon! (llun: Mike Jones)

Cyhoeddwyd mai Fred oedd wedi ‘ennill’ y gystadleuaeth wacsio a, chwarae teg, roedd yno’n barod yn ei drowsus byrion i wynebu ei ffawd. Ochenaid mawr o ryddhad o gyfeiriad Simon Evans, ond ni gafodd ddianc! Gan fo’r gystadleuaeth wedi bod mor agos, penderfynwyd y dylai Simon hefyd gael wacsio’i goesau, druan bach ohono! Mae’n siwr fo’r ddau yn diolch fod Catrin Edwards yn gymaint o hen law ar y gwaith fel nad oedd hi’n broses rhy boenus. Roedd Andrew hefyd yno i wynebu Jaimie a’r clipwyr gwallt ac ymhen rhyw chwarter awr, roedd ei wallt wedi diflannu, gobeithio nad yw ei ben wedi bod yn rhy oer dros y penwythnos!

Ar ddiwedd y dydd roedd aelodau’r Gymdeithas Staff wrth ein boddau i weld fod staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu £1,040 i Blant Mewn Angen. Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r hwyl ac yn enwedig i reiny a aberthodd eu gwallt at yr achos!

Postiwyd -

Heb ei gategoreiddio @cy

Aquabrowser – dull newydd a hawdd o chwilio’r catalog

Bydd y rhai mwyaf craff ohonoch wedi sylwi fod rhyngwyneb newydd ar gyfer chwilio Catalog Cyflawn y Llyfrgell wedi ymddangos ar y wefan yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bwriad Aquabrowser yw gwella mynediad at y casgliadau trwy gynnig gwasanaeth chwilio cyflymach a mwy effeithiol. Mae gwaith ar y system hon yn parhau ac o ganlyniad mae wedi ei lansio fel fersiwn ‘Beta’.

Pam ddyliwn i ddefnyddio Aquabrowser?

Cyflym – Gallwch chwilio’r catalog yn gyflym trwy ddefnyddio un bocs chwilio
Pwerus –
Gallwch gyfyngu eich canlyniadau yn ôl categoriau (e.e. Math o ddeunydd, Awdur)
Hawdd –
Gallwch ei ddefnyddio i weld eitemau digidol a gwneud ceisiadau am eitemau ffisegol
 

Beth nesa’?
Rhowch gynnig ar chwilio’r catalog gyda Aquabrowser trwy glicio YMA

Postiwyd - 18-11-2010

Casgliadau @cy

Art Nouveau, myfyrwyr drwg a’r KGB

Rwyf newydd ddychwelyd adre o Riga, prifddinas Latfia, lle bûm yn darlithio gerbron cynhadledd flynyddol Cyngor Archifol Sgrin a Sain y Gwledydd Baltig. Cafodd mynychwyr y gynhadledd gyfle unigryw i werthfawrogi rhai o olygfeydd mwyaf cofiadwy’r ddinas.

Roedd y gwesty lle roeddwn yn aros yng nghanol ardal Art Nouveau y ddinas, ac roedd darnau hyfryd o bensaernïaeth ar bob tu wrth i mi fynd i rodianna.

Fe’n croesawyd i dderbyniad gyda’r nos yn y brifysgol, lle roedd cyfle i ymweld â’r arsyllfa, a chraffu ar ddarlun clir o’r blaned Iau trwy’r ysbienddrych. O’r nenfwd, cawsom weld goleuadau Riga, a chafwyd cyfle hefyd i ymweld â charchar y myfyrwyr. Yn hwnnw, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y byddai myfyrwyr yn cael eu cloi am dridiau am yfed, am bum niwrnod am ysmygu, a phythefnos am ddadlau gyda’u darlithwyr. Gorchuddiwyd muriau’r carchar gan luniau a negeseuon o waith y myfyrwyr. Edrychwch yn ofalus ar y neges ar y dde isod, ac fe welwch i un myfyriwr druan dreulio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd dan glo am feiddio bwrw amheuaeth ar farn un o’r academyddion.

Pan nad oeddwn yn syllu ar olygfeydd o’r stryd, treuliwn lawer o’m hamser yn edrych i lawr ar Riga o fannau uchel megis Lolfa’r Seren ar unfed llawr ar ddeg y gwesty.  O’r fan honno y gwelais yr adeilad Sofietaidd iawn yr olwg isod (yn y canol, rhwng y tŵr teledu a’r Eglwys Uniongred hardd), adeilad a elwir yn lleol yn ‘Gacen Pen-blwydd Stalin’.

Ar fy niwrnod olaf, roeddwn yn ffodus o gael ymweld â’r adeilad hwn, sef Academi Wyddorau Latfia, a hynny i gyfarfod archifydd y Sefydliad Llenyddiaeth, Llên Gwerin a Chelfyddyd. Ceir golygfa dda o adeilad newydd Llyfrgell Genedlaethol Latfia o’r ail lawr ar bymtheg, adeilad sy’n cael ei godi ar hyn o bryd (fe’i gwelir y tu hwnt i’r bont yn nhu blaen y llun).

Ni chaniateid mynediad i lawr uchaf y ‘Gacen Pen-blwydd’ yn ystod y cyfnod Sofietaidd, a’r diwrnod wedi i Latfia gael annibyniaeth yn 1991, canfu gweithwyr gadeiriau, byrddau, gwelyau a chyfarpar recordio yn y coridorau yma. Heb yn wybod i neb, bu’r KGB yn defnyddio’r rhan hwn o’r adeilad fel gorsaf glustfeinio.

Postiwyd - 17-11-2010

Heb ei gategoreiddio @cy

Diwrnod Prysur yn Culturenet Cymru

Mae hi bob amser yn brysur yma yn swyddfeydd Culturenet ond heddiw cynhaliwyd digwyddiad yn y Drwm i gyflwyno gwefan Casgliad y Werin Cymru i dros 40 o bobl – aelodau staff y Llyfrgell, myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Aberystwyth ac amryw aelodau o grwpiau a sefydliadau lleol.

Dechreuwyd y sesiwn gyda chyflwyniad a chroeso gan Lyn Lewis Dafis, Pennaeth Datblygiadau Digidol y Llyfrgell sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect ers y dechrau.

Soniodd Sioned Rees Jones, Swyddog Prosiect Casgliad y Werin Cymru yn Culturenet Cymru, wedyn am y gwahanol ffyrdd y mae’n bosib cymryd rhan a defnyddio’r wefan i ddweud eich hanes chi. Beth am greu llwybr o amgylch eich pentref i ddangos ei hanes? Mae posib gwneud hynny ar wefan Casgliad y Werin Cymru fel y gwnaeth y disgyblion yma o Goleg Gwent yng ngwaith dur Glyn Ebwy.

Neu, beth am greu stori ddigidol yn defnyddio’r adnoddau cyfoethog ar y wefan fel y gwnaeth disgyblion Ysgol Gyfun Emlyn fel y gwelwch yma. Mae posib gwneud stori debyg gan ddefnyddio’r teclyn ‘Adeiladwr Stori’.

Efallai fod gennych ddiddordeb mewn hanes teulu a hel eich achau? Dangosodd Richard Shearman o Sequence, y cwmni sy’n adeiladu’r wefan, pa mor hawdd yw gwneud hynny gan ddefnyddio teclyn newydd o’r enw ‘Family Story’ sy’n eich galluogi i ychwanegu delweddau a chasgliadau oddi ar wefan Casgliad y Werin i gyfoethogi’r hanes.

Cafwyd wedyn gyflwyniad o faterion hawlfraint y dylid bod yn ymwybodol ohonynt wrth gyfrannu i wefan fel Casgliad y Werin Cymru gan Dafydd Tudur, Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy’n sicr i bawb a oedd yn gwrando ddysgu llawer am hawlfraint a’r pethau sydd angen ystyried wrth fynd ati i ddigido a chyhoeddi ar y We.

I gloi, cafwyd sesiwn ymarferol ble ‘roedd modd i bawb gael tro ar y wefan a holi unrhyw gwestiynau i staff Culturenet Cymru. Roedd pawb yn frwdfrydig dros ben a gobeithiwn yn fawr gweld eu cynnwys nhw ar y wefan yn fuan iawn!

www.casgliadywerincymru.com

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog